
Open innovation: What your heritage organisation needs to know about how to benefit from collaboration across the cultural sector
1. Beth yw arloesi?
Mae a wnelo arloesi â datblygu ffordd newydd o wneud pethau. Efallai y bydd hyn yn golygu cynnig gwasanaeth newydd neu newid yn sylweddol yr hyn a gynigiwch i’ch cynulleidfa. Er enghraifft:
- Defnyddio arteffactau 3D a sganiwyd o amgueddfeydd neu fodelau 3D o adeiladau a adluniwyd (Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Ffiniau’r Ymerodraeth Rufeinig Historic Environment Scotland)
- Mabwysiadu modelau cydweithredu rhyngwladol newydd i ddiogelu treftadaeth ddiwylliannol o amgylch y byd (‘Culture in Crisis’ y V&A)
- Taflunio gweithiau celf rhyngweithiol mawr ar ffasâd adeiladau a pheri iddynt gael eu rheoli gan y cyhoedd (‘M+ Touch for Luck’ Hong Kong).
Yn draddodiadol, câi arloesi ei ystyried fel rhywbeth a gyflawnwyd yn fewnol gan dimau ymchwil a datblygu. Roedd y rhain yn gynhyrchion neu’n wasanaethau a gedwid dan gêl – cynhyrchion neu wasanaethau y byddai cwmni er elw yn elwa’n gystadleuol arnynt. Byddai cwmnïau a arferai ymhél ag arloesi caeedig yn mynd i’r afael â’r gwaith hwn mewn amgylchedd arloesi hunangynhwysol. O’r herwydd, byddai’r adnoddau a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer creu a datblygu’r syniadau hyn yn aros o fewn y sefydliad. Mewn model o’r fath, mae’r costau buddsoddi yn uchel.
2. Arloesi agored
Mae arloesi agored yn canolbwyntio ar alluogi sefydliadau i elwa ar syniadau a thechnolegau a ddatblygir y tu allan i’w terfynau sefydliadol eu hunain. Ni waeth be fo’r cysyniad arloesol, mae model arloesi agored yn ffordd amhrisiadwy i sefydliadau bach a mudiadau nid-er-elw gael mynediad at gynhyrchion a gwasanaethau digidol newydd, ac ymgysylltu â nhw.
Cafodd y term ‘arloesi agored’ ei fathu yn 2003 gan Henry Chesbrough yn y llyfr Open Innovation: The New Imperative for Creating and Profiting from Technology. Yma, nodir ffordd wahanol o feddwl am arloesi – ffordd sy’n golygu cydweithio gyda phartïon allanol.
Yn y model hwn, efallai y bydd nifer o gyrff allanol yn cynnig sgiliau, adnoddau a syniadau er mwyn ategu a chyfoethogi arlwy’r sefydliad ei hun. Yn yr un modd, gall syniadau a datblygiadau sy’n deillio o’r sefydliad ategu a dylanwadu ar weithgarwch arloesol sefydliadau eraill. Mewn byd nid-er-elw lle mae’r adnoddau’n brin, mae arloesi agored yn ddull pwysig sy’n galluogi’r cyfranogwyr i elwa ar gymorth a rhwydweithiau allanol.
Ar y cyfan, mae sefydliadau nid-er-elw yn gweithredu yn ôl cysyniadau sydd eisoes wedi’u profi neu gysyniadau a gaiff eu profi’n gyflym. Mae buddsoddi mewn ymchwil a datblygu yn rhywbeth anodd ei gyfiawnhau […]
Dyfyniad gan Forbes, 2020
Mae model arloesi agored yn golygu gweithio mwy oddi allan i’ch sefydliad a’ch tîm presennol. Efallai y bydd hyn yn cynnwys trafod prosiectau a syniadau gydag eraill i fabwysiadu ac addasu’r ffordd y maent wedi defnyddio elfennau digidol er mwyn ategu eich gweithgareddau eich hun. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu dod o hyd i’r amser i gynorthwyo eraill yn yr un ffordd – rhoi gwybod iddynt, efallai, am y profiad a gawsoch wrth ddefnyddio technoleg neu ddull arbennig, a hyd yn oed gweithio’n uniongyrchol gyda nhw i gefnogi eu datblygiad. Dyma gyd-ddiwylliant arloesi dwyochrog a all fod o fudd mawr i’ch sefydliad dros amser.
Dengys y diagram isod y gwahaniaeth rhwng modelau arloesi agored a chaeedig.

Mae ochr chwith y siart yn dangos y cysyniad sydd ynghlwm wrth arloesi caeedig, a dangosir mai rhai syniadau’n unig sy’n cyrraedd y cam datblygu.
Ar ochr dde’r siart, gwelwn y cysyniad sydd ynghlwm wrth arloesi agored. Yn y model hwn, efallai y bydd nifer o gyrff allanol yn cynnig sgiliau, adnoddau a syniadau er mwyn ategu arlwy’r sefydliad ei hun, ac yn eu tro mae’n bosibl y bydd nifer o syniadau a datblygiadau o fewn y sefydliad yn dylanwadu ar eraill.
3. Yr angen am arloesi agored
Mae adroddiad UNESCO ar Arloesi Treftadaeth Ddiwylliannol (2019) yn nodi bod angen i’r sector rannu gwybodaeth a chydweithio er mwyn ategu a meithrin gwell ymgysylltu digidol a helpu sefydliadau i gael mynediad at yr arian a’r adnoddau sy’n angenrheidiol i gefnogi eu gweledigaeth:
Mae’r cyfeirio mynych at rwydweithiau yn dangos pa mor bwysig yw cysylltiadau personol a sefydliadol o ran datblygu prosiectau a chael gafael ar arian o amryfal ffynonellau… Mae nifer o’r prosiectau’n cynnig atebion mynediad agored neu’n rhannu eu hymchwil yn gyhoeddus, gan wella enw da’r DU yn rhyngwladol fel arweinydd yn y maes. Hefyd, dywedodd yr ymatebwyr y byddent yn elwa ar ddysgu mwy am ddulliau sefydliadau eraill, ac y byddent hefyd yn elwa ar gael rhagor o gyfleoedd i hyrwyddo’u prosiectau eu hunan.
Dyfyniad gan UNESCO
4. Rhai enghreifftiau
Aeth Llyfrgelloedd Leeds ati yn gynnar i fabwysiadu dull agored o ddatblygu’r hyn a oedd, ar y pryd, yn ffordd hollol newydd ac arloesol o gynnig mynediad at archifau. Trwy greu leodis.net, bu modd i’r llyfrgelloedd wella dehongliad a chyd-destun deunyddiau ffotograffig. Mae’r swyddogaeth ‘Can you help?’ yn gwahodd y cyhoedd i ychwanegu sylwadau at ffotograffau dethol, gan eu galluogi i ddeall eu harchifau ffotograffig yn well.
Gellir gweld enghraifft fwy diweddar yng ngwaith Museum of Making. Datblygwyd yr amgueddfa trwy gyfrwng arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Arts Council England a Phartneriaeth Menter Leol D2N2. Yn ogystal â chynnig profiad i’r ymwelwyr, mae Museum of Making yn cynnig cynllun aelodaeth i wneuthurwyr, gyda’r nod o feithrin arloesi agored rhwng ymarferwyr yn y celfyddydau ac ymarferwyr creadigol.
Yn y tabl isod, nodir argymhellion syml ynglŷn â ffyrdd o wella arloesi yn eich sefydliad a’r modd y gallech weithio gydag eraill er mwyn sicrhau bod yr arloesi hwnnw yn wirioneddol agored.


Please attribute as: "Open innovation: What your heritage organisation needs to know about how to benefit from collaboration across the cultural sector (2022) by Dr Patrick Glen supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0