English

Defnyddio adnoddau ar-lein i wella cydweithredu a chyfraniadau

Mae hanesion a straeon llafar yn rhan bwysig o’r dasg o gofnodi, cadw a chyflwyno’r dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol sy’n perthyn i leoedd a chymunedau. Mae’r canllawiau hyn yn archwilio dulliau hanes llafar mewn cyd-destun digidol a’r modd y gall adnoddau ar-lein wella cydweithredu a chyfraniadau.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
Two young women laugh alongside an older female tour guide
Image by Ioan Said ©

Using online resources to improve collaboration and contributions

1. Defnyddio dulliau ar-lein i hyrwyddo ymgysylltu

Wrth ddod o hyd i gyfranogwyr i gyfrannu at unrhyw brosiect, gallwch ddefnyddio ymgysylltu ac adnoddau ar-lein i hwyluso’r broses. Gall y dull hwn fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth ddatblygu prosiect hanes llafar, oherwydd gallwch gael mynediad uniongyrchol at eich cyfranwyr a’ch cyfranogwyr. Ond cadwch mewn cof na fydd pobl ar gyrion cymdeithas â mynediad rheolaidd at y rhyngrwyd o bosibl.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd hynod effeithiol o ddenu sylw at eich prosiectau. Gellir ategu hyn gyda fideos a thestun ar-lein sy’n esbonio beth yw nodau’r prosiectau a hawliau’r cyfranogwyr (megis cyfrinachedd, anhysbysrwydd os gofynnir am hynny, a’r hawl i dynnu’n ôl ar unrhyw adeg). Mae’r adnoddau hyn yn ategu ffyrdd mwy personol o hysbysu cyfranogwyr er mwyn iddynt allu ystyried eu hymateb i’r prosiect yn eu hamser eu hunain cyn penderfynu a fyddant yn rhoi caniatâd ai peidio.  Trwy sicrhau bod eich gwefan yn cynnwys manylion cyswllt cyfamserol, bydd modd i’r cyfranogwyr weld eu data (os byddant wedi rhoi caniatâd i’w lanlwytho ar-lein), a thynnu’r data hwnnw yn ôl pe bai angen.

Yn y byd digidol sydd ohoni, mae prosiectau digidol wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o gyflwyno hanesion llafar, yn cynnwys dulliau syml megis storfeydd y gellir defnyddio allweddeiriau a metadata i chwilio trwyddynt. Fodd bynnag, mae rhai prosiectau a chanddynt adnoddau digonol ac arbenigedd angenrheidiol wedi cyfuno hanesion llafar â chyfryngau ategol i greu gwefannau rhyngweithiol.

Os yw daearyddiaeth yn bwysig i’r prosiect, gellir nodi tarddiad y bobl a gaiff eu cyfweld ar fapiau rhyngweithiol. Trwy ymhelaethu ar hyn, gall gwefannau gynnig nodwedd a fydd yn galluogi’r defnyddwyr i ddadansoddi trawsgrifiadau, a chynnig sylwadau arnynt, gan ddatblygu cymuned ddehongli.

2. Hanesion llafar yn y maes digidol

Mae ein harbenigwr, Dr Patrick Glen o Brifysgol Leeds, yn esbonio sut y gellir mynd ati i gasglu hanesion llafar trwy ddefnyddio offer digidol.

Caiff hanes llafar ei seilio ar gydweithredu agos rhwng ymchwilydd, cyfranogwyr a’u cymuned. Mae angen gofal a rhagfeddwl wrth ymdrin â’r cydberthnasau hyn, ond gallant fod yn werth chweil i bawb sy’n gysylltiedig â’r broses. Wrth gynllunio prosiectau hanes llafar, ystyriwch yr agweddau canlynol yn ofalus:

  • Moeseg
  • Safle cymdeithasol y sefydliad a’r sawl sy’n cyfweld mewn perthynas â’r cyfranogwyr (gwahaniaethau o ran pŵer)
  • Ymchwil fanwl yn y pwnc/pynciau a astudiwyd
  • Amser ar gyfer meithrin perthynas â’r bobl a gaiff eu cyfweld.

Trwy neilltuo amser i ystyried pob un o’r pwyntiau hyn, bydd modd ichi geisio sicrhau eich bod yn amddiffyn y cyfranogwyr wrth gasglu hanesion llafar.

Bydd yr adnoddau canlynol gan y Gymdeithas Hanes Llafar a’r prosiect ‘Oral History in the Digital Age’ yn fan cychwyn amhrisiadwy ichi.

