
How to use segmentation to understand audiences
1. Rhagarweiniad
Mae ceisio hoelio’n union pwy yw eich cynulleidfa yn ddigon anodd wyneb yn wyneb, heb sôn am os ydyn nhw’n gynulleidfaoedd ar-lein nad ydych o bosib wedi ymgysylltu â nhw eto. Yn rhy aml, rydyn ni’n gwneud rhagdybiaethau ynghylch pwy yw’r bobl yma – mae hynny’n gwbl naturiol – a siarad ag un grŵp o bobl yn unig gydag un neges safonol.
Petaech chi’n dweud union yr un peth wrth eich holl ffrindiau a’ch teulu, dywedwch am arddangosfa welsoch chi’n ddiweddar, fyddai ganddyn nhw ddim llawer o ddiddordeb fwy na thebyg yn y pwnc hwnnw. Chi’n cytuno? Drwy ddweud yr un peth wrth bawb, rydych chi’n culhau eich cyfle i ymgysylltu â phobl am eich bod chi’n dweud rhywbeth wrthyn nhw na fydd gan lawer ohonyn nhw ddiddordeb ynddo, gwaetha’r modd, ni waeth faint rydych chi’n credu ynddo.
Does bosibl ei bod yn well meddwl am bobl mewn grwpiau gwahanol a’u diddordebau posibl nhw, a pham? Does bosibl ei bod yn well canolbwyntio ar dri neu bedwar grŵp o bobl a denu eu diddordeb go iawn a’u hymgysylltu’n well yn eich sgwrs na cheisio siarad â’r dorf? Does bosibl os gallwch chi greu delwedd yn eich meddwl am bwy rydych chi wir yn siarad â nhw ar-lein, bod hynny’n ei gwneud yn haws gwybod beth i’w ddweud, ble i’w ddweud a sut i’w ddweud?
Gall segmentu eich helpu i ddiffinio hyn, rhoi hunaniaeth i’ch cynulleidfaoedd, ac esgor ar fanteision i’ch rhyngweithgarwch a’ch ymgysylltiad â’ch dilynwyr ar-lein. Bydd yn arwain at berthnasau sy’n para’n hirach a chysylltiadau uwch eu heffaith, ac yn y pen draw bydd yn ased enfawr i gynaliadwyedd eich sefydliad.
Yn fy marn i:
mae bod yn rhy eang eich dull gweithredu = golygu fawr ddim i neb yn arbennig
neu
mae dweud rhywbeth wrth bawb = dweud fawr ddim o bwys wrth neb
Mae’n well:
culhau eich dull gweithredu = bod yn rhywbeth diddorol i rywun
neu
mae dweud rhywbeth wrth grŵp diffiniedig = dweud rhywbeth arbennig wrth rywun
2. Beth yw segmentu?
Ffordd o rannu pobl yn grwpiau haws eu trafod, o’r enw segmentau, yw segmentu. Rydyn ni’n rhannu ein cynulleidfaoedd yn grwpiau fel y gallwn ni gyfathrebu’r negeseuon cywir wrth y bobl gywir, er mwyn ymgysylltu yn y ffordd orau. Gall segmentu hefyd eich helpu i ddiffinio a datblygu cynnyrch neu weithgaredd newydd.
Mae rhai dulliau gweithredu gwahanol y gallwch eu mabwysiadu a’r cwestiwn cyntaf i’w ofyn i chi’ch hun yw, ‘Pa ffactorau sydd fwyaf perthnasol i fi?’, yn dibynnu beth yw eich cynnyrch neu’ch cynnig.
- Ar gyfer ffactorau cymdeithasol-ddemograffig, rydych chi’n edrych ar oedran rhywun, eu statws cyflogaeth a’u hincwm posibl, eu rhyw, maint eu teulu a’u hethnigrwydd o bosibl.
- Mae ffactorau daearyddol yn edrych yn llythrennol ar y mathau o lefydd lle mae pobl yn byw – p’un a ydyn nhw’n drefol neu’n wledig, pa iaith maen nhw’n ei siarad, sut mae’r hinsawdd, a sut olwg sydd ar y boblogaeth leol.
- Wrth drafod ffyrdd pobl o fyw, eu credoau, a’u gwerthoedd, enw hynny yw seicograffig.
- Ac yn olaf, mae ffactorau ymddygiadol yn ystyried pa mor aml mae rhywun yn ymweld, beth maen nhw’n ei wneud pan fyddan nhw yna, a beth maen nhw’n ei brynu.
