English

Sut ydw i’n cael caniatâd i ddefnyddio deunydd pobl eraill yn fy ased trwyddedig agored?

Yn yr adnodd hwn, mae Uwch Ymgynghorydd Naomi Korn Associates, Debbie McDonnell, yn disgrifio'r hyn y mae angen i chi ei wybod wrth geisio am ganiatâd i ddefnyddio cynnwys pobl eraill sydd dan hawlfraint yn eich ased trwyddedig agored. Mae hyn yn cynnwys ystyried trwydded Creative Commons sy'n ofynnol fel rhan o grantiau Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac mae'n cynnwys Templed Cytundeb Trwydded defnyddiol.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
Hand holding mobile phone taking photo of cliffs and seascape
Photo by Oscar Sutton on Unsplash

How do I gain permission to use other people’s material in my open licensed asset?

1. Beth yw ased trwyddedig agored?

Bwriad y canllaw hwn yw eich helpu chi a’ch sefydliad i symud drwy’r broses o gael caniatâd gan bobl eraill i gynnwys eu deunydd dan hawlfraint yn eich ased trwyddedig agored. Asedau trwyddedig agored yw mathau o gynnwys creadigol sydd ar gael i bawb eu defnyddio, eu rhannu a’u haddasu, yn rhad ac am ddim, o dan drwydded agored. Mae trwydded agored yn ganiatâd ymlaen llaw sy’n caniatáu i unrhyw un rannu ac addasu cynnwys creadigol heb orfod cysylltu â deiliad yr hawliau. Mae llawer o gyllidwyr, fel Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn gwneud trwyddedu agored yn ofyniad i sicrhau bod deunyddiau sy’n cael eu hariannu ar gael am ddim i’r cyhoedd.

Os ydych chi am i’ch cynulleidfa ailddefnyddio’ch asedau’n hawdd, mae trwydded agored yn wahoddiad clir iddynt wneud hynny. Fodd bynnag, mae rhaid i chi gael caniatâd penodol gan ddeiliad yr hawliau i gyhoeddi o dan drwydded agored, neu yn ôl y gyfraith, ni chaniateir i chi sicrhau bod yr ased ar gael.

Mae’n bosib bod y deunydd dan hawlfraint rydych chi am ei ymgorffori yn eich ased trwyddedig agored eisoes yn bodoli, neu gallai’r deunydd fod wedi’i greu o’r newydd i chi gan gyflenwyr, creawdwyr wedi’u comisiynu, cydweithwyr di-dâl neu aelodau o’r cyhoedd. Bydd angen i chi gael caniatâd i ddefnyddio’r deunydd dan hawlfraint yn eich ased trwyddedig agored ni waeth ai deunydd newydd neu ddeunydd sy’n bodoli eisoes yw’r deunydd o dan hawlfraint. Fodd bynnag, os yw’ch ased trwyddedig agored ond yn cynnwys deunydd newydd sydd wedi’i greu’n uniongyrchol gennych chi neu weithwyr yn eich sefydliad, chi neu eich sefydliad fydd yn berchen ar yr hawlfraint i gyd, ac nid oes angen i chi ddefnyddio’r canllaw hwn.

 

2. Pryd mae angen i chi gael caniatâd?

Os ydych am ymgorffori deunydd rhywun arall yn eich ased trwyddedig agored, eich cyfrifoldeb chi fydd cael caniatâd gan ddeiliad(-aid) yr hawliau. Mae deunyddiau megis delweddau, celfweithiau, testun, cerddoriaeth, neu fideos yn cael eu diogelu gan hawlfraint yn awtomataidd, ac ni ellir eu hailddefnyddio na’u haddasu heb ganiatâd. Deiliad hawliau’r deunydd fyddai’r creawdwr, oni bai i’r deunydd gael ei greu yn rhan o gyflogaeth y creawdwr neu ei drosglwyddo mewn contract i ddeiliad hawliau newydd. Mae ffeithlun ynghylch sut i gael caniatâd i ddefnyddio deunydd dan hawlfraint ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefannau. Mae trwyddedu agored yn gais ychwanegol a dylid trafod hyn gyda deiliad yr hawliau cyn gynted â phosibl. Mae gan ddeiliad yr hawliau ryddid llwyr i roi neu wrthod caniatâd i ymgorffori eu deunydd dan hawlfraint yn eich ased trwyddedig agored.

Os yw deiliad yr hawliau yn cytuno i’ch cais, dylech eu helpu i benderfynu a ddylent ganiatâu i’w deunydd dan hawlfraint gael ei drwyddedu’n agored yn yr un modd â gweddill yr ased, neu gael ei drwyddedu i’w ddefnyddio yn yr ased yn unig.

Os yw deiliad yr hawliau yn gwrthod caniatâd, mae’n bosibl y bydd hyn yn effeithio ar eich cynlluniau ar gyfer eich ased trwyddedig agored, felly mae’n bwysig gofyn am ganiatâd yng nghamau cynnar eich prosiect, a bod yn barod i chwilio am ddeunydd arall os gwrthodir caniatâd.

Os caiff y deunydd ei greu’n arbennig i’ch ased trwyddedig agored gan gyflenwyr, creawdwyr wedi’u comisiynu, cydweithwyr di-dâl neu aelodau o’r cyhoedd, mae cyfle i wneud trwyddedu agored yn ofyniad pan fyddwch yn comisiynu’r cynnwys neu’n gofyn amdano.

 

3. Pryd na fydd angen caniatâd?

Prin iawn yw’r amgylchiadau pan nad oes angen caniatâd hawlfraint.

Os yw hawlfraint wedi dod i ben, mae’r deunydd yn pasio i’r parth cyhoeddus a gellir ei ddefnyddio yn ddidrafferth heb ganiatâd. Mae’r rhan fwyaf o ddeunydd a ddefnyddir ar-lein yn dal i fod dan hawlfraint am fod hawlfraint yn para am amser hir. Fel arfer mae hawlfraint yn diogelu deunydd yn ystod oes creawdwr y deunydd ac am 70 mlynedd pellach ar ôl iddynt farw. Yn 2022, mae hawlfraint fel arfer wedi dod i ben ar gyfer unrhyw ddeunydd lle bu farw’r creawdwr cyn 1952.

Gallwch ddefnyddio asedau trwyddedig agored pobl eraill heb ganiatâd cyn belled â bod eich defnydd yn dod o dan delerau’r drwydded. Er enghraifft, os ydych am ymgorffori deunydd a gynigiwyd o dan drwydded Briodoli Creative Commons , mae angen i chi ddilyn telerau’r drwydded i sicrhau eich bod yn cydnabod y creawdwr, darparu dolen i’r drwydded a nodi os gwnaed unrhyw newidiadau. Fodd bynnag, mae angen i chi gael caniatâd os ydych am addasu deunydd ac mae telerau’r drwydded yn nodi “Dim Deilliadau/No Derivatives”.

Gallwch gynnwys dolen i gynnwys rhywun arall cyhyd â’ch bod yn cysylltu â gwefan sydd ar gael yn gyhoeddus am ddim. Ni ddylech gysylltu â chynnwys sy’n torri hawlfraint.

 

4. Eithriadau Hawlfraint

Ychydig iawn o eithriadau a geir i gyfraith hawlfraint sy’n berthnasol i asedau trwyddedig agored. Mae eithriadau hawlfraint yn wahanol o wlad i wlad, felly mae rhaid i chi fod yn ofalus wrth eu defnyddio ar gyfer adnoddau ar-lein. Fodd bynnag, mae’r eithriad dyfynnu yn ymddangos yn aml yn rhyngwladol ac felly mae’n bosibl y gallai sefydliadau treftadaeth ei ddefnyddio i gyfiawnhau defnyddio deunydd dan hawlfraint ar-lein.

Mae’n bosibl y bydd modd ichi ddefnyddio darn o ddeunydd rhywun arall, cyn belled â bod y darn mor fyr â phosibl at eich pwrpas penodol, mae’r deunydd hawlfraint eisoes wedi’i gyhoeddi (gan gynnwys ar-lein), a’ch bod yn darparu digon o gydnabyddiaeth (yn ddelfrydol y teitl, enw’r awdur a chydnabyddiaeth hawlfraint). Mae rhaid i’ch defnydd hefyd barhau’n deg i ddeiliad yr hawliau, er enghraifft, drwy ddangos nad ydych yn amddifadu deiliad yr hawliau’n ddiangen o ffi drwydded, neu fod defnyddio’r darn yn cefnogi archwilio’r deunydd neu thema benodol. Dylech fod yn barod bob amser i gyfiawnhau pam rydych wedi dibynnu ar eithriad hawlfraint yn lle gofyn am ganiatâd. Mae’n risg uwch dibynnu ar eithriad hawlfraint os ydych yn defnyddio deunydd dan hawlfraint mewn ased trwyddedig agored oherwydd natur trwydded agored. Dylech sicrhau bod unrhyw ddefnydd o eithriad hawlfraint yn cydymffurfio ag agwedd eich sefydliad tuag at risg.

 

5. Cael caniatâd cyflenwyr a chreawdwyr wedi’u comisiynu – deunydd newydd

Os ydych yn talu cyflenwyr i greu deunydd newydd ar gyfer eich ased trwyddedig agored, argymhellir eich bod yn gwneud trwyddedu agored yn ofyniad yn y contract fel ei bod yn glir nad fyddwch yn talu am ddeunyddiau oni bai y sicrheir eu bod ar gael i’w hailddefnyddio o dan drwydded agored. Mae cyflenwyr a chreawdwyr wedi’u comisiynu yn cynnwys ffotograffwyr, gwneuthurwyr ffilmiau neu awduron adnoddau nad ydynt wedi’u cyflogi gan eich sefydliad. Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi ariannu canllaw i hawlfraint a gweithio gyda chyflenwyr i greu cynnwys digidol sy’n egluro sut y bydd cytundeb ysgrifenedig yn helpu sefydliad treftadaeth i amlinellu’r hyn y mae’n ei ddisgwyl gan gyflenwyr o ran yr hawliau i ddefnyddio’r deunydd a gomisiynwyd. Dylai’r cytundeb gynnwys y gofyniad i sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau newydd ar gael o dan drwydded agored; nid oes angen cytundeb trwydded ar wahân. Mae’n bosibl y bydd rhai cyflenwyr yn codi ffi ychwanegol am yr hawl i sicrhau bod eu deunyddiau ar gael o dan drwydded agored.

Cofiwch, os bydd eich ased trwyddedig agored ond yn cynnwys deunydd newydd a grëwyd yn uniongyrchol gennych chi neu weithwyr yn eich sefydliad, chi fydd yn berchen ar yr hawlfraint, ac ni fydd angen cael caniatâd i gyhoeddi’ch cynnwys o dan drwydded agored.

Ar gyfer asedau a grëwyd gyda chyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae disgwyl y bydd yr holl ddeunyddiau sy’n cael eu creu ar gael o dan y cytundeb trwyddedu agored. Gallwch rannu Canllaw digidol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol sy’n trafod gweithio gyda thrwyddedau agored gyda’r cyflenwyr a’r creawdwyr wedi’u comisiynu i esbonio manteision trwyddedu agored. Mae’n bosibl gofyn am eithriad i’r gofyniad trwyddedu agored gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a defnyddio trwydded fwy cyfyngedig a fyddai ond yn eich caniatáu i chi ddefnyddio’r deunydd dan hawlfraint yn yr ased trwyddedig agored gyda chydnabyddiaeth hawlfraint yn egluro bod y deunydd yn dal i gael ei ddiogelu gan hawlfraint.

 

6. Cael caniatâd cydweithwyr di-dâl neu aelodau o’r cyhoedd – deunydd newydd

Os nad ydych yn talu cyfranwyr i greu deunydd newydd ar gyfer eich ased trwyddedig agored, mae angen i chi ofyn am ganiatâd penodol gan y cyfrannwr i gyhoeddi’r deunyddiau hynny o dan drwydded agored. Mae enghreifftiau o gyfraniadau gan gydweithwyr di-dâl yn cynnwys delweddau, fideos ac ysgrifennu a grëwyd gan wirfoddolwyr, aelodau o’r cyhoedd neu gyfranogwyr mewn gweithdai.

Deiliad hawliau’r deunydd fyddai’r creawdwr oni bai bod y deunydd yn cael ei greu fel rhan o gyflogaeth y creawdwr neu ei drosglwyddo mewn contract i ddeiliad hawliau newydd. Er y gallech fod wedi datgan yn glir y bydd unrhyw gyfraniadau yn cael eu cynnwys yn yr ased trwyddedig agored, argymhellir eich bod yn cael caniatâd penodol oherwydd natur trwydded agored, sy’n caniatáu i unrhyw un rannu ac addasu cynnwys creadigol heb orfod cysylltu â deiliad yr hawliau.

Gallech ddefnyddio’r Cytundeb Trwydded Ddigidol Treftadaeth i gael caniatâd ac annog y cydweithwyr di-dâl i ddewis sicrhau bod eu cyfraniadau ar gael o dan drwydded CC BY (Opsiwn A). Mae angen i chi gadw copïau wedi’u llofnodi o unrhyw ganiatâd a roddwyd. Bydd y dystiolaeth hon yn hanfodol os bydd unrhyw anghydfod.

 

7. Cael caniatâd pobl eraill – deunydd sy’n bodoli eisoes

Os ydych am gynnwys deunyddiau sy’n bodoli eisoes dan hawlfraint yn eich asedau trwyddedig agored, mae angen i chi ofyn am ganiatâd penodol gan ddeiliad yr hawliau i ymgorffori’r deunyddiau hynny mewn unrhyw fodd, a chaniatâd ychwanegol i ganiatáu cyhoeddi o dan drwydded agored.

Bydd y ffeithlun yn helpu i’ch tywys drwy’r camau i gael caniatâd, o nodi’r deunydd i ddod o hyd i’r deiliad(-iaid) hawliau presennol a gofyn am ganiatâd. Mae angen i chi gadw copïau wedi’u llofnodi o unrhyw ganiatâd a roddwyd. Bydd y dystiolaeth hon yn hanfodol os bydd unrhyw anghydfod.

Argymhellir eich bod yn ei gwneud yn hawdd i ddeiliad yr hawliau gytuno i drwyddedu agored. Gallech ddefnyddio’r Cytundeb Trwydded Ddigidol Treftadaeth i gael caniatâd, sydd ag adran i chi ddarparu manylion eich ased trwyddedig agored a’r rhesymau pam rydych chi am i’r adnodd cyfan fod yn hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl o dan drwydded Briodoli Creative Commons. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu hyrwyddo manteision trwyddedu agored, a bod yn glir iawn pam eich bod yn ystyried bod trwyddedu agored yn hanfodol ar gyfer yr adnodd yr ydych am ei greu. Efallai y bydd gan ddeiliad yr hawliau ddiddordeb yn y cyfleoedd hyrwyddo y byddant yn eu cael yn sgil sicrhau bod eu cynnwys ar gael o dan drwydded agored, yn ogystal ag ehangu mynediad at dreftadaeth a galluogi defnyddiau newydd, arloesol ac entrepreneuraidd. Rhestrir manteision cyhoeddi o dan drwydded agored yng nghanllaw asedau Trwyddedig Agored Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a’i Chanllaw digidol sy’n trafod gweithio gyda thrwyddedau agored, y gellir ei rannu gyda deiliad yr hawliau i gryfhau’ch dadl.

Gallai fod yn ddefnyddiol ystyried natur y deunydd dan hawlfraint yr ydych am ei ymgorffori yn eich ased trwyddedig agored. Os crëwyd y deunydd er budd masnachol ac mae deiliad yr hawliau’n codi ffioedd trwyddedu yn rheolaidd i sefydliadau eraill ddefnyddio’r deunydd, efallai ei bod yn llai tebygol y byddant yn cytuno i’r deunydd gael ei gynnwys mewn ased trwyddedig agored.

 

8. Defnyddio’r Cytundeb Trwydded Ddigidol Treftadaeth i gael caniatâd

Mae’r Cytundeb Trwydded Ddigidol Treftadaeth wedi’i gynllunio i fod yn dempled hyblyg sy’n rhoi sawl opsiwn i ddeiliad yr hawliau ar gyfer defnyddiau a ganiateir, wedi’u grwpio’n Ddefnydd a Ganiateir mewn Adnoddau Agored a Defnyddiau a Ganiateir i Sefydliadau.

Opsiwn A
Os yw deiliad yr hawliau’n fodlon i’w ddeunydd dan hawlfraint fod ar gael o dan drwydded Briodoli 4.0 Creative Commons, dylent ddewis Opsiwn A yn y Cytundeb Trwyddedu. Bydd hyn yn glynu wrth ofyniad trwyddedu agored Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i gefnogi mynediad agored at y dreftadaeth gyfoethog yn y DU, a phosibiliadau cyffrous trawsnewid digidol yn y sector diwylliannol.

Opsiwn B
Fodd bynnag, gan fod deiliad yr hawliau yn drydydd parti ac ni chreodd eu deunydd gyda chyllid Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gall deiliad yr hawliau ddewis Opsiwn B i ganiatáu i chi ymgorffori eu deunydd o fewn eich ased trwyddedig agored, gan gydnabod deiliad yr hawliau, ond gadael i ddefnyddwyr wybod na ellir ailddefnyddio eu deunydd o dan drwydded agored. Gall fod rhesymau pam y caiff caniatâd ei ddal yn ôl, ac os felly, gellir eithrio’r cyfraniadau hyn fel eithriad o’r gofyniad trwyddedu agored. Mae’r Cytundeb Trwydded Ddigidol Treftadaeth yn darparu rhai enghreifftiau o sut y gall y gydnabyddiaeth edrych gyda’r drwydded agored wedi’i dethol neu hebddi.

Mae’r Cytundeb Trwydded Ddigidol Treftadaeth yn darparu enghreifftiau eraill o ddefnyddiau eraill a ganiateir i ganiatáu i’ch sefydliad ddefnyddio’r deunydd mewn ffyrdd eraill heb orfod gwirio fesul achos. Dylai fod gan ddeiliad hawliau ryddid llwyr i ddewis cynifer neu gyn lleied o ddefnyddiau a ganiateir ag y maent yn gyfforddus â nhw ar gyfer eu deunydd hawlfraint. Fodd bynnag, mae’n ddefnyddiol i ddeiliad yr hawliau gael cymaint o gyd-destun â phosibl i’w helpu i ddod i’w penderfyniad, yn enwedig ynghylch manteision trwyddedu agored a manylion eich ased sydd wedi’i drwyddedu’n agored (yr Adnodd Agored).

Mae angen i chi gadw copïau wedi’u llofnodi o unrhyw ganiatâd a roddwyd, gan gynnwys y Cytundeb Trwydded Ddigidol Treftadaeth. Bydd y dystiolaeth hon yn hanfodol os bydd unrhyw anghydfod.

Lawrlwytho Cytundeb Trwydded Ddigidol Treftadaeth [Word 145kb]

 



More help here


How do I gain permission to use in-copyright material on social media and websites?

Gaining copyright permission is very important when sharing content online. This step-by-step guide by Debbie McDonnell from Naomi Korn Associates will help you to understand when you need to ask for permission to use content you do not own the rights to and how to go about asking and documenting that process.

 
Painting of a little girl deep in thought holding a pencil to her mouth.

What do I need to know about open licensed assets?

In this resource, Naomi Korn Associates’ Senior Consultant Debbie McDonnell breaks down what you need to know about open licensed assets; what they are, what the implications of using them on your heritage organisation’s digital content is and how you can use other people’s openly licensed content in your own work.

 
Published: 2022


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "How do I gain permission to use other people’s material in my open licensed asset? (2022) by Debbie McDonnell, Naomi Korn Associates supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 


More help here



Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo