
Approaches for digital transformation
1. Cyflwyniad
Mae a wnelo trawsnewid digidol â newid y ffordd y gwnewch bethau, herio dulliau traddodiadol a chreu gwerth newydd ar gyfer cynulleidfaoedd newydd. Bydd y ffordd yr ewch ati yn amrywio yn ôl eich sefydliad a’i nodau. Ni waeth pa ddull a roddir ar waith, dylai trawsnewid digidol gynnig cyfle i wneud rhywbeth unigryw a defnyddio technolegau mewn ffyrdd a fydd yn cynnig ffordd newydd o weld a phrofi treftadaeth.
Yn yr arweiniad hwn, mae ein harbenigwr Dr Amelia Knowlson yn cyflwyno rhai enghreifftiau o’r modd y mae sefydliadau treftadaeth eraill wedi llwyddo i ddefnyddio technoleg ddigidol i drawsnewid yr hyn a wnânt.
Mae hi’n canolbwyntio ar dri dull sy’n gysylltiedig â’r hyn y cyfeiria Osterwalder a Pigneur (2010) ato yn Business Model Generation, sef rheoli seilwaith, arloesi o ran cynhyrchion a rheoli cysylltiadau â chwsmeriaid. Mae Amelia yn archwilio sut y gallai pob un o’r dulliau hyn fod yn berthnasol i drawsnewid digidol o fewn eich sefydliad treftadaeth chi a sut y gallwch eu hategu trwy bwysleisio rhai agweddau ar y Cynfas Modelau Busnes.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler yr adnodd a grëwyd i ateb y cwestiwn: Beth yw fy opsiynau os wyf yn teimlo ein bod angen model busnes newydd er mwyn elwa i’r eithaf ar gyfleoedd digidol?
2. Rheoli seilwaith: Dull cysylltiedig
Y cynfas modelau busnes
Isod mae diagram o gynfas model busnes, cynrychiolaeth weledol o fodel busnes nodweddiadol, gan amlygu tri maes allweddol o reoli seilwaith, arloesi cynnyrch a rheoli perthnasoedd cwsmeriaid.

Os yw eich ymdrechion i drawsnewid eich sefydliad yn ddigidol yn ymwneud yn bennaf â chreu arbedion effeithlonrwydd a’ch helpu i wella’r ffordd y gwnewch bethau, yna fe fydd eich ymdrechion yn canolbwyntio ar ochr chwith y cynfas modelau busnes, sef:
- Gwybodaeth a sgiliau eich staff a’ch gwirfoddolwyr
- Yr adnoddau technolegol y gallech fod angen eu defnyddio
- Y partneriaethau a’r cymheiriaid y gallech eu meithrin er mwyn cael cymorth a chynnig arweiniad.
Gyda’ch gilydd efallai y bydd modd ichi gael cymorth a help ychwanegol trwy gysylltu ar-lein â sefydliadau treftadaeth eraill ledled y byd. Trwy fod mewn cysylltiad â sefydliadau eraill, mae’n bosibl y bydd modd ichi gynnig gwasanaeth na fyddech, fel arall, wedi bod â’r adnoddau, yr wybodaeth na’r sgiliau technegol i’w ddarparu’n fewnol.
Astudiaeth achos: Europeana
Mae Europeana yn ei disgrifio’i hun fel menter sy’n hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol Ewrop er mwyn i bawb allu ei mwynhau a’i defnyddio at ddibenion dysgu, gwaith neu hwyl. Trwy gysylltu’r archifau, yr adnoddau a’r deunyddiau sy’n eiddo i sefydliadau ledled Ewrop, mae’n cynnig mynediad canolog at filiynau o eitemau treftadaeth ddiwylliannol y gellir chwilio trwyddynt, fel gweithiau celf, llyfrau, cerddoriaeth, papurau newydd, archaeoleg, ffasiwn, gwyddoniaeth a chwaraeon.
Mae hefyd yn cynnig nodweddion a mynediad ychwanegol i aelodau rhwydwaith Europeana Pro. Mae’r rhwydwaith hwn yn cysylltu sefydliadau diwylliannol, orielau, amgueddfeydd a gweithwyr proffesiynol eraill â sefydliadau addysgol fel ysgolion a cholegau er mwyn darparu adnodd addysgol diwylliannol pwerus.

Enghraifft arall o’r dull hwn yw prosiect o’r enw 50s in Europe Kaleidoscope sy’n dwyn ynghyd ffotograffau treftadaeth a thechnoleg newydd. Mae’r wefan hon yn ategu’r arfer o rannu ac ailddefnyddio delweddau ffotograffig, sylwadau a gynhyrchir gan ddefnyddwyr a chydguradu.
3. Rheoli cysylltiadau â chwsmeriaid: Dull ymgollol
Efallai mai cynnig profiad o fath newydd i gynulleidfaoedd sydd wrth wraidd eich awydd i drawsnewid eich sefydliad yn ddigidol. Efallai eich bod yn dymuno cynnig platfformau a sianeli newydd y gall eich cynulleidfa eu defnyddio i weld eich casgliadau. Trwy wneud hynny, gallwch apelio at ddemograffeg a segmentau gwahanol o fewn y boblogaeth. Os felly, bydd eich pwyslais strategol yn canolbwyntio i raddau mwy ar ochr dde’r cynfas – hynny yw, cynnig mannau newydd (mannau ffisegol neu ar-lein) lle gall eich cynulleidfaoedd ymgysylltu â chi, a segmentau newydd i’w deall a’u denu. O’r herwydd, bydd eich ymdrechion yn rhoi pwyslais ar gynnig profiad gwych i’ch cynulleidfa a chyrraedd pobl newydd.
Astudiaeth achos: Van Gogh – Y Profiad Ymgollol
Lansiwyd Profiad Van Gogh yn 2017, a hyd yn hyn mae mwy na phum miliwn o bobl ledled y byd wedi ymweld ag ef mewn 30 o leoliadau. Trwy ddefnyddio’r dechnoleg rithwir ddiweddaraf, caiff y gynulleidfa ei gosod ym myd Vincent Van Gogh er mwyn cael sioe unigryw yn llawn sain a goleuadau lle caiff y cyfranogwyr eu trochi yn nelweddau a motifau cyfarwydd yr artist. Mae’r arddangosfa yn helpu i ennyn diddordeb y gynulleidfa trwy gynnig dull synhwyraidd ac arbrofol hynod wahanol o werthfawrogi celf.

Mae Ymddiriedolaeth Dinas Diwylliant Coventry yn defnyddio dull tebyg yn y Reel Store, gan greu oriel gelf ddigidol ymgollol – yr oriel barhaol gyntaf o’i bath yn y DU.
4. Datganiad gwerth: Dull cyd-greu
I rai sefydliadau, efallai y bydd defnyddio technoleg yn ategu’r gwaith o ddatblygu gwasanaeth neu gynnyrch hollol newydd. Efallai bod eich cynulleidfa’n gwerthfawrogi’r ffaith eich bod yn gallu arloesi a chreu mentrau a syniadau newydd. Rydych wastad yn ceisio bod ar flaen y gad o ran yr hyn sy’n digwydd ac efallai eich bod yn dymuno defnyddio technoleg er mwyn cynnwys eich cynulleidfa yn y broses o gynhyrchu syniadau. Gall cyd-greu gynnig cyfleoedd unigryw i rannu gwybodaeth ac adnoddau a chyfoethogi’r profiad i bawb. Mae technolegau digidol yn gyfrwng gwych ar gyfer rheoli’r broses hon.
Astudiaeth achos: Art UK
Yn 2003, lansiwyd Art UK yn y National Gallery, gyda’r nod o greu cofnod ffotograffig o baentiadau olew y wlad – hynny yw, paentiadau a oedd ym mherchnogaeth y cyhoedd.
Ers hynny, mae’r elusen wedi ymestyn ei chylch gwaith er mwyn cynnwys cerfluniau cyhoeddus, a bellach mae’n cynnwys gweithiau digidol sy’n deillio o fwy na 3400 o leoliadau ledled y DU. Yn 2014, lansiodd Art UK wasanaeth o’r enw Art Detective. Dyma wasanaeth ar-lein rhad ac am ddim lle gall arbenigwyr a’r cyhoedd gydweithio fel cymuned i ateb cwestiynau’n ymwneud â gweithiau a gynhwysir yn y gronfa ddata. Mae’r dull hwn yn defnyddio dull ymchwiliol ‘ffynhonnell agored’ er mwyn rhannu gwybodaeth a helpu curaduron i lenwi bylchau mewn gwybodaeth ynglŷn â’u casgliadau. Hefyd, mae’n ffordd wych o greu cysylltiadau gyda chynulleidfaoedd fel cymunedau.

5. Y camau nesaf
Mae pennu pa gyfeiriad sydd fwyaf perthnasol i chi yn rhan hollbwysig o’r dasg o ddatblygu eich strategaeth ddigidol a’ch dulliau o reoli newid posibl. Trwy bennu’n glir o’r cychwyn beth sydd wrth wraidd eich cymhelliant dros drawsnewid, bydd modd ichi hefyd gyflwyno’r achos gerbron eich rhanddeiliaid.
Cam 1: Aseswch eich cenhadaeth a’ch nodau sefydliadol – beth yw eich sefyllfa ar hyn o bryd a beth ydych chi eisiau ei gyflawni?
Cam 2: Gyda’ch tîm, ystyriwch pa un o’r dulliau a nodir uchod sy’n gweddu orau i’r cyfeiriad y dymunwch ei ddilyn.
Cam 3: Dechreuwch fapio llwybr trawsnewid digidol eich sefydliad trwy ddefnyddio’r Cynfas Digidol.
Browse related resources by smart tags:
Customer relationship marketing Digital project management Value propositions

Please attribute as: "Approaches for digital transformation (2022) by Dr Amelia Knowlson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0