How to make your website better for the environment: sustainable website design
Dyma rai pethau ymarferol i’w hystyried o ran dylunio’ch gwefan mewn modd cynaliadwy, p’un a ydych chi’n dechrau prosiect creu gwefan newydd, neu’n datblygu’r safle sydd gennych yn barod:
Mae dylunio da yn golygu cyn lleied o ddylunio â phosibl.
Dieter Rams
1. Faint o ffontiau wedi’u teilwra sy’n cael eu defnyddio?
Ffont wedi’i deilwra yw unrhyw ffont nad yw eisoes wedi’i osod ar ddyfais yn ddiofyn. (Mae’r rhai sydd eisoes wedi’u gosod yn ‘ffontiau system’. Yn eu plith mae pethau fel Arial, Calibri a Verdana.) Mae pob ffont wedi’i deilwra ar eich gwefan yn ddarn ychwanegol o god. Ac mae pob dan o god yn cynyddu’r ynni mae’n ei ddefnyddio i gael y safle i weithio.
Oni bai bod eich brand yn defnyddio ffontiau system, bydd gennych chi ffontiau wedi’u teilwra fwy na thebyg ar eich gwefan. Felly un o’r ffyrdd hawsaf o leihau’r ynni mae ffontiau’n ei ddefnyddio yw cynnwys cyn lleied ohonyn nhw – a rhai o gyn lleied o bwysau â phosibl – yn y dyluniad.
Gall pwysau ffontiau gwahanol helpu dealltwriaeth y gynulleidfa o’ch cynnwys – defnyddio print bras ar gyfer gwybodaeth bwysig, er enghraifft. Felly gallai fod yn ddefnyddiol cadw hynny. Ac os yw eich brand yn defnyddio prif ffont penodol iawn, gall cynnwys hyn wrth ddylunio’ch gwefan helpu cynulleidfaoedd i adnabod eich brand. Ond mae’n bosibl bod ffont amgen ysgafnach y gallech chi ei ddefnyddio. Neu ffyrdd clyfar eraill o ailddefnyddio’r un ffont mewn ffyrdd gwahanol ar draws y safle.
Cadwch nifer y ffontiau wedi’u teilwra mor isel ag y gallwch.
2. Ydy’r holl gynnwys gweledol yn ychwanegu gwerth i’r defnyddiwr?
Mae gwefannau sy’n drwm ar ddelweddau – ac yn gynyddol drwm ar fideo – yn boblogaidd yn sector y celfyddydau a diwylliant. Mewn llawer o achosion, mae’n gwneud synnwyr bod cynnwys yn hynod o weledol. Ond mae hyn yn golygu bod eich gwefan yn defnyddio tipyn go lew o ynni.
Mae delweddau syml gydag ychydig o liwiau a dyfnder maes bas yn defnyddio llai o ynni na lluniau cymhleth; a delweddau du a gwyn sydd fwyaf effeithlon o ran ynni.
Fideo bob tro yw’r elfen sy’n draenio’r ynni fwyaf ar wefan – yn arbennig fideo sy’n chwarae’n awtomatig. Mae’n well osgoi hyn, ond os mai fideo sy’n chwarae’n awtomatig sydd orau i chi a’ch cynulleidfa, dylech ei ddefnyddio’n ysgafn. Beth am ei ddefnyddio ar eich hafan dudalen ond nid mewn mannau eraill o’r safle?
Mae’r un peth yn wir am animeiddio. Gall edrych yn wych ac ychwanegu lefel o soffistigedigrwydd a mwynhad, ond a ellid creu’r un effaith neu rywbeth tebyg mewn ffordd sy’n tynnu llai ar ynni? Ac os ydych chi’n defnyddio animeiddio, gwnewch yn siŵr y caiff ei greu yn y ffordd ysgafnaf bosibl.
Dwi ddim yn disgwyl i neb roi’r gorau i ddefnyddio animeiddio, delweddau na fideo ar eu gwefannau. Ond rhywbeth ymarferol y gallwch chi ei wneud yw ystyried effaith amgylcheddol pob darn o gynnwys cyn ei lanlwytho. Os yw animeiddiad yn adrodd eich stori, os yw delwedd yn rhoi wyneb i enw, neu os yw fideo’n helpu cynulleidfaoedd i ddeall beth i’w ddisgwyl o’u hymweliad – gwych! Os yw yna er mwyn edrych yn bert yn unig, mae’n bosibl nad oes ei angen?
Gwnewch i bob animeiddiad, delwedd a fideo ar eich gwefan gyfrif.
Dysgwch fwy am greu cynnwys gweledol yn yr erthygl, Awgrymiadau ar greu cynnwys cynaliadwy.
3. A yw teithiau defnyddwyr yn effeithlon?
Pan fyddwch chi’n cynllunio neu’n mireinio teithiau allweddol defnyddwyr, mae’n werth cofio bod defnyddwyr yn gwerthfawrogi teithiau defnyddwyr byrrach, a lleihau faint o amser mae defnyddiwr yn ei dreulio ar eich gwefan. Yng nghyd-destun cynaliadwyedd, mae hynny’n beth da – er, wrth gwrs, mae cydbwysedd i’w daro rhwng hyn ac ateb amcanion eich busnes.
Mae dileu rhwystrau – fel baneri gwib, prosesau allgofnodi hirfaith, a chopi anodd ei ddeall – yn arwain at daith defnyddiwr fwy effeithlon, ac felly gwefan sy’n fwy effeithlon o ran ynni.
Mae’n arbennig o bwysig cadw draw wrth ‘batrymau tywyll’, sy’n twyllo pobl yn fwriadol i gymryd camau nad oedden nhw o reidrwydd wedi bwriadu eu cymryd. (Fel ychwanegu rhoddion i fasgedi’n awtomatig, neu gynnwys blychau â geiriau dryslyd mewn proses ymrwymo.)
Cadwch deithiau defnyddwyr yn fyr ac yn ddiamwys.
Rhaid i ni osgoi patrymau dylunio sy’n ceisio tywys y defnyddiwr ar daith hirach er mwyn ateb ein nodau ein hunain, a dylen ni bob amser flaenoriaethu gwir anghenion y defnyddiwr.
SustainableWebDesign.org
Y newyddion gwych yw bod llawer o egwyddorion cynaliadwyedd yn gysylltiedig â dylunio hefyd yn helpu i wella hygyrchedd gwefannau, pa mor gyfeillgar ydyn nhw i ddefnyddwyr a’u perfformiad. Ac mae hynny’n gweithio’r ddwy ffordd – felly po fwyaf o’r pethau hynny mae eich gwefan yn eu gwneud yn dda, y mwyaf cynaliadwy mae’n debygol o fod, hefyd. Mae pob un ar ei ennill.
Cafodd yr adnodd yma ei gyhoeddi gyntaf ar flog Supercool.
Browse related resources by smart tags:
Digital engagement Environment Sustainability Sustainable Website Website accessibility
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "How to make your website better for the environment: sustainable website design (2022) by Katie Parry supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0






