
How can we build new and inclusive online communities?
1. Rhagarweiniad
Cymuned ar-lein — neu gymuned ar y we, cymuned rithwir neu gymuned y rhyngrwyd — yw grŵp o bobl, sydd wedi’u huno gan rywbeth fel diddordeb, diben neu werthoedd cyffredin, sy’n cyfathrebu â’i gilydd yn bennaf mewn gofod rhithwir gan ddefnyddio’r rhyngrwyd. Mae’n golygu bod aelodau o’r gymuned yn cael cyfle i ryngweithio gyda’i gilydd, nid derbyn cyfathrebiad yn unig, fel e-newyddlen. Mae cymuned ar-lein yn gallu bodoli ar ystod o lwyfannau; gall fod yn fach neu gall fod â channoedd o filoedd o aelodau; gall gynnwys pobl o’r ardal leol yn unig neu bobl o bob cwr o’r byd; gall fod yna dros dro neu am gyfnod llawer hwy.
Cymuned ar-lein… yw grŵp o bobl, sydd wedi’u huno gan rywbeth fel diddordeb, diben neu werthoedd cyffredin, sy’n cyfathrebu â’i gilydd yn bennaf mewn gofod rhithwir gan ddefnyddio’r rhyngrwyd.
2. Diben cymunedau ar-lein
Er bod llawer o wahanol fathau o gymunedau ar-lein ar wahanol lwyfannau, maen nhw’n ymwneud yn nodweddiadol â chreu perthnasau a chysylltiadau, a chyfnewid gwybodaeth. Dyma rai enghreifftiau:
- Mae cymunedau cefnogwyr sy’n datblygu o amgylch brand, cwmni neu bersonoliaeth – yn gallu bod yn swyddogol, fel dilynwyr tudalen Facebook swyddogol Formula 1, neu’n grwpiau Facebook answyddogol am Formula 1 sydd wedi’u creu gan gefnogwyr;
- Cymunedau cymorth, dysgu a rhwydweithio proffesiynol, er enghraifft:
- pobl sy’n cyfrannu’n rheolaidd at drafodaethau wythnosol #MuseumHourar Twitter
- Grŵp yr Arts and Culture Network ar LinkedIn
- y sianel Slack ar gyfer cynrychiolwyr y DU o Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Statws Merched;
- Cymunedau sy’n darparu cyfleoedd i bobl gymryd rhan a thrafod, fel mewn clybiau llyfrau ar-lein a chymuned ystafelloedd sgwrsio Open Eye Gallerya sgyrsiau cyhoeddus parhaus ar Discord;
- Grwpiau cymunedol lleol fel grŵp WhatsApp cymdogaeth neu stryd;
- Cymunedau sy’n cael eu creu o amgylch cyfnod bywyd, fel grwpiau Facebook am ymddeol;
- Cymunedau sydd wedi’u seilio ar ddiddordebau a hobïau cyffredin, er enghraifft grŵp Facebook BBC Good Food Together, Show Your Art spacear Quora a’r Subreddit am gemeiddio ar Reddit;
- Cymunedau sy’n ffocysu ar aelodaeth, er enghraifft y grŵp Facebookar gyfer tanysgrifwyr sy’n talu am Ap y Body Coach a (grŵp) aelodau gweinydd Discord ar gyfer aelodau clwb pêl-droed lleol;
- Cymunedau cymorth cynnyrch fel cymuned Instant Pot®(y grŵp Facebook ar gyfer defnyddwyr Instant Pots) a Canva Design Circle (y grŵp ar gyfer defnyddwyr meddalwedd dylunio);
- Cymunedau’n gysylltiedig ag eiriolaeth a gweithredu, fel y gymuned the ZeroWaste community ar Reddit.
3. Cymunedau ar-lein ar gyfer sefydliadau treftadaeth
Y cam cyntaf yw penderfynu beth rydych chi am ei gyflawni gyda chymuned ar-lein a phwy rydych chi am wneud cysylltiad â nhw. Yn nodweddiadol, i sefydliadau treftadaeth a diwylliannol, y prif reswm dros greu cymuned ar-lein fydd ymgysylltu a chyfranogi, gan ddarparu lle rhithwir i gynulleidfaoedd ryngweithio â’r sefydliad a gyda’i gilydd. Gall hefyd fod yn ffordd dda o wrando ar gynulleidfaoedd a’u deall yn well. Gallai hyn helpu i annog teyrngarwch i’r brand, yn anuniongyrchol, ac ymwelwyr a rhoddion parhaus; creu llysgenhadon brand ffurfiol neu anffurfiol; arwain at fwy o wirfoddolwyr a llawer mwy.
Ar gyfer amgueddfa neu safle treftadaeth, gallai cymuned ar-lein gael ei sefydlu’n fras o amgylch prif sianeli cyfryngau cymdeithasol y sefydliad. Neu gallai gael ei chreu’n fwy penodol fel cymuned ar gyfer cynulleidfa benodol a/neu gyda meini prawf i ymuno.
Er enghraifft:
- Grŵp Facebook caeëdig (preifat) i wirfoddolwyr gadw mewn cysylltiad â’i gilydd, cadw ar ben yr wybodaeth ddiweddaraf a rhannu syniadau. Gall hyn fod ar gyfer pob gwirfoddolwr, neu set benodol ohonyn nhw, fel y rhai sydd â diddordeb yn y cyfryngau cymdeithasol neu waith blaen tŷ;
- Mynediad at dudalennau gwe arbennig ar gyfer aelodau neu gyfeillion y sefydliad sy’n darparu gwerth ychwanegol, fel cynnwys unigryw o’r tu ôl i’r llenni, y cyfle i gysylltu ag aelodau eraill, cael trafodaethau a manteision eraill;
- Grŵp WhatsApp i ymddiriedolwyr, sy’n eu galluogi i gysylltu â’i gilydd;
- Grŵp Facebook neu weinydd Discord wedi’i anelu at gefnogwyr lefel uwch neu unrhyw un sydd am gysylltu â chynnwys o ddiddordeb arbennig dyfnach neu fanylach na’r cynnwys ehangach sy’n cael ei rannu gan brif sianeli cyfryngau cymdeithasol y sefydliad;
- Grŵp Facebook wedi’i anelu at segment cynulleidfa arbennig, er enghraifft rhieni/gwarcheidwaid/gofalwyr â phlant oedran cynradd i rannu cynnwys yn benodol ar eu cyfer.
Ystyriwch pwy allai elwa ar gymryd rhan mewn cymuned ar-lein. Oes grŵp cynulleidfa rydych chi am ei gyrraedd nad yw’n cael ei wasanaethu ar hyn o bryd gan sianeli a gweithgareddau sy’n bodoli eisoes? Neu o bosibl segment sy’n dymuno cael ymgysylltiad uwch a dyfnach gyda’ch sefydliad? Gall creu a rhedeg cymunedau ar-lein gymryd amser hir, felly sicrhewch y bydd eich sefydliad yn elwa yn ei sgil, a bod anghenion y cynulleidfaoedd ddim yn cael eu bodloni yn rhywle yn barod.
Gall creu a rhedeg cymunedau ar-lein gymryd amser hir, felly sicrhewch bydd eich sefydliad yn elwa yn ei sgil, a bod anghenion y cynulleidfaoedd ddim yn cael eu bodloni yn rhywle yn barod.
4. Dethol llwyfan ar gyfer eich cymuned ar-lein
Dylai’r dewis o lwyfan ddilyn y gynulleidfa a’r diben. Gallwch chi ddefnyddio llwyfan am ddim sy’n bodoli eisoes fel yr enghreifftiau uchod, a dyma’r opsiwn gorau ar y cyfan ar gyfer sefydliadau llai. Ar wahân i’r ffaith eu bod am ddim, y prif fanteision yw eu bod yn hawdd eu sefydlu a bod llawer o’ch cynulleidfaoedd eisoes yn debygol o fod yna ac yn gyfarwydd â sut i ddefnyddio’r llwyfannau. Fodd bynnag, rheolaeth gyfyngedig sydd gennych dros y weithrededd; yn aml, maen nhw’n llawn pethau i ddargyfeirio’r sylw fel hysbysebion a grwpiau eraill yn cystadlu am sylw, ac nid pawb sydd â phroffil eisoes ar bob un o’r cyfryngau cymdeithasol nac yn dymuno treulio llawer o amser arnyn nhw.
Yr opsiwn arall yw datblygu eich llwyfan eich hun i gael mwy o reolaeth a gweithreded wedi’i theilwra. Er enghraifft, mae cymuned gynadledda ar-lein Museum Next yn cyfarfod ar ei gwefan ei hun, gyda mynediad i’r rhai sydd wedi talu am docynnau yn unig, a chaiff cymuned Work Notes ar gyfer gweithwyr llawrydd ei chynnal ar ei gwefan ei hun “ar wahân i sŵn y cyfryngau cymdeithasol.” Fel arfer, bydd gan systemau rheoli cynnwys gwefannau fel WordPress dempledi ac ychwanegion y gallwch eu defnyddio. Fodd bynnag, mae defnyddio’ch llwyfan eich hun yn gallu bod yn gostus, ac mae’n debygol bydd llawer iawn i’w ddysgu ar y cychwyn, ac mae angen i ddefnyddwyr gofio (neu gael eu hatgoffa) yn rhagweithiol i fynd i’r gymuned yn rheolaidd.
Ymhlith y ffactorau a allai effeithio ar eich dewis o lwyfan mae’r canlynol:
- Pwy yw eich cynulleidfa darged a ble maen nhw eisoes? Pa lefydd ac apiau mae ganddyn nhw fynediad atynt, maen nhw’n gyfarwydd â nhw, maen nhw’n mwynhau eu defnyddio, ac mae ganddynt y sgiliau i’w defnyddio? Er enghraifft, mae gan ddefnyddwyr Facebook broffil oedran cyfartalog hŷn na defnyddwyr Discord. Gofynnwch i’ch cynulleidfaoedd os nad ydych chi’n gwybod.
- Pa lwyfannau mae eich tîm yn gyfarwydd ac yn gyfforddus â nhw?
- Oes cyllideb gyda chi? Mae llwyfannau am ddim yn tueddu i fod am ddim i’w defnyddio.
- Pa weithrededd sydd ei hangen arnoch chi i’ch cymuned a pha lwyfannau sy’n gallu darparu hyn?
- Beth yw’r nifer debygol o aelodau fydd gennych? Mae grŵp WhatsApp yn gallu gweithio’n dda ar gyfer 10 o bobl, ond nid ar gyfer miloedd.
- Pa fath o breifatrwydd hoffech chi ei gael ar gyfer eich aelodau? Fydd y gymuned ar-lein drwy wahoddiad yn unig neu ddylai fod modd i bobl chwilio amdani a dod o hyd iddi?
- Fydd eich aelodau’n gyfforddus yn postio’n gyhoeddus (fel ar ffrwd awr agored Twitter neu mewn grŵp agored Facebook), neu gewch chi fwy o ymgysylltu os yw’r gymuned ar-lein yn gaeëdig?
- Pa fath o ddulliau dadansoddi a gwerthuso (os unrhyw rai o gwbl) hoffech chi allu cael mynediad atyn nhw?
5. Cynghorion sefydlu ymarferol
- Defnyddiwch y canllawiau sydd wedi’u datblygu gan y llwyfan a ddewiswch. Er enghraifft, y canllaw yma ar gan Facebook ar sefydlu grŵp.
- Dylech feddu ar rolau penodol yn eich sefydliad – yn nodweddiadol, y gweinyddyddfydd yn creu’r grŵp ac yn rheoli’r holl osodiadau; cymedrolwr fydd yn cefnogi’r gweinyddydd i gadw llygad ar gynnwys y grŵp, yr aelodau a’ch gweithgarwch.
- Anelwch at gynnwys mwy nag un person er mwyn rhannu’r baich gwaith a darparu gwasanaeth drwy gydol y flwyddyn.
- Penderfynwch faint o amser rydych chi’n fodlon ei fuddsoddi yn y gymuned – ar y dechrau ac er mwyn cynnal hyn dros amser. Byddwch yn glir gydag aelodau os bydd cymedroli a chymorth ar ddiwrnodau’r wythnos yn ystod oriau penodol yn unig.
- Dewiswch a ydych chi am i’r gymuned fod yn agored i unrhyw un ymuno â hi, drwy wahoddiad yn unig neu rywbeth yn y canol – mae pobl yn gofyn am gael ymuno, ac mae eich sefydliad yn cymeradwyo aelodau. Gallai hyn fod ar ôl iddyn nhw dicio blwch i nodi eu bod wedi darllen a chytuno i ddilyn y rheolau a/neu wedi ateb cwpl o gwestiynau cymhwyso.
- Os hoffech chi i ddarpar aelodau o’r gymuned allu chwilio a dod o hyd i’r gymuned, defnyddiwch enw amlwg ar gyfer y gymuned sy’n nodi’n glir beth mae’n ei wneud.
- Pennwch ddisgrifiad clir o’r gymuned fel bod pobl sy’n ystyried ymuno yn gwybod beth i’w ddisgwyl a pha fudd sydd yna iddyn nhw.
- Crëwch a rhannu set o reolau fel bod pawb yn deall y disgwyliadau, yn teimlo’n ddiogel ac er mwyn i’r cynnwys barhau’n berthnasol ac yn werthfawr. Yn aml, mae rheolau nodweddiadol yn cynnwys:
- Bod yn barchus a charedig;
- Cadw at gynnwys perthnasol a chysylltiedig (byddwch yn glir beth mae hyn yn ei olygu);
- Dim geiriau sarhaus;
- Dim gwahaniaethu, bytheirio personol na throlio;
- Dim gwerthu na hysbysebu;
- Dim sgrinlunio na chopïo postiadau o’r tu mewn i grŵp caeëdig a rhannu’n allanol;
- Nodi’r hyn mae cymedrolwyr yn gallu ei wneud (maen nhw’n cadw’r hawl i ddileu postiadau, dileu aelodau ac ati).
- Penderfynwch a all aelodau bostio’n uniongyrchol neu a ydych chi am gymeradwyo postiadau aelodau cyn iddyn nhw fynd yn fyw (mae’r olaf yn golygu eich bod yn cadw mwy o reolaeth ond mae’n drwm ar amser, mae angen rhoi sylw parhaus iddo ac mae aelodau’n teimlo’n llai ymroddedig yn y grŵp o ganlyniad).
- Darparwch unrhyw gamau croesawu angenrheidiol ac ystyried ysgrifennu negeseuon croeso i aelodau newydd.
- Dechreuwch gyda chynllun i gael pethau ar ben ffordd – rhestr o sbardunau pwnc a syniadau ar gyfer cwestiynau fel eich bod yn cadw llif cyson o gynnwys newydd a gofynnwch i bobl rydych chi’n meddwl y bydd ganddyn nhw ddiddordeb yn y gymuned a’u hannog i bostio.
- Sicrhewch eich bod yn glynu wrth ddeddfau diogelu data a phreifatrwydd – mae’r Ddeddf Diogelu Data yn cynnwys gwybodaeth am rwydweithio cymdeithasol a chymunedau ar-lein.
6. Denu aelodau newydd i’ch cymuned
- Gosodwch gywair a model yr ymddygiad rydych chi am ei weld o’r cychwyn cyntaf.
- Ceisiwch greu swmp o gynnwys ac aelodau’n gynnar fel bod pobl sy’n ymuno â’ch cymuned ar y cychwyn yn elwa’n syth. Fel hynny, maen nhw’n cael eu cymell i ddychwelyd dro ar ôl tro a dweud wrth eraill, yn hytrach na cholli diddordeb.
- Byddwch yn gwbl glir ynghylch i bwy mae’r gymuned yn bodoli, a’r buddion a’r gwerth iddyn nhw yn sgil ymuno. Beth mae’r gymuned yn ei roi iddyn nhw (rhywbeth nad yw ar gael, yn ddelfrydol, mewn mannau eraill) – gwybodaeth, ymdeimlad o berthyn, ysgogiad, cyfleoedd i gysylltu â phobl o’r un anian, rhywbeth unigryw?
- Mae dilysrwydd a thryloywder yn allweddol – os yw cynulleidfaoedd yn meddwl eu bod yn ymuno â’r gymuned i sgwrsio gyda phobl o’r un anian ond yn cael eu llethu gan gynnwys hyrwyddo ac arolygon, byddan nhw’n gadael.
- Anfonwch wahoddiadau at eich cynulleidfaoedd targed, gan esbonio beth yw hanfod y gymuned ar-lein a pham dylen nhw ymuno.
- Dywedwch wrth bawb yn eich sefydliad am y gymuned a gofyn iddyn nhw rannu os yw’n berthnasol.
- Nodwch ddylanwadwyr posibl neu uwch aelodau a gofyn iddyn nhw rannu’r gymuned gyda’u rhwydweithiau. Er enghraifft, arweinydd grŵp hanes lleol (ar yr amod na fydden nhw’n gweld eich cymuned yn gystadleuydd i’w cymuned nhw) neu rywun sy’n ymgysylltu’n rheolaidd â’ch cynnwys cyfryngau cymdeithasol.
- Os mai grŵp cyhoeddus yw e, rhowch gyhoeddusrwydd iddo ble gallwch chi – ar eich gwefan, e-newyddlen, sianeli cyfryngau cymdeithasol, mewn digwyddiadau ac yn y blaen.
7. Sut i dyfu a chynnal cymuned ar-lein
- Anogwch gyfranogiad: tagiwch a chroesawu aelodau newydd a’u hannog i gyflwyno’u hunain; gofynnwch i’r aelodau am gwestiynau; gofynnwch gwestiynau a defnyddio polau; dathlwch a diolch i gyfranwyr; gwrandewch, rhoi sylwadau ac ymateb yn brydlon.
- Penderfynwch a ydych chi am gael cynnwys rheolaidd i gadw momentwm a chaniatáu i aelodau wybod beth i’w ddisgwyl. Er enghraifft, “Dydd Mawrth holi unrhyw beth”, “Dydd Llun llawn cymhelliant” neu gwis yn rheolaidd ar brynhawn dydd Gwener.
- Edrychwch ar ystadegau ac ymgyfarwyddo gyda’r cynnwys a’r gweithgareddau yn y gymuned – beth sy’n gweithio? Pa fathau o bostiadau, cynnwys a chwestiynau sy’n boblogaidd? Pwy yw’r prif gyfranwyr?
- Rhowch gynnig ar bethau sydd ar y gorwel yn y gymuned yn y dyfodol i annog pobl i ddychwelyd.
- Darparwch rywbeth mae aelodau’n ei werthfawrogi nad ydyn nhw’n gallu ei gael yn unrhyw le arall – cipolwg y tu ôl i’r llenni, cyfle i ofyn cwestiynau i staff mewn darllediad byw, yr olwg gyntaf ar arddangosfa sy’n cael ei gosod, y cyfle i ddweud eu dweud ar gynlluniau.
- Sicrhewch fod hygyrchedd wrth galon yr hyn rydych chi’n ei wneud fel bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu mwynhau cyfranogi yn eich cymuned.
- Atgyfnerthwch y rheolau i sicrhau bod y gofod yn parhau’n groesawgar ac yn ddiogel i aelodau.
8. Datrys trafferthion heriau cyffredin
- Un o’r heriau mwyaf gyda chymunedau ar-lein yw cynnal diddordeb a momentwm dros amser, gyda chyfranogiad gweithgar gan aelodau. Meithrinwch gymuned a normau a fydd yn annog cyfranogiad o’r cychwyn cyntaf.
- Mewn cymunedau llwyddiannus, mae aelodau (yn arbennig cyfranwyr rheolaidd) yn aml yn teimlo ymrwymiad a hyd yn oed berchnogaeth o’r grŵp, sydd fel arfer yn nodwedd gadarnhaol. Bydd y gymuned hefyd yn datblygu ei normau ac weithiau ei thalfyriadau a’i hiaith ei hun, hefyd. Sicrhewch fod aelodau newydd yn gallu gweithio drwy hyn (drwy negeseuon croeso a phostiadau sy’n esbonio unrhyw normau a thalfyriadau) fel nad ydyn nhw’n teimlo’u bod wedi’u heithrio. Mae’r ymdeimlad yma o ymrwymo a pherchnogaeth o’r grŵp hefyd yn gallu arwain at rai aelodau’n ymddwyn yn heriol, er enghraifft os ydyn nhw o’r farn bod cymedrolwyr yn llawdrwm. Tarwch gydbwysedd rhwng ildio rhywfaint o reolaeth wrth i’r grŵp esblygu, a sicrhau bod y gymuned yn parhau i ateb ei ddiben bwriadedig, bod glynu wrth y rheolau a bod y grŵp yn parhau’n ofod caredig a defnyddiol.
- Os oes gennych chi lawer o aelodau ond mae ymgysylltu’n dechrau gwywo, ydych chi’n gallu nodi pam mae hyn yn digwydd? Oes llawer o aelodau y byddai’n well ganddyn nhw ddarllen a gwrando yn hytrach na chyfrannu? Oes aelodau nad ydyn nhw’n siŵr am arferion cwrteisi’r grŵp neu sut i lywio’r dechnoleg? Pa gynnwys sydd wedi bod yn boblogaidd yn y gorffennol? Beth yw barn yr aelodau am y grŵp? Ydy’r disgrifiad o’r gymuned dal yn gywir, neu ydy’r cynnwys a’r aelodaeth wedi esblygu dros amser?
- Sicrhewch fod proses glir ar gyfer beth i’w wneud pan fydd aelodau’r torri’r rheolau. Ydy un achos o dramgwyddo’n golygu dileu aelod yn awtomatig o’r gymuned, ydych chi’n dileu’r postiad dan sylw, yn anfon neges uniongyrchol at yr aelod gydag esboniad, yn defnyddio ataliad am 7 diwrnod, yn gweithredu polisi ‘tri thramgwydd cyn atal’?
- Gall fod yn anodd ac yn ddwys bod yn gymedrolwr cymuned – mae’n waith caled sbarduno cynnwys newydd i’w rannu, ac yn ddigalon os mai ateb cyfyngedig a geir neu ddim ymateb o gwbl. Gall hefyd fod yn anodd gorfod tawelu anghytundebau ac ymdrin ag ymddygiad bygythiol. Sicrhewch eich bod yn darparu cymorth priodol i gymedrolwyr. Er enghraifft, darparwch hyfforddiant iddyn nhw; sicrhewch fod mwy nag un person yn gyfrifol am y gwaith yma, a bod rheolau clir i’r gymuned a phroses glir i symud pethau ymhellach; a byddwch yn glir pryd dylai’r gwaith gael ei wneud (nid rownd y cloc).
- Gallwch chi hefyd ymuno â chymunedau eraill a dysgu wrthynt er mwyn casglu awgrymiadau ac ysbrydoliaeth ynghylch beth sy’n gweithio’n dda a sut i ymdrin â materion posibl.
9. Gwerthuso llwyddiant eich cymuned ar-lein
Bydd sut rydych chi’n gwerthuso’ch cymuned ar-lein yn dibynnu ar yr hyn rydych chi am iddo’i gyflawni. Bydd llawer o lwyfannau hefyd yn darparu gwybodaeth ddadansoddi i chi y gallwch chi ei defnyddio i olrhain niferoedd aelodau yn y gymuned, ei thwf ac ymgysylltiad. Efallai y byddwch chi am olrhain cyfanswm nifer y defnyddwyr, defnyddwyr newydd o fis i fis neu o flwyddyn i flwyddyn, a faint o ddefnyddwyr sydd wedi’u colli neu sy’n rhoi’r gorau i ddefnyddio’r gymuned; cyfanswm yr ymgysylltiadau (fel achosion o hoffi neu roi sylwadau), faint o aelodau a ddechreuodd sgwrs neu edefyn, pa gyfran o gyfanswm y defnyddwyr a hoffodd neu a roddodd sylw bob chwarter, pa gyfran o’r defnyddwyr oedd yn anweithredol.
Mae’n bosibl nad yw niferoedd twf yn berthnasol os yw’r gymuned yn cael ei sefydlu ar gyfer nifer fach o aelodau sefydlog (fel gwirfoddolwyr), ac yn hynny o beth bydd gwybodaeth am lefelau cadw, ymgysylltu a bodlonrwydd yn bwysicach. Os mai ymgysylltu yw’r prif amcan, peidiwch â disgwyl i werthiannau tocynnau neu niferoedd ymwelwyr wyneb yn wyneb saethu i fyny o reidrwydd o ganlyniad uniongyrchol. Os ydych chi am feithrin y gymuned ar-lein i gymryd camau gweithredu arbennig y tu allan i’r gymuned, a allwch chi olrhain hyn? Er enghraifft, rhannwch URL arbennig ar gyfer eich gwefan o fewn y grŵp yn unig ac edrych ar nifer yr achosion o edrych ar y dudalen mae hyn yn ei sbarduno. Cofiwch fod pobl yn hoffi ymgysylltu mewn ffyrdd gwahanol – mae rhai pobl yn fwy cyfforddus yn arsylwi a pheidio â chymryd rhan, ond byddan nhw’n dal i gael budd o’r gymuned. Gall polau bach neu arolwg blynyddol helpu i sefydlu beth mae aelodau o’r gymuned yn ei werthfawrogi a’i fwynhau, a ffyrdd o ddatblygu’r gymuned yn y dyfodol.
Browse related resources by smart tags:
Digital engagement Online audience engagement Online communities Online participation Participation Social media

Please attribute as: "How can we build new and inclusive online communities? (2022) by Christina Lister supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0