Changing how you connect: how digital can transform what your organisation offers
1. Cyflwyniad
Ers blynyddoedd lawer, mae’r modd y cyflwynir gwahanol agweddau ar ein treftadaeth ddiwylliannol wedi elwa ar ddatblygiadau mewn technolegau digidol. Mae Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD), systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS), ffotograffiaeth ddigidol, digideiddio a sganio 3D, y cyfryngau cymysg, realiti rhithwir (VR), realiti estynedig (AR) a realiti cymysg (MR) wedi galluogi sefydliadau treftadaeth i ddeall, gwarchod a chyflwyno ein treftadaeth ddiwylliannol mewn ffyrdd mwyfwy diddorol a threiddgar.
I nifer o sefydliadau, mae’r offer hyn yn werthfawr o ran cyfoethogi profiad cynulleidfaoedd ac ymgysylltu â’n hadnoddau diwylliannol mewn amryw byd o ffyrdd. Gall asedau digidol a dulliau dehongli digidol ategu cyfranogiad ehangach a gwella hygyrchedd. Fodd bynnag, i rai sefydliadau, efallai y bydd troi at y byd digidol yn cynnig cyfleoedd mwy radical i osod cynnwys rhithwir neu ar-lein wrth galon a chraidd eu harlwy. Efallai y bydd hyn yn mynd y tu hwnt i ddefnyddio elfennau digidol fel pethau sy’n ‘ychwanegu gwerth’, gan fynd ati yn hytrach i roi lle cwbl ganolog i ymgysylltiad ar-lein ac ymgysylltiad rhithwir.
2. Cwestiwn allweddol ynglŷn â newid digidol
Dyma gwestiwn allweddol y dylech ei ofyn i chi eich hun mewn perthynas â’ch sefydliad: ai ychwanegu gwerth yn unig fydd y trawsnewid digidol, ynteu a yw’n cynnig cyfle ichi newid yn llwyr yr hyn a gynigiwch a’r ffordd y cynigiwch ef? Mae’r adnodd hwn yn archwilio sut y gall newid digidol gynnig cyfle i ailwampio’n llwyr ein rhagdybiaethau ynglŷn â’r modd y mae gwasanaethau traddodiadol yn gweithio – yn yr achos hwn, cyhoeddi.
I drafod hyn ymhellach, mae ein harbenigwr, Dr Stephen Dobson o Brifysgol Leeds, yn cyflwyno sgwrs gyda Judith Winters, Golygydd Internet Archaeology, ynglŷn â datblygu’r cyfnodolyn ar-lein hwn o’i fan cychwyn yng nghanol y 90au hyd y presennol.
3. Astudiaeth achos: Sgwrs gyda Judith Winters, golygydd ‘Internet Archaeology’
Lansiwyd ‘Internet Archaeology’ ym 1995 gydag arian gan Raglen Llyfrgelloedd Electronig y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC), a’r nod oedd cynnig ffordd newydd sbon o gyflwyno a chyfathrebu ymchwil yn ymwneud â threftadaeth ddiwylliannol. Ar y cychwyn rhoddwyd model tanysgrifio ar waith, ond yn 2014 symudwyd at fynediad agored. Dyma’r e-gyfnodolyn archaeolegol ar-lein cyntaf a adolygir gan gymheiriaid, ac ynghyd â’r Gwasanaeth Data Archaeolegol, ef yw’r ystorfa fwyaf a hynaf drwy’r byd ar gyfer data archaeolegol.
Mae ‘Internet Archaeology’ wedi rhoi dulliau arloesol ar waith o ran ymdrin â chynnwys digidol. Yn hytrach nag anelu’n unig at ail-greu cyhoeddiadau traddodiadol ar ffurf ddigidol, defnyddiwyd y newid tuag at gyfryngau digidol fel ffordd o ailystyried y fformat. Mae newid digidol yn cynnig cyfleoedd i wneud pethau’n wahanol. Mae Stephen yn trafod hyn yn y fan yma gyda Judith fel ffordd o archwilio pwysigrwydd newid ac arloesi yng ngwaith ‘Internet Archaeology’.
Pryd y dechreuodd ‘Internet Archaeology’ a beth a’i hysgogodd yn bennaf? Pam y cafodd ei lansio?
Consortiwm dan arweiniad Julian Richards yng nghanol y 1990au a arweiniodd ato. Rydw i’n tybio bod aelodau’r consortiwm wedi sylweddoli bod potensial yn perthyn i’r peth hwnnw a elwid yn ‘rhyngrwyd’, ac y byddai cyfuno data ac elfennau amlgyfrwng o fudd i archaeoleg fel disgyblaeth. Yn ystod y cynadleddau Defnyddio Cyfrifiaduron mewn Archaeoleg (CAA) y cychwynnodd y trafodaethau. Ym 1995, enillodd y consortiwm arian gan y Rhaglen Llyfrgelloedd Electronig (eLIB) i ddechrau’r cyfnodolyn, a chyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym 1996. Felly, dyna’r hanes yn fras iawn.
Mae cynnwys ar-lein yn llawer mwy cyffredin erbyn hyn; ond ar y pryd, a oedd yna unrhyw gyfnodolion cyfatebol y tu allan i’r byd archaeoleg y gwnaethoch eu hystyried fel rhyw fath o fodel?
Nid wyf yn credu bod cyfnodolion eraill o’r fath i’w cael ar y pryd. Yn sicr, nid oedd cyfnodolion digidol eraill yn bodoli. Yn Sheffield, roeddwn i wedi dechrau cyfnodolyn digidol o’r enw ‘Assemblage’ gyda chriw o ôl-raddedigion eraill o’r un meddylfryd. Unwaith eto, dim ond oherwydd bod y rhyngrwyd yn swnio fel pe bai’n llwybr eithaf diddorol i’w droedio. Ond nid oeddem yn efelychu neb mewn gwirionedd – dyna’r drefn pan fyddwch yn un o’r rhai cyntaf yn eich maes, am a wn i. Ni oedd y rhai cyntaf i droedio’r ffordd, ac mae’r un peth yn wir am ‘Internet Archaeology’, oherwydd nid oedd unrhyw beth ar gael inni i’w efelychu. Yr hyn y gwnaethom ei ‘efelychu’, mae’n debyg, oedd daliadau sylfaenol y byd cyhoeddi, strwythur yr erthyglau a’r rhifynnau – er, yn ein hachos ni, fe wnaethom roi’r gorau i rifo’r tudalennau.
Yn hyn o beth, un o’r pethau sydd wedi ennyn fy niddordeb yn fawr ynglŷn ag ‘Internet Archaeology’ yw hyn: mae’r ffaith nad ydych chi erioed wedi bod yn gaeth i fformat y ‘dudalen’ yn golygu eich bod wedi gallu torri’r hualau. Ydych chi’n credu eich bod yn gallu cyflwyno pethau’n bur wahanol i’r ffordd y caiff pethau eu cyflwyno mewn erthyglau wedi’u hargraffu?
Ydwyf. Mewn gwirioned, roedd y rhifynnau cynnar yn ymgorffori chwiliadau cronfeydd data, ac roedd hynny’n rhywbeth gwych i’w gyflwyno – roedd yn torri’n rhydd o hualau naratif traddodiadol yr erthygl, roedd modd ichi dreiddio i’r data sylfaenol.

Mae’r cyfnodolyn yn gallu darparu ar gyfer llu o gyfryngau gwahanol. Nid testun a delweddau yn unig, na hyd yn oed data chwiliadwy yn unig, ond ffeiliau sain, fideos, a modelau 3D hefyd. Yr hyn sy’n ddiddorol, wrth gwrs, yw’r ffaith fod y dechnoleg yn newid o hyd dros amser. Felly, er enghraifft, fe wnaethom gyhoeddi erthygl y llynedd a oedd yn arbrofi gyda ffyrdd o gynhyrchu hen ffotograffau o Syria ar ffurf sain (Listening to Dura Europos: An experiment in archaeological image sonification: Shawn Graham and Jamie Simons [1]).
Yn ôl yr awduron, roedd a wnelo’r arbrawf hwn â “chynhyrchu delweddau archaeolegol archifol ar ffurf sain er mwyn gwneud y weithred o edrych ar ffotograffiaeth yn brofiad dieithr ac od. Yna, bydd y synau a gynhyrchir yn hoelio ein sylw ac yn ein harafu, gan ddangos inni y gwahanol ffyrdd y caiff gweledigaeth archaeolegol ei saernïo er mwyn ysgogi effaith/teimlad penodol.”
A dyma fi’n meddwl, “Ie, beth am wneud hyn.” Rydym yn fodlon arbrofi a rhoi cynnig ar bethau gwahanol a all lwyddo neu fethu, ac esgor ar rywbeth dwfn, meddylgar ac ystyrlon yn nes ymlaen. Ond mae’r ffaith fod pobl yn dod atom ni gyda’r syniadau arbrofol hynny yn wych o beth.
Ond weithiau, efallai y bydd yn rhaid ichi roi hwb i awduron er mwyn eu hannog i wneud rhywbeth gwahanol, rhywbeth sydd y tu hwnt i’r model argraffu traddodiadol.
[1] Graham, S, and Simons, J. 2021 Listening to Dura Europos: An Experiment in Archaeological Image Sonification, Internet Archaeology 56.
Ie, gallaf ddychmygu. Dyna yw hanfod y gyfres hon o adnoddau – nid ymhél yn unig â’r modd y gall newid digidol ategu’r hyn a wnewch yn barod, ond ymhél â’r modd y gall newid digidol herio’r hyn a wnewch. Yn eich tyb chi, ble mae’r newidiadau mwyaf wedi digwydd?
Nid yw’r deunydd cyhoeddedig wedi newid i’r un graddau â’r offer a’r dechnoleg – mae’r rheini wedi newid yn gyflym. Ac fel golygydd, rydw i wedi gorfod addasu fy sgiliau’n gyson ers 1998. Nid oedd Twitter na Facebook yn bodoli yr adeg honno – dyma ffyrdd gwych o hyrwyddo, cyflwyno a darlledu’r hyn a wnawn. Ond nid oeddynt yn bodoli ym 1998.
Ydych chi’n credu bod y gynulleidfa a’r darllenwyr yn wahanol i gynulleidfaoedd a darllenwyr cyfnodolion eraill?
Mae pobl o bob rhan o’r byd yn darllen ein cyfnodolyn, ond prif ffocws ein cynulleidfa yw siaradwyr Saesneg a darllenwyr Ewropeaidd. Nid wyf yn credu bod cyfansoddiad ein cynulleidfa wedi newid rhyw lawer dros amser; yr hyn sydd wedi newid yw ein dulliau o gyrraedd mwy o bobl, ac mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn hollbwysig yn hyn o beth.
Yn ôl pob tebyg, mae’r cyfnodolyn ei hun wedi newid i raddau mwy na’r gynulleidfa, er bod y niferoedd wedi cynyddu bob blwyddyn. Y ffaith fod yna fynediad agored at y cyfnodolyn – dyna’r gwahaniaeth. Nid oes unrhyw rwystrau’n bodoli bellach, yn wahanol i’r cyfnod byr ar gychwyn cyntaf y cyfnodolyn pan oedd rhwystrau o’r fath i’w cael. Ar ôl cynnig mynediad agored, gwelsom newid mawr yn y nifer o bobl a oedd yn ymateb i bostiadau ynglŷn â chynnwys newydd.

4. Sut beth allai newid fod i chi?
Gall arloesi digidol fod yn esblygol (newidiadau bach fesul cam) neu’n chwyldroadol (newid llwyr), a gall gyfeirio at eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau, fel arddangosfeydd, digwyddiadau neu raglenni, yn ogystal ag eitemau yn eich siop, eich prosesau neu, yn wir, eich modelau gweithredu cyfan. Gan ddefnyddio’r fframwaith arloesi syml isod i ategu ‘meddwl heb orwelion’, ceisiwch ddychmygu sut newidiadau digidol a allai fod yn berthnasol i’ch sefydliad chi a nodwch y rhain ar gyfer pob blwch.
Cwestiynau i’w gofyn:
- Pa gynhyrchion neu wasanaethau y gallwch ddychmygu eu newid mewn modd esblygol?
- Pa addasiadau y gallai newid digidol eich helpu i’w cyflwyno?
- Sut beth fyddai newid chwyldroadol yn eich model gweithredu cyfan?
- Beth pe baech chi’n sefydliad ar-lein yn unig – beth fyddech chi’n ei gynnig?
- Heb eich cyfyngu eich hun i dechnolegau neu gymwysiadau digidol sy’n bodoli eisoes, pa offeryn digidol fyddai o fudd mawr i’ch sefydliad neu i’ch cynulleidfaoedd?
Gall meddwl am drawsnewid digidol yn y ffordd hon ysgogi potensial a llwybrau newydd annisgwyl i’ch sefydliad.
Gallwch weld y fframwaith arloesi isod neu lawrlwytho fersiwn Word (12.9kb).

Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "Changing how you connect: how digital can transform what your organisation offers (2022) by Dr Stephen Dobson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0





