Using a situational analysis to create your digital strategy
1. Dechrau eich siwrnai ddigidol gyda strategaeth ddigidol
Mae cynllunio strategaeth yn fan cychwyn da ar gyfer dechrau neu ddatblygu eich siwrnai ddigidol. Mae’r arweiniad hwn yn dangos ichi sut i gynllunio strategaeth ddigidol ymarferol a chanddi nodau y gellir gweithredu ar eu sail. Cewch weld sut i lunio cynllun y gellir ei ddefnyddio ar gyfer canolbwyntio ar ddefnyddio technoleg, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, gwella perfformiad y busnes, eich marchnata eich hun yn well, rheoli newid, creu cynhyrchion newydd, neu ailwampio hen brosesau.
Ar ôl defnyddio’r adnodd hwn, bydd modd ichi lunio eich strategaeth ddigidol eich hun, gan ddechrau gyda’r canlynol:
- Nodau eich sefydliad
- Pwy yw eich cwsmeriaid a’ch gweithwyr
- Yr hyn y dymunwch ei gynnig neu ei gynhyrchu yn y dyfodol.
2. Y camau cyntaf wrth lunio strategaeth ddigidol
Mae ein harbenigwr, Dr Amelia Knowlson o Brifysgol Leeds, yn esbonio dau fath o ddadansoddiad y gallwch eu defnyddio i ddechrau eich strategaeth ddigidol.
Mae meysydd y celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yn defnyddio technoleg ddigidol mewn sawl ffordd. Mae’r ffyrdd hyn yn cynnwys cynhyrchu, rhannu a defnyddio treftadaeth, y modd y mae pobl yn dysgu am dechnoleg, a threfnu prosesau seiliedig ar waith mewn ffordd strategol. Nid ydych ar eich pen eich hun wrth ystyried yr holl ffyrdd y gellir defnyddio technoleg ddigidol. Dyma rai pethau y gall strategaeth ddigidol eich helpu i’w gwneud fel sefydliad:
- Deall beth yw eich cryfderau a’ch gwendidau digidol ar hyn o bryd
- Dychmygu ble y dymunwch fod
- Cynllunio sut y gallwch ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar-lein newydd
- Manteision i’r eithaf ar dechnolegau digidol er mwyn rheoli eich casgliadau
- Pennu nodau y gellir gweithredu ar eu sail
- Mesur, gwerthuso a gwella’r nodau hyn wrth i’r dechnoleg ddatblygu.
Dadansoddi’r sefyllfa
Y ddau gam cyntaf hanfodol wrth lunio eich strategaeth ddigidol yw:
1. Asesu eich sefyllfa bresennol
2. Pennu ble y dymunwch fod fel sefydliad.
Mae’r ail gwestiwn yn bwysig iawn. I ba raddau y disgwyliwch y bydd cynyddu eich capasiti digidol yn arwain at newid pethau sylfaenol ynglŷn â phwy ydych chi fel sefydliad? Efallai eich bod eisiau i’r strategaeth ddigidol eich cynorthwyo i raddau mwy gyda nodau presennol eich sefydliad, neu efallai eich bod eisiau defnyddio’r strategaeth ddigidol i’ch helpu i newid ac ailwerthuso’r nodau hyn yn llwyr? Pan fyddwch yn cynnal y math hwn o asesiad, byddwch yn mynd i’r afael â dadansoddiad o’r sefyllfa.
Y ddau fframwaith mwyaf cyffredin ar gyfer dadansoddi’r sefyllfa yw:
- PESTLE – Gwleidyddol (Political), Amgylcheddol (Environmental), Cymdeithasol (Social), Cyfreithiol (Legal), Economaidd (Economic).
- SWOT – Cryfderau (Strength), Gwendidau (Weakness), Cyfleoedd (Opportunities) a Bygythiadau (Threats).
Bydd dadansoddi’r sefyllfa yn eich helpu i archwilio’r ffactorau mewnol ac allanol sy’n dylanwadu ar eich sefydliad. Efallai y byddwch yn darganfod cyfleoedd digidol posibl i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, i gyfyngu ar fygythiadau trwy gyfrwng pecynnau gwaith newydd, neu i fanteisio ar newidiadau ym mholisi’r llywodraeth.
Efallai y byddwch yn dymuno defnyddio’r fframweithiau hyn yn ystod sesiwn ‘taflu syniadau’ gyda’ch staff a/neu eich ymddiriedolwyr. Yn gyntaf, ceisiwch gwblhau dadansoddiad PESTLE.
- GWLEIDYDDOL – a ydych yn gwybod digon am y modd y gallai newidiadau gwleidyddol effeithio arnoch yn y dyfodol?
- AMGYLCHEDDOL – a oes yna broblemau neu bryderon arbennig yn ymwneud â datblygu cynaliadwy a mentrau gwyrdd a allai effeithio ar yr hyn a wnewch?
- CYMDEITHASOL – pa mor dda ydych chi’n adnabod eich cynulleidfaoedd? A oes yna drafodaethau a newidiadau diwylliannol cyfredol y mae’n bwysig ichi ymhél â nhw?
- TECHNOLEGOL – a yw eich sgiliau a’ch adnoddau technolegol yn gyfredol ynteu a ydych o’r farn eich bod ar ei hôl hi braidd? A ydych yn teimlo bod sefydliadau eraill yn defnyddio technoleg yn fwy effeithiol ynteu a ydych chi’n flaengar o ran y modd y defnyddiwch adnoddau digidol? Beth yw’r tueddiadau diweddaraf a allai fod o fudd i’r diwydiant treftadaeth?
- CYFREITHIOL – beth yw’r fframweithiau cyfreithiol a’r fframweithiau polisi sy’n effeithio ar eich gwaith? A yw’r fframweithiau hyn wedi newid?
- ECONOMAIDD – beth yw’r tueddiadau o ran yr economi leol a chenedlaethol? Yn eich tyb chi, sut y mae’r sector diwylliannol a chreadigol yn perfformio? A yw newidiadau economaidd yn effeithio’n arbennig ar eich cynulleidfa?
Ar ôl ichi drin a thrafod hyn oll, trosglwyddwch y syniadau i ddadansoddiad SWOT. Yn wir, byddai sawl strategydd yn awgrymu y gallech yn gyntaf ddymuno mynd ati, ar sail y dadansoddiad PESTLE, i ystyried a welwch unrhyw Fygythiadau yn y pethau a nodwyd gennych. Neu ystyried a oes yna unrhyw Gyfleoedd y gallwch elwa i’r eithaf arnynt? Yna, gallwch edrych ar eich sefydliad treftadaeth eich hun ac ystyried a oes gennych Wendidau a allai ei gwneud hi’n anodd ichi liniaru’r bygythiadau neu ymateb i gyfleoedd. Yn olaf, gallwch ystyried beth yw eich Cryfderau fel sefydliad. Gall canolbwyntio ar eich cryfderau eich helpu i bennu’r ffordd orau o lunio eich strategaeth ddigidol. Os eir ati i gynnal y dadansoddiad SWOT yn y drefn hon, fe’i gelwir yn ddadansoddiad TOWS (Bygythiadau, Cyfleoedd, Gwendidau, Cryfderau).
Rhagor o ffynonellau cymorth
Wrth ddechrau meddwl am dechnoleg ddigidol, mae’n bwysig ichi gofio nad ydych ar eich pen eich hun. Mae gan sefydliadau fel Cyngor y Celfyddydau a Chymdeithas Marchnata’r Celfyddydau adnoddau da a all eich helpu. Dyma ychwaneg o ddolenni a allai fod yn ddefnyddiol ichi.
- Pecyn cymorth hunanwerthuso Cyngor Celfyddydau Lloegr
- Templed a Chanllawiau Cynllun Busnes y Gronfa Dreftadaeth
- Cymdeithas Marchnata’r Celfyddydau – Pileri a Blociau Dysgu
- Culturehive – Sut i ddatblygu strategaeth ddigidol ystyrlon
3. Dechrau dadansoddi’r hyn y mae angen ichi ymdrin ag ef yn eich strategaeth ddigidol
Gan eich bod bellach yn deall yn well beth yw ‘dadansoddiad o’r sefyllfa’, awgrymwn eich bod yn cymhwyso hyn at eich sefydliad eich hun. Gallwch lawrlwytho a llenwi dwy ddogfen pdf ryngweithiol. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i sawl un ohonoch gynnal dadansoddiad yn annibynnol, gan gyfarfod wedyn i drafod y tebygrwydd a’r gwahaniaethau.
Defnyddiwch y templedi rydym wedi’u darparu i gwblhau eich dadansoddiad PESTLE a SWOT eich hun.
Please attribute as: "Using a situational analysis to create your digital strategy (2022) by Dr Amelia Knowlson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0