1. Y Gymdeithas Hanes Llafar: ‘Is your oral history legal and ethical?’

2. ‘Oral History in the Digital Age’

3. Y Gronfa Dreftadaeth: ‘Oral history guidance’

Manteision technolegau digidol

Mae technolegau digidol wedi esgor ar gyfleoedd i gasglu, cadw a rhannu hanesion llafar, a hynny er gwaethaf amheuon haneswyr llafar sy’n ofni nad yw cynnal cyfweliadau ar-lein yn ddull delfrydol gan ei fod yn rhoi pellter corfforol rhwng y sawl sy’n cyfweld (y cyfwelydd) a’r sawl sy’n cael ei gyfweld (y cyfwelai). Cred haneswyr llafar y gall hyn rwystro’r cyfwelydd rhag sylwi ar arwyddion corfforol y cyfwelai. Efallai y byddai arwyddion o’r fath o help wrth ddeall ymatebion llafar y cyfwelai ac osgoi peri gofid neu anesmwythyd diangen.

Fodd bynnag, gellir goresgyn y pryder hwn trwy ddefnyddio techneg gyfweld sensitif a thrwy sicrhau bod y cyfwelydd yn parhau i ‘gysylltu’ â’r cyfwelai drwy gydol y broses. Os nad oes modd cynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb, gellir dadlau y byddai cynnal cyfweliadau ar-lein yn syniad da, a hynny trwy ddefnyddio offer fel Zoom, Skype neu Teams neu drwy ofyn i’r cyfranogwyr lanlwytho tystiolaeth a recordiwyd ganddynt. Yna, gellid cynnal cyfweliad hanes llafar ‘confensiynol’, wyneb yn wyneb yn ddiweddarach.

Gall defnyddio dulliau digidol, diogel o storio a chadw gohebiaeth, dogfennau cydsynio, ffeiliau sain, fideos a thrawsgrifiadau arwain at hwyluso cyfweliadau hanes llafar. Mae modd iddynt alluogi gweithwyr prosiect, cyfwelwyr a churaduron i weithio o bell a mynd ati mewn modd moesegol i gasglu, dadansoddi a rhannu data’r bobl a gaiff eu cyfweld. Yn yr un modd ag y byddech yn monitro eich casgliadau ffisegol, mae’n bwysig ichi wneud yr un peth gyda’ch casgliadau digidol. Mae fformat ffeiliau digidol yn gallu newid, ac efallai y bydd angen addasu eich casgliadau er mwyn sicrhau y bydd modd parhau i’w defnyddio’n ddiderfyn.

3. Fframwaith ar gyfer eich prosiect

Gellir defnyddio’r cwestiynau canlynol fel man cychwyn ar gyfer cwmpasu prosiect hanes llafar a hefyd er mwyn sicrhau bod eich sefydliad yn meddu ar yr adnoddau angenrheidiol i gasglu hanesion llafar mewn modd moesegol. Cyn cychwyn ar eich prosiect, atebwch y cwestiynau ac ystyriwch pa fylchau y gall fod angen ichi ymdrin â nhw.

  • Beth mae eich prosiect hanes llafar yn dymuno’i adfer neu ei gadw?
  • Pa gymunedau y gallwch gael mynediad atynt? A sut y gallwch ddod o hyd iddynt ar-lein?
  • A oes gennych ddull digidol o ddelio’n ddiogel â ffurflenni caniatâd, gwybodaeth bersonol a data preifat y cyfranogwyr, a hynny mewn ffordd a fydd yn cydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)?
  • Pa offer y byddwch eu hangen ar gyfer recordio, trawsgrifio a chadw’r dystiolaeth?
  • A all eich sefydliad gyfweld pobl wyneb yn wyneb, ynteu a fydd yn rhaid ichi ddod o hyd i ddulliau digidol o’u cyfweld?
  • Beth fydd y ffordd orau o gyflwyno’r dystiolaeth ochr yn ochr â chasgliadau treftadaeth sydd gennych yn barod, a hynny mewn modd a fydd yn cyfoethogi dealltwriaeth a mwynhad eich cynulleidfaoedd?

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi llunio canllawiau defnyddiol iawn ar sefydlu prosiect hanes llafar. Efallai y byddai’n fuddiol ichi droi at y canllawiau hyn wrth ichi ystyried sut y gall offer digidol eich helpu i lwyddo yn eich prosiect.



More help here


Three men dressed as Roman soldiers charge whilst holding shields

Selecting the right platforms and channels for your organisation

When making a decision about which platform(s) will best suit your organisation, you should consider two main factors: the different social media platforms available and your audiences. This guide will outline some considerations regarding the skills and capacity of your organisation, and the needs of your audience.

 

Browse related resources by smart tags:



Collections Community Digital Heritage
Published: 2022
Resource type: Articles


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "Using online resources to improve collaboration and contributions (2022) by Dr Patrick Glen supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 


More help here



Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo