English

Sut galla i greu ffrydiau refeniw ychwanegol o'm casgliad ar-lein?

Gyda'r disgwyl na fydd twristiaeth ryngwladol i Brydain yn dychwelyd i'r lefelau a welwyd cyn y pandemig tan 2025, ar ben toriadau'r adeg o gyni, mae'r erthygl yma gan Chris Sutherns o Naomi Korn Associates yn amlinellu sut gall sefydliadau ddefnyddio cynnwys digidol i gynhyrchu incwm.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
several small tins on a table
Photo by Roman Kraft on Unsplash

How can I create additional revenue streams from my collection online?

1. Rhagarweiniad

A alla i greu ffrydiau refeniw ychwanegol o’m casgliad ar-lein?

Mae effaith y pandemig COVID-19 wedi bod yn eithriadol o anodd ar sefydliadau treftadaeth. Mae sefydliadau wedi gorfod ymbalfalu â’r penbleth ynghylch sut i annog mynediad ac ymgysylltiad â’u casgliadau, tra bod ymwelwyr wedi bod yn gyndyn neu’n methu â dod drwy’r drysau; ac mae hyn wedi arwain at yr angen i gynhyrchu refeniw hanfodol y tu hwnt i ffioedd gwerthu tocynnau, mannau gwerthu bwyd a siopau ar y safle. Mae orielau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth wedi edrych fwyfwy tuag at ddatrysiadau digidol.

Gyda’r disgwyl na fydd twristiaeth ryngwladol i Brydain yn dychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig tan 2025, ar ben toriadau’r adeg o gyni, sut gall sefydliadau ddefnyddio cynnwys digidol i gadw’r goleuadau ymlaen? Er nad oes ateb cyflym i gynhyrchu incwm, ac mae angen cynnwys hyn yn rhan o fodel busnes sydd wedi’i gostio’n ofalus, mae nifer o opsiynau y gellid eu hystyried.

 

2. Trwyddedu cynnwys

Mae sefydliadau treftadaeth yn creu deunydd aruthrol, ac mae llawer ohono’n darparu cyfleoedd trwyddedu. Os oes gan eich sefydliad y staff, y profiad, yr adnoddau a’r seilwaith, gellid hwyluso hyn yn fewnol neu fel arall drwy law asiant cynrychioliadol fel Bridgeman Images neu Mary Evans, er y byddan nhw, wrth gwrs, yn cymryd cyfran o’r refeniw maen nhw’n ei gasglu. Gall trwyddedu fod ar sawl ffurf a dylid ei grefftio i wasanaethu cynulleidfaoedd, cyllid a blaenoriaethau sefydliad. Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau’r DU yn cymhwyso model cyfunol i’w gweithgareddau trwyddedu, gan ganiatáu yn aml i ddefnyddwyr ddefnyddio delweddau am ddim o fewn prosiectau ysgolheigaidd, anfasnachol neu bersonol cyfyngedig, tra bod prosiectau masnachol, delweddau o ansawdd uwch neu ddeunydd sy’n destun hawliau trydydd parti ychwanegol yn cael eu trwyddedu’n gyfnewid am ffioedd.

Yn draddodiadol, mae trwyddedu wedi canolbwyntio’n bennaf ar ffotograffiaeth casgliadau; fodd bynnag, mae sefydliad yn cynhyrchu swmp sylweddol fwy o gynnwys sydd o ddiddordeb i eraill. Mae lluniau gosodiadau o arddangosfeydd ac arddangosiadau, archifau, cofnodion, deunydd marchnata a dehongli oll yn gallu denu cynulleidfaoedd gwerthfawr, gan greu straeon llawnach ac ysbrydoli syniadau newydd. Cynyddodd cwmnïau cynhyrchu teledu a ffilm eu deunydd o ddeunydd archifau cryn dipyn yn ystod y pandemig, wrth iddyn nhw geisio dod o hyd i opsiynau creadigol i geisio gwneud yn iawn am gyfyngiadau ar ffilmio. Ers i’w gwefan newydd gael ei chyflwyno ym mis Mawrth 2020, mae Tate Images wedi rhoi pwys mawr ar ffotograffiaeth yng ngweithgarwch ehangach Tate, gan awgrymu’r bwriad i fod yn gynrychioliadol o’r sefydliad cyfan yn hytrach nag o’r casgliad yn unig.

 

3. Trwyddedu brand

Dywedir yn aml mai brand, logo ac enw da sefydliad yw eu hasedau pwysicaf a mwyaf gwerthfawr. Mae sicrhau bod y rhain yn cael eu diogelu gan nodau masnach mewn ardaloedd daearyddol a meysydd cynnyrch priodol yn caniatáu i sefydliadau fynd i bartneriaethau gyda chwmnïau masnachol o fri er budd y ddwy ochr. Er enghraifft, mae rhaglen drwyddedu brand y V&A wedi cynnig cynnyrch trwyddedig ar draws nwyddau’r cartref, gemwaith, dillad a deunydd ysgrifennu ar draws 72 o wledydd. Mae gan yr Amgueddfa Hanes Naturiol, Grŵp yr Amgueddfa Wyddoniaeth a’r Amgueddfa Brydeinig raglenni trwyddedu brand sydd wedi’u sefydlu’n dda. Wrth feddwl am greu ffrydiau refeniw ychwanegol o’ch casgliad ar-lein, cofiwch am gynulleidfaoedd a chyfleoedd rhyngwladol.

