How to improve the digital skills of your volunteers
1. Rhagarweiniad
Fel gyda’r rhan fwyaf o bethau yn ein bywydau, mae’r rhyngrwyd a thechnoleg wedi newid y dirwedd dreftadaeth yn ddramatig. Mae’r ffyrdd rydyn ni’n ymgysylltu â threftadaeth wedi newid ac ehangu. Mae llawer o brosiectau treftadaeth ar-lein yn golygu nad ydyn ni bellach yn cael ein cyfyngu gan ein daearyddiaeth – er enghraifft, bydd dathliadau Noson Burns sydd wedi’u canoli’n bennaf mewn trefi a dinasoedd yn yr Alban nawr yn cynhyrchu llawer iawn o bodlediadau a fideos i’w mwynhau gan bobl ledled y byd. Yn yr un modd, mae’r dirwedd ariannu wedi newid, gyda mwy a mwy o gyrff ariannu yn mynegi diddordeb mewn ariannu prosiectau treftadaeth sy’n gysylltiedig â thechnoleg ddigidol.
Mae’r symudiad yma tuag at dechnoleg ddigidol wedi agor llawer o gyfleoedd gwych i sefydliadau treftadaeth bach i ganolig eu maint gael effaith fawr, ond mae hefyd yn cyflwyno rhai heriau. Mae llawer o sefydliadau treftadaeth yn dibynnu ar wirfoddolwyr i weithredu: gwirfoddolwyr sydd efallai wedi arfer â rolau mwy traddodiadol fel rhoi teithiau tywysedig neu arwain gweithgareddau gyda grwpiau teuluol ac ysgolion. Gallai sgiliau digidol tîm o wirfoddolwyr fod yn gyfyngedig, gan leihau capasiti’r sefydliad felly i greu cynnwys digidol.
Gall dechrau’r broses o uwchsgilio gwirfoddolwyr yn hyn o beth ymddangos yn llethol, ond does dim rhaid iddo fod. Drwy feddwl ac ymgynghori’n ofalus, gallwch chi greu cynllun a fydd yn gweddu i anghenion eich tîm, a gweithio tuag at nodau eich sefydliad. Yn yr adnodd yma, rydyn ni’n rhoi arweiniad ar sut i nodi anghenion hyfforddiant eich gwirfoddolwyr, a sut i ddechrau ar uwchsgilio digidol gydag adnoddau cyfyngedig.
Yn y canllaw yma, byddwn ni’n archwilio
- Yr hyn rydyn ni’n ei olygu pan rydyn ni’n sôn am sgiliau digidol
- Pwysigrwydd cynyddol sgiliau digidol ar gyfer sefydliadau treftadaeth a gwirfoddolwyr
- Sut i nodi anghenion hyfforddiant eich tîm
- Awgrymiadau ynghylch uwchsgilio’ch tîm
- Y gwahanol adnoddau ar-lein sy’n gallu eich cefnogi yn y gwaith yma, heb gael effaith fawr ar eich cyllideb
- Materion mynediad a chynhwysiant
2. Beth yw sgiliau digidol?
Mae sgiliau digidol yn cwmpasu ystod eang o alluoedd; bydd y maes rydych chi am ganolbwyntio arno yn dibynnu ar anghenion eich sefydliad a galluoedd presennol eich tîm.
- Hanfodion cyfrifiadurol
Mae llawer o bobl yn defnyddio cyfrifiaduron, ffonau clyfar a llechi bob dydd – i’r graddau ei bod yn teimlo’n gwbl naturiol. Am y rheswm yma, mae llawer ohonon ni’n cymryd sgiliau fel defnyddio llygoden a bysellfwrdd, creu a threfnu ffolderi, a gwneud chwiliad ar y rhyngrwyd yn ganiataol, ac efallai y byddwn ni’n ei chael hi’n anodd deall bod eraill yn teimlo’n ofnus wrth weithio gyda thechnoleg. Mae’n bosib y bydd angen cymorth ar eich tîm yn y maes yma cyn symud ymlaen i’r setiau mwy cymhleth o sgiliau a ddisgrifir isod. - Teclynnau timau
Gall safleoedd trafod fel Slack, llwyfannau rhannu ffeiliau felGoogle Drive a Dropbox, a theclynnau amserlennu fel Doodle helpu’ch tîm i weithio’n fwy effeithiol, yn enwedig os ydyn nhw’n mynd i fod yn gweithio gartref. - Cyfathrebiadau ar-lein
Mae llawer o bobl yn dod i wybod am weithgareddau treftadaeth drwy’r rhyngrwyd, felly mae rhoi cyhoeddusrwydd i’ch digwyddiadau a’ch gweithgareddau ar-lein yn hollbwysig i greu a chadw cynulleidfa. Gallai hyn fod ar ffurf creu rhestr bostio ac anfon bwletinau newyddion ar lwyfan fel Mailchimp, adeiladu proffil eich sefydliad ar y cyfryngau cymdeithasol, neu greu gwefan a’i chynnalar lwyfan fel Wix neu Squarespace. - Digwyddiadau ar-lein
Rydyn ni i gyd wedi dod i arfer â digwyddiadau ar-leindros y blynyddoedd diwethaf; efallai ein bod ni wedi cael llond bol ohonyn nhw, hyd yn oed. Ond maen nhw yma i aros, ac mae cynnal digwyddiad ar-lein llwyddiannus yn gallu bod yn gyfle gwych i gyrraedd pobl nad ydyn nhw’n gallu dod yn y cnawd. Mae sicrhau bod eich gwirfoddolwyr yn gyfforddus yn y maes yma’n gallu rhagori ar yr hyn y gallwch chi ei wneud. - Sgiliau creadigol
Gall eich tîm greu posteri sylfaenol neu lanlwytho fideo sydd wedi’i recordio i YouTube, ond efallai eich bod chi am gyfoethogi’r math o gynnwys rydych chi’n ei gyhoeddi, gyda fideos sydd wedi’u golygu’n fwy trawiadol, graffeg sy’n tynnu sylw, neu bodlediadau gwefreiddiol. Gall defnyddio rhaglenni creadigol fel Adobe Photoshop ymddangos yn frawychus ond mae llawer o adnoddau rhad ac am ddim rhagorol ar-lein i helpu rhywun i fynd i’r afael â nhw. - Sgiliau technegol
Gorau po fwyaf, o ran cymhlethdod y sgiliau digidol y gallai’ch tîm eu dysgu, o bosibl. Efallai bod gan un o’ch gwirfoddolwyr ddiddordeb mewn dysgu sut i godio? Neu efallai eich chi bod am sefydlu system rheoli perthnasau cwsmeriaid (CRM)i gadw golwg ar bobl sy’n dod i’ch digwyddiadau. Neu efallai y bydd gan wirfoddolwr syniad ar gyfer tudalen we ryngweithiol. Mae’r adran adnoddau isod yn darparu dolenni at adnoddau defnyddiol ar gyfer y tasgau mwy cymhleth hyn.
Diogelwch ar-lein
Wrth gael gwirfoddolwyr i gymryd rhan yn ochr ddigidol eich gwaith, mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth am rai o’r bygythiadau posibl sy’n bodoli i’r sefydliad ar-lein. Prif gynghorion i’w pwysleisio yw:
- Byddwch yn wyliadwrus o “gwe-rwydo”, yr arfer y mae grwpiau maleisus yn ei ddefnyddio i geisio twyllo pobl i ddatgelu gwybodaeth sensitif dros e-bost – byddwch yn wyliadwrus ac osgoi agor e-byst o ffynonellau anhysbys.
- Byddwch yn ymwybodol o sgamiau– peidiwch â chlicio ar ddolenni nac agor atodiadau mewn e-byst gan rywun nad ydych chi’n ei adnabod.
- Byddwch yn ofalus gyda chyfrineiriau; defnyddiwch gyfrineiriau ar draws gwahanol gyfrifon. Ystyriwch ddefnyddio teclyn rheoli cyfrineiriauar gyfer y sefydliad.
Pwysleisiwch y bygythiadau, ond peidiwch â gadael i hynny ddigalonni’ch gwirfoddolwyr – gellid lleihau’r risgiau trwy gymryd ychydig o gamau, ac yn bwysicaf oll, trwy fod yn ymwybodol.
3.Pwysigrwydd sgiliau digidol i’ch gwirfoddolwyr
Fel y sonnir uchod, mae gan fwy a mwy o brosiectau treftadaeth elfen ddigidol. Gall hyn fod yn rhywbeth syml, fel postiadau blog, neu recordiadau o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb sydd wedi’u lanlwytho i YouTube, neu rywbeth mwy cymhleth fel map rhyngweithiol sy’n dangos lleoliadau allweddol sy’n gysylltiedig ag ardal a llyfrgell amlgyfrwng trochol. Gyda thîm o wirfoddolwyr sy’n ddeallus yn ddigidol, mae cyfleoedd gwell o lawer i wneud effaith ehangach a pharhaol.
Yn ogystal â hyn, mae bod â thîm o wirfoddolwyr sydd â hyder yn eu sgiliau digidol yn gallu helpu sefydliad i weithredu’n fwy effeithlon ac effeithiol. Er enghraifft, os mai dim ond un person sy’n hyderus wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, gall hyn roi cryn dipyn o bwysau arnyn nhw ac achosi aflonyddwch os byddan nhw’n absennol neu’n gadael y sefydliad. Os yw’r sylfaen sgiliau’n ehangach ar draws y tîm o wirfoddolwyr, mae llai o berygl o hyn, a mwy o gyfleoedd i wirfoddolwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd a rhoi cynnig ar bethau newydd.
Ac wrth gwrs, gall cefnogi’ch gwirfoddolwyr gydag uwchsgilio digidol eu helpu yn eu bywydau eu hunain, boed hynny’n trefnu cwis i’r teulu ar Zoom, neu ddechrau eu gwefan eu hunain am agwedd ar dreftadaeth sydd o ddiddordeb penodol iddyn nhw. Gallai hefyd helpu rhywun i ddod o hyd i swydd newydd neu ddarganfod eu hangerdd.
4. Sut i nodi anghenion hyfforddiant eich tîm
Fel rydyn ni wedi’i weld, gall sgiliau digidol olygu llawer o bethau gwahanol, a bydd anghenion hyfforddiant eich tîm yn dibynnu ar anghenion a nodau’ch sefydliad, a gwybodaeth a diddordebau’r tîm. Er mwyn sicrhau bod uwchsgilio digidol yn ymdrech werth chweil, dylid cymryd tipyn o amser i nodi pa faes dylech chi ganolbwyntio arno.
Dylai’r person neu’r bobl sy’n trefnu’r hyfforddiant digidol gymryd tipyn o amser i adfyfyrio a thrafod eu nodau cyn mynd â’r mater at y tîm ehangach. Beth yw’r atebion i’r cwestiynau canlynol:
- Beth rydyn ni’n ei wneud yn ddigidol ar hyn o bryd? (Gall hyn fod mewn unrhyw rai o’r categorïau a drafodir uchod, o’r cyfryngau cymdeithasol i ddefnyddio Google Drive i rannu ffeiliau)
- Beth hoffen ni fod yn ei wneud nad ydyn ni’n ei wneud eto?
- Sut mae’r gwirfoddolwyr yn cymryd rhan yn ein gweithgareddau digidol nawr?
- Ym mha feysydd y byddai’n fuddiol i fwy o bobl ar y tîm fod yn hyderus amdanyn nhw?
Gofynnwch i bawb ystyried y cwestiynau hyn, a dewch lan â chynifer o atebion â phosibl i’r ail a’r pedwerydd – does dim angen iddyn nhw fod yn realistig, ond dylen nhw roi hwb i’ch syniadau. Gellir penderfynu ar flaenoriaethau’n nes ymlaen.
Y cam nesaf fyddai agor y drafodaeth i’r tîm ehangach a gweld beth mae’r gwirfoddolwyr eu hunain yn ei feddwl am y sgiliau digidol sydd ganddyn nhw, a sut y gallai mwy o sgiliau digidol helpu’r sefydliad. Mae’n ddefnyddiol cael trafodaeth sy’n llifo’n rhwydd i ddechrau, ond byddwn ni hefyd yn awgrymu gwneud dadansoddiad
Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau (SWOT) gyda’r grŵp, o ran sgiliau digidol a’r sefydliad. Gofynnwch i’r tîm ddod lan â llawer o syniadau ar gyfer pob un o’r categorïau hyn; dylai hyn sbarduno’u syniadau ac amlygu meysydd y dylid eu blaenoriaethu.
Dadansoddiad SWOT
Pan fyddwch chi’n cwrdd fel tîm, ceisiwch asesu’r hyn mae’ch gwirfoddolwyr eisoes yn ei wybod, a nodi pa fath a sgiliau digidol yr hoffen nhw ddysgu amdanynt – mae’n un peth dweud y byddai’n beth cŵl pe bai cyfrif TikTok gyda’ch sefydliad, ond os nad oes diddordeb gyda neb ar y tîm mewn dysgu am hyn, yna mae’n debyg nad yw’n faes y dylid ei flaenoriaethu am y tro.
Ar ôl y broses yma, dylai fod syniad gennych chi am ba fathau o sgiliau digidol y dylai’ch tîm ddechrau arnyn nhw. Ceisiwch beidio â bod yn rhy uchelgeisiol ar y pwynt yma; cofiwch nad oes rhaid i chi wneud popeth ar unwaith – nid ar redeg mae aredig.
5. Adnoddau i gefnogi gwaith uwchsgilio digidol
Pan fyddwch chi wedi penderfynu pa feysydd rydych chi’n mynd i ganolbwyntio arnyn nhw ar gyfer uwchsgilio digidol, dylech chi allu dod o hyd i lu o adnoddau ar-lein i gefnogi’r gwaith yma. Er efallai y byddai’n braf cael hyfforddwr unigol i roi gweithdy ar y naill bwnc neu’r llall, nid yw hyn yn fforddiadwy, nac yn arbennig o angenrheidiol yn y rhan fwyaf o achosion.
Dyma rai enghreifftiau o ble gallwch chi ddod o hyd i adnoddau:
- Mae gan YouTubefideos yn rhad ac am ddim ar sut i wneud bron unrhyw beth a bron yn sicr ar beth bynnag mae eich gwirfoddolwyr eisiau dysgu amdano. O Microsoft Office i ddechreuwyr i ddylunio newyddlen, o hygyrchedd ar-lein i gydymffurfiaeth GDPR, mae fideo i bopeth! Gall gwirfoddolwyr ddefnyddio hyn i archwilio eu maes diddordeb eu hunain neu gellir defnyddio fideos i ategu gweithdai rydych chi’n eu gwneud gyda’ch gilydd fel tîm.
- Skillsharear gyfer cyrsiau manylach a thywysedig am becynnau meddalwedd gwahanol, sy’n arbennig o dda ar gyfer rhaglenni creadigol ar olygu delweddau a fideos. Mae cost fisol am y wefan yma.
- Mae gan Web Accessibility Initiativegynghorion ynghylch sut i wneud pob elfen o’ch gweithgareddau ar-lein yn hygyrch ar gyfer pobl ag anableddau.
- AgeUKar gyfer pobl â sgiliau digidol cyfyngedig Mae gan Age UK ddigon o adnoddau ynghylch dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiaduron, ffonau clyfar, a llechi.
- Google Digital Garage– cyrsiau defnyddiol a chynhwysfawr am farchnata digidol sy’n addas i ddechreuwyr sy’n rhoi cychwyn ar gyfathrebu ar-lein.
- Free Code Campar gyfer gwirfoddolwyr uchelgeisiol sydd am ddysgu sut i godio, dyma wefan sy’n rhad ac am ddim a all, gyda rhywfaint o ymroddiad ac amser, ddod â chi o fod yn ddechreuwr llwyr i ddewin gwefannau.
- Ac wrth gwrs, yr Hwb Treftadaeth Ddigidol— mae gan y wefan benodol yma atebion i lawer o’r cwestiynau a allai fod gan eich gwirfoddolwyr am sgiliau digidol – beth am eu rhannu gyda nhw?
Gallai fod cyfleoedd cost-effeithiol hefyd i’ch gwirfoddolwyr uwchsgilio yn eich cymuned leol. Er enghraifft, gallai fod sefydliad treftadaeth arall yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer prosiect digidol. Beth am ddod ynghyd? Gallan nhw hyfforddi’ch gwirfoddolwyr yn yr hyn y mae angen help arnyn nhw ag ef, a gall eich tîm chi ddod â’r arbenigedd yma a syniadau i’ch sefydliad.
Hefyd yn eich cymuned, efallai bod llyfrgell neu brifysgol neu ysgol a fyddai’n hapus i adael i’ch sefydliad ddefnyddio ystafell gyfrifiadurol am ychydig oriau’r wythnos. Gallai cydweithio o’r fath esgor ar gyfleoedd eraill ar gyfer uwchsgilio digidol yn eich sefydliad.
6. Y tri awgrym gorau ar uwchsgilio’ch tîm
1. Gofynnwch i bobl ddod at ei gilydd mewn ystafell
Os yw’n bosibl, os ydych chi’n hyfforddi pobl ar sgìl penodol – yn defnyddio darn o feddalwedd neu’n creu gwefan gyda’ch gilydd, mae’n bwysig rhoi pobl mewn ystafell gyda chyfrifiadur yr un. Drwy wneud hynny, maen nhw’n gallu gofyn cwestiynau a helpu ei gilydd os ydyn nhw’n cael problem. Efallai nad oes gennych fynediad i gynifer â hynny o gyfrifiaduron; os felly y mae, gallech gysylltu â llyfrgell, neu brifysgol, neu ysgol leol a allai fod yn hapus i adael i’ch sefydliad ddefnyddio ystafell gyfrifiadurol ar sail un tro neu am ychydig oriau’r wythnos. Os nad yw’n bosibl i bobl ddod at ei gilydd mewn ystafell, mae gwneud sesiwn gyda’i gilydd dros Zoom yn ddewis arall.
2. Gwnewch yn siŵr bod eich tîm yn defnyddio’r sgiliau maen nhw’n eu dysgu
Efallai na fydd hyn yn gweithio’n ymarferol bob amser; efallai na fydd rhai pobl mor frwdfrydig a bydd yn well ganddyn nhw gadw at wirfoddoli traddodiadol. Ond ceisiwch wneud yn siŵr bod cynllun yn ei le ar gyfer y cyfnod ar ôl yr hyfforddiant – er enghraifft, os yw grŵp yn uwchsgilio mewn dylunio graffeg, gwnewch yn siŵr bod gwaith dylunio graffeg iddyn nhw ei wneud (poster unwaith y mis, graffeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol unwaith yr wythnos). Drwy wneud hyn, byddan nhw’n atgyfnerthu’r gwersi maen nhw wedi’u dysgu ac yn parhau i wella. Ceisiwch osgoi rhoi o’ch amser a’ch adnoddau i sgiliau nad ydyn nhw’n ddefnyddiol i’ch sefydliad.
3. Peidiwch â disgwyl canlyniadau anhygoel dros nos
O ran sgiliau digidol, gall gymryd amser i weld canlyniadau. Er enghraifft, os bydd gwirfoddolwr yn cymryd cyfrifoldeb dros gyfrif Twitter, ni ddylech chi synnu nad ydych chi wedi ennill 1000 o ddilynwyr o fewn mis. Bydd yn cymryd amser iddyn nhw ddarganfod pa fath o negeseuon Twitter sy’n cael ymateb da gan eich cynulleidfa, hyd yn oed os ydyn nhw’n gwybod y mecanwaith o ran sut mae’r wefan yn gweithio, ac maen nhw’n postio’n rheolaidd. Yn yr un modd, efallai y bydd dyluniad newyddlen yn mynd drwy sawl fersiwn cyn i chi gael un sy’n denu darllenwyr i glicio drwodd i’ch gwefan neu archebu tocynnau i ddigwyddiadau. Meddyliwch yn y tymor hir, a dros amser, daw’r canlyniadau’n amlwg.
7. Mynediad a chynhwysiant
Byddwch yn ymwybodol o rai o’r rhesymau y gall pobl fod yn betrusgar i ddefnyddio cyfrifiaduron neu’r rhyngrwyd. Ni fydd gan bawb fynediad i’r un offer gartref, neu rywun yn eu bywyd sy’n gallu eu cefnogi. Mewn sesiynau hyfforddi, ceisiwch ddarganfod beth a allai fod yn dal rhywun yn ei ôl, neu eu gwneud yn amharod i gymryd rhan. Os yw’n bosibl, gallai’ch sefydliad ddarparu rhywfaint o offer i wirfoddolwyr ar fenthyg, neu sicrhau eu bod ar gael i’w ddefnyddio yn y swyddfa. Mae llawer o addasiadau y gallwch eu gwneud yn y gosodiadau er mwyn gwneud cyfrifiadur yn haws i rywun ag anableddau ei ddefnyddio.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried anghenion mynediad pobl, ac yn gwneud addasiadau yn unol â hynny. Gallwch ymgyfarwyddo ag egwyddorion hygyrchedd a sut i wneud addasiadau o’r fath (naill ai i’r feddalwedd neu’r galedwedd) yn y Web Accessibility Initiative.
Byddwch yn ymwybodol o rai o’r rhesymau y gall pobl fod yn betrusgar i ddefnyddio cyfrifiaduron neu’r rhyngrwyd. Ni fydd gan bawb fynediad i’r un offer gartref
neu rywun yn eu bywyd sy’n gallu eu cefnogi.
8. Casgliad
Mae’r canllaw yma wedi darparu trosolwg eang o ddechrau ar y gwaith o uwchsgilio’ch gwirfoddolwyr i ddefnyddio cyfrifiaduron a gwahanol fathau o feddalwedd. Y peth pwysicaf i’w bwysleisio yw bod deunydd hyfforddi ar-lein sy’n manylu ar bob un o’r sgiliau y sonnir amdanyn nhw yn yr erthygl yma, yn aml yn ddi-gost. Mae pori drwy’r Hwb Treftadaeth Ddigidol yn ffordd wych o ddysgu mwy am yr hyn sydd ar gael a all helpu’ch sefydliad. Pob lwc ar eich taith uwchsgilio digidol.
Browse related resources by smart tags:
Digital engagement Digital exclusion Digital volunteers Training Volunteers
Please attribute as: "How to improve the digital skills of your volunteers (2022) by Amy Todd and Liam Cunningham supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0