How to make your digital engagement activities better for the environment
1. Rhagarweiniad
Rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd. Mae llawer ohonon ni – gan gynnwys y tîm yma yn Supercool – yn teimlo’r angen i wneud mwy i leihau ein heffaith negyddol ar y blaned. Ac mae’r ffaith eich bod chi’n darllen hyn yn awgrymu eich bod chi eisiau gwneud rhywbeth amdano hefyd. Gwych!
Ond mae’n gallu bod yn anodd gwybod lle i ddechrau. Neu hyd yn oed gwybod beth yn union y gallwch ei wneud i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Rydyn ni wedi dysgu llawer ar ein taith tuag at ddod yn gwmni mwy cynaliadwy, ac mae’r adnodd yma’n cynnwys rhywfaint o’r hyn rydym wedi’i ddarganfod ar hyd y ffordd.
Detholiad o gamau gweithredu, cynghorion, ac awgrymiadau ymarferol – y nod yw ei gwneud yn haws i chi wneud eich gweithgareddau ymgysylltu digidol yn well i’r amgylchedd.
A byddwn i wrth fy modd i chi gyrraedd diwedd y sesiwn yn meddwl am fod yn fwy cynaliadwy nid fel rhywbeth sy’n ‘anodd ei wneud’ neu’n ‘dipyn o ymdrech’ – ond fel rhywbeth positif, dyrchafol, ac ystyrlon. Oherwydd mae hyd yn oed y newidiadau lleiaf yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.
2. Effaith amgylcheddol technoleg ddigidol
Mae ymchwil yn awgrymu y bydd pweru’r rhyngrwyd yn fyd-eang yn defnyddio un rhan o bump o holl drydan y byd erbyn 2025. Dyma broffwydoliaeth ysgytwol, eithaf rhyfeddol – ond hoffwn i chi gofio dau beth:
1. Mae cyfathrebu digidol yn ffordd gymharol ynni-effeithlon a rhad o gyfathrebu. Felly nid yw’n mynd i ffwrdd yn fuan. Rydyn ni ond yn debygol o gynyddu ein defnydd o’r rhyngrwyd, felly mae’n rhaid i ni dderbyn y bydd angen llawer o ynni arnon ni i’w bweru.
2. Gallwn ni wneud rhywbeth i helpu – drwy baratoi ar gyfer y duedd gynyddol yn ein defnydd o’r rhyngrwyd. Sut? Trwy ddewis ffynonellau ynni adnewyddadwy, a lleihau faint o ynni rydyn ni’n ei ddefnyddio ar gyfer cyfathrebu digidol – ar raddfa fawr ac fel unigolion.
Ble rydych chi nawr?
Cyn gweithio allan pa newidiadau yr hoffech chi eu gwneud, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ofyn i’ch hun yn gyntaf:
O ran fy ngweithgareddau ymgysylltu digidol…
- beth mae gen i’r pŵer i’w newid fy hun?
- ble galla i ddylanwadu ar eraill i wneud newidiadau?
- pa allu sydd gen i i weithredu neu ddylanwadu ar newid?
- pa adnoddau sydd gen i i weithredu neu ddylanwadu ar newid?
Bydd eich atebion i’r cwestiynau hyn yn eich helpu i greu cynllun gweithredu realistig – gan nodi pa newidiadau y gellir eu gwneud, pryd, a chan bwy.
Ble gallwch chi wneud newidiadau cadarnhaol?
Mae rhai atebion amlwg i’r cwestiwn hwn – ochr yn ochr â rhai cyfleoedd eraill, mwy cudd i wella cynaliadwyedd. Dechreuwn ni gyda’r amlycaf, sef eich gwefan.
3. Eich gwefan
Mae’n debygol mai eich gwefan yw’r lle lle mae gennych chi’r rheolaeth fwyaf. Mae cymysgedd o fuddugoliaethau cyflym a newidiadau mwy hirdymor yn golygu mai dyma le dylech chi allu gwneud y newidiadau mwyaf arwyddocaol, ystyrlon i’ch gweithgarwch digidol.
Eich gwefan: Caffael
Os yw cynaliadwyedd yn bwysig i chi fel sefydliad, mae’n debyg eich bod chi am weithio gyda phartneriaid a chyflenwyr sydd â’r un gwerthoedd hyn hefyd.
Os ydych chi ar ddechrau caffael gwefan newydd, gwnewch yn siŵr bod cynaliadwyedd yn cael ei gynnwys yn eich briff. Does dim angen i chi ddweud llawer – hyd yn oed dim ond ei bod hi’n bwysig i’ch sefydliad, a/neu y dylai fod yn ystyriaeth i’r wefan newydd.
Yna, mae’n gallu bod yn ddefnyddiol adolygu’r ymatebion:
- A gafodd eich cyfeiriad at gynaliadwyedd ei gydnabod?
- A roddodd yr ymatebydd fanylion ynghylch eu hymagwedd at gynaliadwyedd?
- A wnaethon nhw ddarparu unrhyw enghreifftiau o’u hymagwedd ar waith?
- A yw eu gwerthoedd o amgylch cynaliadwyedd yn cyd-fynd â’ch gwerthoedd chi eich hun?
Eich gwefan: Dyluniad
Mae llawer o benderfyniadau dylunio sy’n dda ar gyfer cynaliadwyedd hefyd yn dda ar gyfer hygyrchedd, perfformiad gwefannau, a throsiadau defnyddwyr. Mae pawb ar ei ennill. P’un a ydych chi’n dechrau dyluniad o’r dechrau, neu’n gweithio gyda’ch asiantaeth ddigidol i wella dyluniad gwefan bresennol, dyma rai awgrymiadau sylfaenol ar gyfer cadw dyluniad yn ‘wyrdd’:
Delweddau a fideos
Delweddau fideo (y rhai sy’n chwarae’n awtomataidd, yn enwedig) a ffotograffiaeth yw rhai o’r mathau o gynnwys mwyaf barus o ran ynni. Felly, defnyddiwch gyn lleied o’r rhain â phosibl o fewn y dyluniad, o ran pa mor aml maen nhw’n cael eu defnyddio, a’u maint. Gorau po leiaf – ac mae llai yn well!
Gofod
Nid rheol gyffredinol ar gyfer dylunio da yn unig yw rhoi digon o le i’ch cynnwys. (Mae defnydd meddylgar o ofod yn ei gwneud hi’n haws ac yn gyflymach i bobl amgyffred cynnwys.) Mae caniatáu lle – o gwmpas delweddau a fideo yn benodol – yn gwneud yr elfennau hynny’n llai. A gall hyd yn oed gostyngiad bach yn lled/uchder delwedd olygu gostyngiad cymharol fawr ym maint y ffeil.
Lliw
Efallai ei bod yn ymddangos yn wrthreddfol, ond mae lliwiau tywyllach yn defnyddio llai o ynni. Mae cefndir llachar, gwyn yn edrych yn ffres ac yn lân – ond mae’r goleuo hwnnw’n defnyddio llawer o ynni. Du yw’r lliw mwyaf ynni-effeithlon ac, yn ddiddorol, mae picseli gwyrdd a choch yn defnyddio tua 25% yn llai o ynni na glas. Ond mae hyd yn oed cefndir llwydwyn ar eich gwefan yn gallu arbed ychydig o ynni.
Teipograffeg
‘Ffont wedi’i deilwra’ yw un nad yw eisoes wedi’i osod ar ddyfais yn ddiofyn. Mae’r rhai sydd eisoes wedi’u gosod yn ‘ffontiau system’ e.e. Arial, Calibri a Verdana. Mae pob ffont wedi’i deilwra ar eich gwefan yn ddarn ychwanegol o god. Ac mae pob darn o god yn cynyddu’r ynni mae’n ei gymryd i’r safle weithio.
Oni bai bod eich brand yn defnyddio ffontiau system, bydd gennych chi ffontiau wedi’u teilwra fwy na thebyg ar eich gwefan. Un o’r ffyrdd hawsaf o leihau’r ynni mae ffontiau’n ei ddefnyddio yw cynnwys cyn lleied ohonyn nhw – a rhai o gyn lleied o bwysau – â phosibl yn y dyluniad.
Teithiau defnyddwyr byr, syml
Wrth gynllunio – neu fireinio teithiau defnyddwyr allweddol, mae’n werth cofio bod teithiau byrrach yn cael eu gwerthfawrogi gan ddefnyddwyr, ac yn lleihau faint o amser maen nhw’n ei dreulio ar eich gwefan. Yng nghyd-destun cynaliadwyedd, mae hynny’n beth da. (Er bod cydbwysedd i’w daro rhwng ymweliad gwefan cyflym, a bodloni eich amcanion busnes.)
Mae cael gwared ar rwystrau – fel baneri gwib, prosesau allgofnodi hirfaith, a chopi anodd ei ddeall – yn arwain at daith defnyddiwr fwy effeithlon, ac felly gwefan sy’n fwy effeithlon o ran ynni.
Mae’n arbennig o bwysig cadw draw wrth ‘batrymau tywyll’ sy’n twyllo pobl yn fwriadol i gymryd camau nad oedden nhw o reidrwydd wedi bwriadu eu cymryd. (Fel ychwanegu rhoddion i fasgedi’n awtomataidd, neu gynnwys blychau â geiriau dryslyd mewn proses ymrwymo.)
Mae cael gwared ar rwystrau – fel baneri gwib, prosesau allgofnodi hirfaith, a chopi anodd ei ddeall – yn arwain at daith defnyddiwr fwy effeithlon, ac felly gwefan sy’n fwy effeithlon o ran ynni.
Eich gwefan: Cynnwys
Delweddau/fideo
Rydyn ni’n gwybod bod delweddau a chynnwys fideo’n defnyddio llawer o ynni, felly:
- Dylid defnyddio cyn lleied o gynnwys fideo a delweddau â phosibl
- Po leiaf y delweddau a’r fideos rydych chi’n eu dangos, gorau oll
- Ystyriwch ddefnyddio graffeg yn lle delweddau ffotograffig – ar y cyfan, mae ffeiliau .svg a .png yn llai na delweddau .jpg
- Gwnewch yn siŵr bod ffeiliau delwedd a lanlwythwyd i’ch gwefan yn cael eu paratoi ar gyfer sgriniau – peidiwch â lanlwytho delweddau cydraniad print
- Mae GIFs yn llawer o hwyl, ond yn gofyn am lawer o brosesu. Felly gwiriwch feintiau ffeiliau cyn eu lanlwytho, a’u defnyddio’n gynnil.
Y defnydd o iaith
Mae brawddegau byr, syml ac iaith blaen yn gallu gwneud eich gwefan yn well i’r amgylchedd. Mae hyn oherwydd ei bod yn helpu pobl i ddefnyddio eich cynnwys yn gyflym ac yn effeithlon, sy’n golygu nad ydyn nhw ar eich gwefan am amser hir, sy’n defnyddio llai o ynni.
- Ysgrifennwch frawddegau byr, syml
- Defnyddiwch y geiriau mae’ch ymwelwyr yn eu defnyddio, ac yn chwilio amdanynt, efallai
- Adolygwch ‘oedran darllen’ eich cynnwys gan ddefnyddio teclyn fel HemingwayApp
Peidiwch â rhoi gormod o gynnwys ar dudalennau
Mae’n gallu bod yn demtasiwn pacio pob tudalen â llawer o wybodaeth. Ond yn aml, cam gwag yw hyn. Po fwyaf y cynnwys ar dudalen, y mwyaf o ynni y bydd yn ei gymryd i’w arddangos i’ch ymwelwyr, a’r mwyaf tebygol y byddant o golli rhywbeth pwysig oherwydd gormodedd o wybodaeth.
- Ychwanegwch y cynnwys sydd ei angen arnoch chi yn unig – byddwch yn ddidrugaredd!
- Cadwch dudalennau’n gryno
- Cofiwch gynnwys galwad glir i weithredu bob amser
Galwadau i weithredu
Dylai’r holl gynnwys ateb diben, ac arwain ymwelwyr tuag at gymryd camau penodol:
- Gwnewch y nodau terfynol mwyaf poblogaidd yn hawdd iawn i ddefnyddwyr ddod o hyd iddynt – er enghraifft, gallai prynu tocynnau ar gyfer arddangosfa gynnwys clicio botwm mawr sy’n dweud ‘Prynu tocynnau’.
- Cadwch y gynulleidfa mewn cof yn eich galwadau i weithredu – a yw’r hyn rydych yn ei ddweud yn ddefnyddiol ac yn berthnasol iddyn nhw?
Rwy’ wedi ysgrifennu’n fanylach am alwadau i weithredu yma: How to create engaging, effective calls to action (Saesneg yn unig)
Siarad am gynaliadwyedd!
Cofiwch gynnwys yr hyn rydych chi’n ei wneud i ddod yn fwy cynaliadwy ar eich gwefan. Gall hyn fod mewn adran ‘Cynaliadwyedd’ benodol, ond gellid ei gynnwys hefyd mewn erthyglau newyddion, ac mewn mannau eraill. Er enghraifft, ar eich tudalen ‘Ymweld â ni’, rhannwch ddulliau teithio mwy gwyrdd – cerdded, beicio, trên, bws – cyn cyfarwyddiadau gyrru neu fanylion meysydd parcio.
- Rhannwch yr hyn rydych chi’n ei wneud o ran cynaliadwyedd
- Chwiliwch am gyfleoedd i ddod â chynaliadwyedd i bob adran o’ch gwefan
Strategaeth a chynllunio cynnwys
Bydd meddu ar strategaeth a chynllun cynnwys ystyriol iawn ar gyfer y dyfodol yn eich helpu i aros yn effeithlon. A bydd yn eich helpu i gadw faint o gynnwys sydd ar eich gwefan dan reolaeth.
- Cadwch eich proses creu cynnwys yn effeithlon
- Ystyriwch fformat eich cynnwys – oes modd ei wneud mewn ffordd sy’n golygu y gellir ei ddefnyddio ar draws gwahanol lwyfannau (er enghraifft, eich gwefan, e-bost, sianeli cymdeithasol)?
- Dilynwch egwyddorion cadw tŷ da yn system rheoli cynnwys (CMS) eich gwefan – dilëwch asedau nas defnyddiwyd e.e. delweddau, logos ac ati.
- Os caiff eich gwefan ei hadeiladu gan ddefnyddio CMS modern, mae’n debyg bod gennych lawer o hyblygrwydd dros y brif ddewislen a‘r gwe-lywio. Mae hyn yn ddefnyddiol – ac ychydig yn beryglus! Cymerwch ofal bod unrhyw newidiadau i’r gwe-lywio yn fach iawn, ac nad ydynt yn arafu eich defnyddwyr. (A dylech osgoi’r fagl o segmentu cynnwys mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i chi neu eich sefydliad, yn hytrach nag i’ch ymwelwyr).
- All unrhyw ran o’ch cynnwys symud o brint i fod ar-lein yn unig? Gwnaethom greu templed Adolygu Blynyddol ar-lein campus ar gyfer New Adventures. Mae tîm New Adventures yn creu pob Adolygiad Blynyddol newydd yn fewnol. (Er bod defnyddio fideo yn ynni-ddwys, mae’r adnoddau a arbedir drwy beidio â dylunio ac argraffu copïau ffisegol bob blwyddyn yn golygu, dros amser, bod y fersiwn ar-lein yma’n dod yn fwy effeithlon o ran ei ddefnydd o ynni, yn fwy effeithlon o ran yr amser a gymerir i’w gynhyrchu, ac yn fwy cost-effeithiol.)
Neilltuwch amser yn eich cynllun ar gyfer adolygiadau cynnwys er mwyn:
- Diweddaru gwybodaeth sydd wedi mynd yn hen
- Dileu tudalennau os yw defnyddwyr yn anaml/byth yn ymweld â nhw – cyn belled nad oes eu hangen at ddibenion cyfreithiol, er enghraifft, Telerau ac Amodau
- Nodi cynnwys presennol y gellid ei ailddefnyddio neu ei ail-bwrpasu – yn hytrach na chreu rhywbeth newydd
- Darganfod pa gynnwys sydd o’r diddordeb mwyaf – a lleiaf – i’ch ymwelwyr. Crëwch fwy o’r cyntaf, a llai (neu ddim) o’r ail.
O ran cyfathrebu digidol, os ydych chi byth yn ansicr, cofiwch yr hierarchaeth dwt hon o weithredu amgylcheddol:
- Osgoi– enghraifft, defnyddio llawer o gynnwys fideo
- Lleihau– er enghraifft, maint y delweddau a ddefnyddir ar eich gwefan
- Ailddefnyddio– er enghraifft, asedau sydd eisoes yn eich system rheoli cynnwys
- Disodli– er enghraifft, hen galedwedd sy’n sugno ynni (o bosibl gyda phecyn wedi’i adnewyddu yn hytrach nag un newydd sbon)
- Tynnu– er enghraifft, cyfeiriadau e-bost segur o’ch cronfa ddata postio
Ymgorffori cyfleoedd cynaliadwyedd i ymwelwyr
Ystyriwch ymgorffori gwrthbwyso carbon yn eich llwybr prynu ar gyfer tocynnau. Gall hyn fod yn rhywbeth y gall eich darparwr CRM (Rheoli Perthynas Cwsmeriaid) tocynnau eich helpu ag ef?
Er enghraifft, ar gyfer eu tymor 2021, gwnaeth Theatr Gŵyl Chichester beilota partneriaeth gyda menter gymdeithasol yn y DU, Ecologi – gan gynnig y cyfle i aelodau’r gynulleidfa wrthbwyso effaith carbon eu taith i’r Theatr a phlannu coed.
Pethau technegol
Nid yw pob agwedd ar eich gwefan o fewn eich rheolaeth. Ond hyd yn oed pan nad ydych chi’n gallu gwneud newidiadau eich hun, efallai eich bod mewn sefyllfa i ddylanwadu ar eraill.
Os yw’r capasiti a’r adnoddau gennych chi, dyma rai pethau y gallech chi fod eisiau siarad amdanyn nhw gyda’ch asiantaeth ddigidol:
- Dyluniad– Oes unrhyw newidiadau y gallech chi eu gwneud i ddyluniad eich gwefan, ar sail awgrymiadau yn yr adran Eich gwefan: dyluniad?
- Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO)– Mae helpu pobl i ddod o hyd i bethau’n gyflym yn gwneud teithiau defnyddwyr yn fwy effeithlon, sy’n defnyddio llai o ynni. A dyna’r hyn rydyn ni’n anelu amdano. Efallai bod hyn yn rhywbeth y mae gennych rywfaint o reolaeth drosto o fewn system rheoli cynnwys eich gwefan (CMS). Mae SEO da yn allweddol bwysig.
- Olrhain– Mae pob darn o god olrhain sy’n cael ei ychwanegu at eich gwefan yn cynyddu’r pŵer y mae’n ei gymryd i’w redeg, felly gwnewch yn siŵr eich bod ond yn olrhain yr hyn sydd ei angen arnoch.
- Gwe-letya– Mae llawer yn digwydd yn y cefndir i storio a chyflwyno gwefan, a llawer o ystyriaethau gwahanol o ran lleihau’r defnydd o ynni. Nid yw mor syml â dewis darparwr gwe-letya ‘gwyrdd’ – rydyn ni wedi ysgrifennu mwy am ddirgelion hyn yn The mysteries of ‘green hosting’ (Saesneg yn unig). Os oes asiantaeth ddigidol gennych, gofynnwch iddyn nhw sut maen nhw’n gwneud i’ch gwefan redeg mor gynaliadwy â phosibl.
4. Eich sianeli cyfryngau cymdeithasol
Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ffordd gyflym a chyfleus o gyfathrebu, ac yn ffordd wych o barhau i ennyn diddordeb pobl ynoch chi a’ch gwaith.
Dyma rai awgrymiadau i gadw pethau’n effeithlon:
- Creu cynllun y cyfryngau cymdeithasol:
- Pa sianeli mae eich ymwelwyr yn eu defnyddio? Defnyddiwch nhw hefyd.
- Yn realistig, pa mor aml gallwch chi bostio i bob sianel?
- Pa gynnwys sy’n ennyn diddordeb pobl fwyaf?
- Gwnewch bob postiad yn fwriadol – does dim rhaid i chi drydar er mwyn trydar ‘unwaith y dydd’, er enghraifft
- Byddwch yn gryno –mae gan Twitter derfyn o 280 o nodau eisoes, ond mae’n amlwg mai hyn yw’r hyd delfrydol o ran ymgysylltu ar gyfer Facebook, hefyd
- Ystyriwch effaith amgylcheddol delweddau – a pheidiwch â lanlwytho ffeiliau enfawr.
- Fel gyda’ch gwefan, peidiwch â gorddefnyddio GIFs. Maen nhw’n llawer o hwyl, ond yn defnyddio llawer o ynni.
- Rhannwch hen gynnwys – er enghraifft, #henlunIau. Mae ailddefnyddio hen gynnwys yn wych – mae’n gyflym ac yn hawdd, ac ni fyddwch yn ychwanegu at y cynnwys sydd eisoes ar-lein.
- Trafodwch eich mentrau amgylcheddol / cynaliadwyedd ar y cyfryngau cymdeithasol – mae’n newyddion positif, ac yn werth ei rannu gyda’r bobl sydd yn eich caru chi a’ch gwaith.
5. Eich e-byst
Mae rhai pethau syml iawn y gallwch eu gwneud fel y cam cyntaf tuag at wneud eich e-byst yn fwy gwyrdd:
- Adolygu a glanhau eich cronfa ddata’n rheolaidd – efallai mor aml â phob mis neu ddau, gan ddibynnu ar ba mor gyflym mae’n tyfu
- Defnyddiwch ddelweddau dim ond os oes rhaid – a chyfyngu eich hun i ddwy i dair delwedd fesul e-bost
- Cadwch eich copi’n fyr ac yn flasus – mae’n ddigon posib y bydd eich darllenwyr yn diolch i chi am hyn, hefyd.
- Adolygwch amlder eich postio – ystyriwch leihau nifer y pethau rydych yn eu postio allan.
6. Eich cyfrifiaduron
Mae’r galedwedd rydych chi’n ei defnyddio bob dydd yn rhan o’ch effaith amgylcheddol ddigidol, sy’n cael ei hanwybyddu’n aml.
Mae cryn dipyn o ynni’n mynd i fwyngloddio deunyddiau crai a phrosesau cynhyrchu sy’n gwneud cyfrifiaduron, ffonau, llechi, ac ati. Gelwir hyn yn ‘garbon ymgorfforedig’.
- Cadwch eich offer mewn cyflwr gweithio da – gan gynnwys gwneud diweddariadau ac uwchraddio – fel bod y cyfan yn para mor hir â phosibl
- Prynwch offer newydd dim ond pan fydd gwir angen i chi – a phan fyddwch chi’n gwneud hynny, dylech fuddsoddi mewn technoleg, ynni-effeithlon o ansawdd da
- Peidiwch â chadw gliniaduron wedi’u plygu i mewn ar ôl eu gwefru, a diffoddwch eich peiriant ar ddiwedd pob diwrnod gwaith
- Ystyriwch effaith amgylcheddol eich hen offer:
- A ellid ei adnewyddu, neu allai rannau ohono gael eu hailgylchu?
- Efallai yr hoffech baru â chwmni all eich helpu gyda hyn
- Ar nodyn tebyg, efallai ystyriwch brynu peiriannau ail-law. Gall meithrin diwylliant ‘ei basio ymlaen’ yn hytrach na chael gwared ar nwyddau diangen fod yn ffordd ddefnyddiol o edrych ar hyn.
7. Beth nesaf?
Lluniwch eich cynllun gweithredu. Dyma le y bydd angen i chi gael eich atebion i’r cwestiynau hynny a holwyd yn ‘Ble rydych chi nawr?’. Cyfunwch yr atebion yma gyda’r hyn sy’n realistig i chi o’r syniadau uchod. Lluniwch eich cynllun yn ysgrifenedig. Ochr yn ochr â’r camau gweithredu, gall gosod terfynau amser targed ac aseinio cyfrifoldeb ei gwneud hi’n haws cyflawni pethau. Dylai eich cynllun fod yn gylchol; dylid cynnwys amser i adolygu’r cynnydd yn rheolaidd.
Efallai y byddwch chi hyd yn oed eisiau cyhoeddi rhai o’ch camau gweithredu fel ‘Addewid Cynaliadwyedd’. Os ydych chi rywbeth yn debyg i fi, mae dweud wrth bobl eraill beth rydych chi’n mynd i’w wneud yn ysgogiad mawr i’w wneud, mewn gwirionedd. Dyma fy nghanllaw cyflym: How to make a Sustainability Pledge (Saesneg yn unig).
I grynhoi
- Gwnewch gynllun. P’un a ydych chi’n gwneud ychydig o newidiadau bach neu’n cynllunio rhywbeth mwy – trefnwch amser rheolaidd ar gyfer cynllunio ac adolygu’ch cynnydd cynaliadwyedd digidol
- Peidiwch â gorddefnyddio cynnwys sy’n farus o ran ynni, fel fideos, gifs a delweddau
- Ysgrifennwch yn gryno, gan ddefnyddio’r un geiriau â’ch ymwelwyr
- Gwnewch alwadau i weithredu’n hawdd i’ch ymwelwyr ddod o hyd iddynt – ac i’w gwneud
- Chwiliwch am ffyrdd o ymgorffori negeseuon cynaliadwyedd ym mhopeth rydych chi’n ei wneud
- Gweithiwch gyda phartneriaid sydd â’r un gwerthoedd cynaliadwyedd
- Rhannwch yr hyn rydych chi’n ei wneud i fod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy – mae’n ddigon posibl y byddwch chi’n ysbrydoli eraill i weithio tuag at ddyfodol mwy gwydn
Byddwch yn eiriolwr!
Rwy’n gwybod o brofiad personol pa mor anghysurus y gall siarad am gamau gweithredu cynaliadwyedd fod. Yr ofn yna o beidio â gwneud digon, neu o beidio â gwybod popeth. Ond does dim un ohonon ni’n berffaith.
Yr hyn sy’n bwysig yw bod pob un ohonon ni’n cymryd camau – dim ots pa mor fach – tuag at fod yn fwy cynaliadwy. A gallwn ni bob amser weithio’n raddol tuag at wneud mwy.
Mae’n wych siarad am gynaliadwyedd – rhannu awgrymiadau i leihau ynni gyda chydweithwyr, esbonio i’ch Ymddiriedolwyr sut mae cynyddu cynaliadwyedd yn ategu’ch nodau busnes, a sicrhau bod eich ymwelwyr yn gwybod pa gamau rydych chi’n eu cymryd i helpu’r amgylchedd.
Da chi – byddwch yn eiriolwr. Po fwyaf y gallwn ni normaleiddio cynaliadwyedd amgylcheddol fel rhan o’n bywydau bob dydd, yr hawsaf yw hi i bawb weithredu. A dyna pryd rydyn ni’n creu newid ystyrlon, hirdymor.
8. Dolenni defnyddiol
- Hemingwayapp– teclyn rhad ac am ddim i wirio oedran darllen eich copi
- Adolygiad Blynyddol Digidol New Adventure (Saesneg yn unig)
- Cynllun peilot gwrthbwyso carbon Theatr Gŵyl Chichester (Saesneg yn unig)
- Website Carbon– sy’n rhoi trosolwg sylfaenol i chi o ba mor ‘wyrdd’ mae tudalen we
- Ecosia– y peiriant chwilio sy’n plannu coed.
- Sustainable Web Design– llyfr gwych i chi, ac efallai eich asiantaeth ddigidol. Fe’n hysbrydolodd ni yn Supercool, ac roedd yn un o’r prif ffynonellau allanol ar gyfer yr erthygl yma.
- Julie’s Bicycle– sefydliad dielw arloesol, sy’n ysgogi’r sector diwylliannol i weithredu ar argyfwng yr hinsawdd. Pobl gyfeillgar, angerddol; rwy’n argymell yn fawr siarad â nhw os ydych chi’n chwilio am gefnogaeth gyda’ch syniadau a’ch mentrau sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd.
- Cartref holl adnoddau ac erthyglau ‘gwyrdd’ Supercool
Browse related resources by smart tags:
Digital engagement Email Environmental action plan Social media Sustainability Sustainable Website Website accessibility
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "How to make your digital engagement activities better for the environment (2022) by Katie Parry supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0