 

4. Rhoddion ac aelodaeth

Y ffordd symlaf o godi refeniw yn syml, yw gofyn. Mae gofyn am roddion yn gyffredin ar y safle er nad oes rheswm pam na ddylai fod yr un mor ymarferol yn rhithwir a gellid amlygu hyn ar dudalennau gwe eich casgliadau ar-lein. Caiff defnyddwyr gynnig cynnwys ychwanegol sylweddol drwy wefannau ac adnoddau digidol sefydliadau. Y tu allan i’r sector treftadaeth, mae’r Guardian wedi osgoi dilyn llawer o bapurau newydd sydd wedi mabwysiadu waliau talu drwy ofyn yn llwyddiannus am gymorth gan eu darllenwyr ar-lein naill ai dro ar ôl tro neu am roddion untro. Yn yr un modd, ni fydd yn rhaid i ddefnyddwyr Wikipedia aros yn hir cyn iddyn nhw gael ceisiadau am gyfraniadau ariannol.

Mae llawer o sefydliadau’n rhoi pwys aruthrol ar eu cynlluniau aelodaeth, lle caiff aelodau gynnig mynediad am bris gostyngol, mynediad ychwanegol a gostyngiadau yn gyfnewid am gymorth ariannol rheolaidd. Drwy gynnig cynllun aelodaeth haenog, gellir rhoi mwy o fuddion yn gyfnewid am gymorth haelach.

Mae Amgueddfa’r RAF (y Llu Awyr Brenhinol) wedi dilyn arweiniad llawer o sŵau drwy gynnig ‘mabwysiadu’ arteffactau yn y casgliad. Mae modd mabwysiadu arteffactau am flwyddyn ar y tro am ffi o rhwng £25 a £2000. Mae cynlluniau fel y rhain yn darparu mwy o ymlyniad ymysg cefnogwyr â’r sefydliad ac yn arwain at ymgysylltiad uwch dros amser.

 

5. Tocynnau Anghyfnewidiadwy (NFTs – Non-Fungible Tokens)

Mae twf anosgoadwy tocynnau NFT (tocynnau anghyfnewidiadwy) wedi agor ffrwd incwm newydd bosibl. Ym mis Mai 2021 gwerthodd The Uffizi docynnau NFT yn gysylltiedig â Doni Tondo Michelangelo am $170,000. Roedd yn cynnwys fideo byr o’r gwaith wedi’i gyflwyno fel darn unigryw ac awdurdodedig o gelf, ynghyd â thystysgrif lofnodedig gan gyfarwyddwr Uffizi. Ymunodd Yr Amgueddfa Brydeinig â’r maes hefyd, gan gynnig tocynnau o The Great Wave Hokusai am brisiau o €799 i €4999 a bydd detholiad o ddyfrlliwiau gan J.M.W. Turner yn dilyn yn 2022.

Fodd bynnag, am mai ‘perchnogaeth’ o docyn digidol yn unig mae prynu tocyn NFT yn ei rhoi i’r prynwr, yn hytrach nag unrhyw hawliau yn y gwaith ei hun, mae dal cryn ansicrwydd am ba werth ychwanegol sy’n cael ei greu i gyfiawnhau’r prisiau chwyddedig, yn arbennig mewn achosion lle mae cynnwys union debyg ar gael am ddim mewn mannau eraill. Efallai, yn bwysicach, mae cwestiynau moesegol y mae’n rhaid eu hystyried mewn perthynas ag ‘ailwerthu’ treftadaeth a grëwyd gan eraill, neu’r hyn sy’n destun dadlau neu faterion eraill o sensitifrwydd. Mae pryder sylweddol hefyd am yr effaith amgylcheddol niweidiol a grëwyd gan y gofod anferthol sydd ei angen ar weinyddion er mwyn hwyluso trafodion a sicrhau nad oes modd copïo tocynnau.

 

6. Creu cynnwys newydd arloesol i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd

Mae Canolfan ac Amgueddfa Genedlaethol yr Holocost (NHCM) yn cynhyrchu fideos o gyfweliadau â goroeswyr yr holocost, gan greu hawlfraint newydd yn y fideos yn ogystal ag yn nhrawsgrifiadau’r cyfweliadau. Mae NHCM yn rhagorol am ddefnyddio ac ailwampio’r cyfweliadau hyn yn greadigol ac yn sensitif i gyfathrebu atgof yr holocost at ddiben cyfoes. Er enghraifft, gweithiodd NHCM gyda chwmni cynhyrchu digidol i greu hologramau 3D o oroeswyr sy’n ateb cwestiynau sy’n cael eu gofyn gan y gynulleidfa gan ddefnyddio dull adnabod llais. Trwyddedwyd y cyfweliadau rhyngweithiol hyn i’w defnyddio yn y pecyn dysgu ar-lein Belsen 75 mewn partneriaeth â Holocaust a sefydliadau addysgol eraill.

Gweithiodd NHCM hefyd â’r artist hip-hop Kapoo, i blethu’r cyfweliadau i mewn i fideo addysgol ac adnodd ar-lein. Mae’r wefan, Edek, wedi ennill llawer o wobrau ac mae hefyd wedi’i henwebu am lawer o wobrau eraill.

 

7. Cynnwys y telir amdano

Mae natur ddemocrataidd y rhyngrwyd wedi creu’r gamdybiaeth mewn rhai cylchoedd bod cynnwys ar-lein bob amser am ddim, fodd bynnag o ystyried y buddsoddiad a’r arbenigedd sydd eu hangen, nid yw’n afresymol codi tâl am fynediad i gynnwys premiwm sy’n darparu rhagor o fewnwelediad neu werth ychwanegol. Mae’r cynnydd mewn gwasanaethau ffrydio a’r angen am gynnwys, darllediadau neu berfformiadau digidol arloesol yn lle neu’n ychwanegol i’r profiad byw drwy gydol y pandemig wedi dangos bod llawer o bobl yn hapus i dalu am gynnwys am bris priodol ar-lein.

Mae Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Birmingham wedi cyflwyno sawl menter greadigol gan ddefnyddio technoleg ddigidol i gynyddu ymgysylltiad a chynhyrchu refeniw. Mae Birmingham Museums on Demand yn caniatáu mynediad unigryw ar-lein i danysgrifwyr i ddwy ddarlith newydd a dwy sgwrs bob mis yn gyfnewid am ffi fisol o £20. Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Birmingham hefyd yn cynnig teithiau ar-lein drwy Zoom ar dair rhan wahanol o’r casgliad yn ogystal â sesiynau ysgol ar-lein, yn ddarostyngedig i ffioedd.

At hynny, nhw oedd y sefydliad treftadaeth cyntaf i bartneru’n swyddogol â’r gêm fideo, Occupy White Walls. Mae’r gêm yn caniatáu i ddefnyddwyr guradu eu harddangosfa rithwir eu hunain gan gynnwys gwaith celf o bob cwr o’r byd heb gyfyngiadau gofod ffisegol. Mae algorithm y gêm yn caniatáu i ddefnyddwyr ddarganfod mwy o waith celf a allai apelio atyn nhw.

 

8. Arbenigedd mewnol

Mae rhedeg sefydliad treftadaeth yn fusnes amrywiol a chymhleth, ac felly mae sefydliadau, yn naturiol, yn troi’n storfeydd i lwythi o wybodaeth a chrebwyll. O ddylunio arddangosfeydd i dechnegau cadwraeth, i wybodaeth o’r casgliadau, gallai llawer o’r arbenigedd yma fod o gryn fudd a diddordeb i sefydliadau eraill, endidau masnachol, a’r cyhoedd. Gellir manteisio’n ariannol ar fynediad i’r wybodaeth swmpus yma drwy weminarau, gweithdai, arddangosiadau neu wasanaethau cynghori.

 

9. Casgliad

Gall creu datrysiadau digidol i alluogi manteisio’n ariannol ar asedau fod yn dasg frawychus; bydd camu allan i’r parth yma’n gofyn yn y pen draw am ddatblygu, buddsoddi, ac mewn rhai achosion, cyngor cyfreithiol. Fodd bynnag, gydag ymagwedd feiddgar a chreadigol, mae’r defnydd clyfar ac effeithiol o dechnoleg yn hyn o beth yn gallu cynnig posibiliadau newydd anfesuradwy, o ran cynhyrchu refeniw ac ymestyn cyrraedd fel ei gilydd.

Yr allwedd i lwyddo yw dealltwriaeth dda o werth asedau eich sefydliad, ond hefyd dealltwriaeth o’r amrywiol segmentau o’r gynulleidfa a allai elwa o’r asedau hyn. Drwy adnabod ein cynulleidfaoedd a’u hanghenion cysylltiedig, mae cyfle gwych i deilwra datrysiadau yn unol â hyn — ac o bosibl, yr un mor bwysig — i ddemocrateiddio mynediad i ddiwylliant. Mae casglu data wrth wraidd hyn. Yn ogystal â’r meysydd sydd wedi’u hamlygu yn yr erthygl yma, mae’r camau breision a chyflym mewn gwyddoniaeth data Deallusrwydd Artiffisial, a chyfathrebu, yn darparu cyfleoedd pellach i fentrau arloesol gynhyrchu refeniw ac ymestyn y profiad o dreftadaeth gyffredin y byd, y tu hwnt i’r gofod ffisegol, gyda chynulleidfaoedd newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli.

 

 

 

Published: 2022
Resource type: Articles


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "How can I create additional revenue streams from my collection online? (2022) by Chris Sutherns, Naomi Korn Associates supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 

Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo