English

Datblygu eich strategaeth ddigidol

Mae’r arweiniad hwn yn nodi rhai ystyriaethau pwysig ar gyfer yr adeg y byddwch yn drafftio eich strategaeth ddigidol. Mae’n esbonio rhai camau allweddol y bydd angen eu cymryd er mwyn sicrhau bod eich strategaeth yn bodloni amcanion eich sefydliad ac yn esgor ar adenillion o fuddsoddi.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
The inside of an opera house with a large red stage curtain in the centre
Image courtesy of Visit York © Gareth Buddo

Developing your digital strategy

1. Cyflwyniad

Trwy ddatblygu strategaeth ddigidol, bydd modd ichi gael ymdeimlad o gyfeiriad. Hefyd, bydd yn dangos yn glir i’ch tîm a’ch ymddiriedolwyr sut fath o fuddsoddiad sy’n angenrheidiol er mwyn cadw mewn cysylltiad ag amgylchedd ar-lein sy’n cyflym esblygu. Heb strategaeth glir, mae’n bosibl y byddwch mewn sefyllfa lle byddwch yn ymateb yn fyrbwyll i gyfleoedd digidol. Yn y brys i ddilyn y diweddaraf, efallai y bydd eich penderfyniadau dipyn yn rhy fyrbwyll, heb gynllun na chydlyniant digonol yn perthyn iddynt. Yn yr ystyr hwn, mae strategaeth ddigidol yn rhyw fath o ‘fap trywydd’ a all eich helpu i aros ar y llwybr iawn a chyflawni nodau digidol eich sefydliad.

 

2. Strategaeth entrepreneuraidd

Yn yr adnodd hwn mae ein harbenigwr, Stephen Dobson o Brifysgol Leeds, yn archwilio sut y gellir rhoi strategaeth ar waith yn eich sefydliad, a pham y bydd yn ddefnyddiol.

Mae’r gallu i newid cyfeiriad yn gyflym yn gryfder strategol i sefydliadau bach. Trwy fod yn ystwyth yn y gofod digidol, bydd modd i’ch sefydliad fanteisio ar gyfleoedd yn gyflym, er enghraifft trwy ddefnyddio platfformau cyfryngau digidol sy’n bodoli eisoes i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau neu dueddiadau cyfredol. Mae’r strategydd sefydliadol Henry Mintzberg[1] yn disgrifio’r math hwn o arwain fel mabwysiadu ‘strategaeth entrepreneuraidd’, fel y dangosir yn y diagram isod. Mae’r arweinydd (neu’r ymddiriedolwyr) yn pennu gweledigaeth – gweledigaeth sydd, o bosibl, yn ymwneud â mabwysiadu’r dechnoleg neu’r adnodd digidol diweddaraf – ac mae’r staff yn dilyn y weledigaeth hon, fel y dangosir gan y saethau yn y diagram.

Rhanddeiliaid yn dilyn gweledigaeth gyffredin
Rhanddeiliaid yn dilyn gweledigaeth gyffredin

Er bod y math hwn o strategaeth entrepreneuraidd ystwyth yn golygu y gellir cymryd camau’n ddi-oed, mae hefyd yn ei gwneud hi’n bosibl ichi newid eich gweledigaeth yn gyflym wrth i gyfle neu dechnoleg newydd ddod i’r fei. Gall y newid hwn beri i’ch tîm weithio mewn modd anghyson neu fethu â symud yn ddigon cyflym o’r hen weledigaeth i’r weledigaeth newydd, gan arwain at ddryswch ynglŷn â chyfeiriad y sefydliad.

Heb gyfathrebu clir, mae’n bosibl na fydd eich rhanddeiliaid yn dilyn y weledigaeth newydd.
Heb gyfathrebu clir, mae’n bosibl na fydd eich rhanddeiliaid yn dilyn y weledigaeth newydd.

3. Pam mae strategaeth ddigidol yn ddefnyddiol?

Gall strategaeth ddigidol helpu i gynnig cyfeiriad cliriach ynglŷn â sut fath o dechnoleg y gall fod ei hangen, a pham. Caiff ei seilio ar nodau eich sefydliad treftadaeth, ac felly bydd yn helpu i leihau unrhyw newid cyflym o un weledigaeth i weledigaeth arall – rhywbeth a all ddigwydd o dro i dro wrth ymateb i newidiadau yn y tirlun digidol. Bydd strategaeth ddigidol yn eich helpu i ddatblygu meincnodau ac amcanion, ynghyd â deall eich cynulleidfa darged, gwella eich dull marchnata a sicrhau gwell adenillion o fuddsoddi.

Datblygu meincnodau ac amcanion

Heb bennu nodau penodol, bydd yn anodd penderfynu pa dechnoleg i ganolbwyntio arni, pa sgiliau i geisio’u meithrin a pha blatfformau a sianeli i’w defnyddio wrth gysylltu â’ch cymunedau ar-lein. Dylai eich strategaeth nodi’n glir beth yw eich amcanion er mwyn ichi allu seilio penderfyniadau ynghylch technolegau digidol ar ba un a ydynt yn ategu’r amcanion penodol hyn yn uniongyrchol, ai peidio. Beth am fynd ati i bennu meincnodau y gallwch eu defnyddio i fesur pethau fel:

  • Gwerthiannau ar-lein
  • Cliciau, sylwadau neu fathau eraill o ymgysylltu ar y wefan
  • Chwiliadau organig
  • Chwiliadau y talwyd amdanynt
  • Ymatebion i e-byst marchnata
  • ​Ymgysylltu â’r cyfryngau cymdeithasol (hoffi, rhannu, sylwadau)
  • Y nifer o staff sydd wedi dilyn hyfforddiant perthnasol.

Deall eich cynulleidfa darged

Eich cynulleidfa yw’r prif ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau eich sefydliad, felly bydd yn hanfodol ichi roi eich cynulleidfa wrth galon a chraidd eich strategaeth. Trwy wybod a deall yn well pwy yw eich cynulleidfa darged a ble y gellir dod o hyd iddi, bydd modd ichi greu digwyddiadau, gweithgareddau a chynnwys gyda’r gynulleidfa honno mewn golwg. Bydd y penderfyniadau a wnewch o ran sut fath o gynnwys digidol i’w ddatblygu a pha sianeli i’w defnyddio yn cael eu hysgogi gan eich adnabyddiaeth o’ch cynulleidfa.

Mae Matrics Ansoff, a ddatblygwyd gan H Igor Ansoff ym 1957 ar gyfer yr Harvard Business Review, yn ffordd ddefnyddiol o weld sut y gellir gosod ymgysylltu â chynulleidfaoedd oddi mewn i strategaeth ddigidol.

Matrics Ansoff
Matrics Ansoff

Os ydych yn ceisio cyrraedd eich cynulleidfa bresennol gyda thechnolegau, cynhyrchion a gwasanaethau presennol, yna bydd eich strategaeth yn canolbwyntio i raddau mwy ar dreiddio i’r farchnad. Felly, eich prif flaenoriaeth fydd ymgysylltu i raddau mwy â’ch ymwelwyr a’ch cynulleidfa bresennol – trwy gyfrwng ailymweliadau, er enghraifft.

Os ydych eisiau defnyddio eich technoleg a’ch galluoedd presennol i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, yna byddwch yn ymhél â gweithgareddau’n ymwneud â datblygu’r farchnad. Efallai y byddwch yn canolbwyntio ar geisio cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach, grwpiau anodd eu cyrraedd neu grŵp demograffig/oedran gwahanol trwy gyfleu’n well y pethau a gynigir gennych ar y pryd.

Neu efallai eich bod yn dymuno defnyddio technolegau newydd i ddatblygu rhagor o gynnwys digidol er mwyn parhau i ymgysylltu â’ch cynulleidfaoedd presennol. Mewn achosion o’r fath, byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu cynhyrchion. Efallai y byddwch eisiau i’ch staff ddysgu sgiliau newydd er mwyn iddynt allu defnyddio technoleg a chyfarpar newydd, neu efallai y byddwch yn dymuno comisiynu dylunwyr neu lunwyr cynnwys digidol i helpu i ddatblygu arlwy newydd.

Yn olaf, y strategaeth â’r risg a’r ansicrwydd mwyaf yn perthyn iddi, yn ddi-os, yw datblygu technolegau newydd, gwasanaethau newydd neu gynhyrchion digidol newydd er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Gelwir y strategaeth hon yn amrywiaethu. Mae’n bosibl y byddwch yn gweithio gydag elfennau anhysbys – o ran y gwasanaethau neu’r technolegau newydd a ddefnyddiwch a hefyd o ran y cynulleidfaoedd newydd y ceisiwch eu denu.

Datblygu dull marchnata gwell

Bydd strategaeth ddigidol yn eich helpu i greu neges a dull cydlynol wrth ymgysylltu â’ch cynulleidfa ar-lein. Yn achos yr holl sianeli marchnata digidol a ddefnyddiwch i hyrwyddo eich sefydliad a’i waith, dylent deimlo fel pe baent yn cydweddu â’i gilydd i greu cyfanwaith cyfannol. Bydd strategaeth ddigidol yn eich helpu i gynnal y brand neu ‘bryd a gwedd’ yr hyn a wnewch, ni waeth pa sianel neu blatfform ar-lein a ddefnyddiwch.

Cyllidebu ac adenillion o fuddsoddi

Os bydd gennych strategaeth glir ar waith, byddwch mewn sefyllfa well i benderfynu ymlaen llaw ar unrhyw atebion angenrheidiol, ac felly unrhyw wariant cysylltiedig – boed y gwariant hwnnw’n ymwneud ag adnoddau ffisegol neu adnoddau dynol. Ymhellach, mae gwybod sut y mae eich cyllideb ddigidol yn ymrannu yn ffordd werthfawr o sicrhau ymrwymiad eich ymddiriedolwyr, yn enwedig os oes gennych rai newidiadau mawr yn yr arfaeth.

Os bydd gennych feincnodau priodol ar waith, gallwch weld hefyd a yw’r gwariant ar adnoddau digidol, marchnata a meithrin sgiliau yn esgor ar adenillion da o fuddsoddi. Er enghraifft, os ydych wedi buddsoddi mewn dulliau codi arian ar y cyfryngau cymdeithasol, gallwch gymharu’r gwariant ar farchnata ar draws y platfformau perthnasol â’r refeniw y llwyddwyd i’w godi trwy gyfrwng y sianeli hyn.

Cyfeiriadau

 [1] Mintzberg, H. and Waters, J.A., 1985. Of strategies, deliberate and emergent. Strategic management journal6(3), tt.257-272.



More help here


Light installation from Illuminating York, British heritage city

Why might digital change be a necessary disruption for my organisation?

Managing change is necessary in a landscape of rapid changes and emerging new technologies. This resource introduces a practical tool to help heritage organisations make the most of the opportunities that digital innovation may offer. Exploring the art of ‘improvisation’, you will learn how to embrace productive change.

 
Interior of York Minster illuminated for the exhibitions and performances that are part of Minster Nights

Using a situational analysis to create your digital strategy

Start planning your digital strategy by learning how to conduct a situational analysis and exploring the SWOT and PESTLE frameworks. This resource highlights the benefits of taking a structured approach and helps you identify suitable resources to assess your organisation’s digital readiness.

 
Published: 2022
Resource type: Articles


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "Developing your digital strategy (2022) by Dr Stephen Dobson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 


More help here



Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo