
A simple guide to auditing digital skills
1. Cyflwyniad
Yn ôl adroddiad a gynhaliwyd gan y Skills Platform yn 2020 (PDF file, 1.54MB), roedd sgiliau digidol yn y sector elusennol yn faes buddsoddi pwysig ymhlith amrywiaeth eang o sefydliadau. Dywedodd bron i 70% o’r 429 sefydliad a arolygwyd fod sgiliau’n ymwneud ag ‘ymestyn eu cyrhaeddiad’ yn flaenoriaeth allweddol. Fodd bynnag, dywedodd 48% o’r rhai a arolygwyd mai diffyg cymwyseddau a sgiliau digidol craidd digonol oedd y rhwystr mewnol mwyaf a oedd yn eu hatal rhag manteisio i’r eithaf ar dechnoleg ddigidol. Er mwyn cael gwared â’r rhwystr hwn, mae’n amlwg mai’r peth cyntaf y dylech ei wneud yw pennu’r bwlch sgiliau yn eich sefydliad.
Yn yr adnodd hwn mae ein harbenigwr, Dr Stephen Dobson o Brifysgol Leeds, yn cynnig canllawiau syml er mwyn eich galluogi i gynnal archwiliad o sgiliau digidol, ac mae’n esbonio pam y gallech fod angen cynnal archwiliad o’r fath.
Fe fydd y diffiniad o sgiliau digidol ‘craidd’ yn amrywio o sefydliad i sefydliad, ond dyma’r meysydd mwyaf cyffredin:
- Yn hyddysg mewn cyfrifiadura
- Cofnodi data
- Y cyfryngau cymdeithasol
- Cyfathrebu a chwilio ar y we
- Prosesu geiriau
- Defnyddio systemau e-bost a nodweddion sgwrsio
- Diogelwch sylfaenol ar-lein.
Gan ddibynnu ar natur eich sefydliad treftadaeth, a hefyd ar rolau’r staff, efallai y bydd angen cynnwys sgiliau uwch yn eich diffiniad o sgiliau ‘craidd’, megis:
- Rhaglennu, datblygu gwefannau neu ddatblygu apiau
- Dadansoddi a delweddu data
- Marchnata digidol a chreu cynnwys
- Meddalwedd a thechnoleg sy’n ymwneud yn benodol â’r sefydliad
- Systemau cynllunio busnes a chyfrifyddu.
Byddai’n dda o beth ichi fynd ati’n rheolaidd i archwilio gwybodaeth a chymwyseddau eich staff yn y meysydd sgiliau craidd yma. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn bwriadu cynyddu’r ymgysylltu digidol y bydd angen i’ch staff fynd i’r afael ag ef. Bydd cynnal archwiliad o sgiliau digidol yn eich helpu i bennu unrhyw fylchau mewn gwybodaeth, a thrwy hynny ddod o hyd i unrhyw wendidau yn eich strategaeth ddigidol neu yn eich cynlluniau ar gyfer darparu cynnyrch neu wasanaeth newydd. Trwy archwilio sgiliau digidol eich staff a’ch gwirfoddolwyr, bydd modd ichi lunio cynlluniau gwell ar gyfer hyfforddi, cynorthwyo a recriwtio.
2. Templed ar gyfer archwilio sgiliau digidol craidd
Mae’r templed hwn yn darparu holiadur syml y gallwch ei ddefnyddio i gynnal archwiliad sgiliau digidol. Lawrlwythwch y Templed Archwilio Sgiliau Digidol Craidd (Word file, 205kb).
Ar gyfer pob un o’r cwestiynau yn y templed, ysgrifennwch os byddwch yn cwblhau pob cam gweithredu yn y gwaith naill ai’n ddyddiol, yn achlysurol, yn rheolaidd neu byth. Yna ailadroddwch hyn am faint rydych chi’n cwblhau’r gweithredoedd y tu allan i’r gwaith. Yn olaf, ar gyfer pob cwestiwn, rhowch sgôr cyffredinol o’ch lefel cysur wrth berfformio’r weithred.
3. Archwiliadau dilynol
Mae archwilio sgiliau yn gam gwerthfawr o ran pennu potensial digidol eich sefydliad, a delio â’r potensial hwnnw. Efallai y byddai’n ddefnyddiol ichi fynd ati’n rheolaidd i gynnal archwiliad tebyg. Trwy wneud hynny, bydd modd ichi asesu’n barhaus pa feysydd y mae angen canolbwyntio mwy arnynt wrth ichi ddechrau rhoi eich strategaeth ddigidol ar waith.
4. Rhagor o adnoddau
Mae’r Digital Maturity Matrix gan y Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) yn ceisio canfod i ba raddau y mae ymarfer a sgiliau digidol wedi ymsefydlu (neu aeddfedu) yn eich sefydliad.
Mae’r Digital Checkup gan Gyngor Mudiadau Gwirfoddol yr Alban (SCVO) yn helpu arweinwyr i bennu iechyd digidol cyffredinol eich sefydliad, a bydd yn eich helpu hefyd i ystyried meysydd blaenoriaeth ar gyfer meithrin sgiliau.
Efallai hefyd y bydd yr archwiliad personol hwn o sgiliau digidol yn y maes treftadaeth yn fan cychwyn buddiol os ydych angen dadansoddiad manylach o anghenion sgiliau digidol unigolion o fewn eich sefydliad. Lawrlwythwch yr archwiliad personol o sgiliau digidol ar gyfer treftadaeth (Excel spreadsheet, 19.7kb).

Please attribute as: "A simple guide to auditing digital skills (2022) by Dr Stephen Dobson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0