English

Archwilio rhai dulliau poblogaidd o ddefnyddio technoleg ddigidol a all gyfoethogi profiad y gynulleidfa

Er mwyn cynyddu gwerth technolegau newydd, gall fod yn ddefnyddiol ffurfio partneriaeth â sefydliadau ac ymgynghorwyr neu gomisiynu gwasanaethau arbenigol. Mae’r arweiniad hwn yn cynnig golwg gyffredinol ar y dulliau mwyaf poblogaidd o ddefnyddio technoleg ar safleoedd treftadaeth ac mewn amgueddfeydd, a hefyd ceir rhestr wirio er mwyn hwyluso eich penderfyniadau wrth ystyried buddsoddi mewn technolegau newydd.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
A castle with rowing boats in front of it on a lake
Image courtesy of VisitBritain © Lee Beel

Exploring some popular digital applications that can enhance the audience experience

1. Cyflwyniad

Mae gan safleoedd ac arddangosfeydd treftadaeth y potensial i ennyn dychymyg y cyhoedd a chynnig cysylltiad gwerthfawr â phwy ydym ni ac arwyddocâd y lle. Mae sefydliadau diwylliannol yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl – cynulleidfaoedd, y cyhoedd a rhanddeiliaid – a all elwa ar ffyrdd newydd o ymgysylltu â’r gorffennol. O’r herwydd, mae arloesi technolegol parhaus a’r angen i fabwysiadu technoleg o’r fath cyn bwysiced i amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth ag ydyw i ddiwydiannau masnachol.

Yn achos y technolegau diweddaraf a all gyfoethogi profiad y gynulleidfa, gall y dasg o’u harchwilio, eu hasesu a buddsoddi ynddynt yn y pen draw, fod yn waith costus a llafurus.

Yma, mae ein harbenigwr, Dr Stephen Dobson o Brifysgol Leeds, yn eich tywys trwy’r broses o benderfynu pa mor addas yw technolegau newydd i’ch sefydliad treftadaeth chi. Nod y canllawiau yw ategu ac arwain eich penderfyniadau wrth archwilio a ddylid buddsoddi mewn technoleg newydd. Hefyd, ceir rhestr wirio i’ch helpu i roi trefn ar eich ystyriaethau.

 

2. Trosolwg o’r technolegau sydd ar gael

Isod, nodir rhai o’r technolegau mwyaf poblogaidd ymhlith safleoedd treftadaeth ac amgueddfeydd.

Apiau arwain

Mae rhai sefydliadau wedi creu apiau pwrpasol y gall y cyhoedd eu lawrlwytho a’u defnyddio ar eu dyfeisiau symudol. Fodd bynnag, mae nifer o sefydliadau eraill yn defnyddio apiau sydd eisoes yn bodoli ar blatfformau presennol ac a ddefnyddir yn llwyddiannus gan sefydliadau treftadaeth ledled y byd. Yn 2021, lansiodd Parc Cerfluniau Swydd Efrog ap arwain newydd sy’n cynnig llwybrau cerdded trwy’r parc ynghyd â chynnwys sy’n galluogi’r defnyddwyr i ddarganfod gweithiau celf yr artistiaid drostynt eu hunain. Mae’r ap hefyd yn cynnwys adran i deuluoedd lle ceir syniadau i helpu rhieni i gynnal sgyrsiau dychmygus a chreadigol gyda’u plant fel y gellir meddwl a siarad am gerfluniau mewn lleoliad a fydd yn ychwanegu at arwyddocâd a phrofiad y lle.

Arteffactau 3D ac argraffu 3D

Ers peth amser, mae amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth wedi cynnig darluniadau ffotograffig 3D o arteffactau er mwyn i ragor o bobl allu cael mynediad atynt ac er mwyn i bobl allu eu trin mewn modd rhithwir. Mae hyn, fel arfer, yn golygu pwytho llu o ffotograffau gyda’i gilydd ar ffurf banoramig 360 gradd er mwyn creu fersiwn 3D rithwir ddiddorol o’r arteffact gwreiddiol.

Mae’r dechneg hon yn dal i fod yn bwysig o ran gwella mynediad at arteffactau a chyfoethogi profiadau trwy gyfrwng gwefannau. Fodd bynnag, trwy ychwanegu data cyfeintiol, gellir troi’r darluniadau hyn yn atgynyrchiadau 3D er mwyn cynyddu’r graddau y caiff ymwelwyr fynediad at arteffactau o fewn yr amgueddfa – gan ddiwallu angen yr ymwelwyr i gyffwrdd a thrin a thrafod gwrthrychau a fyddai, fel arall, yn rhy fregus.

Taflunio

Gellir defnyddio technoleg daflunio i fywiogi mannau a chyfoethogi profiad yr ymwelwyr. Caiff y dechnoleg hon ei defnyddio mewn nifer o ffyrdd gwreiddiol. Weithiau, caiff golygfeydd neu arteffactau eu taflunio yn y fan a’r lle i ail-greu elfennau o’r gorffennol; efallai y caiff y bensaernïaeth ei hun ei thaflunio er mwyn gwella dealltwriaeth y gynulleidfa. Gall y dulliau hyn fod yn ffyrdd diddorol iawn o gyflwyno treftadaeth ddiwylliannol.

Yn 2015, datblygodd TeamLab dafluniad yn dwyn y teitl ‘Universe of Water Particles’ ar wal allanol y Grand Palais ym Mharis. Efelychwyd rhaeadr mewn modd artistig trwy weithio allan sut y byddai’r dŵr yn syrthio dros fersiwn 3D o’r Palais, a thafluniwyd hyn ar y Grand Palais ei hun ym Mharis. Llwyddwyd i greu profiad a oedd yn weledol drawiadol.

Enghraifft arall o daflunio yw Profiad Ymgollol Van Gogh, sef arddangosfa sydd wedi bod ar daith ers 2017. Caiff paentiadau Van Gogh eu taflunio ar waliau ystafelloedd er mwyn i’r ymwelwyr deimlo eu bod oddi mewn i’r gweithiau celf.

A digital image of some Van Gogh paintings overlaid on to a stone building
Capsiwn: Profiad Ymgollol Van Gogh

Realiti Rhithwir

Yn ychwanegol at argraffu 3D a defnyddio modelau 3D i ategu technoleg daflunio, gellir defnyddio cynnwys 3D mewn profiad ymgollol a chwbl rithwir trwy wneud defnydd o bensetiau realiti rhithwir. Mae yna nifer o gwmnïau sy’n cynnig technolegau realiti rhithwir, ond isod nodir y darparwyr pensetiau realiti rhithwir mwyaf cyffredin sydd ar y farchnad ar hyn o bryd:

  • Oculus VR – arweinwyr y farchnad mewn perthynas â phensetiau o’r radd flaenaf. Mae gan y cwmni ei llyfrgell ei hun sy’n llawn gemau a phrofiadau. Yn ddiweddar, prynwyd Oculus gan Facebook Meta.
  • Google Cardboard – dull hynod rad a syml o efelychu profiad realiti rhithwir trwy ddefnyddio penset a ffôn clyfar.
  • HTC Vive – penset realiti rhithwir hynod boblogaidd ac o’r radd flaenaf sy’n defnyddio’r llyfrgell gemau cyfrifiadurol, Steam.

Er mwyn ichi allu elwaf i’r eithaf ar dechnoleg newydd ar gyllideb gyfyngedig, bydd angen ichi bwyso a mesur gwahanol opsiynau’n ofalus er mwyn dod o hyd i’r ateb iawn. Bydd modd i’r broses gaffael a nodir isod eich helpu i wneud penderfyniadau wrth fuddsoddi mewn technoleg newydd.

 

3. Y broses sydd ynghlwm wrth gaffael technoleg newydd

Mae’r dasg o asesu pa mor addas a phriodol yw unrhyw fuddsoddiad newydd yn cynnwys pum cam allweddol.

A blue arrow pointing right through squares labelled Planning, Identifying suppliers, Request for proposals, Negotiation and Implementation
Diagram of the stages of the procurement process explained in the text

1. Cynllunio

Wrth fynd i’r afael â phroses gaffael, bydd angen treulio cryn dipyn o amser yn cynllunio; ond mae’r cam hwn yn bwysig iawn o ran diffinio pam ydych chi angen yr ateb hwn a sut y bydd yn ategu eich nodau strategol. Ar ôl llunio eich strategaeth ddigidol, dylai’r angen i fuddsoddi fod yn gwbl glir. Meddyliwch beth yw eich nodau a’ch blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Os oes gennych arbenigwr neu dîm TG oddi mewn i’r sefydliad, cynhwyswch nhw yn y cam cynnar hwn. Archwiliwch y cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â’ch buddsoddiad arfaethedig. Po gliriaf fydd y rheswm dros fuddsoddi yn ystod y cam hwn, po fanylaf y gallwch fod wrth drafod eich anghenion gyda darpar gyflenwyr.

2. Dod o hyd i gyflenwyr

Yn ystod y cam hwn, byddai’n syniad da ichi ofyn i sefydliadau treftadaeth eraill am help i lunio rhestr o ddarpar gyflenwyr. Os ydynt wedi treialu a defnyddio technolegau tebyg, holwch nhw ynglŷn â’u profiadau. Ewch ati i gymharu eich anghenion chi gyda’r cynhyrchion a’r gwasanaethau a gynigir gan y cyflenwyr, er mwyn ichi allu llunio rhestr fer.

3. Gofyn am gynigion

Ar ôl ichi ddod o hyd i rai cyflenwyr allweddol, beth am ofyn iddynt gyflwyno cynigion a chostau cysylltiedig ar sail eich anghenion. Bydd y gwaith a wnaethoch yn ystod y cam cynllunio yn talu ar ei ganfed yn awr. Bydd unrhyw drafodaethau gyda sefydliadau eraill ynglŷn â’u profiadau yn eich helpu i bennu beth yn union rydych ei angen, a hefyd beth i’w osgoi. Ar ôl cael cynigion gan sawl cyflenwr, gallwch ddechrau eu cymharu â’i gilydd. Beth am sgorio’r cynigion yn erbyn eich anghenion trwy ddefnyddio graddfa o 1-10 er mwyn eich helpu i ddwyn cymhariaeth.

4. Trafod

Ar ôl ichi ddewis darpar gyflenwr, dylech ddechrau ar y gwaith trafod. Efallai y byddwch yn awyddus i leihau costau cyffredinol y gwasanaeth, ond efallai hefyd y byddai’n syniad da ichi archwilio pryd y caiff y gwaith ei gyflawni neu drafod addasiadau ychwanegol. Yn ystod y cam hwn, gwnewch yn siŵr fod eich ymddiriedolwyr a’ch staff TG yn gefnogol i’r broses. Yn y contract ei hun, byddai’n syniad da ichi gynnwys trefniadau ar gyfer hyfforddiant a chymorth technegol i’ch sefydliad. Bydd hyn yn sicrhau y gallwch ddatrys unrhyw broblemau a all godi wrth roi’r dechnoleg ar waith, megis diffyg technegol, hyfforddiant i’r staff neu anghysondeb rhwng y contract a’r hyn a roddir ar waith.

5. Gweithredu

Wrth ichi ddechrau rhoi’r dechnoleg newydd ar waith, ewch ati yn ystod pob cam i gadw llygad ar y costau gwirioneddol yn erbyn y costau a ragwelwyd. Er mwyn eich hwyluso yn hyn o beth, gwnewch yn siŵr bod y broses drafod yn cynnwys y costau ar gyfer pob agwedd ar y cam gweithredu. Efallai y bydd y cam gweithredu angen rhai dyddiau neu wythnosau i’w gwblhau, gan ddibynnu ar gymhlethdod eich trefniadau, faint o gyflenwyr sy’n rhan o’r cam a’r elfennau technolegol y bydd yn ofynnol iddynt weithio gyda’i gilydd.

 

4. Procurement process checklist

Gan eich bod bellach â gwell syniad o’r hyn sydd ynghlwm wrth y broses gaffael, lawrlwythwch y rhestr wirio hon er mwyn eich helpu i fynd trwy’r broses.

 

 



More help here


A view down a street at night with many lit up bars

Key sources of support and advice when deciding on which software and digital services are suitable for your organisation

This guide outlines some key sources of information available to support your decision making on the suitability and application of new technology and digital services.

 
A woman in a yellow jacket sitting on a rock with arms raised aloft, admiring a countryside view

Tools and resources to keep up-to-date with emerging digital trends

Keeping up with digital trends can be daunting for a small to medium-sized heritage organisation. Limitations on your time and budget make it challenging to research and understand which emerging digital activity might be of interest or benefit to your organisation. This guide aims to signpost tools and resources you can access to keep abreast on what’s new in digital.

 

Browse related resources by smart tags:



Audiences Augmented Reality Digital technologies User experience
Published: 2022
Resource type: Articles


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "Exploring some popular digital applications that can enhance the audience experience (2022) by Dr Stephen Dobson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 


More help here



Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo