![Audience journey mapping](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/audience-journey-map.jpg)
How to identify audience journeys on your website
1. Rhagarweiniad
Mae’r canllaw ymarferol hwn yn eich tywys drwy broses gam-wrth-gam i nodi eich cynulleidfaoedd a’u teithiau allweddol. Mae’n dechrau drwy edrych ar eich data Google Analytics, ac yna’n edrych ar ffyrdd gwahanol o gael adborth gan ddefnyddwyr. Rydym yn defnyddio’r term ‘cynulleidfaoedd’, yn hytrach na ‘defnyddwyr’, ‘ymwelwyr’ neu ‘cwsmeriaid’. Yn y cyd-destun hwn, ystyr ‘cynulleidfa’ yw segment o’ch defnyddwyr, ymwelwyr neu gwsmeriaid. Mae cynulleidfa yn grŵp o bobl sydd â nodweddion yn gyffredin.
2. Google Analytics – ystadegau eich gwefan bresennol
Dyma’r adeg i ddod yn ffrindiau gyda Google Analytics. Gobeithio y bydd hyn wedi’i sefydlu ar eich gwefan bresennol; os nad yw, gwiriwch gyda gwesteiwr eich gwefan, gan eu bod nhw hefyd yn cofnodi’r ystadegau hyn yn aml. Eich nod yma yw nodi’r prif deithiau sy’n cael eu gwneud ar eich gwefan bresennol a dod o hyd i’ch cynulleidfaoedd ar-lein. Mae treulio unrhyw amser ar Google Analytics yn werth chweil.
Hyd yn oed os nad yw Google Analytics gennych chi, dilynwch y rhesymeg yma, gan y gallech chi dynnu rhai casgliadau o bosib o edrych ar y wefan gyda’ch tîm.
Nodi eich cynulleidfaoedd ar-lein a’u teithiau
Allwch chi nodi’r prif gynulleidfaoedd ar-lein a’u teithiau ar eich gwefan? Gallai’r rhain fod yn:
- Ymwelwyr newydd, sy’n chwilio am oriau agor
- Ymwelwyr presennol, sy’n archebu ar gyfer digwyddiad arall
- Darpar wirfoddolwyr sy’n chwilio am ffyrdd o gymryd rhan
- Rhoddwyr, sy’n chwilio am ffurflen gymynrodd
- Cyllidwyr sy’n gwirio’ch polisïau a’ch gwaith hyd yn hyn
- Y cyfryngau yn chwilio am fwy o wybodaeth am ddigwyddiad
Gallwch chi gael llawer o’ch data o un adroddiad yn unig yn Google Analytics.
Ewch i ‘landing pages’ yn: behaviour > site content > landing pages
![Location of landing pages on Google Analytics](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/landing-pages.jpg)
Bydd yr adroddiad hwn yn trefnu’r tudalennau glanio yn ôl canran y sesiynau. Yn aml bydd yr hafan dudalen ar y brig ac yn edrych fel hyn: ‘/’.
Beth yw’r tudalennau glanio mwyaf poblogaidd ar eich gwefan? Efallai y byddwch yn synnu o weld nad yw llawer o bobl yn cyrraedd eich hafan dudalen yn gyntaf.
O ble mae pobl yn cyrraedd? Cliciwch ar bob tudalen lanio ac yna cliciwch ar y ddolen ‘source’:
![Landing pages report](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/landing-pages-report.jpg)
Crëwch dabl sy’n rhestru’ch tudalennau glanio a’ch data allweddol. ‘Sesiynau’ yw nifer yr ymweliadau â’ch gwefan.
Tudalen lanio | % o sesiynau | Hyd yr ymweliad mewn eiliadau | Ffynonellau’r traffig (canran) | Cyfraddau trosi | |||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Chwiliad organig /google | Uniongyrchol | Atgyfeiriad (e.e. gwefan arall) | Cyfryngau cymdeithasol | Cyfradd drosi (£) | Nod 1 (e.e. cofrestru ar gyfer y newyddlen) | Nod | |||
Hafan | 10% | 30 | 46% | 15% | 6% | 3% | £44,000 | 5% | 3% |
Ymweld â ni | 5% | 45 | 24% | 50% | 1% | 2% | £300 | 1% | 10% |
Beth sydd ymlaen | 4% | 10 | 10% | 20% | 4% | 3% | £133,000 | 20% | 2% |
Allwch chi ddod o hyd i unrhyw batrymau? Er enghraifft, oes gennych chi dudalen Beth sydd Ymlaen, lle ceir dwy gynulleidfa ar-lein wahanol, sef ymwelwyr sy’n dychwelyd sy’n clicio ar ddolen yn eich newyddlen e-bost ac ymwelwyr newydd sy’n cyrraedd o chwiliad Google?
Ar gyfer pob tudalen lanio, meddyliwch am y cynulleidfaoedd ar-lein sy’n ymweld. Efallai y gallwch chi adnabod dau grŵp ar dudalen Beth sydd ymlaen megis ‘Ymwelwyr sy’n dychwelyd drwy e-bost’/’Returning visitors via email’ ac ‘Ymwelwyr newydd drwy chwiliad organig ayyb’/‘New visitors by organic search (Google etc)’
Creu segmentau
Mae’n gallu bod yn ddefnyddiol iawn ystyried yr adroddiad ar dudalennau glanio’n segment cynulleidfa benodol. Os ydych chi am roi cynnig ar hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yma, neu ewch i’r adran nesaf.
Ar eich adroddiad ar dudalennau glanio, cliciwch ‘Add segment’:
![Create a segment on Google Analytics](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/create-a-segment.jpg)
Mae llawer o segmentau wedi’u gosod ymlaen llaw y gallwch chi eu defnyddio yn y tab ‘system’:
![Using the system tab on segments](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/system-tab.jpg)
I weld eich adroddiad yn ôl segment arall, dadgliciwch ‘all users’ a chliciwch ar rywbeth fel ‘direct traffic’ (y bobl sy’n rhoi URL eich gwefan yn uniongyrchol yn eu porwr), ‘mobile traffic’, ‘new users’ neu ‘organic traffic’.
![Direct traffic segment](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/Direct-traffic-segment.jpg)
Nawr cliciwch ‘apply’:
![Click apply on the segment](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/click-apply.jpg)
Nawr gallwch chi weld y tudalennau glanio ar gyfer y segment hwnnw o’r gynulleidfa yn unig:
![Landing pages for a segment](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/segment-applied.jpg)
Mae’n ddiddorol edrych ar yr adroddiadau gwahanol ar gyfer traffig uniongyrchol, organig a thrwy e-bost, er enghraifft.
Mae’n debyg y byddwch chi am greu eich segment eich hun i gyfuno’r elfennau hyn, megis ymwelwyr newydd sy’n cyrraedd o chwiliad organig. I wneud hyn, cliciwch ‘add/choose segment’, ac yna ‘new segment’.
![Create a new segment](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/create-new-segment.jpg)
‘Demographics’ yw’r dewis rhagosodol, felly dewiswch ‘advanced: conditions’
![Add segment conditions](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/segment-conditions.jpg)
Gallwch chi ychwanegu amodau eich segment nawr. Mae’n haws chwilio am yr hyn rydych chi’n chwilio amdano yma; er enghraifft, rydym yn chwilio am ddefnyddwyr newydd, felly teipiwch ‘user’:
![Add user type condition](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/user-type.jpg)
Rydym yn chwilio am ‘user type’, felly dewiswch hynny. Rydym yn gadael yr amod ‘contains’, ac yna’n teipio ‘new’ yn y maes testun rhydd, a bydd yn dangos yr opsiynau i chi; yma, rydym yn dewis ‘New visitor’:
![New visitor user type](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/new-visitor-user-type.jpg)
Ffordd dda o wirio bod eich amod yn gweithio yw edrych ar y crynodeb ar y dde. Bydd yn dangos faint o ymwelwyr sydd gyda chi ar gyfer yr amod hwnnw:
![Summary of segment](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/segment-summary.jpg)
Nawr ychwanegwch ail amod. Ar y dde, ceir tri opsiwn: -, or, and. Dewiswch ‘and’, felly mae rhaid i ddefnyddwyr fod yn newydd AC maen nhw’n gallu dod o chwiliad organig.
Chwiliwch am ‘medium’; dyma sut cyrhaeddodd y defnyddiwr ar eich gwefan. Yn y maes testun rhydd, chwiliwch am ‘organic’. Mae’n edrych fel hyn:
![Add medium condition to segment](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/Add-medium-condition.jpg)
Gwiriwch y crynodeb ar y dde i sicrhau bod pethau’n gweithio:
![Summary check](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/summary-check.jpg)
Mae hyn yn dweud wrthym bod 1 ym mhob 4 ymwelydd â’r safle hwn yn ymwelydd newydd o beiriant chwilio.
Nawr, gallwn roi enw ar y segment hwn a’i gadw:
![Adding a segment name](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/segment-name.jpg)
Crëwch segment arall ar gyfer ymwelwyr presennol sydd wedi clicio ar ddolen mewn e-bost. Dilynwch y camau uchod eto:
Ychwanegu segment
Dewis ‘advanced: conditions’
Ychwanegu’r amodau ‘medium’ ‘contains’ ‘email’ AC ‘user type’ ‘contains’ ‘returning visitor’
Fel hyn:
![Adding segment conditions](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/adding-conditions.jpg)
Wrth wirio’r crynodeb, gallwn ni weld bod bron i 15% o ymwelwyr yn syrthio yn y rhan hon o’r gynulleidfa:
![Segment summary](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/segment-summary-2.jpg)
Enwch hyn yn ‘Returning visitors by email’/’Ymwelwyr sy’n dychwelyd drwy e-bost’ a chadw’r segment.
Erbyn hyn, mae’n bosib bod gennych dri segment sydd wedi’u dewis ar eich adroddiad ar dudalennau glanio:
![Segments on landing page report](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/segments-on-landing-page-report.jpg)
I weld un ar y tro, cliciwch ar yr eicon ‘plws’ ar ochr dde’r segmentau hyn i agor y rhestr o’r holl segmentau; dad-diciwch y segmentau, gan adael yr un rydych chi am ei weld, e.e. ‘Ymwelwyr sy’n dychwelyd drwy e-bost’/‘Returning visitors by email’:
![Returning visitors by email landing page report](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/Returning-visitors-email.jpg)
A chliciwch ‘apply’
Newidiwch eich ystod dyddiadau i’r flwyddyn (neu ddwy) ddiwethaf:
![Setting the dates](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/set-dates.jpg)
Os ydych chi’n cymharu tudalennau glanio gwahanol segmentau, gobeithio y byddwch chi’n sylwi ar ddechrau teithiau cynulleidfaoedd clir.
Er enghraifft, mae segment yr AMA o ymwelwyr sy’n dychwelyd drwy e-bost yn dangos y dudalen hyfforddiant fel y brif dudalen lanio:
![Landing page comparison](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/landing-page-comparison.jpg)
O’i gymharu ag ymwelwyr sy’n glanio drwy chwiliadau newydd, lle mai’r gynhadledd a swyddi yw’r prif dudalennau glanio, gallwn ni nodi’n glir daith gynulleidfa o bobl ymgysylltiedig (aelodau, yn ôl pob tebyg) sy’n ymweld yn uniongyrchol drwy’r dudalen hyfforddiant i archebu.
Adeiladu’ch teithiau cynulleidfaoedd
Nawr eich bod wedi creu’ch segmentau, edrychwch ar y dudalen lanio ar gyfer pob un, yn enwedig y cyfraddau trosi (os oes gennych e-fasnach neu nodau wedi’u sefydlu). Os nad oes, edrychwch ar yr ‘avg. session duration’ i roi syniad i chi am ba hyd roedden nhw ar y safle.
Ar gyfer pobl tudalen lanio yn ôl grŵp neu segment, edrychwch ar yr adroddiad ar lwybrau cyrraedd yr ‘entrance paths’.
![Entrance paths of landing pages](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/landing-pages-2.jpg)
Bydd hyn yn rhestru’r ail dudalennau mae’r grwpiau hyn yn ymweld â nhw. Cliciwch ar y pump uchaf a nodwch y tudalennau ymadael uchaf ym mhob tabl fel hyn:
Ail dudalen | Ail dudalen % o sesiynau | Tudalennau ymadael |
---|---|---|
Tudalen hyfforddiant | 21 | Digwyddiad arall 60% Digwyddiad 30% |
Tudalen amdanom ni | 12 | Amdanom ni 70% (ymadael ar yr un dudalen) Beth sydd ymlaen 30% |
Tudalen archebu | 3 | Basged adawedig 60% Hafan 20% Cadarnhau archeb 10% |
Efallai y byddwch yn sylwi ar ambell i beth:
- Yr ail dudalen a’r dudalen ymadael yw’r un dudalen â’r dudalen lanio – ymweliad un dudalen yw hwn. Mae hyn yn gallu digwydd yn aml os yw cynulleidfaoedd yn edrych ar un adnodd penodol. Efallai yr hoffech chi feddwl am gynnwys ychwanegol y gallwch ei ychwanegu at y dudalen honno i sicrhau bod sylw pobl yn cael ei ddal
- Mae’r dudalen ymadael ar y fasged archebu cyn cadarnhau – felly, dyma fasged adawedig, sy’n gyffredin iawn. Efallai eich bod am edrych ar eich proses archebu i sicrhau nad oes unrhyw broblemau
- Mae grwpiau fel pobl sy’n dod o’ch newyddlen e-bost yn ymgysylltu mwy, ac mae’r ymweliadau hyn yn arwain at fwy o drosiadau, fel archebu ar-lein neu dreulio amser hirach ar y safle
- Bydd angen edrych ar dudalennau glanio gyda chyfraddau ymadael uchel a hyd sesiynau isel
Efallai bod y broses hon yn codi mwy o gwestiynau nag atebion. A’r cwestiynau hynny rydyn ni’n chwilio amdanyn nhw. Nodwch yr holl gwestiynau sy’n eich taro chi. Er enghraifft, pam mae pobl yn edrych ar ddigwyddiadau ac yna’n gadael yn syth? Oes problem gyda’ch system archebu?
Nawr, gan feddwl am eich rhestr o deithiau cynulleidfaoedd, allwch chi nodi’r mathau o gynulleidfaoedd a fyddai’n gwneud y daith hon? Efallai hyd yn oed persona? Ar yr adeg hon, gallai fod yn eithaf cyffredinol: ymwelydd ag amgueddfeydd, cyllidwr, gwirfoddolwr. Os ydych chi wedi segmentu’ch defnyddwyr ar eich cronfa ddata o gwsmeriaid, gallwch eu cynnwys yma.
Gwnewch restr o’ch teithiau cynulleidfa uchaf gan ddefnyddio’r data rydych chi wedi’i gasglu yn y tablau uchod.
Ychwanegwch eich tudalennau glanio, eich ail dudalennau a’ch tudalennau ymadael; allwch chi nodi teithiau cynulleidfaoedd gwahanol a’r math o gynulleidfa?
Tudalen lanio | Ail dudalen | Ymadael | Taith y defnyddiwr | Math o gynulleidfa/persona | |
---|---|---|---|---|---|
1 | Hafan | Ymweld â ni | Oriau agor | Ymweld ag amgueddfa | Ymwelydd ag amgueddfeydd |
2 | Ymweld â ni | Beth sydd ymlaen | Archebu digwyddiad | Archebu digwyddiad | Ymwelydd presennol |
3 | Amdanom ni | Swyddi | Gwirfoddoli | Cyfleoedd gwirfoddoli | Gwirfoddolwr |
4 | Hafan | Amdanom ni | Cadarnhau rhodd | Rhodd | Rhoddwr |
3. Google Search Console ac Optimeiddio Peiriannau Chwilio
Y cam nesaf yw ymweld â Google Search Console os ydych chi wedi’i sefydlu. Dylai hyn fod gan y rhan fwyaf o wefannau os cawsant eu sefydlu gan ddatblygwr. Edrychwch ar eich adroddiad perfformiad. Pa allweddeiriau sy’n gweithio i chi gyda chyfraddau clicio drwodd da, sut olwg sydd ar eich safle o ran chwiliadau?
Os nad yw Search Console gyda chi, meddyliwch am sut gallai pobl fod yn chwilio am eich gwefan ac edrychwch ar ble rydych chi’n ymddangos yn Google Search. Ydych chi’n ymddangos yn y tri uchaf neu a ydych chi ddim hyd yn oed yn ymddangos ar y dudalen gyntaf?
Pa ddull bynnag a ddefnyddiwch, ceisiwch nodi’r tudalennau sy’n perfformio orau a chofnodi’r rheini. Mae llwyddiant gwefan yn aml yn cyfateb i optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) da, felly mae angen i hyn fynd i mewn i’ch cam cynllunio, yn enwedig yn eich map cynnwys safle (pa dudalennau y byddwch yn eu cadw).
4. Adborth gan ddefnyddwyr
Gobeithio y bydd gennych chi restr o gwestiynau sydd heb gael eu hateb o’r gwaith rydych chi wedi’i wneud hyd yn hyn. Nawr mae’n bryd edrych ar ddulliau eraill o weithio allan eich teithiau cynulleidfaoedd. Mae’n anghyffredin cael yr holl ddata sydd ei angen arnoch chi o’r dulliau dadansoddi yn unig.
Os gallwch chi sefydlu Hotjar: <https://www.hotjar.com/>, mae cyfrif am ddim. Bydd angen i chi allu cymryd y cod mewnblannu maen nhw’n ei roi i chi a’i roi ar eich safle. Dyma rywbeth y gall datblygwr ei wneud yn gyflym iawn, felly mae’n werth gofyn os ydych chi’n cael trafferth. Yn bwysig, cofiwch ddileu Hotjar ar ôl i chi orffen, gan y gall effeithio ar eich hanfodion gwe craidd / sgôr cyflymder eich tudalennau.
Mapiau gwres
Gadewch Hotjar yn rhedeg am ychydig wythnosau. Bydd yn cynhyrchu mapiau gwres ar gyfer yr holl dudalennau rydych chi wedi rhoi’r cod mewnblannu arnynt. Bydd hyn yn dangos i chi lle yn union mae defnyddwyr yn rhyngweithio â’ch tudalennau gwe a’r teithiau maen nhw’n eu gwneud. Lle mae eu llygoden yn mynd, lle maen nhw’n clicio, pa mor bell maen nhw’n sgrolio i lawr.
Os oes gennych chi gwestiynau penodol megis ‘sut mae’r grŵp hwn o bobl yn defnyddio fy safle?’ (e.e. aelodau, cyllidwyr, gwirfoddolwyr ac ati), yna gallwch sefydlu priodoleddau defnyddwyr yn Hotjar. Mae’n debyg y bydd angen datblygwr arnoch chi i’ch helpu gyda hyn ac uwchraddio i gyfrif busnes am ryw fis (mae’n costio tua £60/mis, ynghyd â rhywfaint o amser datblygwr).
Ble mae pobl yn rhyngweithio â’ch tudalennau? Ydyn nhw’n defnyddio’r dewislenni neu’r botymau? A yw gwahanol fathau o gynulleidfa yn rhyngweithio mewn ffyrdd gwahanol? Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol ar gyfer nodi teithiau – efallai y gwelwch mai anaml y defnyddir dewislenni, felly rydych chi’n canolbwyntio mwy ar fotymau ar eich tudalennau gwe, neu i’r gwrthwyneb.
Beth yw’r rhannau o’ch tudalen we sy’n cael eu gweld fwyaf? Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod taith o dudalen i dudalen; gall fod o fewn tudalen, hefyd. Mae pobl yn aml yn ‘gweld’ tudalen we drwy symud y llygoden ar draws y sgrin. Mae Hotjar yn olrhain hyn i ddangos pa elfennau ar eich tudalen yw’r pwysicaf. Bydd yn dangos yn glir i chi beth sy’n cael ei anwybyddu, ac os yw hynny’n bwysig, bydd yn effeithio ar ddyluniad eich safle newydd.
Recordiadau
Os oes cwestiynau gennych chi, yn enwedig am y teithiau, yna mae recordiadau Hotjar yn wych. Mae Hotjar yn recordio ymweliadau defnyddwyr er mwyn i chi allu gwylio sut mae pobl yn defnyddio’ch safle, gan roi atebion cliriach i chi am deithiau’ch defnyddwyr. Mae’n ffordd dda o nodi pwyntiau problemus, hefyd.
Arolwg
Rhowch arolygon naid neu sefydlog i mewn i gael adborth gan ddefnyddwyr go iawn wrth iddyn nhw ddefnyddio’r wefan. Os oes cwestiynau nad ydych chi’n gallu eu hateb gan ddefnyddio Google Analytics, mapiau gwres a recordiadau, dyma le y gallwch chi gael eich ateb, o bosib.
5. Ymchwil i gystadleuwyr
Fe’i gelwir yn ‘ymchwil i gystadleuwyr’; fodd bynnag, rydym yn chwilio am syniadau gwych y mae eich cydweithwyr wedi’u rhoi ar waith ar gyfer sefydliadau treftadaeth eraill. Gallwch chi nodi teithiau cynulleidfa drwy edrych ar wefannau eraill fel eich un chi. Gwnewch hyn yn ymarfer ymarferol i gadw ffocws.
Chwiliwch am bob sefydliad gan ddefnyddio Google. Gobeithio, o dan yr hafan dudalen, bydd rhestr o ddolenni i’r safle; dyma’r tudalennau glanio mwyaf poblogaidd ar y safle.
![Google search results for the British Museum](https://www.culturehive.co.uk/wp-content/uploads/2022/03/google-search-results.jpg)
Ar gyfer pob gwefan, rhestrwch y tudalennau glanio. Peidiwch ag anghofio am yr hafan dudalen. Chwiliwch am y 3 i 5 prif alwad i weithredu ar gyfer pob tudalen. Mae galwad i weithredu yn ddolen neu fotwm amlwg sy’n dal eich sylw. Mae gan lawer o amgueddfeydd ddolen ‘Cynllunio’ch ymweliad’ amlwg fel y peth cyntaf a welwch. Gellid dilyn hyn gyda dolen ‘Archebu ar-lein’ ac yna’r arddangosfa fwyaf cyfredol.
Tudalen lanio | Galwad i weithredu 1 | Galwad i weithredu 2 | Galwad i weithredu 3 | Galwad i weithredu 4 |
---|---|---|---|---|
Hafan | Cynllunio’ch ymweliad | Archebu ar-lein | Arddangosfa gyfredol | Rhoddi |
Arddangosfeydd a digwyddiadau | Chwilio’r calendr | Chwilio yn ôl math o gynulleidfa (e.e. teulu) | Hidlo yn ôl math o arddangosfa | Arddangosfeydd arbennig |
Cynllunio’ch ymweliad | Archebu ar-lein | Gwybodaeth am docynnau | Oriau agor | Gwybodaeth am yr oriel |
Archwiliwch ddewislen pob safle (gan anwybyddu’r hafan dudalen), hefyd. Mae hyn hefyd yn rhoi syniad o’r teithiau cynulleidfaoedd mwyaf poblogaidd.
URL y wefan | Eitem 1 ar y ddewislen | Eitem 2 ar y ddewislen | Eitem 3 ar y ddewislen | Eitem 4 ar y ddewislen | Eitem 5 ar y ddewislen |
---|---|---|---|---|---|
www.countyfarmmuseum.org.uk | Ymweld | Arddangosfeydd | Casgliadau | Dysgu | Rhoddi |
www.bigredhouse.org | Beth sydd ymlaen | Ymweld | Aelodaeth | Rhoddi | Amdanom ni |
www.heritagesouth.org.uk | Ymweld | Beth sydd ymlaen | Aelodaeth | Amdanom ni | Rhoddi |
Allwch chi nodi patrymau rhwng y ddwy daflen waith? Allwch chi ddod o hyd i enghreifftiau o gynulleidfaoedd ar-lein penodol a’u teithiau?
6. Casgliad
Yn olaf, dewch â’ch holl ddata ynghyd. Cyfunwch ganlyniadau’ch ymchwil Google Analytics, adborth gan ddefnyddwyr ac ymchwil i gystadleuwyr. Gobeithio y byddwch chi’n gweld y teithiau cynulleidfaoedd pwysig yn dod i’r amlwg. Pan fyddwch chi’n gweithio ar adeiladu gwefannau newydd neu’n uwchraddio rhai presennol, cadwch eich ffocws ar eich cynulleidfaoedd a’u teithiau. Gall fod yn demtasiwn cael eich dal gan ddyluniadau gwych a gweithrededd drawiadol, ond yn y pen draw mae’n ymwneud â’ch cynulleidfaoedd. Po fwyaf y gallwch greu darluniau manwl o sut mae pobl yn defnyddio’ch gwefan, gorau oll i berfformiad eich marchnata digidol a’ch gwefan.
Browse related resources by smart tags:
Google Analytics User experience User journey Website Website accessibility
![Creative Commons Licence](/wp-content/uploads/2021/12/ccby.png)
Please attribute as: "How to identify audience journeys on your website (2022) by Paul Blundell supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0