How to undertake digital marketing on a budget
1. Rhagarweiniad
Gall gwneud digidol, colbio ar y cyfryngau cymdeithasol, tywynnu ar TikTok neu fod â gwefan newydd sbon anhygoel deimlo’n gyffrous ac yn egnïol yn aml pan fydd eich sefydliad yn meddwl am farchnata digidol.
Fodd bynnag, beth sy’n digwydd pan mai chi yw’r unig un yn yr adran farchnata, ac yn aml, ddim hyd yn oed yn llawn-amser? I’r rhai sy’n gweithio mewn sefydliad treftadaeth bach i ganolig ei faint, gall y teimladau hynny droi’n gymariaethau di-fudd ag uchelgeisiau mawr yn gyflym, teimlo’n anesmwyth mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym, pwysau i berfformio ac ymdeimlad o ddiffyg grym pan fyddwch yn gwybod mai dim ond un ohonoch sydd, a chyllideb fach neu un nad yw’n bod.
Yn fy mhrofiad i o weithio gyda, a mewn, sefydliadau bach a chanolig eu maint, dyma un o’r meysydd cyffredin o straen a phryder. Felly, nid ydych ar eich pen eich hun ac os nad ydych erioed wedi poeni am hyn, yna mae hynny hyd yn oed yn well gan fod rhai ffactorau sylfaenol a chyson i’w hystyried wrth wneud marchnata digidol pan fo arian yn dynn.
Yn gyntaf, cawn ni sicrhau ein bod wedi diffinio marchnata digidol. Dyna’r term cynhwysfawr ar gyfer unrhyw weithgaredd, tactegau, hysbysebu, sianel a rheoli llwyfan sy’n cwmpasu’r byd digidol. Mae hyn yn cynnwys gwefannau, e-bost, y cyfryngau cymdeithasol, creu cynnwys, hysbysebu digidol, optimeiddio peiriannau chwilio, marchnata y telir amdano yn erbyn marchnata organig, marchnata e-bost, dosbarthu digwyddiadau ar-lein, ac ati.
2. Ble rydych chi’n dechrau?
Gadewch i ni redeg drwy rai peryglon cyffredin wrth wneud marchnata digidol gan y gall hyn fod yn lle gwych i gynorthwyo’ch dysgu.
Llwyfannau segur
Mae sefydlu cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol gyda phob sianel sy’n dod i’r golwg, neu benderfynu bod angen blog arnoch ac yna’n peidio â phostio na rhannu cynnwys yn rhywbeth i’w osgoi. Mae hyn yn gwneud niwed difrifol i’ch brand a’ch enw da gan y bydd dilynwyr yn teimlo nad ydych yn rhoi sylw iddynt a’ch bod wedi troi’ch cefn arnynt, gan arwain at golli ymddiriedaeth ac ymgysylltiad â’ch brand.
Bod heb gynllun neu nod
Pan nad ydych chi wedi creu cynllun sefydliadol, cysylltiedig neu strategol, sut gallwch chi fod yn fwriadol a bod â tharged o ran yr hyn rydych am ei gyflawni? Ac mae rhaid ystyried adnoddau a chyllideb gyfyngedig hefyd. Mae marchnata digidol yn faes enfawr, felly gwnewch e’n rhan integredig ac ystyrlon o’ch gwaith cyfathrebu gyda nodau clir.
Peidio ag adnabod eich cynulleidfa darged
Yn union fel unrhyw faes gweithgarwch marchnata all-lein arall, mae cynulleidfaoedd yn sail i ble a sut rydych chi’n gwario’ch arian a lle rydych chi’n rhoi eich adnoddau. Cofiwch fod hyn yr un fath ar gyfer digidol; meddyliwch am y gynulleidfa/cynulleidfaoedd rydych chi am eu cyrraedd a’r hyn maen nhw’n chwilio amdano neu eisiau ei wybod.
Bod yn anghyson
Mae angen i’ch gweithgarwch marchnata digidol fod yn gyson â brand a gwerthoedd eich sefydliad, gan gyfathrebu’n hyderus, yn glir ac yn gyson ar y sianel a ddewiswyd. Ni fydd negeseuon a chynnwys anghyson yn adeiladu ymddiriedaeth ac ymgysylltiad cynulleidfaoedd.
Peidio â mesur neu fonitro gweithgarwch
Mae olrhain gweithgarwch marchnata digidol yn hanfodol wrth gasglu data rydych yn gallu dysgu ohono, ymateb iddo ac adeiladu arno a’i ddefnyddio i asesu yn erbyn eich nod a’ch amcanion.
Peidio â deall sianel neu lwyfan
Mae mannau digidol yn lleoedd i chi ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a phresennol, ac os nad ydych yn deall y sianel, dylech deilwra’ch neges neu optimeiddio cynnwys. Gall methu â gwneud hynny fod yn amlwg a pheri embaras. Dylech addysgu’ch hun a dod i adnabod y sianeli a’r lleoedd rydych chi am eu meddiannu.
Pan na fydd sefydliadau’n cymryd yr amser i ystyried sut i fuddsoddi eu hadnoddau a’u cyllideb gyfyngedig, byddwch yn aml yn eu gweld yn ceisio gwneud popeth a methu.
Sut ydych chi’n osgoi’r methiannau — gosod sylfeini da, a mabwysiadau’r meddylfryd cywir ar gyfer gwneud marchnata digidol â chyllideb gyfyngedig yn llwyddiannus.
#1 — lle gwych i ddechrau yw cydweithio ar draws eich sefydliad, yn hytrach na gadael y gwaith i’r rhai sy’n gyfrifol am farchnata yn unig. Mae dull gweithredu ar draws y sefydliad lle rydych chi’n cytuno ac yn gosod nodau ar y cyd nid yn unig yn ddull doethach, ond mae hefyd yn aml yn arwain at atebion mwy creadigol ac, yn fy marn i, mae’n angenrheidiol pan fo adnoddau a chyllideb gyfyngedig.
#2 — dechreuwch gan wneud yr hyn rydych chi’n ei wybod/yn gallu’i wneud yn dda, yn hytrach na cheisio gwneud popeth ac adeiladu oddi yno — dylai marchnata digidol fod yn rhan o’ch strategaeth weithredol hirdymor, felly adeiladwch o le cynaliadwy.
#3 — gosodwch fantra o gofio’ch bod yn ‘cael allan yr hyn rydych chi’n ei roi i mewn’. Mae gwneud marchnata digidol yn gofyn am weledigaeth a rennir, cynllun adnoddau realistig a chyfathrebu parhaus – yn union fel unrhyw brosiect arall.
3. Cynllun saith cam ar gyfer marchnata digidol pan fo arian yn dynn
Cam 1 — Adnabod eich cynulleidfa darged
Dewch â’ch grŵp gwaith ynghyd i ddiffinio a manylu ar y canlynol:
Pwy ydych chi’n ceisio eu cyrraedd?
Rhowch gymaint o fanylder â phosib yma o ran y meysydd canlynol:
- Demograffeg: oedran, hil, rhyw, galwedigaeth, addysg, statws priodasol, ayyb
- Ymddygiadol: sut maen nhw’n rhyngweithio â chi ar hyn o bryd, eu harferion ayyb
- Seicograffig: beth yw eu diddordebau, gwerthoedd, dyheadau, ffordd o fyw, ayyb
Beth rydych chi’n ei wybod amdanynt yn barod?
Efallai bod gennych rywfaint o brofiad o greu strategaeth neu gynllun datblygu cynulleidfaoedd sy’n cynnwys cam darganfod o gasglu mewnwelediadau a data o rai o’r canlynol:
- Google Analytics
- data archebu
- arolygon
- tanysgrifwyr e-bost
- dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol
- segmentu ymwelwyr / cynulleidfaoedd, er enghraifft ‘Pen Portraits’ The Audience Agency
- setiau data presennol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, adroddiadau proffil Ardal The Audience Agency
- astudiaethau achos, prosiectau peilot, meincnodi’r sector
Beth mae angen i chi ei ddarganfod am gymhellion, hoffterau ac arferion eich cynulleidfa?
Gallai hyn gynnwys ymchwil ddesg i adroddiadau sy’n bodoli eisoes, dylunio a dosbarthu arolwg neu hyd yn oed gynnal cyfweliadau.
Yr hyn sy’n allweddol yma, gyda’r cam hwn, yw cael eich arwain gan ddata a sicrhau bod eich sefydliad yn canolbwyntio ar y gynulleidfa wrth feddwl am eich uchelgeisiau a’ch gweithgarwch digidol.
Gweler hefyd: Sut y gall dulliau dadansoddi fy helpu i ddeall fy nghynulleidfa darged?
Cam 2 — Diffinio’r hyn rydych chi am ei gyflawni
Unwaith y byddwch chi’n glir ynghylch pwy rydych am ymgysylltu â nhw, mae’n hanfodol trafod uchelgeisiau cyffredin ynghylch yr hyn rydych chi am ei gyflawni a’i gysoni ag amcanion busnes.
Felly, p’un a ydych chi’n ceisio cyrraedd cynulleidfaoedd newydd neu gynyddu’ch dylanwad fel arweinydd meddwl, dylech ddrilio i lawr a diffinio sut y bydd hyn yn edrych a sut mae’n cyd-fynd ag amcanion a nodau busnes ehangach.
Defnyddiwch y fframwaith gosod nodau CAMPUS (‘SMART’) i nodi hyn:
- Cyraeddadwy — Ydy hyn yn realistig? Ydy hyn yn gyrraeddadwy?
Er enghraifft, defnyddio hysbysebu y telir amdano ar draws y cyfryngau cymdeithasol i ysgogi cofrestriadau. - Amserol — Beth yw eich terfynau amser? Pryd mae angen cyrraedd eich nod terfynol?
Er enghraifft, bydd y prosiect hwn wedi’i gwblhau erbyn mis Mai 2023 - Mesuradwy — Faint a/neu sawl un?
Er enghraifft, cynyddu nifer cyffredinol y tanysgrifwyr 8%. - Penodol — Beth rydych chi am ei gyflawni?
Byddwch yn gryno ac yn glir, gan nodi’n fanwl y niferoedd rydych chi am eu cyflawni, er enghraifft, cynyddu nifer y bobl ar ein rhestr bostio. - Uchelgeisiol/Synhwyrol — Pa dystiolaeth sydd gennych chi i ddangos bod hyn yn gyfle da? Byddwch yn realistig a’u halinio gyda’r hyn sydd gennych ac y gallwch weithio arno.
Er enghraifft, mae hyn yn bwysig oherwydd bod cronfa ddata fwy o danysgrifwyr yn fwy tebygol o ymgysylltu.
Weithiau, gall fod yn ddefnyddiol gosod nodau tymor byr (3-6 mis), tymor canolig (6 mis – 1 flwyddyn) a thymor hir (1-3 blynedd). Wrth osod nodau, rhowch e ar bapur, ei rannu a chytuno arno cyn i chi ddechrau ar unrhyw ran o’r cynllunio marchnata digidol.
Cam 3 — Dysgu am sianeli, llwyfannau a mannau digidol
P’un a ydych yn ystyried sianeli marchnata digidol newydd a rhai sy’n datblygu neu rai mwy sefydledig a hysbys, mae’n hanfodol casglu ymchwil, y tueddiadau diweddaraf a mewnwelediadau. Mae llawer o wybodaeth ar gael ar sianeli a llwyfannau marchnata digidol i fyfyrio arni a dysgu ohoni.
Dylech ganolbwyntio ar y defnydd o sianeli / llwyfannau, y mathau o bobl sy’n ymgysylltu â nhw a’r hyn sy’n gweithio orau. Er enghraifft, mae Facebook yn dda am feithrin perthnasoedd, ac yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd teuluol i gynhyrchu atgyfeiriadau gwefan, tra bod Instagram yn apelio at gynulleidfa iau ac yn cael ei arwain yn weledol.
O ran dewis y sianel/sianeli digidol mwyaf effeithiol i gyflawni eich nodau marchnata, yr ystyriaethau allweddol yw:
- Beth yw mewnwelediadau a nodweddion allweddol y sianel?
- Pa sianeli mae eich cynulleidfa darged yn eu defnyddio?
- Pwy arall sy’n gwneud y gweithgaredd hwn y gallech ddysgu ohono?
- A oes gennych chi’r sgiliau, yr adnoddau a’r gyllideb sydd eu hangen i ddefnyddio’r sianel hon?
- A yw’r dacteg hon yn cyd-fynd â’r strategaeth farchnata gyffredinol?
Ochr yn ochr â hyn, edrychwch ar y deallusrwydd digidol presennol y mae gennych fynediad ato, megis ymchwil allweddeiriau, y tudalennau mwyaf poblogaidd ar eich gwefan i gynnwys sy’n perfformio’n dda, amseroedd postio gorau posibl o’ch sianeli digidol cyfredol.
Pan fyddwch chi’n glir o ran eich cynulleidfa darged, eich sianel/sianeli digidol ac mae gennych amcan clir, mae’n bryd rhoi hyn i gyd at ei gilydd i lywio sut rydych chi’n llunio ac yn hau eich marchnata digidol.
Cam 4 — Llunio llais a thôn eich brand
Mae datblygu llais brand a thôn llais yn agweddau pwysig ar bersonoliaeth eich brand, gan ganiatáu iddo sefyll allan o’i gystadleuwyr a chysylltu â’i gynulleidfa darged. Mae cael tôn llais gyson ar draws holl bwyntiau cyffwrdd a chysylltiadau eich cwsmeriaid â’ch brand, gan gynnwys sianeli cyfryngau cymdeithasol a’ch marchnata e-bost yn gwneud i chi ymddangos yn ddilys, gan gynorthwyo teyrngarwch brand.
Ac felly, os nad ydych wedi’ch argyhoeddi, dyma resymau pellach dros ddatblygu’r gwaith hwn:
- Mae’n dweud wrth eich cynulleidfaoedd a’ch ymwelwyr pwy ydych chi
- Mae’n mynegi’r hyn sy’n eich gwneud chi’n wahanol
- Mae’n helpu i feithrin ymddiriedaeth
- Gellir ei ddefnyddio i ddylanwadu a pherswadio
- Po leiaf yw eich cwmni, yr hawsaf yw datblygu llais brand effeithiol
I gael darllen yn fanylach am sut i ddatblygu llais eich brand a’ch tôn llais, darllenwch: How to Define a Brand Voice for Maximum Impact | Toptal
Cam 5 — Sicrhau bod eich cynnwys yn iawn
Bydd y rhan fwyaf o weithgarwch marchnata digidol yn cynnwys creu cynnwys o ryw fath. P’un a gaiff ei greu’n fewnol, ei gomisiynu neu ei lunio gan eich defnyddwyr, cynnwys yw ‘Byd dychymyg Willy Wonka’, felly byddwch yn barod i fod yn greadigol, profi, arbrofi a dysgu.
Rhai mathau cyffredin o gynnwys:
- Blogiau
- Ffotograffiaeth
- Ffeithluniau
- GIFs wedi’u hanimeiddio
- Fideo
- Sain
- Cynnwys a gynhyrchir gan y defnyddiwr (UGC)
- Canllawiau
Mae cynnwys marchnata digidol da wedi’i fewnblannu mewn adrodd straeon ac wrth wneud hyn pan fo arian yn dynn, mae rhai ystyriaethau allweddol a all helpu:
- Defnyddiwch yr hyn sydd gennych
- Peidiwch â phoeni am fod yn gaboledig
- Addaswch gynnwys sydd gennych eisoes nad yw erioed wedi’i ddefnyddio mewn ffordd newydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ceisio caniatâd.
- Optimeiddiwch gynnwys — sicrhewch eich bod wedi’i ysgrifennu, ei greu a’i adeiladu i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosib.
- Trefnwch i’ch cymuned weithio i chi — er enghraifft, artistiaid yn cymryd yr awenau, straeon gwirfoddolwyr
- Gwnewch y mwyaf o declynnau ac apiau sy’n rhad ac am ddim ac isel eu cost:
- Canva— llwyfan dylunio graffig ar-lein sy’n cynnig tanysgrifiad am ddim i sefydliadau nid er elw
- Gickr— crëwr GIF am ddim gan Flickr
- iMovie — i greu a golygu fideos yn hawdd. Ar gyfer iOS a macOS
- Mailchimp— os nad ydych chi’n defnyddio llwyfan e-bost ar hyn o bryd i anfon eich e-byst mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr yn cynnig fersiwn am ddim gyda mynediad i’r rhan fwyaf o nodweddion
- Hotjar— ffordd wych o ddeall yr hyn mae pobl yn ei wneud mewn gwirionedd ar eich safle os ydych yn ystyried ac yn optimeiddio neu’n ailddylunio gwaith.
- Podbean— llwyfan lletya podlediadau gyda’r holl nodweddion sydd eu hangen arnoch chi i gyhoeddi, dosbarthu a hyrwyddo eich podlediad.
Cam 6 — Mewnblannu digidol mewn twmffedi marchnata
Ni waeth pa fath o weithgaredd marchnata digidol rydych chi’n bwriadu ei wneud, mae’r twmffat marchnata yn fodel pwysig sy’n darparu map gweledol ar sut mae cynulleidfaoedd posibl yn rhyngweithio â chi a’r camau dan sylw sy’n arwain at weithredu neu brynu. Gall y model hwn fod yn ffordd dda o gael eich sefydliad i ddeall y gwahanol gamau y bydd arweinydd posibl yn mynd drwyddyn nhw cyn iddyn nhw gofrestru ar eich rhestr bostio, prynu tocyn ar gyfer arddangosfa neu benderfynu rhoddi.

Mae top y twmffat yn ymwneud â chreu darpar gwsmeriaid; mae’r cyhoedd yn anghyfarwydd â’ch brand ac mae angen iddyn nhw ddysgu pwy ydych chi. Dyma’ch cyfle i ddechrau adeiladu perthynas ddibynadwy gyda nhw. Dyma’r rhan fwyaf o’r twmffat a’r lle y gallwch chi dynnu pobl i mewn gyda chynnig diddorol unigryw a chlir eich brand.
Yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd i ddenu cwsmeriaid, mae’r twmffat marchnata yn allweddol bwysig wrth feddwl am ddosbarthu a hybu eich gweithgarwch marchnata digidol i ddarpar gwsmeriaid neu ymwelwyr nad ydynt yn dod mwyach. Bydd defnyddio’r model i greu cynllun cyfathrebu integredig lle caiff marchnata digidol ei fewnblannu yn sicrhau eich bod yn gwneud y mwyaf o’ch holl sianeli, adnoddau a thwmffedi.
Cam 7 — Olrhain ac optimeiddio
Yn olaf, cyn i chi ddechrau unrhyw weithgarwch marchnata digidol, yn enwedig pan fo cyllideb yn dynn, neu’n bitw iawn, cytunwch ar ba fetrigau y byddwch yn eu monitro a’u holrhain er mwyn gwerthuso’r nod/au rydych chi’n eu cyflawni. Mae hyn yn beth pwysig i gytuno arno gyda’r grŵp gwaith, neu fel sefydliad, oherwydd y gall fod lle y gallwch chi ddechrau dylanwadu a dadlau o blaid cynnydd yn y gyllideb os gallwch chi ddangos bod twf a nodau wedi’u cyflawni.
Mabwysiadwch ddull olrhain ac optimeiddio i ddadansoddi’ch gweithgarwch, gan ddefnyddio teclynnau dadansoddol megis Google’s Campaign URL Builder i olrhain perfformiad gweithgarwch cynlluniedig rydych yn ei wneud, pob darn o gynnwys rydych chi’n ei gyhoeddi neu unrhyw hyrwyddiadau ar sianel. Rhannwch ddata a mewnwelediadau sy’n dangos perfformiad y cynnwys sy’n llwyddo/yn gwneud yn dda, y sianeli gyda’r canlyniadau gorau, yr hyn nad yw wedi gweithio, a meysydd i’w gwella.
Mae pŵer data wrth wneud marchnata digidol yn grymuso sefydliadau i nodi a ydynt yn cyflawni nodau, Dangosyddion Perfformiad Allweddol ac amcanion, mae’n nodi meysydd twf, yn darparu mewnwelediadau, yn olrhain cyrraedd ac yn dangos yn glir enillion ar fuddsoddiad (R.O.I).
Gweler hefyd: Sut i ddefnyddio dulliau dadansoddi i gyrraedd cynulleidfaoedd ar-lein
4. Y gair olaf
Gall hyn deimlo fel proses hir a llafurus, ond mae’r egwyddorion arweiniol hyn yn tanlinellu’n wirioneddol sut gallwch chi wneud digidol yn llwyddiannus ar gyllideb gyfyngedig – pob lwc!
Fy awgrym olaf fyddai cysylltu neu gyfeillio â chyd-farchnadwr, sydd hefyd am fynd drwy’r broses hon i weithredu fel cyfaill beirniadol a galluogi cyd-gefnogaeth a chymhelliant.
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "How to undertake digital marketing on a budget (2022) by Ranjit Kaur Atwal supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0