Pa bynnag system segmentu y byddwch yn ei dewis, neu os ydych chi’n dewis creu eich system eich hun, bydd siŵr o gynnwys rhai o’r elfennau o bobl un o’r categorïau hyn a restrir uchod.
Mae gan rai systemau bwysoliadau uwch tuag at un math o gategori nag un arall. Yn ei ffurf symlaf, er enghraifft, os ydych chi’n frand o fri sy’n gwerthu nwyddau drud, byddech yn dewis system sy’n pwyso’n drymach ar ffactorau economaidd-gymdeithasol a daearyddol – byddech chi am ddenu cwsmeriaid cyfoethog, sy’n byw mewn ardaloedd cefnog. Byddech chi’n dal i feddwl am eu ffyrdd o fyw a’u hymddygiad, ond nid dyna fyddai eich blaenoriaeth o reidrwydd. Enghraifft o fodel fel hyn yw Experian Mosaic.
I’r gwrthwyneb, os ydych chi’n elusen sy’n edrych ar ôl sefydliad treftadaeth, rydych chi’n fwy tebygol o ddewis ymgysylltu â gwerthoedd pobl a pham y dylen nhw eich cefnogi chi, gan feddwl am yr hyn mae eich cynulleidfaoedd yn ei hoffi neu’n dewis ei wneud, a dangos sut gallwch ddylanwadu arnyn nhw drwy eu calonnau. Byddai hyn ar sail ffactorau seicograffig ac ymddygiadol yn bennaf, ac enghraifft o fodel fel hyn yw Culture Segments Morris Hargreaves McIntyre.
Mae systemau segmentu hefyd sy’n pontio rhai o’r ffactorau hyn. Mae Audience Spectrum yr Audience Agency yn edrych ar boblogaethau a’u hagweddau tuag at ddiwylliant, ac oherwydd mai codau post a data aelwydydd yw ei sail, mae’n gallu eich helpu i finiogi diddordebau cynulleidfaoedd yn ddaearyddol.
Mae manteision ac anfanteision, wrth gwrs, i unrhyw rai o’r modelau hyn. Y peth gwych yw y gallwch chi ymrwymo i lefel mynediad sylfaenol iddyn nhw i gyd am ddim er mwyn cael ychydig o fewnwelediad i sut maen nhw’n gweithio a beth gallen nhw ei olygu i chi a’ch sefydliad.
Bydd pob un ohonyn nhw’n dangos ‘cipolwg’ i chi o un o’u segmentau – mae’n rhoi trosolwg un dudalen i chi i’r personâu sydd wedi’u creu o’u hamgylch.
3. Ymchwil, ymchwil, ymchwil
Felly, rydych chi wedi dewis rhai ffactorau sy’n berthnasol i’ch sefydliad ac rydych chi wedi gosod rhai nodau busnes.
Felly dyma seinio gair mawr o rybudd – dyma’r adeg pan fydd angen chi wneud rhywfaint o ymchwil fwy na thebyg. Os mai newydd ddechrau meddwl am segmentu ydych chi, mae’n weddol debygol nad ydych yn adnabod eich cynulleidfa ar-lein cystal ag yr ydych chi’n meddwl eich bod chi. Mewn erthyglau wrth ymyl hon (Sut i gael adborth ymwelwyr ar-lein i wella’r hyn rydych chi’n ei wneud, a Beth yw data ymwelwyr a sut dylwn i ei gasglu pan nad oes gen i system docynnau neu system ‘Rheoli Perthnasau Cwsmeriaid (CRM)?), fe welwch chi wybodaeth syml am wneud ymchwil i gynulleidfaoedd digidol gan ddefnyddio rhai o’r ffactorau hyn i’ch helpu i greu darlun cliriach ynghylch pwy rydych chi’n ceisio’i dargedu.
Unwaith i chi wneud hynny…
4. Dewis rhai segmentau
Gall systemau segmentu fod braidd yn llethol. Eu nod yw rhychwantu poblogaethau cyfan, ac fel y nodwyd eisoes yn yr erthygl yma, rydyn ni am ganolbwyntio ar grwpiau o bobl y gallwn ni ymgysylltu â nhw, yn hytrach na mynd am ddull gweithredu eang iawn o ‘ddweud rhywbeth wrth bawb = dweud dim o bwys wrth neb’.
Felly bydd angen i chi ddewis tri neu bedwar segment yn unig sy’n cyd-fynd â’r cynulleidfaoedd a fydd yn rhoi’r cyfleoedd gorau i chi, yn eich tyb chi, o ran ymgysylltu neu dwf.
I’ch rhoi ychydig yn fwy ar ben y ffordd, os ydych chi’n…
Atyniad treftadaeth gydag arddangosfa barhaol neu weithgaredd parhaol yn yr awyr agored fel adfeilion abaty, plasty sy’n caniatáu mynediad ond nad oes ganddo arddangosfeydd, rheilffordd treftadaeth sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr, mae’n bosibl y byddwch chi am ystyried (yn Saesneg mae’r rhain wedi’u cyhoeddi):
-
- Culture Segments – Enrichment, Affirmation, Expression (Cyfoethogi, Cadarnhau, Mynegi)
- Audience Spectrum – Trips and Treats, Home and Heritage, Dormitory Dependables (Teithiau a Thretiau, Cartref a Threftadaeth, Selogion Noswylio)
- Experian Mosaic – Country Living, Suburban Stability, Rural Reality (Byw yn y Wlad, Sefydlogrwydd Maestrefol, Realiti Gwledig)
Rhywle lle mae artistiaid cyfoes ar raglen gyfnewidiol fel oriel celf gyfoes neu safle cerfluniau, mae’n bosibl y byddwch chi am ystyried:
-
- Culture Segments – Essence, Expression and Stimulation (Hanfod, Mynegiant a Symbylu)
- Audience Spectrum – Commuterland Culturebuffs, Experience Seekers, Dormitory Dependables (Cymudwyr Diwylliedig, Chwilwyr Profiadau, Selogion Noswylio)
- Experian Mosaic – Prestige Positions, Domestic Success, Suburban Stability (Swyddi o Fri, Llwyddiant Domestig, Sefydlogrwydd Maestrefol)
Ydych chi’n ystyried creu eich rhai eich hun? Does dim byd i’ch atal rhag creu rhai o’ch segmentau eich hun, wrth gwrs, ond cofiwch fod systemau sydd ar waith yn cael eu hadeiladu ar sail y setiau data mwyaf cadarn yn y farchnad a’u bod wedi cael cydnabyddiaeth y diwydiant. Fodd bynnag, os yw hyn oll yn ormod i chi neu eich sefydliad, does dim byd o’i le gyda dechrau mewn man syml, fel gyda theitlau fel ‘Teuluoedd’, ‘Parau Hŷn ’ ac ‘Ymddiddorwyr Celf’. Byddan nhw fwy na thebyg yn brin o ddiffiniad a thryloywder, ond mae’n well dechrau yn rhywle na bod heb ddechreubwynt.
5. Rhoi wynebau i syniadau
Wrth ystyried cynulleidfaoedd ar-lein, dydych chi ddim yn gweld pobl wyneb yn wyneb fel sy’n wir pan fydd pobl yn ymweld â’ch sefydliad neu’ch safle. Rhan o ddeall eich cynulleidfaoedd yw’r gallu i’w delweddu. Fel pobl sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn sefydliadau treftadaeth a’r celfyddydau, mae cael cysylltiad wyneb yn wyneb gyda’n cynulleidfaoedd yn hanfodol – gallwn ni adeiladu greddf am bobl hyd yn oed os na allwn ni fforddio cynnal prosiect ymchwil helaeth i’w diffinio’n strategol. Er enghraifft, rydych chi’n gwybod os yw’r rhan fwyaf o bobl yn ymweld mewn grwpiau teuluol i fwynhau diwrnod braf allan rhwng y cenedlaethau, neu os yw’r rhan fwyaf o’ch ymwelwyr yn dod fel unigolion neu gyda ffrind yn chwilio am brofiad artistig sy’n cael effaith.
Dyw eich cynulleidfaoedd ar-lein ddim yn wahanol i’ch cynulleidfaoedd wyneb yn wyneb. Rwy’n gofyn i’m timau’n aml i ddychmygu rhywle ffisegol y gallen nhw fynd.
“Petai’r wefan yn adeilad, beth fyddai i’w weld a phwy fyddai’n ymweld?”
“Petai Facebook yn ystafell yn yr adeilad hwnnw gyda seddi cymdeithasol fel bod pobl yn gallu rhyngweithio â’i gilydd, pwy fyddai’n loetran a beth hoffen nhw ei wybod?”
“Sut daethan nhw yma a beth ddenodd eu diddordeb yn y lle cyntaf?”
Gofynnwch rai o’r cwestiynau hyn i chi’ch hun ac rwy’n addo y bydd yn eich helpu i greu delwedd weledol gliriach o’r hyn rydych chi am ei gyflawni.
