How do I know which items in our collection I can share online? A guide to copyright and sharing your collection online
1. Beth yw hawlfraint?
Yn y DU, mae cyfraith hawlfraint yn seiliedig yn bennaf ar Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 (CDPA) a diwygiadau dilynol iddi. Mae hawlfraint yn rhan o grŵp o ‘hawliau eiddo deallusol’, sydd hefyd yn cynnwys nodau masnach, dyluniadau a phatentau, a gwybodaeth gyfrinachol. Mae hawliau moesol a’r hawl cronfeydd data yn gysylltiedig. Mae hawlfraint yn hawl gyfreithiol unigryw ac aseiniadwy sy’n diogelu gwaith gwreiddiol, sy’n aros yn awtomatig gydag awdur neu greawdwr cyntaf y gwaith hwnnw, neu eu cyflogwr. Mae’n rhoi’r hawl iddynt, am nifer sefydlog o flynyddoedd, atgynhyrchu, argraffu, cyhoeddi, lledaenu’n electronig, perfformio, neu ei gofnodi. Yn aml bydd awduron yn neilltuo neu’n trosglwyddo perchnogaeth hawlfraint i drydydd parti. Gallai hyn fod i unigolyn neu sefydliad arall fel cyhoeddwr, amgueddfa, neu archif. Nid oes gofyniad i gofrestru’r gwaith na hawlio hawlfraint, er bod y symbol hawlfraint ©, gydag enw’r awdur a’r dyddiad, yn cael ei ddefnyddio’n aml.
Dewis amgen yn lle pennu hawlfraint yw rhoi trwydded. Gall fod angen talu am drwyddedau, er, yn fwyfwy, mae casgliadau ar gael yn rhydd o gost fel rhai mynediad agored neu gyda thrwyddedau creative commons licences. . Os ydych chi’n cynnig eich casgliadau ar-lein gyda thrwydded i’w hailddefnyddio, mae’n bwysig sicrhau eich bod yn dewis y drwydded briodol ar gyfer eich sefydliad, a’ch bod yn deall ei goblygiadau.
2. Beth mae hawlfraint yn ei ddiogelu, ac am ba hyd?
Mae gweithiau dan hawlfraint yn dod o fewn un neu fwy o’r categorïau canlynol, ac mae pob un ohonynt yn cael ei ddiffinio’n llawnach yn y ddeddfwriaeth. Ym mhob achos, mae hawlfraint yn dod i ben am hanner nos ar 31 Rhagfyr y flwyddyn olaf.
Gweithiau artistig
Gall y rhain fod yn ffotograffau (printiedig a digidol, gan gynnwys y rhai ar gyfryngau cymdeithasol), paentiadau, darluniau, posteri a mapiau, neu weithiau tri dimensiwn megis cerfluniau. Mae’r rhain wedi’u diogelu am oes y tarddwr, ac am 70 mlynedd ar ôl eu marwolaeth. Fodd bynnag, mae hawlfraint y Goron yn cael ei diogelu am 50 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn pan grëwyd y gwaith (byddai hyn yn berthnasol i rai gweithiau gan gynnwys mapiau a stampiau). (Am fwy ar hawlfraint y Goron gweler adran 3).
Gweithiau llenyddol
Gweithiau ysgrifenedig yw’r rhain, sy’n defnyddio llythrennau a rhifau. Gallent gynnwys erthyglau papurau newydd, geiriau caneuon, llythyrau, adroddiadau, rhestrau, amserlenni a cherddi, yn ogystal â nofelau. Does dim goblygiad o deilyngdod llenyddol. Mae’r rhain wedi’u diogelu yn y DU ac mewn llawer o wledydd eraill ar gyfer oes y creawdwyr ac am 70 mlynedd ar ôl eu marwolaeth. Ar gyfer gweithiau heb eu cyhoeddi gan awduron hysbys, mae’r hawlfraint yn para’n hirach. Ni ellir dyfarnu hawlfraint i un gair unigol, er y gall fod nodau masnach sy’n gysylltiedig ag ef.
Gweithiau dramataidd
Mae’r rhain yn cael eu perfformio, fel dramâu, bale a dawns. Mae’r hawlfraint yn para am oes y creawdwr ac am 70 mlynedd ar ôl eu marwolaeth.
Cerddoriaeth
Mae hawlfraint cerddoriaeth ddalen yn para am oes y creawdwr ac am 70 mlynedd ar ôl eu marwolaeth. Mae hawlfraint recordiadau sain yn para 70 mlynedd o’r flwyddyn pan gawsant eu creu.
Darllediadau
Mae hyn yn cynnwys teledu neu radio, ac mae’r hawlfraint yn para 50 mlynedd o ddiwedd blwyddyn y darllediad cyntaf.
Ffilmiau
Mae hawlfraint ffilmiau’n para am oes y bobl a gymerodd ran yn y gwaith o’u creu, ac am 70 mlynedd ar ôl marwolaeth yr olaf ohonynt.
Trefniant teipograffig
Gosodiad tudalen yw hyn. Mae’n diogelu’r ymdrech sy’n gysylltiedig â chreu cyfuniadau o deipwynebau, delweddau a cholofnau, megis ar dudalen papur newydd neu gynllun poster. Mae hawlfraint yn para 25 mlynedd o ddiwedd blwyddyn y trefniant.
Mae gan lawer o weithiau sawl math o hawliau a sawl perchennog hawliau. Er enghraifft, bydd llyfr yn dod o dan fwy nag un categori. Mae’n debyg bod ei glawr yn waith artistig a gall hefyd fod yn waith llenyddol, os oes ganddo destun estynedig, yn ogystal â threfniant teipograffig. Gwaith llenyddol fydd cynnwys y llyfr, ni waeth p’un ai ffuglen neu ffeithiol ydyw. Gall fod lluniau neu ddarluniau o fewn y llyfr.
3. Hawlfraint y goron a’r Senedd
Mae hawlfraint y Goron yn cael ei diffinio fel gweithiau a wnaed gan swyddogion neu weision y Goron wrth gyflawni eu dyletswyddau. Mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth, codau ymarfer y llywodraeth, mapio’r Arolwg Ordnans, adroddiadau’r llywodraeth, datganiadau swyddogol i’r wasg a nifer o gofnodion. Y drwydded ddiofyn ar gyfer y rhan fwyaf o hyn yw’r Drwydded Llywodraeth Agored. Nid yw’r tymor safonol o 70 mlynedd ar ôl marwolaeth yr awdur neu’r creawdwr yn berthnasol i waith o dan hawlfraint y Goron. Diogelir deunydd newydd hawlfraint y Goron sydd heb ei gyhoeddi gan hawlfraint am 125 mlynedd o’i ddyddiad creu. Mae deunydd hawlfraint y Goron sydd wedi’i gyhoeddi yn cael ei ddiogelu am 50 mlynedd o’i ddyddiad cyhoeddi. Roedd hawlfraint y Goron hefyd yn arfer cynnwys deunyddiau seneddol; fodd bynnag, ers 1988, mae gan ddeunyddiau a grëwyd ar gyfer Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi statws penodol yn y gyfraith fel rhai sy’n cael eu diogelu gan hawlfraint seneddol. Mae hawlfraint seneddol mewn gwaith llenyddol, dramatig, cerddorol neu artistig yn para 50 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn galendr pan wnaed y gwaith.
4. Rheol 2039
Rhoddwyd rheol 2039 ar waith oherwydd nad oedd unrhyw ddyddiad i’r hawlfraint ddod i ben ar gyfer gweithiau oedd heb eu cyhoeddi – er bod yr hawlfraint yn dod i ben 70 mlynedd ar ôl i awdur gwaith wedi’i gyhoeddi farw. Cafodd hyn ei newid ym 1989, pan ddaeth y CDPA i rym drwy ddarparu cyfnod pellach o 50 mlynedd, hyd 2039, pan fydd yr hawlfraint mewn gweithiau sydd heb eu cyhoeddi lle bu farw’r awdur cyn 1969 yn dod i ben.
5. Eithriadau i hawlfraint
Mae rhai eithriadau i hawlfraint sydd fel arfer wedi cael eu gwneud er budd y cyhoedd. Mae’r rhain yn cael eu hamlygu yn y diweddariadau i ddeddfwriaeth hawlfraint yn 2014, ac yn sail iddyn nhw i raddau helaeth mae’r cysyniad o ‘fasnachu teg’.
Gall hyn fod ar gyfer:
- Ymchwil anfasnachol neu astudiaeth breifat, ar gyfer beirniadaeth neu adolygiad, ar gyfer dyfyniad, ar gyfer adrodd newyddion, neu ar gyfer dychanu, parodi neu pastiche.
- Copïo at ddiben gloddio data neu destun
- Copïo ar gyfer pobl ag anableddau
- Deunydd sy’n cael ei rentu neu ei fenthyg gan sefydliadau penodol
- Dibenion addysgol
- Gweinyddiaeth gyhoeddus
- Copïo gan lyfrgelloedd, amgueddfeydd neu archifau ar gyfer eu cwsmeriaid, neu at ddibenion benthyciadau rhwng llyfrgelloedd
6 Hawliau moesol
Yn ogystal â hawlfraint, mae hawliau eraill sy’n perthyn yn agos i’w gilydd y mae angen eu hystyried cyn rhannu gwaith ar-lein. Mae hawliau moesol yn ymwneud â chydnabod, anrhydeddu a diogelu enw da’r awdur neu’r creawdwr.
Maen nhw’n rhoi’r hawl i’r awdur neu’r creawdwr:
- gael ei h/enwi fel y creawdwr (hawl awduraeth)
- gwrthwynebu bod rhywun arall yn cael ei adnabod yn anghywir fel y creawdwr
- gwrthwynebu triniaeth ddilornus o’r gwaith (hawl triniaeth ddifrïol/hawl cyfanrwydd)
7 Hawliau perfformwyr
Mae gan y perfformiwr rai hawliau i berfformiad. Gall perfformiad gynnwys drama, dawns, meim, perfformiad cerddorol, neu ddarlleniad. Mae hefyd yn cynnwys traddodi darlith, sy’n rhywbeth i’w gadw mewn cof os oes gennych ffilm o gynhadledd neu bethau tebyg. Nid yw’n ddibynnol ar a yw cynnwys yr hyn sy’n cael ei berfformio dan hawlfraint; y perfformiad ei hun sy’n cael ei ddiogelu. Mae’r hawl yn cael ei thorri os yw rhywun, er enghraifft, wedi ffilmio’r perfformiad a’i ddarlledu neu ei rannu ar-lein heb ganiatâd y perfformiwr. Mae hawliau perfformwyr fel arfer yn para 50 mlynedd o ddiwedd y perfformiad.
8 Nodau masnach
Mae nodau masnach yn cynnwys arwydd sy’n hynodi nwyddau a gwasanaethau masnachwr. Gall yr arwydd yma gynnwys lluniau, geiriau, logos, neu gyfuniad o unrhyw rai o’r rhain. Gall y rhain ddigwydd ar bosteri, er enghraifft. Gallwch wirio ar-lein i weld a yw nod masnach wedi’i gofrestru, a’i statws presennol.
9 Patentau
Gallai fod yn ddefnyddiol bod yn ymwybodol o batentau. Mae patentau’n diogelu syniadau sydd â phwrpas neu swyddogaeth. Mae gofyn mynd drwy broses ymgeisio a chofrestru i’w cael, ac maen nhw’n para 20 mlynedd ar y mwyaf. Er mwyn cael ei ddiogelu, rhaid i’r patent fod yn newydd ac ni ddylai’r ddyfais fod wedi bod ar gael i’r cyhoedd cyn y cais.
10 Goblygiadau diogelu data, gwybodaeth gyfrinachol a phreifatrwydd
Mae hefyd yn bwysig meddwl am ddiogelu data wrth benderfynu a ddylid rhannu rhywbeth ar-lein. Mae Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR (y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data) y DU yn rheoli sut y caiff eich data personol ei ddefnyddio. Mae data personol yn wybodaeth sy’n ymwneud â phobl fyw y gellir eu hadnabod o’r data hwnnw. Os ydych yn sicr bod y person yn eich ffotograff wedi marw, yna ni fydd diogelu data yn berthnasol mwyach. Os ydych yn rhannu ffotograffau neu wybodaeth am bobl fyw, dylid gofyn am eu caniatâd.
Mae hyn yn cynnwys ffotograffau o gerbydau lle mae platiau eu trwydded i’w gweld a gellir adnabod y lleoliad. Dylid cymryd gofal ychwanegol wrth ddefnyddio ffotograffau o blant a phobl dan oed. Pan fo modd adnabod plentyn, dan 18 oed, mae angen caniatâd rhieni. Dylech chi fod yn arbennig o ofalgar bod yr hyn rydych chi’n dewis ei rannu ar-lein yn adlewyrchu blaenoriaethau a sensitifrwydd eich sefydliadau.
11 Comisiynu gwaith
Os ydych chi wedi comisiynu rhywun i greu gwaith i chi, fel tynnu lluniau, cyflwyno gweithdai neu ysgrifennu adroddiadau, nhw sy’n berchen ar yr hawliau i’w gwaith yn awtomatig oni bai eu bod wedi llofnodi contract sy’n neilltuo hawlfraint i’r person neu’r sefydliad sydd wedi comisiynu’r gwaith. Mae hyn yn golygu na allwch chi ei rannu ar-lein, ar eich gwefan, ar y cyfryngau cymdeithasol nac unrhyw lwyfan arall.
12 Y cyfryngau cymdeithasol
Er y gallwch chi reoli’r telerau y byddwch yn cadw atynt wrth rannu gwaith ar eich gwefan eich hun, pan fyddwch chi’n postio rhywbeth ar safle trydydd parti fel Facebook neu Twitter, rhaid i chi gadw at delerau ac amodau’r safle rydych yn cytuno â nhw pan fyddwch yn postio rhywbeth. Bydd trydydd partïon yn gallu defnyddio eich deunydd mewn unrhyw ffordd sy’n gydnaws â’u telerau.
Mae postio deunydd ar safle trydydd parti yn tybio:
- Mai chi sy’n berchen ar hawliau’r hyn rydych yn ei bostio.
- Eich bod yn rhoi i ddarparwr y llwyfan drwydded yn rhad ac am ddim, heb fod yn egscliwsif, y gellir ei his-drwyddedu, i ddefnyddio’ch gwaith. Mae hyn yn golygu eich bod hyd yn oed yn rhoi caniatâd iddyn nhw eu trosglwyddo i gwmnïau fel Getty Images at ddibenion masnachol.
- Eich bod yn rhoi i bawb arall sydd wedi cofrestru ar y safle drwydded am ddim, heb fod yn ecsgliwsif, i ddefnyddio’ch gwaith.
- Eich bod yn derbyn pob atebolrwydd os nad chi yw deiliad yr hawliau, ac os nad ydych yn dal yr holl hawliau i bostio’r deunydd.
Er bod postio ar y cyfryngau cymdeithasol yn ffordd wych o godi eich proffil a hyrwyddo eich casgliadau, mae’n bwysig bod yn glir am y telerau ac amodau rydych chi’n cytuno iddyn nhw. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn glir pwy sy’n berchen ar hawliau’r hyn rydych chi’n ei bostio a bod gennych hawl gyfreithiol i wneud hynny.
13 Gweithiau amddifad
Gwaith dan hawlfraint yw gwaith amddifad lle mae deiliad yr hawliau naill ai’n anhysbys neu na ellir ei olrhain. Mae hawlfraint gweithiau amddifad anhysbys neu weithiau amddifad sydd heb eu cyhoeddi yn dod i ben yn 2039, oni bai iddynt gael eu cyhoeddi neu eu bod ar gael i’r cyhoedd am y tro cyntaf cyn 1969; yn yr achos hwnnw, mae’r hawlfraint yn dod i ben 70 mlynedd ar ôl iddynt gael eu creu, neu eu cyhoeddi. Mae gennych opsiynau amrywiol os hoffech ddefnyddio gwaith amddifad:
- Gwneud dyfaliad gwybodus ynghylch pryd rydych chi’n meddwl bod hawlfraint yn debygol o ddod i ben, neu a yw eisoes wedi dod i ben. Dylech gynnal asesiad risg hawlfraint i benderfynu a ydych yn ei ddefnyddio ai peidio.
- Prynu trwydded ar gyfer Swyddfa Eiddo Deallusol y DU. Cofiwch, mae hyn yn para saith mlynedd yn unig, ac mae ar gyfer y DU, felly nid yw’n addas os ydych am rannu’r gwaith ar-lein, gan y byddai hyn yn fyd-eang.
- Defnyddio’r eithriadau i hawlfraint.
- Peidio â’i ddefnyddio os bydd y risg yn rhy uchel, neu os bydd yr adnoddau sydd eu hangen i gynnal chwiliadau rhesymol yn rhy fawr.
14 Rheoli risg ac asesiadau risg
Mae trin hawlfraint ac, at ddibenion yr adnodd hwn, penderfynu beth gallwch chi ei rannu ar-lein neu beidio, yn ymwneud cymaint â rheoli risg ag y mae’n ymwneud â’r gyfraith. Mae rheoli risg yn hanfodol i chi pan fyddwch yn penderfynu a yw rhywbeth dan hawlfraint neu ddim dan hawlfraint, ac a ydych chi’n dewis rhannu rhywbeth os nad oes gennych ganiatâd i wneud hynny. Mae sawl ffordd o ddehongli llawer o’r geiriau a ddefnyddir mewn perthynas â hawlfraint, megis ‘masnachol’, ‘rhesymol’, ‘cyhoeddus’ ac ati. Os gwnaed ymdrechion rhesymol i olrhain perchnogion yr hawliau, ac mae gennych dystiolaeth i ddangos hyn, yna mater i’ch sefydliad yw cymryd risg ofalus ynghylch a ddylid rhoi rhywbeth ar-lein. Yr enw ar hyn yw ‘diwydrwydd dyladwy’. Weithiau, mae gormod o haenau o hawliau, a gormod o berchnogion hawliau gwahanol, i wneud ymchwilio i’r hawliau a chael clirio neu drwyddedau yn werth yr amser y bydd angen i chi ei fuddsoddi.
Mae angen i’ch sefydliad fod â strategaeth tuag at risg. Ni waeth beth yw safbwynt eich sefydliad, mae angen iddo fod â gweithdrefn hysbysu a chymryd i lawr fel bod modd tynnu rhywbeth o’ch gwefan yn syth os oes problem. Rhaid i’ch sefydliad hefyd fod â’r yswiriant indemniad angenrheidiol i dalu am unrhyw hawliadau posibl.
Ystyriwch gynnal asesiad risg ar gyfer eich casgliadau. Os yw’r risg yn isel, ystyriwch fynd yn eich blaen. Os yw’r risg yn uchel, ceisiwch gael caniatâd perchennog yr hawlfraint i ddefnyddio’r deunydd. Os yw’r risg yn uchel ac nad yw perchennog yr hawliau yn ateb, yn gwrthod caniatâd, neu’n gofyn am symiau afresymol am ganiatâd, peidiwch â defnyddio’r deunydd. Mae angen ystyried risgiau o ran enw da a risgiau ariannol. Mae’r risg hefyd yn dibynnu ar ai defnydd masnachol neu anfasnachol yw’r defnydd a wneir o’r eitemau. Os yw’ch sefydliad yn amharod i fentro, bydd angen buddsoddi mwy o amser i chwilio ar-lein, cysylltu â sefydliadau eraill a allai helpu, o bosibl, ac ysgrifennu at ddeiliaid hawliau.
15 Sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol
Mae’n bwysig bod eich sefydliad yn rhoi gweithdrefnau priodol ar waith i sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol a diogelu eiddo deallusol eich sefydliad yn ddigonol. Mae’n bwysig hefyd bod polisïau a materion hawlfraint yn cael eu cyfathrebu i staff a’u cynnwys mewn hyfforddiant. Dylai’r penderfyniad i rannu rhywbeth ar-lein neu beidio fod yn unol â pholisïau eich sefydliad.
Dylai polisi hawlfraint roi sylw i’r canlynol:
- Perchnogaeth Hawliau Eiddo Deallusol
- Defnyddio deunyddiau y mae eu Hawliau Eiddo Deallusol yn eiddo i hawliau trydydd parti
- Caniatâd i drydydd partïon ddefnyddio Eiddo Deallusol sefydliadol
- Rheoli Hawliau Eiddo Deallusol, gan gynnwys diogelu Hawliau Deallusol sy’n eiddo i’r sefydliad
- Mynediad i gynnwys a ddelir gan y sefydliad
- Cydnabod trydydd partïon
- Beth i’w wneud pan dorrwyd Hawliau Eiddo Deallusol eich sefydliad
- Eich dull gweithredu wrth ymdrin â gweithiau amddifad
- Eich polisi a gweithdrefnu ‘hysbysu a chymryd i lawr’
- Hawliau cysylltiedig
- Ymdrin â hawliau moesol
- Pwy sydd â’r awdurdod i wneud penderfyniadau
- Camau ar gyfer delio â chwynion a honiadau o dor-hawlfraint
- Dolenni â ffynonellau gwybodaeth megis Swyddfa Eiddo Deallusol y DU
- Gwybodaeth ar wefannau
- Telerau ac amodau
- Polisïau defnydd derbyniol
- Cofrestri risgiau a chynlluniau gweithredu
16 Cynghorion defnyddiol
- Cynhaliwch archwiliad hawliau o’ch casgliadau
- Cofiwch fod hawlfraint yn ymwneud cymaint â rheoli risg ag y mae’n ymwneud â’r gyfraith
- Cynhaliwch asesiad risg hawlfraint i benderfynu beth i’w rannu ar-lein (gweler y templed).
- Sicrhewch fod gennych bolisi cymryd i lawr clir ar eich gwefan
- Byddwch yn glir am delerau ac amodau cyn rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol a safleoedd trydydd partïon eraill
- Gwnewch yn siŵr bod gan eich sefydliad yswiriant indemniad priodol i dalu am unrhyw hawliadau am dor-hawlfraint
17 Teclynnau a thempledi
Mae Naomi Korn Associates wedi darparu nifer o declynnau a thempledi yn rhad ac am ddim, gan gynnwys
Darllen pellach
- Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1998 (legislation.gov.uk)cyfeiriwyd ati 09/04/2022
- Deddf Diogelu Data 2018 Data Protection Act 2018 (legislation.gov.uk)cyfeiriwyd ati 09/04/2022
- Canllaw y Swyddfa Eiddo Deallusol (2021). Hysbysiad Hawlfraint: Hyd hawlfraint (cyfnod) Hysbysiad Hawlfraint: Hyd hawlfraint (cyfnod) – GOV.UK (www.gov.uk) Cyrchwyd 09/04/2022
- Resources — Naomi Korn AssociatesCyrchwyd 09/04/2022
- Oppenheim, C., Muir, A., a Korn, N. 2020. Information Law. Compliance for librarians, information professionals and knowledge managers. Facet Publishing.
- Padfield, T. 2019. Copyright for Archivists and Record Managers, 6ed argraffiad, Facet Publishing.
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "How do I know which items in our collection I can share online? A guide to copyright and sharing your collection online (2022) by Dr. Katharine Walker, Naomi Korn Associates supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0





