
Successfully engage with international audiences
1. Y manteision sy’n perthyn i ymestyn cyrhaeddiad eich sefydliad treftadaeth
Mae yna lu o fanteision yn perthyn i ymestyn cyrhaeddiad eich sefydliad ac ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Manteision ariannol (e.e. ychwaneg o gyfleoedd i godi arian a gwerthu rhagor o docynnau)
- Annog yr arfer o gyfnewid gwybodaeth (e.e. archwilio dulliau rhyngwladol ehangach a ffyrdd arloesol o wneud pethau)
- Dealltwriaeth a chyfnewid diwylliannol (e.e. mwy ymwybodol o gyd-destunau crefyddol, gwleidyddol neu ddiwylliannol arbennig i lywio ymgysylltu ehangach â’r gynulleidfa).
Gyda’r amrywiaeth o offer digidol sydd ar gael ichi, mae yna gyfleoedd i ddatblygu neu dyfu cynulleidfaoedd ar-lein rhyngwladol. Trwy ddigideiddio asedau neu gynnig ffyrdd digidol o archwilio casgliadau, bydd modd rhannu eich arlwy yn rhwyddach gyda phobl yn unrhyw le yn y byd.
Gall yr ymgysylltu ar-lein hwn fod yn nod y gallwch weithio tuag ato ynddo’i hun, nid yn unig fel ffordd o annog ymweliadau yn y cnawd ag amgueddfa neu safle treftadaeth.
2. Ymgysylltu a phrofiad ar-lein llwyddiannus
Elusen genedlaethol sy’n anelu at alluogi sefydliadau diwylliannol i ddefnyddio data cenedlaethol i gynyddu eu perthnasedd, eu cyrhaeddiad a’u gwytnwch – dyna yw’r Audience Agency. Mae’n dadlau nad denu pobl at brofiad corfforol yw rôl yr ‘arlwy digidol’ a gynigir gan sefydliadau mwyach. Yn awr, gall y cyfryngau digidol ac ymgysylltu ar-lein gyflwyno profiad arbennig o dreftadaeth i lawer o bobl yn eu rhinwedd eu hunain.
Erbyn hyn, mae modd i sefydliadau treftadaeth gynnig gwahanol fathau o ymgysylltu i gynulleidfaoedd – ymgysylltu a all hwyluso profiadau cyfan gwbl gorfforol, profiadau cyfan gwbl ddigidol, neu brofiadau ‘hybrid’ cofleidiol. Medd yr Audience Agency:
Mewn nifer o achosion, caiff rhaglenni dysgu a modelau ymgysylltu newydd eu datblygu er mwyn cyrraedd cyfranogwyr na allant ymgysylltu’n gorfforol, mewn lle na welsant mohono erioed o’r blaen.
The Audience Agency
O’i wneud yn dda, gall sefydliadau gynnig dulliau newydd a phleserus i gynulleidfaoedd lle gallant brofi ac ymgysylltu â chasgliadau mewn ffyrdd newydd, gan sicrhau hygyrchedd. Gwelir bod sefydliadau treftadaeth a lwyddodd yn hyn o beth wedi gwneud y canlynol:
- Diffinio’r cynulleidfaoedd yr oeddynt yn dymuno’u cyrraedd, ynghyd â’u gweledigaeth.
- Ystyried pa blatfformau, fel y cyfryngau cymdeithasol, a allai ddenu eu cynulleidfaoedd rhyngwladol penodol a’r arbenigedd a oedd yn angenrheidiol er mwyn eu cynorthwyo i symud tuag at adnoddau ac arddangosfeydd ar-lein.
- Teilwra’r modd y cyflwynir eu harddangosfeydd a’u casgliadau ar-lein trwy gyfrwng gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn canfod cynulleidfaoedd a dal gafael arnynt.
Efallai mai dyma fydd cam cyntaf yr amgueddfa neu’r sefydliad treftadaeth mewn maes a elwir yn ‘feta-fydysawd’ realiti rhithwir – sef ecosystem ddigidol lle gall defnyddwyr ryngweithio gyda’i gilydd, a hefyd gyda’r amgylchedd digidol. Tybed a fydd yn rhaid i amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth fynd ati gyda hyn i greu fersiynau digidol cyffelyb ohonynt eu hunain yn y dyfodol agos?
3. Astudiaeth achos – Decolonising the Archive
Sefydliad treftadaeth ar-lein sy’n curadu ac yn trafod tystiolaethau, arteffactau ac effemera Affrica gyfan yw Decolonising the Archive. Nod y sefydliad yw herio themâu trefedigaethol ac ôl-drefedigaethol yn ymwneud â Phobl Dduon mewn ffyrdd a all esgor ar fframweithiau diwylliannol newydd mewn perthynas â deall a dysgu, ynghyd â symud ymlaen mewn modd creadigol oddi wrth drais trefedigaethedd.
Mae’r wefan yn darparu ar gyfer cynulleidfa ryngwladol trwy gynnig amrywiaeth o gyfryngau rhyngweithiol a chyfryngau eraill ar wefan drawiadol a da ei chynllun. Mae hyn yn cynnwys:
- Gwe-radio
- Podlediadau
- Fideo
- Arddangosfeydd ar-lein
- Digwyddiadau ar-lein
Golyga hyn fod amrywiaeth o adnoddau ar gael a’u bod yn cyflwyno darlun cynnil o hanes Pobl Dduon – adnoddau y gellir cael gafael arnynt ledled y byd ac sy’n cyrraedd cynulleidfa fwyfwy ei maint.
4. Archwilio archif effeithiol
Dylech dreulio amser yn pori trwy wefan Decolonising the Archive. Tra byddwch yn archwilio’r safle, ystyriwch y cwestiynau hyn:
- A yw’r sefydliad wedi pennu cynulleidfaoedd, a yw wedi creu adnoddau a all ddarparu ar gyfer gwahanol grwpiau defnyddwyr, ac a yw wedi creu ymdeimlad o ryngweithio gyda’r rhai sy’n ymweld â’r wefan?
- Beth mae’r sefydliad yn llwyddo i’w wneud yn dda?
- Beth allai’r sefydliad ei wella?
Yn awr, meddyliwch am eich sefydliad eich hun.
- A fyddai modd i’ch sefydliad chi efelychu dull Decolonising the Archive?
- Pa sgiliau y byddai eich gweithlu neu eich gwirfoddolwyr angen eu defnyddio neu eu dysgu er mwyn gwneud hyn?

Please attribute as: "Successfully engage with international audiences (2022) by Dr Patrick Glen supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0