
Innovation in Fundraising Technology: The Rise of Contactless Giving
Canfu ymchwil a gynhaliwyd gan Barclaycard fod elusennau ar eu colled o £80 miliwn y flwyddyn mewn rhoddion cyhoeddus, sy’n ffigwr rhyfeddol, wrth i lai o bobl gario arian parod. Mewn ymateb, mae rhoi digyswllt wedi cael ei nodi fel ateb. Mae digyswllt yn ffordd gyflym a hawdd o wneud pryniannau a’r cyfan sydd ei angen yw tap syml. Felly, mae’r posibiliadau y gall technoleg talu digyswllt eu cyflwyno i roddion cyhoeddus yn y sector dielw yn faes arloesol y mae elusennau’n awyddus i’w archwilio.
Er bod dyfeisiau digyswllt eisoes yn dod yn gyffredin mewn siopau elusennau a chodi arian cyhoeddus, fel modd casglu arian hanfodol i ddisodli’r tun elusennol traddodiadol, mae’r duedd wedi’i chyflymu gan y pandemig COVID-19, a’r angen i leihau lledaeniad yr haint trwy drin arian parod. Wrth i gymdeithas adfer, mae’n duedd sy’n edrych yn debyg o godi ymhellach fyth.
1. Y ffigyrau diweddaraf
Canfu’r ffigyrau diweddaraf gan Goodbox, sy’n cyflenwi technoleg ddigyswllt i’r sector dielw, fod nifer y rhoddion digyswllt unigol wedi cynyddu o 32,000 ym mis Mai 2019 i 78,000 ym mis Mai 2021. Yn adroddiad yr UK Giving Report 2021, canfu’r Sefydliad Cymorth i Elusennau mai dim ond 38% o roddwyr a roddodd gydag arian parod yn 2020, o’i gymharu â 51% yn y flwyddyn flaenorol. Parhaodd y duedd hon i 2021 er gwaethaf y ffaith bod cyfyngiadau wedi’u codi’n raddol, gyda chyn lleied â 7% o roddwyr yn defnyddio arian parod ym mis Ionawr 2021, o’i gymharu â 30-40% mewn Ionawr nodweddiadol, a dim ond 18% oedd yn rhoi gydag arian parod ym mis Awst 2021.
Mae’r enghreifftiau canlynol yn archwilio atebion arloesol y mae elusennau wedi’u rhoi ar waith i wneud y mwyaf o roddion drwy roi digyswllt.
2. Ailwampio blychau rhoddion traddodiadol yn ddigidol
Gan efelychu symlrwydd y blwch rhoi traddodiadol, mae cwmnïau fel GoodBox yn defnyddio’r alwad syml i weithredu, sef ‘tapio i roi’, ar ei gynhyrchion. Mae nifer o Amgueddfeydd ac Orielau poblogaidd, gan gynnwys yr Amgueddfa Astudiaethau Natur, yr Oriel Bortreadau Genedlaethol ac Amgueddfa Llundain wedi gwireddu potensial y dull newydd hwn o roi ac wedi defnyddio pwyntiau rhoi digyswllt o’r fath ar draws eu harddangosfeydd. Ac nid y sefydliadau mawr yn unig sy’n cefnogi rhoi digyswllt – mae sefydliadau llai, hefyd, megis amgueddfa’r Manx Museum yn Douglas, ymddiriedolaeth y York Moors Historical Railways Trust ac archifau ac orielau’r Tyne a Wear Archives & Museums.
Mae’n bwysig bod y pwyntiau rhoi hyn yn cynnig ymdeimlad o gynefindra i ymwelwyr presennol, felly, mae blychau rhoi digyswllt yn aml wedi’u lleoli mewn ardaloedd tebyg i’r blychau traddodiadol neu hyd yn oed yn uniongyrchol wrth eu hymyl. Lansiodd yr Amgueddfa Astudiaethau Natur ei hunedau rhoi digyswllt yn ôl yn 2017, gan weithio gyda GoodBox, ac mae’r canlyniadau wedi bod yn syfrdanol. Ar y dechrau, ffurfiodd rhoddion digyswllt 22% o gyfanswm rhoddion yr Amgueddfeydd; yn ddiweddarach, yn sgil ychwanegu mwy o unedau yn gofyn am £20, gwelwyd cynnydd o 39% yn incwm rhoddion yr Amgueddfa. Ar y cyfan, adroddir bod yr Amgueddfa Astudiaethau Natur wedi profi cynnydd o 64% mewn incwm rhoddion cyhoeddus o ganlyniad i weithredu rhoi digyswllt.
3. Astudiaeth Achos: Gwasanaeth Archifau ac Amgueddfeydd Tyne & Wear
Gwnaeth Gwasanaeth Archifau ac Amgueddfeydd Tyne & Wear Archives & Museums Service (TWAM) fuddsoddi mewn technoleg rhoi digyswllt mewn dwy o’u hamgueddfeydd ym mis Mehefin 2018, a gosod dyfeisiau pellach mewn saith safle arall yn 2019. Cymeron nhw ddull creadigol, a phenderfynwyd ôl-osod eu hunedau rhoi arian Perspex presennol gyda dyfais ddigyswllt ar y blaen. Cododd eu bocsys dros £16,000 mewn 12 mis o roi digyffwrdd, sydd wedi mwy nag adennill y buddsoddiad.
Yn ystod ymarfer gwerthuso, gwnaethon nhw gymharu rhoddion a wnaed gydag arian parod ac wrth y tiliau ar gyfer yr un cyfnod o 2 fis yn 2017 (cyn cyflwyno talu digyswllt) a 2018 i benderfynu a oedd rhoddion digyswllt yn canibaleiddio mathau eraill o roi. Dangosodd y canlyniadau nad oedd rhoddion a wnaed gydag arian parod ac wrth y tiliau yn gostwng gyda chyflwyno rhoi digyswllt: Roedd y dechnoleg newydd yn denu marchnad newydd o roddwyr. Mae TWAM yn nodi bod rhoi gydag arian parod yn dal i ddarparu llawer mwy o incwm na rhoddion digyswllt.
4. Defnyddio technoleg rhoi digyswllt mewn digwyddiadau codi arian
Defnydd arall o dechnoleg rhoi digyswllt sy’n dod i’r amlwg yw mewn digwyddiadau codi arian a seremonïau gwobrwyo. Mae elusennau’n defnyddio gwirfoddolwyr fwyfwy i symud ymysg y gwesteion, gan ddefnyddio dyfeisiau digyswllt i gymryd rhoddion.
Yn 2020, rhoddodd GiveStar ddyfeisiau digyswllt i 18 o wirfoddolwyr mewn digwyddiad codi arian yn yr Oriel Genedlaethol i gefnogi’r elusen Mary’s Meals. Helpodd hyn yr elusen i godi mwy na £160,000 yn y digwyddiad. Ac, yn 2019, defnyddiwyd 50 o wirfoddolwyr gyda dyfeisiau digyswllt yn nawns flynyddol Children with Cancer UK yn Grosvenor House, Llundain. Fe wnaeth yr elusen godi £130,000 yn y digwyddiad, gyda 800 o westeion yn bresennol.
Gellir defnyddio codau QR yn yr un ffordd, hefyd. Er enghraifft, yn ystod digwyddiad Nadolig Crystal Palace, roedd ffrwd fyw Ymddiriedolaeth Llyfrgell Upper Norwood yn dangos y cod QR DONATE™ a’r cyfanswm cynyddol ar y sgrin fel rhan o droshaen ddigidol. Roedd y rhoddion a wnaed gan ddefnyddio’r cod QR yn ystod y digwyddiad yn 45% yn fwy na’r rhoddion a wnaed drwy’r dudalen we ar-lein. Yn yr achos yma, mae’r cod QR wedi’i ddefnyddio yn yr un ffordd fwy neu lai â thechnoleg rhoi digyswllt.
Bydd technoleg rhoddion digyswllt yn cael ei defnyddio’n gynyddol mewn digwyddiadau codi arian cyhoeddus wrth i gymdeithas y DU adfer o’r pandemig Covid-19, p’un a yw’r digwyddiadau hynny’n hybrid (sy’n cynnwys elfen rithwir) neu’n achlysuron wyneb yn wyneb yn unig. Mae GiveStar yn annog elusennau i wneud casgliadau digyswllt yn gyffredin mewn llu o ddigwyddiadau, o arwerthiannau a seremonïau gwobrwyo i ddiwrnodau golff, picnics a gwerthiannau pobi.
5. Mae’n ymwneud yn gyfan gwbl â phrofiad y defnyddiwr
Mae amgueddfeydd hefyd yn meddwl yn greadigol am y profiad mae ymwelwyr yn ei gael pan fyddan nhw’n rhoi’n ddigyswllt. Er enghraifft, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban wedi ymgorffori rhoi digyswllt i ddau o’i hatyniadau – penddelw Robert Burns a phaentiad o 1766 o’r Cyrnol William Gordon. Gan weithio mewn partneriaeth â Bank of Scotland a Visa, cynhyrchodd yr elusen gopïau o’r penddelw a’r paentiad sy’n gweithredu fel pwyntiau rhoi digyswllt, gan dderbyn £2 gan ymwelwyr gyda thap syml.
Mae Eglwys Loegr hefyd wedi troi at ddulliau mwy technolegol, gan gynnig dulliau talu digyswllt i gynulleidfaoedd ochr yn ochr â chasgliadau arian parod traddodiadol, ac mae hyd yn oed wedi rhoi plât casglu digyswllt ar waith, o’r enw GoodPlate.
Mae’r ffordd newydd hon o roi yn arbennig o arwyddocaol ar adeg pan fo rhoddion arian parod yn prinhau, ac mae hefyd yn cynnig ffordd newydd gyffrous o ymgysylltu â hanes.
6. Sicrhau perthnasedd i’r cyd-destun
Er bod pwyntiau rhoi digyswllt yn cynnig ffordd gyflym a syml i’r cyhoedd roi, mae rhaid i elusennau hefyd sicrhau eu bod yn fframio’r gofyn mewn modd cyd-destunol perthnasol. Gall penderfyniadau fel y negeseuon neu faint i ofyn amdano wneud byd o wahaniaeth i roi hwb i roddion. Mae gwir angen i elusennau feddwl am gynulleidfaoedd targed penodol wrth ddylunio ymgyrchoedd.
Mae rhoi digyswllt wedi’i nodi fel ateb mawr i ddirywiad mewn rhoddion ag arian parod – ond eto, mae’n bwysig nodi bod llawer o gywreinrwydd i’w oresgyn wrth ddylunio ymgyrchoedd o’r fath. Ochr yn ochr â defnyddio technolegau o’r fath, mae gan sefydliadau celfyddydol gyfrifoldeb i feddwl yn greadigol mewn gwirionedd wrth dargedu cynulleidfaoedd ac ymgysylltu â rhoddwyr yn ystod y broses o roi.
Ar y cyfan, mae angen i ymgyrchoedd codi arian fod yn bwerus, ysgogol, emosiynol a deniadol i roddwyr. Mae angen i sefydliadau sicrhau bod eu hymgyrchoedd yn parhau i gadw ymrwymiad cynulleidfaoedd i’r achos trwy gynnig dulliau rhoi digyffwrdd mewn ffyrdd creadigol, rhyngweithiol a pherthnasol.
Er enghraifft, cyflwynodd Amgueddfa Hanes y Bobl (PHM) ym Manceinion dechnoleg ddigyswllt ym mis Mehefin 2019 er mwyn ychwanegu at roddion arian parod.
Ar y cyd â thîm croeso i ymwelwyr, mae’r derfynell ddigyswllt yn rhan o dderbyniad cynnes, dymunol i’r amgueddfa ac yn annog ymwelwyr yn gynnil i roi swm awgrymedig o £5. Mae’n gwneud hyn trwy negeseuon wedi’u haddasu ar ei sgrin HD, sydd hefyd yn arddangos neges ‘Diolch’ ar unwaith cyn gynted ag y bydd rhywun wedi gwneud rhodd.
Gan ymgorffori’r delfrydau y mae’n eu hyrwyddo, mae mynediad i PHM yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. Felly, roedd angen i’r swm rhodd a awgrymwyd yn wreiddiol aros yn fach er mwyn ymddangos yn rhesymol i gynulleidfaoedd.
7. Prif gynghorion
Peidiwch ag ofni ei gadw’n syml
Gwnewch yn siŵr bod rhoddwyr traddodiadol yn dal i gael cyfle i roi mewn ffordd sy’n gyfarwydd iddyn nhw. Er enghraifft, efallai y bydd ymwelwyr yn dal i ddisgwyl gweld pwyntiau rhoi mewn mynedfeydd ac allanfeydd ac ar gam cychwynnol; efallai y bydd yn ddefnyddiol cynnig rhoi’n ddigyswllt ochr yn ochr â blychau rhoi arian parod traddodiadol yn y lleoliadau hyn. Ochr yn ochr â hyn, dylai’r negeseuon fod yn glir ac yn syml.
Dewiswch ofyn sy’n berthnasol a diriaethol
Meddyliwch yn greadigol am y gofyn, gan ei gysylltu’n uniongyrchol â chanlyniad penodol. Gallai hyn nodi’r pris i gefnogi un plentyn i fynychu diwrnod gweithdy, y gost i gadw neu gaffael arteffact neu wrthrych penodol, neu gynnal ystafell benodol, neu gais i ymwelwyr roi swm cyfwerth â’u gwariant yn y caffi tuag at gostau craidd y sefydliad.
Dylai dulliau arloesol ganolbwyntio ar ryngweithio a phrofiad
Lle gallai sefydliad fod eisiau archwilio dull mwy arloesol, dylai’r ffocws fod ar greu profiad rhyngweithiol sy’n addas i’w gynulleidfa. Gallai hyn gynnwys ymgorffori cyfleoedd tapio i roi yn uniongyrchol o fewn arteffactau ac arddangosfeydd penodol. Fel arall, edrychwch ar ddatblygu arddangosfa fideo ryngweithiol sy’n gysylltiedig â negeseuon allweddol sefydliad. Y ffocws yma fydd dangos beth fydd effaith y rhodd. Rhai enghreifftiau o hyn efallai yw fideo sy’n dangos trawsnewidiad cyfalaf y sefydliad ei hun neu fideo sy’n dangos profiad naratif y rhyfeddod y mae plentyn yn ei brofi wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd.
8. Rhoi drwy Ffenestri Siopau
Ffordd lwyddiannus arall y mae elusennau’n annog cefnogwyr i roi drwy dechnoleg ddigyswllt yw gosod dyfeisiau mewn ffenestri siopau, lle gall siopwyr roi arian wrth iddynt gerdded heibio. Gall y rhain fod mewn siopau elusen ei hun, yn ogystal â thrwy gysylltu gyda busnesau lleol.
Ymhlith elusennau sy’n elwa mae Elusen Maer Manceinion Fwyaf. Mae dyfeisiau ‘Tapio i Roi’ Goodbox wedi’u gosod mewn siopau ledled y ddinas, gan wahodd siopwyr i “dapio a rhoi £3” i achosion da mae’n eu cefnogi.
Ben Wilson, Cyfarwyddwr Datblygu a Menter, Achos4
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol trwy gyhoeddiad Arts Fundraising & Philanthropy Now, New and Next (Gaeaf 2019). Mae wedi ei diweddaru i adlewyrchu newidiadau, datblygiadau, ac ymchwil fwy diweddar. Mae’r dyddiad cyhoeddi gwreiddiol wedi’i gynnwys er gwybodaeth.

Please attribute as: "Innovation in Fundraising Technology: The Rise of Contactless Giving (2022) by Ben Wilson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0