6. Creu persona
Felly gadewch i ni greu persona. I wirio, ar y pwynt hwn, rydych chi wedi:
- ymchwilio i’ch cynulleidfa ar-lein
- adeiladu amcanion cynllun busnes neu mae gennych nodau strategol mewn golwg rydych chi am eu cyflawni
- penderfynu ar rai segmentau cynulleidfa ar sail ffactorau sy’n cyd-fynd orau â’ch sefydliad yn eich tyb chi
I wneud hyn, hoffwn eich cyflwyno i’m safle treftadaeth dychmygol o’r enw Appleyard Towers ger dinas Sheffield. Mae’n gastell bach gyda pherllannau afalau bach, 100 erw o barcdir garw ond hardd, maes chwarae bach a ffatri hufen iâ artisan ar y safle. Gall pobl fynd i’r castell i weld ei nodweddion Tuduraidd ar y tu mewn, ei neuadd fawr, ac ar hyn o bryd, mae arddangosfa am grefftwyr metal ifanc, lleol sy’n ailddiffinio’r grefft yn y ddinas, ochr yn ochr â chasgliad bach o gleddyfau Tuduraidd. Mae’n fusnes teuluol o hyd, ac mae’r Castell wedi’i drosglwyddo ar hyd y cenedlaethau, gyda thîm bach a grŵp o 15 o wirfoddolwyr gwych, ond mae angen i ni greu incwm i ofalu am y safle treftadaeth – mae’n costio £12 yn unig i gael mynediad, a £6 am blentyn. Drwy briodasau y daw ein hincwm gorau.
Rwy’ wedi defnyddio meddylfryd Culture Segments i segmentu fy nghynulleidfa. Ychydig iawn o adnodd sydd gennym ni felly bu’n rhaid i ni gynnal rhywfaint o ymchwil i ni’n hunain am ddim ar y safle, gyda phobl mae gyda ni ddata cyswllt ar eu cyfer, ac ar-lein (gweler erthygl 43 a 45), a gwnaethon ni ddychmygu pa segmentau oedd yn gweithio orau i ni, gan wybod yr hyn rydyn ni’n ei wybod. Weithiau mae’n rhaid i chi roi cynnig ar rywbeth, er wrth gwrs y byddai’n well cynnal prosiect ymchwil penodol, wedi’i gomisiynu.
Fy segmentau i yw Affirmation, Enrichment ac Essence (Cadarnhau, Cyfoethogi a Hanfod). Mae fy nghynulleidfa Affirmation (Cadarnhau) yn hoffi gweithgarwch treftadaeth, yn hoffi teimlo’u bod yn mynd i wneud rhywbeth i ddysgu rhywbeth (mewn ffordd ysgafn) a gwneud hynny gyda’i gilydd fel teulu. Mae fy nghynulleidfa Cyfoethogi yn hoffi hiraeth a’r gorffennol; maen nhw’n hoffi dehongliadau traddodiadol o leoedd am fod gwybod am hanes yn rhoi cyd-destun i’r byd. Ac mae fy nghynulleidfa Hanfod yn hoffi ein harddangosiadau bach ond eithaf anarferol – maen nhw’n gwybod beth maen nhw’n ei hoffi ac (ar hyn o bryd) os ydyn nhw’n hoffi crefftwaith arian neu aur fel ffurf gelf yna byddan nhw’n hoffi rhywfaint o’r hyn sydd gennym i’w gynnig am ei fod o ddiddordeb iddyn nhw. Maen nhw i gyd yn hoffi hufen iâ. Pwy sydd ddim yn hoffi hufen iâ?
Rwy’n mynd i greu persona ar sail fy segment Cadarnhau ar gyfer fy sianeli ar-lein. Rwy’n gwybod o’r ‘cipolwg’ ar gyfer y segment, ac o’m hymchwil ar-lein fy hun, bod y person(au) yma yn:
- hoffi gwneud rhywbeth gwerth chweil yn ddiwylliannol gyda’r teulu, ond sydd hefyd yn fforddiadwy iawn
- fwy na thebyg yn darllen y newyddion ar-lein, gan bwyso tuag at y Times ond mae arian yn bwysau (dydyn nhw ddim yn tanysgrifio) felly weithiau maen nhw’n darllen ap y Daily Mail am ei fod am ddim; mae’r BBC yn gyfaill maen nhw’n ymddiried ynddo
- gwirio popeth cyn ymrwymo i wneud yr hyn maen nhw am ei wneud, felly: Ydy TripAdvisor yn rhoi gradd dda iddo? Faint o’r gloch mae’n agor? Sut mae’r parcio, ac oes angen ifi gerdded yn bell? Oes angen ifi archebu ymlaen llaw?
- hoffi bod yn ‘rhan o rywbeth’, hynny yw, dilyn yr hyn mae eich sefydliad yn ei wneud (unwaith maen nhw wedi bod neu wedi ystyried gwneud)
- i’m sefydliad i, yn debygol o fod yn fenywaidd – mae tuedd tuag at fenywod yn y teulu yn penderfynu beth i’w wneud (nododd dros 75% o’r ymatebwyr i’m hymchwil mai benywaidd oedden nhw ac o’r rheiny, dywedodd 85% mai nhw oedd y catalydd i ddewis gweithgaredd).
Mae hynny’n eithaf tipyn hyd yma. Ar yr adeg yma, rwy’n mynd i roi enw i’r person yma; Ellie yw ei henw. Ac rwy’n mynd i gynnal gweithdy bach gyda chwpwl o bobl yn y tîm i…
7. Creu ambell i fap empathi
Rydyn ni’n creu darlun gwych o Ellie ond mae angen inni roi rhywfaint o ddyfnder iddi. I wneud hyn, mae angen i ni feddwl am yr hyn mae’n ei ddweud, ei feddwl, ei wneud a’i deimlo. Rydyn ni hefyd yn mynd i ystyried rhai o’i hisafbwyntiau a’i huchafbwyntiau.
Map empathi syml

Disgrifiad delwedd o ‘fap empathi syml’
Mae’r map empathi syml yma’n rhannu sgwâr yn bedwar cwadrant, gydag enw eich persona wrth ganol y rhain. Mae’r ddau gwadrant ar hyd y top yn dynodi ‘Dweud’ a ‘Meddwl’. Mae’r ddau gwadrant ar hyd y gwaelod yn dynodi ‘Gwneud’ a ‘Theimlo’. O dan y rhain, ychwanegwch ddau flwch arall; y naill o’r enw ‘Isafbwyntiau’, a’r llall yn ‘Uchafbwyntiau’. Oddi tanyn nhw mae gofod i feddwl am isafbwyntiau ac uchafbwyntiau. Gallwch chi wneud hyn ar ben bwrdd gyda nodiadau ‘post-it’.
Gallai un ychydig yn fwy cymhleth archwilio Ellie’n ddyfnach, a helpu i ddiffinio rhai nodau. Mae Xplane wedi datblygu fformat gwych y gallwch ei lawrlwytho yma Taflen waith map Empathi, sy’n ychwanegu’r hyn mae’n ei glywed a’i ddweud, ac yn archwilio nod drwy ofyn: ‘Gyda phwy ydyn ni’n dangos empathi?’ a ‘Beth mae angen iddyn nhw ei wneud?’.
Yn y diagram canlynol rwy’n cadw at y fersiwn symlach. Mae’r map syml yma’n rhoi syniad go lew i ni o anghenion a meddyliau Ellie, i’w mewnbynnu nôl i’n persona.
Map empathi Ellie

Disgrifiad delwedd o fap empathi Ellie
Ym map empathi Ellie rwy’ wedi ychwanegu nodiadau ‘post-it’ ym mhob blwch Dweud, Meddwl, Gwneud, Teimlo, Isafbwyntiau ac Uchafbwyntiau. O dan gwadrant yr hyn mae Ellie yn ei ‘ddweud’, mae nodiadau ‘post-it’ gyda’r canlynol: Dwi ddim am i’m plant fod o flaen sgrîn deledu drwy’r penwythnos; Gadewch i ni wneud rhywbeth gwahanol!! Rydyn ni i gyd yn hoffi dysgu mwy am hanes a’r byd o’m cwmpas; Rydyn ni’n hoffi gwneud pethau fel teulu. O dan y cwadrant ‘meddwl’, mae’n dweud: Mae angen i ni wneud rhywbeth sy’n hawdd ei dramwyo; Dwi’n chwilio am rywbeth nad yw’n rhy ddrud; Dwi am iddo fod yn hwyl, ond dwi am iddo fod yn werth chweil; Dwi’n gobeithio bod rhywbeth fydd o ddiddordeb ifi hefyd sy’n fwy at yr oedolion. O dan y cwadrant ‘gwneud’, mae’r nodyn ‘post-it‘ yn dweud: Siopa o gwmpas; Gwirio gwefannau am lawer o wybodaeth (tocynnau, parcio, opsiynau caffi); Chwilio ar TripAdvisor; Darllen yr ychydig adolygiadau cyntaf ar Google ac argymhellion Facebook. Ac o dan y cwadrant ‘teimlo’, mae’n dweud: Optimistaidd; Hyderus o gael diwrnod da; Gwybodus iawn; Â sicrwydd. Yna, o dan y pedwar cwadrant, yn y blwch ‘isafbwyntiau’, mae nodiadau ‘post-it’ sy’n dweud: Aiff i rywle arall os nad oes modd dod o hyd i’r wybodaeth gywir; Plant siomedig; Dim llawer o amser felly angen gweithredu’n gyflym; Diffyg ‘bachyn’ gwerth chweil i’w thynnu i mewn; Mae arian yn dynn. Ac yn olaf, yn y blwch ‘uchafbwyntiau’ maen nhw’n dweud: Dychwelyd; Bydd yn lledu’r gair; Mae’n gadael adolygiad; Mae’n ymuno â rhestr bostio.
