English

Sut ydw i’n dod o hyd i ddeiliaid hawliau ar gyfer cynnwys rwyf am ei rannu?

Bydd yr erthygl yma gan Chris Sutherns yn rhoi canllaw arfer gorau i chi am hawliau clirio i ddefnyddio gwaith pobl eraill ar-lein, gan eich galluogi i nodi pa weithiau y mae angen caniatâd ar eu cyfer, a sut i fynd ati.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
green and white typewriter
Photo by Markus Winkler on Unsplash

How do I find rights holders for content I want to share?

O ran cyfraith hawlfraint fel yr amlinellir yn Neddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988, nid yw defnyddio gwaith ar-lein yn wahanol i atgynhyrchu gwaith o fewn llyfr, cylchgrawn, ar y teledu neu unrhyw gynnyrch arall. Nid yw’r ffaith bod deunydd yn cael ei ddangos ar-lein gyda/neu heb symbol hawlfraint “©” yn golygu ei fod ‘yn y parth cyhoeddus’ a’i fod ar gael yn rhydd i bobl eraill ei ddefnyddio. Oni bai bod eich defnydd yn dod o dan unrhyw un o’r eithriadau i hawlfraint, gall methu â chael caniatâd angenrheidiol arwain at sawl canlyniad niweidiol, yn amrywio o ddifrod i enw da a pherthynas sefydliad ag eraill, prosiectau’n cael eu rhoi i’r neilltu neu eu tynnu’n ôl, i oblygiadau cyfreithiol costus. Felly, lle mae gweithiau’n destun hawlfraint (neu hawliau eiddo deallusol cysylltiedig eraill) a ddelir gan bobl eraill, mae’n bwysig cael caniatâd gan ddeiliad yr hawliau ar gyfer defnydd bwriadedig eich sefydliad. Gelwir hyn yn ‘ganiatâd’ neu’n ‘drwydded’.

Bydd yr erthygl yma’n rhoi’r canllaw arfer gorau i chi am hawliau clirio i ddefnyddio gwaith pobl eraill ar-lein, gan eich galluogi i nodi pa weithiau y mae cangen caniatâd ar eu cyfer, a sut i fynd ati.

 

1. Pa weithiau sy’n destun hawlfraint?

Mae hawlfraint yn awtomatig yn rhychwantu ag ystod eang o weithiau creadigol gwreiddiol gan gynnwys paentiadau, cerflunwaith, ffotograffiaeth, recordiadau sain, gweithiau digidol, testun a ffilmiau. Mae hyn yn rhoi’r hawl i ddeiliad yr hawlfraint benderfynu sut a ble mae’r gwaith yn cael ei ddefnyddio a’r opsiwn i godi ffioedd defnydd ar gyfer y defnydd hwnnw pe baen nhw’n dymuno.

Gan amlaf, mae hawlfraint yn para hyd at ddiwedd y 70fed flwyddyn ar ôl marwolaeth y creawdwr, felly er enghraifft, bu farw Pablo Picasso yn 1973, felly mae ei waith yn cael ei warchod gan ei hawlfraint hyd at hanner nos ar 31 Rhagfyr 2043.

Fodd bynnag, mae eithriadau i hyn, gan ddibynnu ar y math o waith, ac a gafodd ei gyhoeddi, er enghraifft:

  • mae gweithiau a gynhyrchwyd at ddibenion y wladwriaeth Brydeinig yn dod o dan Hawlfraint y Goron, sy’n para 50 mlynedd o’r dyddiad cyhoeddi cyntaf
  • mae hawlfraint yng nghynllun teipograffigol argraffiadau cyhoeddedig yn para 25 mlynedd o’r dyddiad cyhoeddi
  • mae hawlfraint mewn recordiau sain yn para 70 mlynedd o’r dyddiad cyhoeddi cyntaf
  • mae hawlfraint mewn darllediadau yn para 50 mlynedd o ddyddiad y darllediad cyntaf
  • gall hyd hawlfraint ar rai gweithiau sydd heb eu cyhoeddi bara tan ddiwedd 2039; gelwir hyn yn “rheol 2039”.

Felly, mae’n debygol y bydd llawer o’r gweithiau yr hoffech eu defnyddio yn destun hawlfraint ac angen caniatâd i’w defnyddio.

