A guide to what leaving the EU will mean for the heritage sector and how greater digital awareness may help
1. Effaith Brexit
Mae ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd (UE) yn fater sydd wedi cael ei drafod yn helaeth yn sector y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth. Mae wedi esgor ar sefyllfa gymhleth ac ansicr i nifer o sefydliadau.
Efallai fod ymadawiad y DU wedi effeithio’n uniongyrchol arnoch eisoes (e.e. gofynion newydd o ran cael fisâu i artistiaid neu dreth fewnforio ar rai deunyddiau), neu efallai nad ydych yn siŵr pa gamau y mae angen ichi eu cymryd. Mae yna rai pethau syml y gallwch eu gwneud er mwyn sicrhau y bydd modd i’ch sefydliad addasu’n llwyddiannus i fywyd y tu allan i’r UE.
Yn y canllawiau hyn mae ein harbenigwr, Dr Patrick Glen o Brifysgol Leeds, yn ceisio eich helpu i bennu ffyrdd o wneud y canlynol:
- ymateb i’r heriau a wynebir gan eich sefydliad o ran iechyd ariannol a chyllido
- rhagweld materion yn ymwneud â’r gweithlu a hyfforddiant yn yr amgylchedd ar ôl Brexit
- rheoli newidiadau i’ch partneriaethau gyda sefydliadau a leolir yn aelod-wladwriaethau’r UE.
2. Cyllid a chyllido
Ar hyn o bryd, mae’n anodd rhagweld yn fanwl gywir beth fydd gwaddol economaidd Brexit – efallai ei bod hi’n anos fyth rhagweld hyn oherwydd y problemau a achoswyd gan y pandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd yr effeithiau a welwyd yn sgil polisi economaidd llywodraeth y DU (sef cyni) a lefelau cyllid isel ar gyfer y sector treftadaeth yn cael eu dwysáu gan yr ansicrwydd sydd wedi deillio o Brexit.
Dengys gwaith ymchwil diweddar gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd fod y cyllid a rydd awdurdodau lleol i amgueddfeydd ledled y DU wedi lleihau bron i draean ers 2010. Efallai fod Brexit wedi dwysáu mwy fyth ar y sefyllfa.
Fel y nododd Cyngor Cenedlaethol y Mudiadau Gwirfoddol (NCVO), yn ystod cyfnod o ansicrwydd economaidd a llai o amwynderau cyhoeddus, sefydliadau cymunedol fydd yn dwyn y pwysau mwyaf yn sgil y newidiadau hyn wrth i bobl chwilio am gyfleoedd i gael cymorth gan sefydliadau anllywodraethol. Yn yr achos hwn, bydd sefydliadau bach sy’n ymhél â’r celfyddydau a threftadaeth yn eu cael eu hunain yn darparu amrywiaeth ehangach o wasanaethau cymdeithasol a mentrau cymorth cymunedol fel rhan o’u harlwy cymunedol.
Yn y rhan fwyaf o achosion, fe fydd hi’n anos i sefydliadau treftadaeth gael gafael ar gyllid yr UE. Rhwng 2007-2016, rhoddodd yr UE £450m i brosiectau treftadaeth yn y DU.1 Bydd colli cyllid yr UE yn arwain at ddiffyg mawr a bydd angen ichi ystyried hyn wrth wneud unrhyw gynlluniau i dyfu eich sefydliad, dechrau prosiectau newydd a meithrin partneriaethau gyda sefydliadau yn aelod-wladwriaethau’r UE.
Bydd y DU yn parhau i gael cyllid dan Fframwaith Ariannol Amlflwydd 2014-2020 ar gyfer prosiectau presennol ac, ar adeg ysgrifennu’r canllawiau hyn, gall sefydliadau’r DU barhau i wneud cais am arian yr UE.
3. Y gweithlu a hyfforddiant
Gan y bydd rhyddid dinasyddion yr UE i symud yn dod i ben, fe fydd hyn yn cael effaith uniongyrchol ar y sector treftadaeth o ran recriwtio gwirfoddolwyr a gweithwyr o’r UE.
Y gweithlu
Bydd dinasyddion yr UE nad oes ganddynt hawl i weithio yn y DU yn wynebu llawer mwy o anawsterau wrth gael gafael ar fisâu gwaith. Fe fydd yn rhaid i ddarpar weithwyr o wladwriaethau’r UE (ac eithrio Iwerddon) wneud cais am fisâu gwaith trwy ddefnyddio ‘system fewnfudo sy’n seiliedig ar bwyntiau’.
Gwirfoddolwyr
Ymhellach, mae Brexit yn debygol o effeithio ar recriwtio gwirfoddolwyr. Erbyn hyn, nid oes gan weithwyr o’r UE sy’n awyddus i ennill profiad trwy wirfoddoli yn y sector treftadaeth hawl i fyw a gweithio yn y DU. Mae’r NCVO yn argymell y dylai arweinwyr treftadaeth gynllunio ar sail hyn:
Rhaid i ymddiriedolwyr gynyddu cyllidebau hyfforddiant neu gyllidebau AD er mwyn ategu’r gwaith o recriwtio’n lleol, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau lleol yn dibynnu’n helaeth ar fewnfudwyr â sgiliau isel.
Dyfyniad gan NCVO
Ffynonellau llafur amgen
Un dull y gallwch ei ystyried yw gweithio gyda phobl yn y DU dan y Cynllun Symudedd Ieuenctid. Mae’r cynllun hwn yn caniatáu i 20,000 o bobl ifanc (18-30 oed) ymweld â’r DU i weithio a theithio bob blwyddyn. Mae’n bwysig nodi y bydd eich sefydliad yn gyfrifol am wybod a oes gan eich gweithwyr a’ch gwirfoddolwyr hawl i weithio yn y DU.
Hefyd, mae’r rhaglen Kickstart yn ddewis posibl ar gyfer dinasyddion y DU rhwng 16-24 oed sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn yr hirdymor, gan gynnig cyfle iddynt ennill profiad trwy gyfrwng lleoliadau.
Os yw Brexit wedi arwain at ddiffyg sgiliau yn eich gweithlu, yna mae Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth, sef rhaglen gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn cynnig adnoddau a hyfforddiant i sefydliadau treftadaeth.
4. Partneriaethau gyda sefydliadau a leolir yn yr UE
Os ydych yn gweithio gyda sefydliad a leolir yn un o aelod-wladwriaethau’r UE a Gogledd Iwerddon, mae’n debygol eich bod eisoes wedi sylwi ar rai newidiadau.
Nwyddau
Fe welwch newidiadau yn y ffordd y caiff nwyddau eu mewnforio a’u hallforio i mewn ac allan o’r UE, yn y ffordd y caiff nwyddau eu symud yn ôl a blaen o Ogledd Iwerddon ac yn y modd y darperir gwasanaethau i wledydd yr UE. Os byddwch yn allforio nwyddau ‘o ddiddordeb diwylliannol’ o’r DU, megis benthyciad ar gyfer arddangosfa i sefydliad treftadaeth yn yr UE, byddwch angen trwydded gan Gyngor y Celfyddydau.
Ymweliadau
Os ydych yn bwriadu ymweld â sefydliad partner a leolir yn un o wledydd yr UE (a hefyd yn y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein) am lai na 90 diwrnod yn ystod cyfnod o 180 diwrnod, gallwch fynychu cyfarfodydd heb fod angen ichi gael fisa neu drwydded waith. Fodd bynnag, byddwch angen fisa neu drwydded pe baech yn aros am fwy na 180 diwrnod neu pe baech yn gweithio am fwy na 90 diwrnod o fewn y cyfnod cychwynnol.
5. Adnoddau defnyddiol
Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd
Mae’r NCVO wedi cyhoeddi canllawiau i elusennau yn sôn am effeithiau posibl Brexit.
Recriwtio
Mae’r rhaglen Kickstart yn rhoi profiad i ddinasyddion y DU sydd rhwng 16-24 oed trwy gyfrwng lleoliadau gwaith.
Mae’r Cynllun Symudedd Ieuenctid yn caniatáu i bobl ifanc ymweld â’r DU i weithio a theithio bob blwyddyn.
Hyfforddiant
Mae Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth, sef rhaglen gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn cynnig adnoddau a hyfforddiant i sefydliadau treftadaeth.
Please attribute as: "A guide to what leaving the EU will mean for the heritage sector and how greater digital awareness may help (2022) by Dr Patrick Glen supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0