8. Bwydwch hyn i mewn i’ch persona
Mae gennym nawr yr holl declynnau sydd eu hangen arnon ni i greu persona. Nid oes templed penodol i hyn – ychwanegwch yr hyn a fydd yn eich helpu yn eich tyb chi i greu’r darlun gorau o’ch anghenion.
Hanfodion sylfaenol:
- trosolwg – mae bob amser yn syniad da cyflwyno’ch persona gydag ychydig o ryddiaith
- eu hanghenion digidol – cofiwch eich bod yn creu hyn i helpu i lywio’ch allbwn digidol!
- sianeli / brandiau eraill yr hoffen nhw o bosibl
Hanfodion y gallwch chi eu cyflwyno’n wahanol:
- personoliaeth + cymhelliant – personoliaeth y gallwch chi ei nodi ar y cwadrantau ‘meddwl’ a ‘theimlo’ o’r map empathi; cymhelliant y gallwch chi dynnu arno o ‘ddweud’ a ‘gwneud’; neu gallech chi gynnwys y map empathi’n unig – beth bynnag sy’n gweithio orau i chi
- pam ymweld neu gymryd rhan + pam peidio – gallwch dynnu ar eich ‘isafbwyntiau’ a’ch ‘uchafbwyntiau’ yma, ynghyd ag agweddau eraill ar eich map empathi
Hefyd, dewiswch o blith:
- demograffig – mae gennych ddemograffig glir iawn mewn golwg, er enghraifft, gallech chi roi oedran i Ellie, dweud faint o blant sydd ganddi, ac ychwanegu ble mae’n byw
- diddordebau eraill – gallai eich helpu i ddweud pa ddiddordebau eraill sydd gan Ellie i greu darlun gweledol ohoni, fel darllen, mynd i’r theatr, mynychu dosbarthiadau dawnsio Lladin a Dawnsio Neuadd – pwy a ŵyr?!
- dyfyniad – mae dyfyniad o rywbeth gallai Ellie ei ddweud weithiau o help mawr i gadw’r person yma mewn golwg pan fydd angen i chi neu aelod arall o’r tîm ysgrifennu rhywbeth wedi’i anelu ati hi
Cipolwg o Ellie

Disgrifiad delwedd o gipolwg o Ellie
Mae’r Cipolwg o’r Persona’n caniatáu i chi roi popeth ar un dudalen o dan wahanol benawdau fel y gallwch chi gael syniad o’ch persona gyda throsolwg syml. Ar dop yr un rwy’ wedi’i chreu i Ellie, mae cyfeiriad at y Culture Segment mae wedi’i seilio arno – o’r enw Affirmation (Cadarnhau). Wedyn mae’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
Trosolwg: mae Ellie yn fam sy’n byw bywyd hectig yn jyglo swydd brysur â chyflog da a chydbwyso cartref â dau blentyn. Mae diwylliant a dysgu’n bwysig iddi ac mae hi a’i phartner yn awyddus i’r teulu wneud gweithgaredd gyda’i gilydd fel eu bod nhw i gyd yn gallu dysgu rhywbeth newydd, nad yw’n teimlo gormod fel ‘addysg’. Mae hi’n hoffi bod yn sicr o’r hyn mae’n ei wneud; does dim amser ganddi am syrpreisys nac i bethau fynd o chwith. Mae pethau syml yn gallu sbwylio diwrnod allan. Personoliaeth: Ystyriol, pwyllog, cydwybodol; Yn hwyl ond mae’n arwain y teulu o ran dysgu mewn ffordd ysgafn; Yn hoffi diwylliant (dim byd rhy uchel-ael) ac yn rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol; Yn hoffi bod yn brysur – mae amser segur yn amser ofer. Cymhelliant: Amser gyda theulu a ffrindiau, yn cyfoethogi eu meddyliau gyda’i gilydd; Mae diwylliant yn weithgaredd gwerth chweil, felly yn werth ymweliad (iddi hi) a chefnogi (i ni); Yn dymuno cael amlygiad fel rhywun sy’n cymryd rhan mewn diwylliant; Llenwi’r penwythnos. Brandiau: Logos Sainsbury’s a Joules. Y cyfryngau: Logos apiau Daily Mail Online a Newyddion y BBC. Y We a’r cyfryngau cymdeithasol: Logos TripAdvisor, Facebook a Welcome to Yorkshire. Anghenion ac ymddygiad digidol: Gwybodaeth hawdd ei chanfod – oriau agor, parcio, prisiau; Yn archebu ar-lein ymlaen llaw; Beth gall y teulu ei wneud i lenwi’r dydd; Lleoedd i fwynhau picnic; Deall mwy am yr hyn gall y teulu elwa wrtho, o ran ‘dysgu’ mewn ffordd ysgafn; Sgwrs ar Facebook gyda phobl eraill sy’n debyg i Ellie; Lluniau o bobl yn ymgymryd â gweithgarwch llesol ond yn cael hwyl yr un pryd; Adolygiadau ar TripAdvisor a graddau ar Google. Pam byddai’n archebu/ymweld: Treulio amser o ansawdd gyda’r teulu; Dysgu am dreftadaeth; Treulio amser tu allan yn yr awyr agored; Ymdrech werth chweil ond ddim yn rhy uchel-ael. Pam na fyddai’n archebu/ymweld: Rhy ddrud; Pallu dod ar ddiwrnodau prysur iawn (anodd parcio, ciwiau am hufen iâ); Tywydd.
9. Defnyddio’ch personâu
Rydyn ni o’r diwedd wedi cyrraedd y cam yn y broses lle gallwch chi roi’r gwaith strategol yma ar waith. Gwnewch gynllun bach o’r sianeli rydych chi’n eu defnyddio ar hyn o bryd a’r hyn mae angen ei wneud, a ble.
O edrych ar anghenion ac ymddygiad digidol eich personâu, gofynnwch i chi’ch hun, ‘oes angen i’m gwefan fynd i’r afael â’r holl faterion hyn?’. Os nad oes, gwnewch restr o dudalennau i’w diweddaru neu eu creu, a gosod nodyn atgoffa i’w hadolygu mewn chwe mis i wirio a ydyn nhw’n ateb y galw.
Ar gyfer eich allbwn ar y cyfryngau cymdeithasol, gofynnwch i chi’ch hun, ‘pa bersona sy’n cyd-fynd â pha sianel orau?’. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwch chi am bostio ar Facebook yn bennaf fel petaech yn siarad ag Ellie, er nad yw hynny’n golygu na allwch chi siarad â phersonâu eraill am resymau eraill – fel cyhoeddi arddangosfa neu arddangosiad penodol a allai fod wedi’i anelu at rywun arall. Efallai y byddwch am gadw eich allbwn Instagram i ganolbwyntio ar bynciau neu feysydd diddordeb arbennig i gyd-fynd â’r persona hynny. Mae’n bosibl mai dim ond pethau sy’n berthnasol i weithwyr proffesiynol neu bobl sy’n eich dilyn yn y diwydiant rydych chi’n eu postio ar Twitter.
Os ydych chi’n talu i hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol neu am hysbysebion Google, at bwy maen nhw wedi’u hanelu? Y peth da am hyn yw eich bod yn gallu diffinio’ch cynulleidfaoedd mewn hysbysebu. Cadwch y personâu hyn mewn golwg pan fyddwch chi’n gosod y paramedrau hyn.
Ydych chi’n ymateb i ffynonellau allanol, neu’n eu cadw’n gyfoes? Os nad ydych chi wedi ymateb i unrhyw sylwadau TripAdvisor ers misoedd, fyddai hynny ddim yn argoeli’n dda i Ellie – dylech o leiaf gydnabod sylwadau’n fras os ydych yn brin o amser neu adnoddau. Cadwch 30 munud yn eich amserlen bob pythefnos i gadw ar ben hyn; rwy’n addo nad yw’n cymryd yn hir. Mae’r un peth yn wir am adolygiadau Google.
Fyddai rhywun fel Ellie’n defnyddio safle rhestru fel swyddfa dwristiaeth eich ardal leol, neu un fel Time Out? Os yw’r ateb yn gadarnhaol, archwiliwch sut gallwch lanlwytho’ch gwybodaeth restru, a’i chadw’n gyfoes.
Allwch chi fynd mor bell â segmentu eich cronfa ddata cynulleidfaoedd gan ddefnyddio’ch personâu fel eich bod yn gallu siarad ychydig yn wahanol â phob un ohonyn nhw drwy e-bost? Efallai yr hoffai Ellie wybod am weithgareddau teuluol sydd ar y gorwel; gallai fod yn well gan rywun arall wybod pa arddangosfeydd sydd ymlaen.
Beth bynnag rydych chi’n ei ysgrifennu, cofiwch fabwysiadu tôn llais sy’n addas i’ch persona. Oes angen iddo fod yn gyfeillgar a swnio’n fynegiannol gydag ansoddeiriau a manylion? Neu oes angen iddo nodi’r ffeithiau yn unig? Meddyliwch am y meddyliau a nodoch chi ar eich map empathi.
Canllaw cynnwys

Disgrifiad delwedd o’r canllaw cynnwys
Mae’r diagram yma’n dangos rhai o’r sianeli cyfathrebu digidol y gallwn ni eu defnyddio, at bwy maen nhw wedi’u hanelu’n bennaf, a rhai camau gweithredu ynghylch beth mae angen iddyn nhw ei gynnwys. Y prif darged persona yw Ellie: Gweithgareddau teuluol; Beth sydd ymlaen yr wythnos yma/ar y penwythnos; Ffeithiau treftadaeth ysgafn a hanesion tu ôl i’r llenni; Lluniau gyda phobl yddyn nhw; Sylwadau sy’n denu pleidlais ar gyfer hoff flas hufen iâ y mis. Instagram: Targed gwahanol yw’r prif bersona, o’r enw Jules: Arddangosfeydd bach; Celf; Ffeithiau plaen; Stori sy’n denu pleidlais ar gyfer hoff flas hufen iâ y mis. Gwefan: Ellie yw’r prif bersona, ac islaw, rhestrir: Archebu tri chlic; Llawer o wybodaeth hawdd dod o hyd iddi; Blogiau am yr hyn i’w wneud y penwythnos yma gyda’r teulu. Yr ail bersona yw Jules, ac islaw, rhestrir: Gwybodaeth am gasgliadau; Beth sydd ymlaen – rhaglen ar-lein ar gyfer y chwe mis nesa’ o leiaf. E-bost: Ellie yw’r prif bersona. Mae’r pwyntiau bwled yn nodi: Newyddlen fisol gyda storïau, yn ogystal â gwybodaeth am beth sydd ymlaen; Dolenni at bostiadau blog; Dolenni at stwff hanfodol sydd ar gael yn hawdd; Croeso cyfeillgar, cynnes.
10. Casgliad
Ni waeth pa lwybr ddewiswch chi, pan ddaw i segmentu, personâu a mapio empathi, na pha mor ddwfn rydych yn ymdrin ag ef neu p’un a ydych chi’n ei gadw’n arwynebol, bydd hynny’n well arnoch chi nag y byddai pe na fyddech chi’n gwneud dim. Mae bob amser yn well bod â pherson mewn golwg pan fyddwch chi’n ymgymryd ag unrhyw waith marchnata, cyfathrebu neu gynllunio rhaglenni na bod hebddynt mewn golwg, a chynllunio o safbwynt mewnol i raddau helaeth iawn.
Edrychwch am allan, dychmygwch y bobl hynny, dywedwch bethau diddorol wrth grwpiau â diddordeb.
Chi’n gwybod rhywbeth…? Os gwnewch chi gamgymeriad, dyw hynny ddim o bwys. Gwnewch ryw fân addasu, edrych eto, rhoi cynnig arall arni. Ar ddiwedd y dydd, byddai’n rhaid i chi ddweud rhywbeth digon eithafol neu rhy benodol i rywun gefnu arnoch go iawn.
Cofiwch…
eang iawn = diflas
hoelio ffocws = cyfareddol
Rwy’n addo bydd hynny’n sicrhau ymgysylltiad gwell.
Browse related resources by smart tags:
Audience development Digital engagement Empathy mapping Personas Segmentation User personas

Please attribute as: "How to use segmentation to understand audiences (2022) by Edward Appleyard supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0