How to make your website better for the environment: sustainable content creation
Mae taith defnyddiwr chwim yn dda nid yn unig o ran trosiadau, mae hefyd yn dda i’r amgylchedd. Mae ychydig yn groes i bob greddf, ond po leiaf yr amser mae pobl yn ei dreulio ar eich gwefan, y lleiaf o ynni sy’n cael ei ddefnyddio i’w bweru. Felly, rydych chi am i bobl ddod o hyd i’ch cynnwys, ei ddeall, ac yna gweithredu (‘Darllen mwy’, ‘Prynu tocynnau’, ‘Rhoi’ ac ati) – yn gyflym. Ystyriaeth arall yw maint y ffeil a swm pur y cynnwys. Po fwyaf yw’r ffeiliau, a’r mwyaf o gynnwys sydd yno, y mwyaf o bŵer prosesu sydd ei angen i wneud i’ch gwefan weithio.
Felly, rydych chi’n ceisio sicrhau bod eich cynnwys yn hawdd dod o hyd iddo, hawdd ei ddeall a bod modd ei amgyffred a gweithredu arno’n gyflym. Gan gofio hynny, dyma rai ystyriaethau ymarferol wrth greu cynnwys ar gyfer eich gwefan.
1. Cynnwys gweledol
Mae cynnwys gweledol fel delweddau a fideos yn defnyddio LLAWER o ynni. Maen nhw hefyd yn anhygoel o bwysig ar gyfer arddangos eich gwaith i gynulleidfaoedd, felly nid ydyn ni’n awgrymu gwefan destun yn unig.
Ond gallwch chi chwarae’ch rhan chi hefyd:
- Gofynnwch i chi’ch hun beth yw diben pob delwedd.
Ydy hi’n ychwanegu unrhyw beth i’r defnyddiwr – efallai ei bod yn rhoi rhywbeth y gallant ei gydnabod, fel delwedd o sioe, neu’n eu helpu i ddeall beth i’w ddisgwyl? Os nad oes diben clir, efallai nad oes angen delwedd ar y dudalen benodol yma? - Ystyriwch gyfyngu ar nifer y delweddau a ddefnyddir ar bob tudalen.
Mae ‘gorau po leiaf’ yn dod i’r meddwl yma. Nid yn unig y bydd eich gwefan yn defnyddio llai o ynni, gallai eich neges fod hyd yn oed yn gliriach i’ch cynulleidfa gydag un ddelwedd gref a thrawiadol. - Allech chi ddefnyddio rhywbeth heblaw delwedd ffotograffig?.
Gallech sgwrsio â’ch asiantaeth we, efallai, ynghylch a allai graffeg fector mwy ysgafn neu hyd yn oed steilio/animeiddio CSS weithio llawn cystal (neu’n well) na delwedd ffotograffig ar dudalennau penodol neu mewn adrannau penodol o’r safle. - Pylwch y cefndir.
Po fanylaf yw delwedd, y mwyaf yw maint ei ffeil. Felly, gall ychwanegu hyd yn oed ychydig o bylu i gefndiroedd delweddau wneud meintiau ffeiliau yn sylweddol lai. - Cadwch ddelweddau ar gyfer y we!
Lanlwythwch ddelweddau o’r maint cywir i’ch system rheoli cynnwys, i gadw ‘pwysau’ eich ffeiliau delweddau mor isel â phosibl. - Mae fideo’n wych, ac mae cynulleidfaoedd yn ei garu, ond dylech chi ei ddefnyddio’n gynnil.
Yn benodol, ceisiwch gadw fideo sy’n chwarae’n awtomatig at un dudalen – eich hafan dudalen, yn ôl pob tebyg – gan ei fod yn defnyddio cryn dipyn o ynni.
2. Hygyrchedd, defnyddioldeb ac SEO
Er nad yw’n hollol gyfnewidiadwy, po fwyaf hygyrch yw eich gwefan, y mwyaf defnyddiadwy y bydd hefyd, mae’n debyg. Gall cynnwys hygyrch hefyd helpu i wella optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) i’ch gwefan. Sut? Oherwydd bod cynnwys sydd wedi’i strwythuro’n dda’n haws i’w ddeall ar gyfer peiriannau, yn ogystal ag i ni, fodau dynol.
Mae SEO da yn bwysig oherwydd po gyflymaf mae pobl yn dod o hyd i’r hyn maen nhw’n chwilio amdano, y lleiaf o ynni sydd ei angen. Mae pawb ar ei ennill.
Felly, beth gallwch chi ei wneud wrth greu cynnwys i’w gadw’n hygyrch, yn hawdd ei ddefnyddio ac yn gydnaws â SEO?
I raddau helaeth mae’n ymwneud â dilyn rhai egwyddorion o ysgrifennu copi da:
- Defnyddio’r iaith mae eich cwsmeriaid yn ei defnyddio.
Bydd defnyddio’r geiriau y gallen nhw eu defnyddio fel termau chwilio – e.e. ‘sioe’, yn hytrach na ‘chynhyrchiad’ – yn ei gwneud hi’n haws cyflwyno’r cynnwys cywir yng nghanlyniadau’r chwiliad. - Golygu, golygu, golygu! (A golygu eto.)
Po gyflymaf y gallwch chi gyfleu eich neges, gorau oll – i’ch cynulleidfa ac i’r amgylchedd. Felly, byddwch yn ddidrugaredd, a’i gadw’n fyr. - Osgowch y demtasiwn i ysgrifennu penawdau ‘clyfar’.
Mae geiriau clir yn llawer haws i bobl eu deall – ac i beiriannau chwilio ddod o hyd iddyn nhw, hefyd.
Awgrym defnyddiol arall yw adolygu’r termau chwilio a ddefnyddir amlaf ar eich gwefan. Os bydd llawer o bobl yn chwilio am ‘oriau agor’, ystyriwch wneud eich oriau agor yn gliriach ar y wefan. Fel hynny, gall pobl ddod o hyd iddyn nhw heb ddefnyddio pŵer prosesu’r swyddogaeth chwilio.
3. Galwadau i weithredu
Dylai’r holl gynnwys fod â diben, a thywys defnyddwyr tuag at gymryd camau penodol, felly:
- Gwnewch nodau terfynol yn hawdd i ddefnyddwyr ddod o hyd iddyn nhw a’u deall.
Er enghraifft, gallai prynu tocyn ofyn am glicio botwm mawr sy’n dweud ‘Prynu tocynnau’. - Cadwch ffocws galwadau i weithredu ar eich cynulleidfa darged bob amser.
Ydy’r hyn rydych chi’n ei ddweud yn ddefnyddiol, ac yn berthnasol, iddyn nhw?
4. Strategaeth a chynllun cynnwys
Yn olaf – ond yn bendant, nid yn lleiaf – mae rhaid bod â phroses sydd wedi’i mireinio, a strategaeth a chynllun cynnwys bwriadus at y dyfodol.
- Cadwch eich proses creu cynnwys yn effeithlon.
- Ystyriwch fformat eich cynnwys.
A ellid ei lunio mewn ffordd sy’n ei alluogi i gael ei ddefnyddio ar draws gwahanol lwyfannau (e.e. eich gwefan, e-bost, a’ch sianeli cymdeithasol?) - Dilynwch egwyddorion cadw tŷ da yn eich CMS – dilëwch asedau ofer, e.e. delweddau, logos ac yn y blaen
- Os yw eich gwefan wedi’i hadeiladu gan ddefnyddio CMS fodern, mae gennych lawer o hyblygrwydd o ran y gwe-lywio, yn ôl pob tebyg. Mae hyn yn ddefnyddiol – ac ychydig yn beryglus! Dylech chi ofalu bod cyn lleied o newidiadau’n cael eu gwneud i’r gwe-lywio â phosibl, ac nad ydynt yn achosi oedi i’ch defnyddwyr. (Ac osgowch y fagl o segmentu cynnwys mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i chi neu’ch sefydliad, yn hytrach nag i’ch cynulleidfa.)
- All unrhyw ran o’ch cynnwys symud o brint i ar-lein yn unig? Er enghraifft, gwnaethon ni greu templed Adolygiad Blynyddol ar-lein clyfar ar gyfer New Adventures. Mae tîm New Adventures yn creu pob Adolygiad Blynyddol newydd yn fewnol. Er bod defnyddio fideo yn eithaf dwys o ran ynni, mae’r adnoddau sy’n cael eu harbed drwy beidio â dylunio ac argraffau copïau ffisegol bob blwyddyn yn golygu, dros amser, bod y fersiwn ar-lein yma’n fwy effeithlon o ran ynni ac o ran yr amser mae’n ei gymryd i’w gynhyrchu, ac yn fwy cost-effeithiol.
Neilltuwch amser ar gyfer adolygiadau cynnwys, er mwyn:
- Diweddaru gwybodaeth sydd wedi dyddio
- Dileu tudalennau os mai anaml/byth yr ymwelir â nhw – cyn belled nad oes eu hangen at ddibenion cyfreithiol, er enghraifft, Telerau ac Amodau
- Nodi cynnwys sy’n bodoli eisoes y gellid ei ailddefnyddio neu ei addasu – yn hytrach na chreu rhywbeth newydd o’r dechrau.
5. Crynodeb
- Defnyddiwch ddelweddau a fideo yn gynnil
- Ysgrifennwch destun yn gryno, ac mewn Saesneg Plaen/Cymraeg Clir
- Gwnewch alwadau i weithredu’n hawdd dod o hyd iddyn nhw – a’u gweithredu
- Neilltuwch amser ar gyfer strategaeth, cynllunio, creu, ac adolygiadau cynnwys
Cyhoeddwyd yr adnodd yma gyntaf ar flog Supercool.
Browse related resources by smart tags:
Digital engagement Environment Sustainability Sustainable Website Website accessibility
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "How to make your website better for the environment: sustainable content creation (2022) by Katie Parry supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0






