How to make your website better for the environment: coding and hosting
Mae’n bosibl nad yw’n rhywbeth sy’n eich taro pan fyddwch chi’n sgrolio drwy Twitter, yn gwylio cyfresi gefn wrth gefn ar Netflix, neu’n pori drwy dudalen ‘Beth sydd ymlaen’ theatr, ond mae’n cymryd llawer o ynni i redeg y rhyngrwyd. Mae rhai astudiaethau’n rhagfynegi y gallai ddefnyddio hyd at 20% o drydan y byd erbyn 2025.
Y tri phrif faes lle mae eich gwefan yn defnyddio ynni yw:
- ochr y gweinydd – storio’ch gwefan a’i holl ddata;
- lled band – trosglwyddo’r data hwnnw o’r gweinydd i gyfrifiadur unigol;
- yn y porwr – y pŵer prosesu a ddefnyddir gan gyfrifiadur i gyrchu a dangos gwefan.
Yn gryno, er mwyn bod mor gynaliadwy â phosibl, y nod yw ceisio creu gwefan sy’n defnyddio cyn lleied o ynni (ac ynni adnewyddadwy at hynny) â phosibl, tra’i bod yn parhau i wneud ei gwaith – i sefydliadau ac i’ch cynulleidfaoedd.
1. Fframwaith – eich System Rheoli Cynnwys
Y fframwaith sy’n creu sylfaen eich gwefan, ac mae’n debygol o fod yn un o blith llond llaw o Systemau Rheoli Cynnwys (CMS) – e.e. Drupal, WordPress, Craft. Gallai pa mor gynaliadwy yw CMS ddewisol asiantaeth hyd yn oed fod yn rhywbeth rydych chi’n ei ystyried yn y camau cynnar, cyn eu comisiynu. Rhai cwestiynau i’w gofyn:
Pa mor ysgafn yw eich fframwaith?
Mae CMS mawr a chwyddedig yn gwastraffu ynni sy’n pweru prosesau diangen. Mae CMS ysgafn, sydd ond yn defnyddio’r hyn sydd wedi’i ychwanegu ato at ddiben, fodd bynnag, yn fwy cynaliadwy. Nawr, am ei bod yn defnyddio llai o ynni i weithio, ac at y dyfodol, oherwydd – yn syml ddigon – mae llai i fynd o’i le.
Ydy eich CMS yn ymdrin â delweddau’n effeithlon?
Mae hyn yn ymwneud â sut mae’r CMS yn ymdrin â delweddau i chi. Mae maint yn bwysig, felly mae’n bwysig bod meintiau delweddau’n cael eu haddasu yn unol â’r ddyfais a ddefnyddir i’w gweld. Ydy meintiau ffeiliau’n cael eu hoptimeiddio’n awtomatig? Ydy’r CMS yn ailfeintio delweddau mawr i’w gwneud yn fwy priodol i’r we? Ydy hyn yn trosi fformatau ffeiliau traddodiadol sy’n drymach ar ynni i’r amrywiaethau diweddaraf, yn y fan a’r lle (gan gymryd y bydd y porwr yn cefnogi hyn)?
Ydy hyn yn ddiogel?
Po fwyaf agored i niwed yw system (gyda’r argaeledd mwyaf hollbresennol yn aml), y mwyaf tebygol yw hi o fod yn destun ymosodiad. Ymhlith llu o bethau negyddol eraill, mae hyn yn gwastraffu llawer o ynni!
Pa mor aml mae angen ei ddiweddaru?
Mae’n dda o beth cadw popeth yn gyfoes – mae’n sicrhau eich bod yn defnyddio’r gorau o’r dechnoleg sydd ar gael. Ond, os oes angen diweddariadau aml ac ‘ad hoc’ ar eich fframwaith, dyna ddefnyddio rhagor o ynni. (Mae Craft yn wych am ei bod yn cael ei diweddaru mewn ffordd fwriadus, wedi’i chynllunio.)
Ydy’r bwrdd rheoli’n gweithio’n reddfol i weinyddwyr gwefannau?
Yn syml – ydy hi’n hawdd i chi ei ddefnyddio, ac ychwanegu cynnwys ato? Po gyflymaf ac effeithlon y tasgau gweinyddol ar y wefan, y lleiaf o ynni a gaiff ei ddefnyddio. (Ac mae modd treulio’r holl amser hynny sydd heb ei ddefnyddio yn gwneud pethau hwyliog – fel creu cynnwys gwych a chynaliadwy.)
Mae pob un o’r uchod wedi’u cynnwys yn y llu o resymau pam rydyn ni, a’n cleientiaid, wrth ein bodd â CMS Craft. (Mae hefyd yn un o’r systemau rheoli cynnwys mwyaf hygyrch yn y byd!)
Rwy’ wrth fy modd gyda’r adran asedau! Mae gymaint yn haws a chyflymach na’n hen system… Yn llythrennol rwy’ wedi lanlwytho’r holl ddelweddau mewn bloc ar gyfer un adran o’r wefan mewn dwy funud – byddai hyn wedi cymryd tua dwy awr i ni ar ein hen wefan!
Craig Russell – Swyddog Marchnata a Gwerthu, Oxford Playhouse
(yn trafod eu cam i symud i CMS Craft)
2. Cod wedi’i deilwra – y weithrededd ychwanegol a ychwanegir at eich CMS
Mae fframwaith sylfaenol CMS yn annhebygol o gynnig yr holl weithrededd sydd ei hangen arnoch. Ac yn sicr ni chewch y dyluniad gweledol i gyd-fynd â’ch brand. Felly, bydd angen i’r datblygwyr yn eich asiantaeth ychwanegu cod ychwanegol, wedi’i deilwra, i greu eich gwefan. Rhai cwestiynau yr hoffech eu gofyn iddyn nhw o bosibl am gynaliadwyedd …
Ydych chi’n ysgrifenu cod y mae modd ei ailddefnyddio?
Mae allyriadau carbon yn dod nid yn unig o wefan ei hun ond o’r tîm a’i greodd. Felly, am weithrededd sy’n gyffredin ar draws llawer o wefannau, mae ailddefnyddio rhywfaint neu’r holl god ar gyfer y weithrededd honno – ar draws llawer o wefannau – nid yn unig yn fwy effeithlon o ran ynni (am mai dim ond unwaith y caiff ei ysgrifennu), ond hefyd yn haws ei gynnal, ac yn fwy cost-effeithiol am ei fod yn arbed amser.
Ydych chi’n defnyddio proses ddatblygu ystwyth?
Mae prosesau ystwyth yn dibynnu ar adolygu ac ymateb i newidiadau’n gyflym, sydd (fel arfer) yn ddull mwy effeithlon na chynllunio hynod fanwl ymlaen llaw ar gyfer pob elfen mewn prosiect. Ond mae’n rhaid rheoli proses ystwyth yn gywir, er mwyn osgoi ‘dyled dechnegol’ (h.y. pethau y bydd angen eu cywiro’n ddiweddarach), gan arwain at fwy o waith h.y. mwy o god, h.y. defnyddio mwy o ynni yn y pen draw.
Fydd y wefan yn dilyn safonau’r we?
Mae hyn yn golygu bod y wefan yn defnyddio egwyddorion sydd wedi’u profi sy’n creu gwefannau sy’n perfformio’n uchel, sy’n gweithio’n dda ar draws gwahanol ddyfeisiau a llwyfannau. Gall dilyn safonau hefyd helpu eich prosiect i lynu wrth yr egwyddor SWS (‘Symlrwydd wrth Saernïo’) – gan osgoi’r demtasiwn i or-saernïo. (Yn hytrach na cheisio plesio pawb, craffwch ar eich data a chanolbwyntio ar greu gwefan sy’n gweithio’n wych i’r mwyafrif o ddefnyddwyr, yn hytrach na cheisio gwneud popeth i bawb a diweddu gyda rhywbeth tila.)
Ydych chi’n defnyddio technoleg Progressive Web App?
Mae hyn yn caniatáu i rywfaint o gynnwys gael ei storio (cached yn Saesneg) ar ddyfais defnyddiwr, sy’n golygu nad oes rhaid iddo lwytho eto pan fyddan nhw’n ymweld â’r dudalen y tro nesaf. Mae’r llwyth data gostyngol hefyd yn golygu y bydd eich gwefan yn gyflymach, gan arwain at well profiad i’r defnyddiwr.
Pa mor gyfarwydd ydych chi ag integreiddiadau trydydd parti?
Os oes angen i’ch gwefan integreiddio gyda system docynnau / system CRM, er enghraifft – fel Tessitura, Spektrix, Ticketsolve – mae datblygwyr gwe sy’n meddu ar brofiad blaenorol o weithio gyda’r systemau hynny’n debygol o fod yn fwy effeithlon. Mae hyn yn wir ar gyfer integreiddiadau eraill hefyd, boed yn llwyfan codi arian trydydd parti, neu’n declyn llogi digwyddiadau fel Yesplan.
Ansawdd yw’r allwedd. Pan gaiff gwefan ei hadeiladau’n gywir – heb dorri corneli, na datrysiadau clogyrnaidd – mae’n fwy tebygol o fod yn gynaliadwy. (Yn ogystal â bod yn fwy hygyrch, yn gyflymach i lwytho, yn fwy cyfeillgar i ddefnyddwyr, yn fwy cyfeillgar i optimeiddio peirannau chwilio.)
Waw. Mae’r wefan, y ffenestr argaeledd a’r ‘teclyn’ ymholi oll yn edrych yn wych ac yn gyfeillgar iawn i’r defnyddiwr! Gwaith campus!
Wouter Vermeylen – Rheolwr-gyfarwyddwr, YesPlan
(yn sôn am integreiddio ysgafn Supercool â gwefan MAC)
3. Gwasanaethau ― Yr holl bethau technegol eraill
Bydd angen i chi ddefnyddio gwasanaethau a theclynnau eraill i wneud eich gwefan mor ddefnyddiol a defnyddiadwy â phosibl. Bydd pob un ohonyn nhw’n ychwanegu at ôl troed carbon eich gwefan, felly mae angen ystyried hyn.
Gwe-letya
- Defnyddio darparwr gwe-letya gyda sgôr Effeithiolrwydd Defnyddio Ynni (PUE) isel.PUE sy’n mesur pa mor effeithlon o ran ynni mae canolfan ddata. Y sgôr ‘perffaith’ yw 1, ac mae’r sgôr nodweddiadol yn fwy tebygol o fod yn 1.67 – ond gorau po isaf.
- Dod o hyd i ddarparwr gwe-letya sy’n cael ei bweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy.Ymhlith darparwyr gwe-letya 100% gwyrdd y DU mae darparwyr fel Kualo a Krystal. Mae angen taro cydbwysedd, fodd bynnag, rhwng pa mor wyrdd yw eich darparwr gwe-letya, a sicrhau ei fod yn darparu seilwaith sicr a chadarn sy’n addas at eich anghenion. P’un a ydyn ni’n defnyddio darparwr gwe-letya gwyrdd neu beidio, rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud yw lobïo’r darparwyr gwe-letya mwyaf i drosglwyddo i ynni adnewyddadwy; gan helpu i’w droi’n norm ar gyfer y diwydiant.
- Storio’ch data yn agos i’ch defnyddwyr.Po bellaf y mae angen i ddata deithio, y mwyaf o ynni gaiff ei ddefnyddio. Ar gyfer traffig rhyngwladol ar y we, mae’n bosibl nad yw hyn yn bosibl, felly…
- Defnyddio Rhwydwaith Darparu Cynnwys (CDN).Mae’n bosibl eich bod wedi clywed am wasanaethau fel CloudFlare a Fastly. Mae ganddyn nhw ganolfannau data sy’n gysylltiedig o amgylch y byd, felly maen nhw’n gallu gwasanaethu data mor lleol â phosibl i’r person sy’n ymweld â’ch gwefan. Mae hynny’n cyflymu’r darparu. Nid yw anawsterau dychrynllyd gyda CDNs yn bethau amhosibl, ond pethau prin ydyn nhw, diolch i’r drefn.
- Blocio botiau gwael! Mae unrhyw draffig i’r wefan yn defnyddio ynni; mae hynny’n cynnwys botiau sy’n creu trafferthion. Mae eu blocio’n lleihau’r defnydd o ynni, ac yn gwella diogelwch.
- Storio’r tudalennau ar eich gwefan sy’n denu’r ymweliadau mynychaf.Mae defnyddio gwasanaeth fel Varnish i rag-adeiladau fersiynau statig o’ch tudalennau yn lleihau faint o ynni prosesu sy’n ofynnol i’w llwytho. Sicrhewch eich bod yn gwneud hyn mewn modd ystyriol, fodd bynnag, am fod angen i chi gydbwyso cyflymder ac effeithlonrwydd ynni gyda sicrhau bod defnyddwyr yn derbyn y cynnwys diweddaraf.
Rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud yw lobïo’r darparwyr gwe-letya mwyaf i drosglwyddo i ynni adnewyddadwy; gan helpu i’w droi’n norm ar gyfer y diwydiant
Ffontiau
Gorau po leiaf! Fel y nodwyd yn yr awgrymiadau dylunio gwefannau mewn modd cynaliadwy, mae ffeiliau ffontiau’n syndod o fawr. Mae’n cymryd llawer o god i wneud i’r cymeriadau rydych chi’n eu darllen nawr edrych fel hyn. Felly, defnyddiwch nifer y ffontiau gwahanol, a phwysau’r ffontiau a ddefnyddir ar eich gwefan, yn gynnil.
Sicrhewch fod eich datblygwr gwe’n defnyddio fformatau ffeiliau ffontiau gwe modern. Mae WOFF a WOFF2 yn ychwanegu mwy o gywasgiad na fformatau fel OFT a TTF. Mae meintiau ffeiliau llai yn defnyddio llai o ynni.
Olrhain
Osgowch olrhain ymddygiad defnyddwyr yn ddiangen. Nid yw sgriptiau olrhain a hysbysebu’n tueddu i gael eu hysgrifennu i fod yn effeithlon, braf. Mae olrhain ymddygiad defnyddwyr yn cymryd tipyn go lew o ynni; ac mae’n gallu effeithio’n negyddol ar brofiad y defnyddiwr. Felly byddwch yn wyliadwrus mai dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi rydych chi’n ei olrhain, a’ch bod yn casglu data yn y modd lleiaf ymosodol, a’r mwyaf effeithlon, posibl.
Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO)
Mae SEO da yn dda i bobl, ac yn dda i’r blaned. Po hawsaf a chyflymaf y mae i ddefnyddwyr ddod o hyd i’r hyn maen nhw’n chwilio amdano, yr isaf yr ynni sy’n cael ei ddefnyddio. Mae saernïo gwybodaeth gwefannau’n dda yn helpu defnyddwyr yn ogystal â pheiriannau chwilio, ac mae CMS fodern dda fel Craft yn cynnwys nodweddion sy’n eich helpu i wella SEO. Mae hefyd pethau gallwch chi eu gwneud o ran SEO yn gysylltiedig â’ch cynnwys…
Cafodd yr adnodd yma ei gyhoeddi gyntaf ar flog Supercool.
Browse related resources by smart tags:
Digital engagement Environment Sustainability Sustainable Website Website accessibility
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "How to make your website better for the environment: coding and hosting (2022) by Katie Parry supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0






