Embracing bilingualism in your organisation
1. Y manteision sy’n perthyn i ddwyieithrwydd
Wrth i’r ystod o bobl sy’n gweithio yn eich sefydliad ac sy’n ymgysylltu ag ef ddod yn fwyfwy amrywiol, mae’n debygol y bydd gennych weithwyr, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau dwyieithog ac amlieithog (dyma eich cynulleidfaoedd, eich ymwelwyr a/neu eich cwsmeriaid). Efallai eich bod yn gweithio mewn cyd-destun lle ceir mwy nag un iaith swyddogol, ac efallai felly ei bod yn ofynnol ichi gyfathrebu mewn sawl iaith. Dwyieithrwydd yw’r gallu i gyfathrebu mewn dwy iaith gyda rhuglder cyfartal, neu fwy neu lai yn gyfartal. Amlieithrwydd yw’r gallu i gyfathrebu mewn nifer o ieithoedd.
Fe allai eich sefydliad fod ar ei ennill pe bai’n apelio at siaradwyr o wahanol ieithoedd. Mae’r manteision yn cynnwys gallu ymestyn cyfranogiad eich cynulleidfa, defnyddio arbenigedd gwahanol gymunedau, arfer cynwysoldeb, cyfoethogi eich sefydliad yn ddiwylliannol, a rhwydweithio gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol.
2. Cyfathrebu dwyieithog effeithiol
Mae ein harbenigwr, Dr Ruth Daly o Brifysgol Leeds, yn esbonio sut y gall eich sefydliad gyfathrebu’n effeithio gyda siaradwyr ieithoedd eraill.
Mae yna nifer o gamau y gall eich sefydliad eu cymryd er mwyn rheoli cyfathrebu dwyieithog yn effeithiol, er enghraifft:
Sefydlu polisi cyfathrebu agored
Gofynnwch i staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau dwyieithog beth all eich sefydliad ei wneud i wella’u profiad. Trwy ddefnyddio’u hawgrymiadau, bydd modd ichi feithrin diwylliant yn llawn ymddiriedaeth, derbyniad a chynhwysiant. Fe allai eich sefydliad roi polisi “drws agored” ar waith lle rhoddir cyfle i bobl wneud awgrymiadau a rhannu eu meddyliau, eu hofnau neu eu pryderon heb ichi orfod gofyn iddynt yn gyntaf. Gall hyn helpu eich sefydliad i osgoi camgyfleu a dryswch posibl ymhlith staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau. Yn ddelfrydol, dylid cynnig yr opsiwn iddynt wneud hyn yn ddienw – er enghraifft, trwy ddefnyddio blwch awgrymiadau neu arolwg ar-lein.
Sefydlu cymorth ar gyfer staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr dwyieithog
Rhaid i’ch sefydliad sicrhau ei fod yn cyfieithu deunyddiau’r cwmni ar gyfer staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau dwyieithog. Dylai llawlyfrau gweithwyr, polisïau sefydliadol a dogfennau pwysig eraill fod ar gael yn y Saesneg ac yn iaith gyntaf yr unigolyn. Gan ddibynnu ar y gwasanaethau sydd ar gael yn eich Awdurdod Lleol, efallai y bydd angen ichi gael cymorth i gyfieithu dogfennau hollbwysig. Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), dyma’r deg prif iaith a siaredir yng Nghymru a Lloegr (2011):
1. Saesneg (Cymraeg neu Saesneg yng Nghymru), 92.3%
2. Pwyleg, 1.0%
3. Pwnjabeg, 0.5%
4. Wrdw, 0.5%
5. Bengaleg (gyda Sylheti a Chatgava), 0.4%
6. Gwjarati, 0.4%
7. Arabeg, 0.3%
8. Ffrangeg, 0.3%
9. Tsieinëeg (ac eithrio’r iaith Fandarin a Chantoneg), 0.3%
10. Portiwgaleg, 0.2%
Yn lleol, bydd y manylion demograffig yn amrywio o le i le. Trwy ddefnyddio gwasanaethau fel Localstats.co.uk, bydd modd gweld amrywiadau ieithyddol penodol yn eich ardal chi.
Croesawu amrywiaeth a meithrin cynhwysiant
Dylid rhoi cyfleoedd i staff dwyieithog rannu eu hiaith a’u treftadaeth ddiwylliannol gyda’ch sefydliad. Gofynnwch i staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaethau dwyieithog sut y byddent yn hoffi rhannu eu treftadaeth. Hefyd, gallai eich sefydliad gynnig cyrsiau iaith cymorthdaledig neu rad ac am ddim, neu grwpiau sgwrsio amser cinio. Gall hyn helpu i feithrin amgylchedd lle caiff cyfnewid diwylliannol ei annog a’i ddathlu.
Defnyddio offer digidol
Mae yna apiau ar gael sy’n gallu hwyluso cyfathrebu amser real dwy ffordd rhwng gwahanol ieithoedd. Fe allai eich sefydliad ddefnyddio Google Translate a Microsoft Translator, ymhlith nifer o opsiynau eraill, i gyfieithu dogfennau testun, sgriniau a data o fath arall. Bydd YouTube yn cyfieithu is-deitlau i wahanol ieithoedd ar eich rhan. Bydd Google My Business – Manage Your Business Profile yn sicrhau bod gwybodaeth am eich sefydliad yn cael ei chyflwyno yn iaith defnyddiwr y ddyfais.
Yn ôl Greenhouse, sef cwmni meddalwedd sydd wedi ymrwymo i amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant:
Mae gwelliannau mewn meddalwedd adnabod llais a chyfieithu niwral AI yn ei gwneud hi’n haws cynnal sgwrs rugl gyda rhywun nad yw’n siarad eich iaith chi – a vice versa. Pa un a fyddwch yn cyfieithu o’r Saesneg i’r Sbaeneg, neu o’r Sbaeneg i’r Saesneg, mae’r apiau’n sicrhau bod y sgwrs yn llifo. Maen nhw’n wych, gan hwyluso busnes, rhwydweithio a’r arfer o gyfnewid syniadau’n rhad ac am ddim gyda chydweithwyr a chwsmeriaid.
Dyfyniad gan: Greenhouse, 2021
Fodd bynnag, mae’n werth cofio nad yw’r offer yma – hyd yn hyn, beth bynnag – yn gwbl ddibynadwy ar gyfer cyfieithu negeseuon cyfathrebu gyda defnyddwyr gwasanaethau. Byddwch yn ofalus gyda nhw; ond gallant fod yn ddefnyddiol iawn. Ffordd wych o groesawu ymwelwyr rhyngwladol yw cael gwirfoddolwyr ag offer cyfieithu llais i destun. Yn yr un modd, mae offer o’r fath wedi bod yn help gwirioneddol i ymwelwyr byddar pan oedd hi’n anodd iddynt wefusddarllen oherwydd masgiau.
3. Sut y gall eich sefydliad greu cyfathrebu dwyieithog effeithiol
Bydd y cwestiynau myfyriol hyn yn eich helpu i bennu sut y gallwch ymestyn cyrhaeddiad eich sefydliad. Gallwch hefyd lawrlwytho dogfen ryngweithiol (PDF file, 309kb) a fydd yn eich galluogi i gofnodi eich ymatebion a chadw copi i’w rannu gydag eraill.
1. A yw eich sefydliad yn elwa eisoes ar staff neu wirfoddolwyr dwyieithog ac amlieithog?
2. Sut y gall staff a gwirfoddolwyr dwyieithog helpu eich sefydliad i gyrraedd rhanddeiliaid, sefydliadau partner a chyfranogwyr, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol?
3. Sut y gall staff a gwirfoddolwyr dwyieithog ac amlieithog helpu eich sefydliad i ehangu cyfranogiad ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd anodd eu cyrraedd?
4. Rhagor o adnoddau
- Arweiniad ar reoli staff dwyieithog gan y Ganolfan Ethnigrwydd Diwylliannol ac Iechyd (CEH) [PDF file, 329kb]
- Y manteision sy’n perthyn i amlieithrwydd
- Rheoli gweithwyr amlieithog
- Gwella cyfathrebu amlieithog yn y gweithle
- Hyfforddiant i’r staff
- Meithrin amrywiaeth ieithyddol
- Defnyddio’r Gymraeg yn eich sefydliad
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "Embracing bilingualism in your organisation (2022) by Dr Ruth Daly supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0





