Podcast: How do I make a podcast on a shoestring?
1. Rhagarweiniad
Busnes sefydliadau treftadaeth yw adrodd straeon. A does dim ffordd well o bosibl o gyfleu eich stori nag mewn podlediad. Nod podlediadau yw cael cynulleidfa i wrando arnyn nhw yn eu hamser eu hunain; maen nhw’n darparu digon o le am drafodaeth fanwl ar-lein, ac maen nhw’n gallu eich helpu i greu cysylltiad personol gyda’ch cynulleidfa.
2. Podlediad: Sut ydw i’n gwneud podlediad ar gyllideb dynn?
Gall dechrau eich podlediad eich hun fod yn beth brawychus, ond yn y bennod yma, rydyn ni am ddangos i chi pa mor hawdd mae’n gallu bod. Ymunwch â Heritage Digital a thri gwestai uchel eu parch o’r sector treftadaeth wrth i ni drafod yr hyn y bydd ei angen arnoch chi i gychwyn arni ar eich taith podledu, gan gynnwys y syniadau a’r dechnoleg, a’r cwestiynau bydd angen i chi eu gofyn i chi’ch hun ar hyd y ffordd.
Ar gyfer y sgwrs yma, rydyn ni’n cael cwmni Amy Sykes, Swyddog Datblygu ac Ymgysylltu Digidol gyda Bodmin Keep; Daniel Watkins, Rheolwr Ystafelloedd Swyddogol a Thywyswyr yng Nghastell Alnwick; a Michael Netter, Swyddog Gwasanaethau Proffesiynol gyda sefydliad yr Institute of Historic Building Conservation. Mae dolenni at eu podlediadau eu hunain isod, yn ogystal â’r holl declynnau y sonnir amdanyn nhw yn y bennod.
Mae’r podlediad yma wedi’i gynhyrchu yn Saesneg ac mae trawsgrifiad Saesneg y gellir ei lawrlwytho. Rhowch wybod i ni os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi yn cyrchu’r cynnwys yma drwy e-bostio info@a-m-a.co.uk. Mae’r podlediad yma’n para 36 munud.
3. Adnoddau
Teclynnau ar gyfer golygu a recordio
Safleoedd i letya eich podlediad
Ble i gyhoeddi eich podlediad
Gwybodaeth am Grantiau Google Ad Grants
Podlediadau ein cyflwynwyr
Please attribute as: "Podcast: How do I make a podcast on a shoestring? (2022) by Laura Stanley, Charity Digital supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0