Deciding when to work with a digital strategist
1. Yr hyn y mae bod yn arbenigwr digidol yn ei olygu
Unigolyn neu dîm arbenigol sy’n deall yr holl bwyntiau cyswllt rhwng eich cynulleidfa a’ch sefydliad mewn perthynas â materion digidol – dyna yw strategydd digidol. Yn yr adnodd hwn, rydym yn esbonio sut y gallwch ddefnyddio eich arbenigedd, a phryd y gallech ddymuno defnyddio strategydd digidol.
Byddwch yn dysgu rhagor am y meysydd arbenigol y gall strategwyr digidol eich cynorthwyo ynddynt wrth ddefnyddio technoleg ddigidol. Er enghraifft, sut i ddefnyddio offer digidol i wneud trefniadau neu brosesau eich gweithle yn fwy effeithlon neu effeithiol.
2. Defnyddio eich arbenigedd
Mae ein harbenigwr, Dr Amelia Knowlson o Brifysgol Leeds, yn trafod y modd y mae eich strategaeth ddigidol yn adlewyrchu eich sefydliad.
Ar sail eich arbenigedd, chi sydd yn y sefyllfa orau i ysgrifennu strategaeth ddigidol ar gyfer eich sefydliad. Gan ddibynnu ar faint a nodau eich sefydliad, gall strategaethau digidol fod mor syml neu mor gymhleth ag y dymunwch. Hefyd, efallai y byddai siarad â strategydd digidol o fudd ar ôl ichi ddadansoddi’r hyn y dymunwch i’ch strategaeth ddigidol ei gyflawni.
Gallwch ddarllen mwy am strategaeth ddigidol ar yr adnodd ‘Defnyddio dadansoddiad sefyllfa i greu eich strategaeth ddigidol’.
Dylai strategaeth ddigidol adlewyrchu eich sefydliad. Gweledigaeth a nodau eich sefydliad yw’r man cychwyn wrth feddwl am greu strategaeth ddigidol. Byddai’n syniad da ichi gynnwys pobl eraill o’ch sefydliad, yn ogystal â chynulleidfaoedd, er mwyn eich helpu i ddeall anghenion mewnol ac allanol sydd y tu hwnt i’ch arbenigedd. Er enghraifft, dylai strategaeth ddigidol fod yn rhywbeth y gall yr holl sefydliad ei dderbyn a’i gefnogi, a dylai ennyn cefnogaeth staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr ledled eich sefydliad er mwyn iddi fod yn effeithiol ac er mwyn ichi allu gweithredu ar ei sail.
Dyma bethau allweddol i’w cofio:
- Gall unrhyw un greu strategaeth ddigidol, ond mae’n bwysig ichi gofio ymgysylltu â chydweithwyr a chynulleidfaoedd ledled eich sefydliad, ynghyd ag ennyn cefnogaeth uwch-reolwyr ac ymddiriedolwyr, er mwyn sicrhau y gellir gweithredu ar ei sail.
- Dylai eich strategaeth ddigidol adlewyrchu eich sefydliad; dylai fod yn ddilys a theimlo’n iawn i chi.
- Gall eich strategaeth ddigidol fod mor syml neu mor gymhleth ag y dymunwch. Yn bwysicach na dim, dylai adlewyrchu eich sefydliad fel y mae yn awr a ble y dymunwch iddo fod yn y dyfodol.
Dyma bethau allweddol i’w cofio:
Mae yna lu o adnoddau ar gael a all eich helpu i greu eich strategaeth ddigidol, yn cynnwys y Digital Culture Network a Chanllawiau ar Chanllawiau ar Bolisïau a Strategaethau Digidol (PDF file, 514kb), gan Arts Council England.
Dyma restr fer o adnoddau da eraill y gallwch eu defnyddio:
- Digital Strategy – Association of Independent Museums (AIM)
- Developing a digital culture – Arts Council
- How to shape your digital strategy – JISC
3. Drafftio eich strategaeth ddigidol
Mae’r fframwaith isod wedi’i seilio ar ‘Digital policy and plan guidance’ gan Arts Council England. Mae’n cynnig arweiniad er mwyn eich helpu i ddatblygu agweddau allweddol ar eich strategaeth ddigidol.
Trwy ddefnyddio’r fframwaith hwn, bydd modd ichi ganolbwyntio ar flaenoriaethau eich strategaeth ddigidol. Bydd yn eich galluogi i feddwl ym mha feysydd y gall gwybodaeth arbenigol fod yn fwyaf angenrheidiol.
Browse related resources by smart tags:
Audiences Digital strategy Experience Mission Objectives Strategies
Please attribute as: "Deciding when to work with a digital strategist (2022) by Dr Amelia Knowlson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0