How analytics can help me understand my target audience
1. Pam mae angen i mi ddefnyddio data dulliau dadansoddi i ddeall fy nghynulleidfa?
Efallai bod segmentu marchnata gyda chi eisoes ar gyfer eich cynulleidfa, sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddio data o’ch arolygon eich hun a data prynu hanesyddol, neu efallai eich bod yn ceisio datblygu cynulleidfa newydd ar sail segment rydych chi wedi’i nodi o fodel a rennir fel Audience Finder. Ond ydy eich cynulleidfa ddigidol yn nodweddiadol wahanol i hyn?
Y peth gwych am sianeli digidol yw y gallan nhw roi data amser real i chi am eich cynulleidfa sy’n gallu eich helpu i fireinio’ch gweithgarwch marchnata.
Bydd yr adnodd yma yn edrych ar y ffyrdd y gallwch chi ddefnyddio data a dulliau dadansoddi i’ch helpu i ddeall pwy yw eich cynulleidfa fel y gallwch chi farchnata iddyn nhw’n fwy effeithiol. Po fwyaf rydych chi’n ei wybod am eich cynulleidfa darged, y mwyaf effeithiol y bydd eich marchnata.
Byddwn yn edrych ar:
- Sut mae data a dulliau dadansoddi wir yn gallu eich helpu i ddeall eich cynulleidfa o ran pwy ydyn nhw, ble maen nhw, beth sy’n eu hysgogi a beth yw eu patrymau gwario. Mae deall eich cynulleidfa’n golygu eich bod yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ar sail eich data – yn hytrach na seilio’ch gweithgarwch ar dybiaethau.
- Sut y gallwch chi eu targedu’n fwy effeithiol gyda’r cyfathrebiadau a’r cynnwys sydd fwyaf perthnasol iddyn nhw.
- Pa fetrigau dadansoddi yn eich sianeli digidol y gallwch chi eu defnyddio i’ch helpu i ddeall eich cynulleidfa.
2. Dulliau dadansoddi gwefannau
Cawn ni ddechrau gyda’r data dadansoddi y gallwch chi ei gael o’ch gwefan. Mae eich gwefan yn debyg i ffenest siop ar gyfer eich sefydliad – mae’n bosib eich bod chi’n defnyddio’r rhan fwyaf o’ch sianeli cyfathrebu i ddenu cynulleidfa, felly mae’n bwysig deall pwy yw’r gynulleidfa a sut maen nhw’n ei defnyddio. Google Analytics yw’r teclyn gorau i’w ddefnyddio i gyrchu data am hyn. Mae’n rhad ac am ddim, ac yn hawdd ei ddefnyddio; y cwbl sydd ei angen arnoch yw creu cyfrif ac yna bydd eich datblygwyr yn gallu ychwanegu’r cod at eich gwefan.
Mae llawer o fetrigau yn Google Analytics i’ch helpu i ddeall eich cynulleidfa, felly cawn ni edrych ar y rhai allweddol a all helpu i roi mewnwelediad i chi:
Demograffeg cynulleidfa
Wrth edrych ar yr ystadegau demograffeg cynulleidfaol ar gyfer eich gwefan, mae rhaid i chi gofio nad ydyn nhw’n hollol gywir.
Mae Google yn gwneud rhai tybiaethau ynghylch pwy sy’n ymweld â’ch gwefan ar sail eu hymddygiad ar-lein, ond mewn rhai achosion, bydd un cyfrifiadur yn cael ei ddefnyddio gan nifer o bobl yn yr un cartref, felly brasamcan o’r data gewch chi yma mewn gwirionedd.
Os ewch chi i ‘Overview’ yn y ddewislen ‘Audience’, gallwch chi weld trosolwg o oedran a rhyw, ac mae gwybod yr wybodaeth yma wir yn gallu eich helpu i deilwra’ch cynnwys a’ch cyfathrebiadau. Ydy’r ddemograffeg yn eich dulliau dadansoddi a adroddir yma’n adlewyrchu’r gynulleidfa darged rydych chi am ei chyrraedd? Os nad ydynt, gallwch chi ddefnyddio’r dadansoddiad cyfredol o’ch cynulleidfa fel meincnod. Pan fyddwch chi’n darparu gweithgarwch datblygu cynulleidfaoedd, gallwch chi wedyn fesur ei effeithiolrwydd yn erbyn newidiadau yn y dadansoddiad.
Pa dudalennau sydd fwyaf poblogaidd gyda’ch cynulleidfa, a pham?
Yn yr adran ‘Behaviour’, byddwch chi’n gweld ystadegau ynghylch pa dudalennau ar eich gwefan sydd fwyaf poblogaidd. Gall edrych ar eich tudalennau mwyaf poblogaidd eich helpu i ddeall yr hyn sy’n cymell eich cynulleidfa. Er enghraifft, os mai atyniad i ymwelwyr neu leoliad ydych chi, ac rydych yn sylwi bod eich tudalennau am y ‘man parcio bygis’ neu’r ‘cyfleusterau ‘newid babis’ ymysg y rhai sy’n cael y nifer mwyaf o ymwelwyr, yna rydych chi’n gwybod ei bod yn debyg bod gennych gyfran uchel o rieni â phlant ifanc yn ymweld. Gallwch strwythuro’ch gwefan a’ch cyfathrebiadau i bwysleisio’r wybodaeth ymarferol yma iddyn nhw a gwneud eu profiad ar-lein yn well.
Gall edrych ar yr ystadegau am eich tudalennau ‘Mynediad’ uchaf hefyd eich helpu i ddeall eich cynulleidfa. Mae’r ystadegyn yma’n dangos y gyfran o’ch cynulleidfa sy’n mynd i mewn i’ch gwefan drwy bob tudalen. Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod pobl yn dechrau eu teithiau ar eich hafan dudalen. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio defnyddwyr at y tudalennau perthnasol nesaf yn iawn o’ch tudalennau ‘Mynediad’ uchaf.
Pa ddyfeisiau mae eich cynulleidfa’n eu defnyddio
Mae’n ddefnyddiol iawn deall pa ddyfeisiau mae pobl yn eu defnyddio i gyrchu’ch gwefan. Gallwch chi weld y data yma yn y ddewislen ‘Audiences’ ar ochr chwith eich Google Analytics. Sgroliwch i lawr i’r ddewislen ‘Menu’ – edrychwch ar yr ‘Overview’.
Os ydych chi’n gweld bod y rhan fwyaf o’ch ymwelwyr yn cyrchu’ch gwefan gan ddefnyddio dyfeisiau symudol a llechi, yna mae gan hyn oblygiadau ar gyfer sut rydych chi’n strwythuro cynnwys. Mae angen i chi feddwl am sicrhau bod eich gwefan wedi’i dylunio mewn modd ‘symudol yn gyntaf’, sy’n golygu cadw’r gwe-lywio’n gryno, a chadw nifer y geiriau’n ddigon isel i bobl eu cyrchu’n hawdd ar sgriniau bach. Mae’n bosibl y bydd pobl sy’n cyrchu cynnwys ar ddyfeisiau symudol yn amldasgio: yn eistedd ar fws, neu’n bwyta eu cinio, er enghraifft, felly gall rhychwantau sylw fod yn isel, ac efallai y bydd eu sylw’n cael ei dynnu’n haws. Sut fyddwch chi’n sicrhau bod eich negeseuon allweddol yn dal i gyrraedd eu golwg?
Gall eich dulliau dadansoddi hefyd ddweud wrthych chi pa frandiau o ddyfais mae pobl yn eu defnyddio – felly oes gennych chi gyfran uchel o ymwelwyr sy’n defnyddio dyfeisiau Apple? Gallai sicrhau eich bod yn cynnig ApplePay ar gyfer prynu tocynnau neu gynhyrchion wir helpu eich cyfraddau trosi, gan y byddwch yn ei gwneud yn rhwydd ac yn gyflym i bobl eu prynu.
O ba sianeli allanol mae eich cynulleidfa’n dod
Yn Google Analytics, mae eich ystadegau ‘Acquisition’ yn dweud wrthych chi pa wefannau a sianeli a yrrodd draffig i’ch gwefan – mae’r wybodaeth yma’n gallu eich helpu i adeiladu darlun o’ch cynulleidfa, a pha leoedd allanol sy’n dylanwadu ar eu hymddygiad.
Os bydd sianel neu’ch gwefan allanol yn anfon cryn lawer o draffig atoch chi, neu mae ymweliadau sydd wedi’u gyrru gan ffynhonnell benodol yn fwy tebygol o brynu tocynnau neu gynhyrchion ar eich gwefan, yna dyma fewnwelediad gwerthfawr. Unwaith y bydd yr wybodaeth yma gennych, gallwch chi adeiladu’ch perthynas â’r ffynhonnell allanol i yrru mwy o draffig. Er enghraifft, ydych chi’n sylwi bod cynnwys gan flogiau cymunedau lleol yn gyrru mwy o draffig na gwasanaethau newyddion prif ffrwd? Yna, mae’ch cynulleidfaoedd yn dweud wrthych chi eu bod yn gwerthfawrogi’r math yma o gymeradwyaeth yn fwy.
Lleoliad y gynulleidfa
Mae gwybod lleoliad eich cynulleidfa wir yn gallu eich helpu i’w thargedu’n well, ar-lein ac oddi ar-lein. Yn Google Analytics, gallwch chi gael data lefel uchel ynghylch lle mae’ch cynulleidfa. Gallwch chi weld dadansoddiad yn ôl gwlad neu yn ôl dinas. Yna, gallwch chi ddefnyddio’r wybodaeth yma i lywio’r cynnwys ar eich gwefan a’ch cyfathrebiadau.
Os ydych chi’n darganfod bod gennych chi gyfran uchel o gynulleidfaoedd nad ydynt yn y DU, er enghraifft, pam mae hyn? Os mai atyniad i ymwelwyr ydych chi, ac rydych chi’n gweld cynnydd mewn traffig o China, efallai, a ddylech chi fod yn meddwl am gyfieithu rhai o’ch tudalennau gwybodaeth am ymweld?
Dulliau dadansoddi trosi
Gall edrych ar eich ystadegau eFasnach yn Google Analytics eich helpu i ddeall ymddygiad a phatrymau prynu eich cynulleidfa. Byddwch chi’n gallu gweld eich gwerthiannau tocynnau neu gynhyrchion a’u had-drefnu yn ôl nifer y gwerthiannau neu yn ôl refeniw gwerthu, fel y gallwch chi weld pa rai yw’r gwerthiannau mwyaf a lleiaf poblogaidd gyda’ch cynulleidfa. Gallwch chi ddefnyddio’r data yma i newid eich strategaeth marchnata mewn amser real os oes angen i chi wneud hynny. Er enghraifft, efallai y byddech chi am leihau faint y gweithgarwch hyrwyddo ar gyfer digwyddiad sy’n gwerthu’n dda, a’i gynyddu ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau sy’n llai poblogaidd gyda’ch cynulleidfa.
Mae eich ystadegau eFasnach hefyd yn rhoi metrigau cyfanredol i chi fel gwerth basgedi cyfartalog trafodion ar eich gwefan. Felly dros amser rydych chi’n dechrau gweld lefelau gwario’ch cynulleidfa, a all eich helpu i wneud penderfyniadau sy’n gosod pwyntiau prisiau ar gyfer tocynnau a chynhyrchion yn y dyfodol.
3. Dulliau dadansoddi’r cyfryngau cymdeithasol
Byddwch chi hefyd yn gweld mewnwelediadau defnyddiol i gynulleidfaoedd yn nulliau dadansoddi’ch sianeli cyfryngau cymdeithasol; mewn gwirionedd, gall y dadansoddiad o’r gynulleidfa amrywio yn ôl llwyfan, felly gwnewch yn siŵr bod gennych ddealltwriaeth o sut mae cynulleidfa pob llwyfan yn wahanol a pham.
Mewnwelediadau cynulleidfa Facebook
Ar Facebook, gallwch chi gyrchu mewnwelediadau ‘Insights’ yn y ‘Creator Studio’. I geisio dysgu mwy am y dadansoddiad o’ch cynulleidfa, ewch i ‘Audience’ yn y ddewislen ar yr ochr chwith. Bydd yr wybodaeth yma’n eich helpu i ddeall pwy rydych chi’n siarad â nhw fel y gallwch chi weithio allan beth sy’n eu cymell a darparu’r cynnwys mwyaf perthnasol iddynt.
Yn yr un modd â Google Analytics, mae Facebook yn dangos rhaniad rhyw ac ystod oedran eich cynulleidfa fel y gallwch chi deilwra’ch cynnwys wedyn i apelio atyn nhw.
Gallwch chi hefyd weld data ‘Location’ yn y ddewislen ‘Audience’. Os mai lleoliad neu atyniad ydych chi, ac mae’ch cynulleidfa yn lleol dros ben, efallai y byddech chi am feddwl am sut rydych chi’n eu hysgogi i rannu cynnwys ar eu sianel pan fyddan nhw’n ymweld â chi, er enghraifft.
Gallwch chi hefyd weld data ynglŷn â phryd mae eich cynulleidfa’n fwyaf gweithgar, wedi’i rannu yn ôl diwrnodau’r wythnos ac amser y dydd. Gall yr wybodaeth yma helpu’n fawr i lywio’ch gwaith cynllunio cynnwys. Os ydych chi’n postio ar y diwrnodau a’r amseroedd mwyaf poblogaidd, rydych chi’n debygol o weld y cyrhaeddiad a’r ymgysylltu gorau.
Mewnwelediadau cynulleidfa Instagram
Mae gennych chi hefyd fynediad at ystadegau cynulleidfa defnyddiol ar Instagram. I gael mynediad at ystadegau ar y llwyfan yma, defnyddiwch yr ap, sicrhewch fod gennych Gyfrif ‘Creator’ neu Gyfrif Busnes (yn hytrach na Chyfrif Personol) er mwyn gweld eich Mewnwelediadau. Gallwch chi osod neu newid y math o gyfrif yn y ddewislen ‘Settings’.
Byddwch chi’n gallu gweld dadansoddiad o’ch cynulleidfa yn ôl lleoliad, oedran a rhyw. Felly a yw’ch cynulleidfa Instagram yn wahanol i’r gynulleidfa sy’n ymweld â chi? Ydyn nhw’n iau neu’n hŷn nag roeddech wedi tybio? Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer y ffordd rydych chi’n siapio eich cynnwys ar y sianel yma?
4. Mewnwelediadau cynulleidfa YouTube
Nawr gadewch i ni edrych ar gynnwys fideo. Gall hyn fod yn fformat cynnwys eithaf llafurddwys i’w gynhyrchu, felly rydych chi eisiau bod yn glir y bydd yr hyn rydych chi’n ei wneud yn apelio at eich cynulleidfa. Mae dulliau dadansoddi ar gyfer y sianel hon i’w gweld yn YouTube Studio a gallwch eu cyrchu o’r ddewislen ‘Settings’ ar ochr dde uchaf eich tudalen.
Gallwch chi weld ystadegau cyfanredol ar ddemograffig y gynulleidfa fel oedran, rhyw ac ym mha wledydd mae’r fideos yn cael eu gwylio, yn ogystal â’r amser gwylio cyfartalog ar gyfer fideos ar eich sianel. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall pa awydd sydd gan eich cynulleidfa am y mathau o gynnwys fideo rydych chi’n ei gynhyrchu ar hyn o bryd. Os mai 30 eiliad yw’r amser gwylio cyfartalog ar gyfer fideo ar eich sianel, er enghraifft, ydych chi’n sicrhau bod yr holl negeseuon allweddol rydych chi am i’r gynulleidfa eu gweld yn dod cyn y pwynt hwn yn eich golygiadau?
Os ydych am balu’n ddyfnach, gallwch hefyd weld ystadegau cadw gwylwyr ar fideos unigol. Felly, er enghraifft, os ydych chi’n gweld mai’r fideos a wnaethoch chi ddwy flynedd yn ôl yw’r rhai sy’n perfformio orau o hyd, o ran nifer y gwylwyr maen nhw’n eu cael – pam mae hyn yn digwydd? Beth amdanyn nhw sy’n dal i daro deuddeg gyda’ch cynulleidfa? Unwaith y byddwch chi’n deall beth sydd y tu ôl i’r ysgogiad cynulleidfaol yma, gallwch chi gynllunio mwy o gynnwys fideo sy’n cytgordio gyda hyn.
Efallai y byddwch chi hefyd yn gweld bod y mathau mwyaf poblogaidd o gynnwys fideo a’r amser gwylio yn amrywio yn ôl llwyfan, felly cymharwch eich ystadegau gwylio fideos ar YouTube â’r rhai ar Facebook a gweld sut mae ymddygiad y gynulleidfa’n wahanol. Unwaith y byddwch chi’n gwybod hyn, gallwch chi deilwra eich cynnwys fideo fesul sianel ar gyfer y gynulleidfa sydd gennych yno.
5. I grynhoi
- Defnyddiwch Google Analytics i gael mewnwelediadau ynghylch pwy yw cynulleidfa’ch gwefan, ble maen nhw, a pha fath o gynnwys sy’n eu hysgogi
- Defnyddiwch fewnwelediadau ystadegol o’ch tudalennau mwyaf poblogaidd i bwysleisio’r wybodaeth sydd bwysicaf i’ch cynulleidfa
- Edrychwch ar eich patrymau gwario eFasnach i’ch helpu i osod pwyntiau prisiau ac ystwytho’ch gweithgarwch marchnata mewn amser real
- Byddwch yn ymwybodol o’r gwahaniaethau yn y dadansoddiad o’r gynulleidfa ar draws pob un o’ch sianeli cyfryngau cymdeithasol a theilwra cynnwys sy’n benodol i’r sianeli
- Edrychwch ar eich ystadegau cadw gwylwyr ar YouTube a gwnewch yn siŵr bod eich cynulleidfa wylio yn gwylio’n ddigon hir i weld y negeseuon allweddol yn eich cynnwys
Please attribute as: "How analytics can help me understand my target audience (2022) by Trish Thomas supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0