 

2. Pwy sy’n berchen ar yr hawlfraint?

Yn y lle cyntaf, deiliad hawlfraint y gwaith fydd y creawdwr (e.e. y peintiwr, y ffotograffydd, yr awdur), ac yna bydd yr hawlfraint yn pasio i’w hystâd pan fyddan nhw’n marw. Fodd bynnag, yn debyg iawn i unrhyw eiddo arall, gellir neilltuo neu werthu hawlfraint i barti arall.

Eto, ceir eithriadau i berchnogaeth hawlfraint; er enghraifft, bydd hawlfraint mewn gwaith a gynhyrchir fel rhan o swydd gweithiwr fel arfer yn cael ei dal gan eu cyflogwr. Felly, os oes gan sefydliad ffotograffwyr mewnol, bydd hawlfraint yn y ffotograffiaeth maen nhw’n ei chreu o fewn eu rolau yn eiddo i’r sefydliad. I’r gwrthwyneb, os yw sefydliad yn comisiynu ffotograffwyr allanol, bydd y ffotograffydd yn cadw hawlfraint eu ffotograffau oni bai bod cytundeb yn penderfynu fel arall. Mae’n bwysig nodi nad yw bod yn berchen ar waith yr un fath â bod yn berchen ar yr hawliau o fewn y gwaith hwnnw.

Gall rhai gweithiau fod yn destun hawliau a ddelir gan nifer o bobl, ar yr amod bod pob parti’n cyfrannu swm sylweddol o fewnbwn creadigol. Yn yr un modd, gall darn unigol o waith gynnwys sawl haen wahanol o hawlfraint sy’n berthnasol i rannau cydrannol, a phob un yn cael ei dal gan bobl wahanol. Er enghraifft, gallai un gân gynnwys hawlfraint o fewn y geiriau a ddelir gan awdur y geiriau, hawlfraint yn y gerddoriaeth a ddelir gan y cyfansoddwr, hawlfraint yn y trefniant a ddelir gan gyfansoddwr, yn ogystal â hawlfraint yn y recordiad sain a ddelir gan y cynhyrchydd.

Byddai pob un o’r cerddorion sy’n ymddangos yn y gân hefyd yn dal hawliau perfformwyr. Er y bydd llawer o ddeiliaid hawliau yn neilltuo hawliau i gwmnïau cyhoeddi neu’n caniatáu i hawliau gael eu clirio ar y cyd ar eu rhan drwy gymdeithasau clirio fel PRS for Music, mewn theori, gallai fod angen cael caniatâd gan bob un o’r deiliaid hawliau hynny ar wahân.

Mae hyn yn digwydd yn aml mewn ffotograffiaeth o waith celf neu ddaliadau eraill mewn amgueddfeydd. Mewn achosion lle mae’r gwaith celf ei hun yn destun hawlfraint yr artist, byddai angen caniatâd gan yr artist, eu hystâd, neu eu cynrychiolwyr. Fodd bynnag, gall ffotograffiaeth o’r gwaith celf hefyd fod yn destun hawlfraint a chyfyngiadau cytundebol neu delerau ac amodau eraill a fyddai’n golygu bod angen cael caniatâd ychwanegol gan y ffotograffydd neu’r sefydliad a greodd y ffotograff. Mae’n bwysig cofio, hyd yn oed os gallai hawlfraint o fewn gwaith celf dan sylw fod wedi dod i ben, efallai y bydd cyfyngiadau eraill yn gysylltiedig ag unrhyw ffotograffiaeth o’r gwaith hwnnw.

 

3. Dod o hyd i ddeiliaid hawliau

Mae llawer o lwybrau gwahanol y gellir eu cymryd wrth geisio adnabod a dod o hyd i ddeiliaid hawliau priodol. Bydd eich trefn o roi cynnig ar y rhain, ac effeithiolrwydd pob un, yn dibynnu ar y math o waith a’r wybodaeth sydd ar gael i chi, er y bydd y rhain yn rhoi sawl opsiwn pragmatig i chi:

  • Yn aml, bydd capsiynau a llinellau cydnabyddiaeth a ddefnyddir wrth ymyl achosion blaenorol o ddefnyddio weithiau gan yr un creawdwr mewn cyhoeddiadau neu ar-lein yn rhestru’r ffynhonnell, gan eich galluogi i chwilio ymhellach.
  • Gall Google image searchneu feddalwedd cydnabod delweddau arbenigol megis Picscout neu TinEye fod yn ddefnyddiol.
  • Yn aml, bydd gan greawdwyr byw orielau neu asiantau cynrychioliadol a all roi caniatâd ar eu rhan, neu a fydd â’u gwefannau eu hunain lle y gellir cysylltu â nhw. Ar ôl eu marwolaeth, gall creawdwyr uchel eu proffil fod ag elusennau, sefydliadau, amgueddfeydd, neu lyfrgelloedd a sefydlwyd yn eu henw a allai hefyd ddal neu ofalu am yr hawlfraint yn eu gwaith.
  • Mae The Watch File(‘Writers, Artists and their Copyright Holders’) yn gronfa ddata helaeth o fanylion cyswllt ar gyfer deiliaid hawliau, a reolir ar y cyd gan Ganolfan Harry Ransom, Texas a Phrifysgol Reading.
  • Bydd sefydliadau eraill sy’n dal, wedi defnyddio neu fenthyg gweithiau gan yr un creawdwr yn cadw cofnodion helaeth o ddeiliaid hawliau, a lle maent yn cael eu hawdurdodi, gallant basio’r rhain ymlaen i drydydd partïon. Gall y rhain gynnwys amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd, tai ocsiwn, cyhoeddwyr neu gasgliadau preifat. Yn yr un modd, mae llawer o artistiaid, awduron ac academyddion yn gweithio mewn prifysgolion, neu’n gysylltiedig â nhw, felly gellir cysylltu â nhw drwy dudalennau staff y prifysgolion.
  • Mae llyfrgelloedd lluniau ac asiantaethau trwyddedu cynnwys eraill yn gallu darparu ffeiliau i’w defnyddio. Dylen nhw hefyd allu tynnu sylw at le mae angen caniatâd ychwanegol a rhoi manylion cyswllt, lle bo hynny’n bosibl. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y byddan nhw hefyd yn cynnig gwasanaethau clirio hawlfraint ar ran rhai artistiaid a ffotograffwyr.
  • Mae llawer o gymdeithasau casglu sy’n ymgymryd â gweinyddu ceisiadau atgynhyrchu ar ran eu haelodau. Fel arfer, bydd y rhain yn canolbwyntio ar fath penodol o gyfryngau, er enghraifft, mae DACS yn gweithio ar ran artistiaid gweledol, tra bod PRS for Music yn cynrychioli cerddorion. Mae manylion sawl cymdeithas gasglu wedi’u cynnwys yn yr adran Dolenni Defnyddiol Pellach ar ddiwedd yr erthygl yma.
  • Os crëwyd gwaith yn benodol ar gyfer sefydliad, mae’n bosibl eu bod wedi cael yr hawlfraint yn y gwaith hwnnw, neu eu bod yn dal yr hawlfraint fel cyflogwr y creawdwr, felly mae bob amser yn werth i chi gysylltu â nhw.
  • Pan fyddwch yn gobeithio defnyddio testun pobl eraill, er bod awduron yn cadw eu hawlfraint, mewn llawer o achosion, tra bod y teitl mewn print, bydd yr awdurdod i roi caniatâd atgynhyrchu yn cael ei ddal gan y cyhoeddwr. Mae gan y rhan fwyaf o gyhoeddwyr adran hawliau penodol sy’n gofalu am geisiadau ail-ddefnyddio.
  • Os ydych yn ei chael hi’n anodd lleoli artistiaid ac awduron byw, gall fod yn ddefnyddiol pori drwy gyfeiriaduron ymholi ar-lein yn y wlad maen nhw’n debygol o fyw ynddi, neu efallai y byddwch hefyd yn ystyried hysbysebu mewn cylchgronau masnach perthnasol. Gall cronfa ddata cofnodion cyhoeddus swyddogol y DU, The Gazette, hefyd fod o gymorth wrth adnabod ystadau.

4. Cysylltu â deiliaid hawliau

Pan fyddwch yn cysylltu â deiliaid hawliau, mae sawl mater i’w ystyried a fydd yn eich helpu i gael y caniatâd sydd ei angen arnoch.

Yn gyntaf, dylech nodi pa hawliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y defnydd arfaethedig, ac amlinellu’r rhain yn glir ac yn gryno i ddeiliad yr hawliau; lle y bo hynny’n berthnasol, dylai hyn gynnwys:

  • Y gwaith (gweithiau) rydych am ei/eu (d)defnyddio.
  • Pwy ydych chi a’r hyn rydych yn ei wneud.
  • Cyd-destun a nodau’r defnydd/prosiect.
  • Ble caiff y gwaith (gweithiau) ei/eu (d)defnyddio (e.e. hafan dudalen, is-dudalen, y cyfryngau cymdeithasol).
  • Sut y bydd defnyddwyr yn gallu cyrchu’r deunydd.
  • Pa mor hir yr hoffech i’r gwaith (gweithiau) ymddangos ar-lein.
  • P’un a oes angen hawliau arnoch ar gyfer un defnydd neu nifer o ddefnyddiau amrywiol.
  • A oes angen y caniatâd ar gyfer eich sefydliad yn unig, neu a oes angen iddynt hefyd ganiatáu i bartneriaid cydweithredol eraill eu defnyddio?

Cofiwch y gall hawliau mwy, fel cyfnod trwyddedig amhenodol, dosbarthu byd-eang neu hawliau defnydd cynhwysfawr arwain at ffioedd mwy yn cael eu dyfynnu, neu hyd yn oed ceisiadau yn cael eu gwrthod.

Gall fod yn ddefnyddiol ymchwilio i ddeiliad yr hawliau cyn i chi gysylltu â nhw. Yna, gallwch geisio teilwra’ch dull gweithredu i gyd-fynd â’u blaenoriaethau, eu credoau, a’u hamcanion.

Mae’n ddoeth osgoi cynnwys rhagdybiaethau yn eich gohebiaeth, fel ystyried bod caniatâd wedi’i roi os nad ydych yn cael ymateb erbyn dyddiad penodol. Nid oes gan hyn sail yn y gyfraith, a gellir ystyried bod hyn yn weithred ryfygus neu annibynadwy, ac mae perygl o gythruddo deiliad yr hawliau. Yn ei dro, gall hyn gynyddu’r tebygolrwydd bod eich cais yn cael ei wrthod neu fod ffioedd uwch yn cael eu dyfynnu.

Sicrhewch bob amser bod caniatâd yn cael ei roi yn ysgrifenedig. Bydd hyn yn gwarantu y gellir troi at y caniatâd hwnnw pryd bynnag y bo angen, ac yn cyfyngu ar y posibiliad o unrhyw anghytuno ymhellach yn nes ymlaen.

Mae bob amser yn well gofyn i ddeiliad yr hawliau lofnodi dogfennau caniatâd a luniwyd gennych chi, os yw’n bosibl, gan y bydd hyn yn sicrhau bod gennych y caniatâd sydd ei angen, a’ch bod yn gwybod yn union beth sydd wedi’u caniatáu. Fodd bynnag, efallai na fydd llawer o ddeiliaid hawliau, yn enwedig y rhai sydd â gweithrediadau trwyddedu masnachol sydd wedi hen ennill eu plwyf, yn cytuno i hyn ac yn mynnu bod y defnydd yn cael ei benderfynu gan eu gwaith papur eu hunain. Os bydd hyn yn digwydd, peidiwch â phoeni, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cadw at y telerau a amlinellir, a pheidiwch â bod ofn holi am unrhyw beth nad ydych naill ai yn ei ddeall, neu rydych yn pryderu am gytuno iddo.

Mae achosion lle na fydd angen cysylltu â deiliad hawliau yn uniongyrchol er mwyn cael caniatâd. Mae llawer o sefydliadau nid-er-elw yn caniatáu defnydd rhydd o’u cynnwys a grëwyd drwy gymhwyso trwyddedau Creative Commons, neu eu polisïau mynediad pwrpasol eu hunain. Bydd y rhain yn cael eu hamlinellu ar wefan y sefydliadau. Cofiwch y bydd gan bob sefydliad bolisïau gwahanol, ac mae’n bosibl mai dim ond i rywfaint o gynnwys y bydd telerau’n berthnasol. Efallai y bydd gan sefydliadau ddealltwriaeth neu werthusiad gwahanol o’ch prosiect, hefyd, felly, os oes amheuaeth, mae’n ddoeth egluro hyn wrthyn nhw cyn defnyddio eu gwaith.

Yn naturiol, gall hyn i gyd gymryd cryn amser, adnoddau staff, a chyllideb, felly mae’n hanfodol bod y rhain yn cael eu hystyried ar y dechrau. Mae’n gallu cymryd mwy o amser i ddod o hyd i ddeiliaid hawliau, neu gallant gymryd mwy o ymateb i ymateb, nag rydych yn ei obeithio. Efallai y bydd angen trafodaeth bellach arnynt hefyd, neu y bydd pryderon ganddynt am eich defnydd, a allai olygu bod angen trafodaeth bellach, felly mae’n hanfodol caniatáu digon o amser i fynd i’r afael â’r clirio cyn dyddiad lansio arfaethedig eich prosiect.

Gall y telerau a bennir gan bob deiliad hawliau ar gyfer caniatáu i’w gwaith gael ei atgynhyrchu hefyd amrywio’n sylweddol. Efallai y bydd rhai yn hapus i’w gwaith gael ei ddefnyddio’n rhydd o gost gan eich sefydliad, tra bydd eraill yn disgwyl i ffioedd gael eu talu a/neu’n mynnu ar amodau cyfyngol. Felly, mae’n ddefnyddiol cytuno ar ffi gyfartalog fesul gwaith a chyfanswm cyllideb am achosion o glirio rydych yn fodlon talu amdanyn nhw ar gyfer y prosiect ar y cam cynllunio. Os yw deiliad hawliau yn gwrthod rhoi caniatâd i’ch gofynion, neu’n dyfynnu ffioedd defnydd y tu hwnt i’ch cyllideb, peidiwch ag ofni ailystyried eich opsiynau. Cofiwch fod gan ddeiliad hawliau hefyd yr opsiwn i atal caniatâd bob amser.

 

5. Cadw Cofnodion

Wrth glirio hawliau defnyddio, mae’n hanfodol cadw unrhyw ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r cais, gan gynnwys unrhyw e-byst neu lythyrau sydd heb gael ymateb, neu sy’n cael eu gwrthod. Mae’n ddoeth cadw taenlen neu gronfa ddata o’r holl weithredoedd ar gyfer pob prosiect; dylai hyn gynnwys y canlynol:

  • Pryd, sut a chan bwy yr ydych wedi ceisio cael caniatâd.
  • Manylion cyswllt deiliaid yr hawliau, cyn belled ag y bo modd o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.
  • A yw caniatâd wedi’i roi neu ei wrthod.
  • Yr wybodaeth ofynnol o ran llinellau cydnabyddiaeth a gwybodaeth capsiynu.
  • A oes angen i’r gosodiad gael ei gymeradwyo.
  • Pa gyfyngiadau neu derfynau defnydd sy’n berthnasol i’ch defnydd o’r gwaith.
  • Unrhyw rwymedigaethau pellach sy’n ofynnol gan ddeiliaid yr hawliau.
  • Pa ffioedd sy’n ddyledus neu sydd wedi’u talu.

Bydd hyn yn sicrhau bod gennych drosolwg cynhwysfawr o’r holl ganiatâd sydd ei angen ar gyfer eich prosiect, gan eich galluogi i gadw golwg ar eich cynnydd yn systemataidd, cyflawni telerau’r cytundeb a monitro unrhyw ofynion adnewyddu.

 

6. Gweithiau Amddifad a gweithiau di-enw

Bydd adegau pan na ellir adnabod creawdwr gwaith, neu pan na ellir lleoli eu hystâd; gelwir y rhain yn Weithiau Amddifad. O ganlyniad, gall fod yn anodd penderfynu sut orau y gellir defnyddio’r gweithiau hyn yn briodol, neu arwain at guddio’r gweithiau hyn mewn archifau a storfeydd. Mae gan sefydliadau ddau opsiwn pan fyddant yn gobeithio defnyddio gwaith amddifad:

Yr opsiwn cyntaf yw ystyried a ddylid bwrw ymlaen ar sail asesiad risg. Mae’n sicr nad gwyddor fanwl yw hyn, a bydd yn dibynnu ar awydd eich sefydliad am risg. Dylid barnu p’un a ydych chi’n bwrw ymlaen â defnyddio gwaith amddifad heb ganiatâd fesul achos. Dylid ystyried hefyd y math o waith, natur y defnydd a’r tebygolrwydd y bydd deiliad hawliau’n dod ymlaen neu’n gwrthwynebu’r defnydd.

Cyn penderfynu bwrw ymlaen ar sail rheoli risg, mae’n hanfodol gwerthuso sut y byddwch chi’n ymateb os bydd deiliad hawliau dilys yn dod ymlaen yn y dyfodol. Dylai hyn gynnwys cyhoeddi polisi “Tynnu i Lawr” clir, a llunio ymatebion cyffredinol ymlaen llaw. Efallai y byddwch chi hefyd am gynnwys ymwadiadau, yn esbonio eich bod wedi gwneud pob ymdrech, yn aflwyddiannus, i nodi deiliad yr hawliau a chysylltu â nhw, ac rydych bellach o’r farn mai gwaith amddifad yw’r gwaith, cynnwys llinellau cydnabyddiaeth priodol, a chadw arian wrth gefn i dalu am hawliau’n ôl-weithredol os bydd yn ofynnol i chi wneud hynny.

Opsiwn arall yw cael caniatâd drwy Gynllun Trwyddedu Gweithiau Amddifad y DU. Cyflwynwyd y cynllun hwn ym mis Hydref 2014 i ganiatáu defnyddio gweithiau amddifad o bob math yn gyfreithlon yn gyfnewid am ffioedd gweinyddu a thrwyddedu yn seiliedig ar y math o ddefnydd. Mae ffioedd trwyddedu yn cael eu casglu a’u dal ar gyfer deiliad yr hawliau pe baen nhw byth yn cael eu darganfod. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi mai dim ond hawliau ar gyfer defnydd yn y DU y gall y Cynllun Trwyddedu Gwaith Amddifad ganiatáu hawliau ar eu cyfer, a hynny am hyd at saith mlynedd.

 

7. Diwydrwydd dyladwy

Yn y ddau achos, mae’n hollbwysig eich bod yn arfer diwydrwydd dyladwy. Yn fras, mae hyn yn golygu eich bod wedi gwneud pob ymdrech resymol i nodi deiliaid yr hawliau a chysylltu â nhw. Eto, dyma pam mae mor bwysig cadw cofnodion trylwyr o’ch ymdrechion. Mae cysondeb hefyd yn bwysig yma; efallai y byddwch am osod canllawiau ynghylch faint o ffynonellau rydych yn cysylltu â nhw, a sawl gwaith rydych yn ceisio cysylltu â nhw cyn bwrw ymlaen â defnydd. Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol hefyd yn rhoi arweiniad defnyddiol pellach ar arfer diwydrwydd dyladwy.

Ni fydd y Cynllun Trwyddedu Gweithiau Amddifad yn rhoi unrhyw ganiatâd os nad yw’r ceisydd wedi arfer diwydrwydd dyladwy a chyflwyno hyn ymlaen llaw. Mae hefyd yn ddoeth cynnal yr un lefel o ymchwil i fwrw ymlaen ar sail asesu risg, er mwyn i chi allu dangos eich bod wedi defnyddio’r gwaith mewn ffydd dda pe bai gwrthwynebiad byth yn cael ei godi.

 

8. Casgliad

Mae cyfraith Hawlfraint y DU yn faes cymhleth, ac wrth reswm, gall y pethau ymarferol sydd o’i chwmpas fod yn frawychus i lawer o bobl. Mae hefyd llawer o gamsyniadau a mythau o hyd, sy’n gwneud pethau ychydig yn fwy dryslyd. Fodd bynnag, p’un a ydynt yn fawr neu’n fach, mae sefydliadau o fewn y sector treftadaeth yn creu eu hawlfraint eu hunain, yn defnyddio hawlfraint eraill, ac mae ganddynt gyfrifoldeb i barchu a diogelu hawlfraint eraill a gynrychiolir o fewn eu casgliadau. Yn fyr, mae hawlfraint yn llywio popeth rydyn ni’n ei wneud, ac yn effeithio ar bopeth hefyd.

Yn unol â hynny, mae’n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd sefydlu arfer gorau o ran gweithdrefnau clirio hawliau ar gyfer defnyddio gwaith a grëwyd gan eraill. Er y gall hyn ymddangos yn llethol, wrth gwrs, bydd mynd i’r afael â chlirio hawliau yn systemataidd gan ddefnyddio’r canllaw yma, a dyrannu amser ac adnoddau priodol yn sicrhau eich bod yn gallu clirio caniatâd yn effeithlon a bydd yn eich amddiffyn rhag perthnasoedd niweidiol neu drafferthion cyfreithiol ymhellach yn nes ymlaen.  Bydd clirio hawliau’n fwy cadarnhaol, yn y bôn, yn gwneud y gorau o botensial a chyrhaeddiad eich prosiectau, er budd creawdwyr, eich sefydliad, a’ch cynulleidfaoedd.

 



More help here


How do I gain permission to use in-copyright material on social media and websites?

Gaining copyright permission is very important when sharing content online. This step-by-step guide by Debbie McDonnell from Naomi Korn Associates will help you to understand when you need to ask for permission to use content you do not own the rights to and how to go about asking and documenting that process.

 

Browse related resources by smart tags:



Copyright Licence Licensing Permission Rights
Published: 2022
Resource type: Articles


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "How do I find rights holders for content I want to share? (2022) by Chris Sutherns, Naomi Korn Associates supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 


More help here



Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo