
How can heritage organisations achieve online sales and visitor targets?
1. Rhagarweiniad
Yn sgil y cyfnodau clo mewn ymateb i’r pandemig yn ddiweddar, gwthiwyd ein cynulleidfaoedd hyd yn oed ymhellach i’r cyfeiriad masnachu ar-lein. Mae disgwyliadau ynghylch sut maen nhw’n rhyngweithio gyda sefydliadau ar-lein wedi cynyddu, ac mae’n hanfodol bod sefydliadau treftadaeth yn dal eu tir o ran cyflymder hyn.
Wrth drafod trafodion ar-lein, pa gynnyrch ddylai fod ar gael drwy eich siop ar-lein? Sut gallwch chi gyrraedd eich cwsmeriaid ar-lein? Ydy siopau ar-lein hyd yn oed yn gwneud synnwyr mewn cyd-destun treftadaeth? Gadewch i ni ddysgu mwy.
2. Strategaeth
Mae’n bwysig cofio sut mae eich cynulleidfaoedd digidol yn wahanol i’ch cynulleidfaoedd wyneb yn wyneb. Bydd hyn yn effeithio pa rai o’ch cynnyrch sy’n gwneud synnwyr ar-lein, sut rydych chi’n cyrraedd cwsmeriaid posibl a sut gallech chi elwa o weithio mewn partneriaeth ag eraill.
Siopau mewn lleoliadau o’u cymharu â siopau ar-lein
Nid yw siop ar eich gwefan yn cyflawni’r un nodau’n awtomatig â siop ffisegol yn eich lleoliad. Mae cwsmeriaid yn dod ar eu traws mewn ffyrdd eithriadol o wahanol ac maen nhw’n debygol o fod yn siopa am gynnyrch gwahanol.
Y profiad o siop draddodiadol
Siop lleoliad yw’r llecyn ymweld olaf cyn i ymwelydd adael. Mae cwsmeriaid wedi’u hymgysylltu’n ddwys ar ôl ymweliad pleserus, a byddant yn ymatebol i brynu rhywbeth i gofio’u profiad.
Mae siop mewn lleoliad yn cynnig ystod eang iawn o gynnyrch, o eitemau bach (pensiliau, dalen-nodau) i bethau mwy (hamper, llyfrau bwrdd coffi, cynnyrch crefftwyr lleol). Gall y rhain fod yn benodol i arddangosfeydd, â chysylltiadau daearyddol neu’n berthnasol o ran thema.
Y profiad o siop ar-lein
Mae siop ar-lein yn cyflawni gwaith ychydig yn wahanol o ganlyniad i’r ffaith ei bod heb gyfyngiadau o ran lle ffisegol. Mae llif cwsmeriaid drwy siop ar-lein yn sylweddol wahanol, ac mae’n rhaid ystyried hyn wrth ddatblygu eich cynnig.

Mae ymwelydd â gwefan yn debygol o fod ar gam cynharach yn eu rhyngweithio gyda chi, o bosibl yn chwilio am wybodaeth am ymweliad posibl yn y dyfodol. Os yw rhywun wedi dod i’ch gwefan yn sgil defnyddio peiriant chwilio i ddod o hyd i gynnyrch penodol, mae’n bosibl nad oes ganddyn nhw ddiddordeb yng nghyd-destun ehangach eich sefydliad. Mae’n bosibl mai hwn yw eu hymweliad cyntaf. Neu gallen nhw eisoes fod wedi tanysgrifio i’ch newyddlen neu’ch cyfryngau cymdeithasol.
Beth i’w werthu
Tocynnau
Mae’n hanfodol cynnig y gallu i archebu ar-lein ar gyfer ymweliadau ac mae llawer o fuddion i hyn:
- Mae’n gwbl awtomatig, sy’n lleihau baich gwaith y staff
- Nid oes rhaid i gwsmeriaid aros mewn ciw ar y ffôn
- Mae ar gael drwy’r amser, hyd yn oed y tu allan i’ch oriau agor arferol
- Mae mwy o ryddid gan gwsmeriaid i reoli eu harchebion
- Mae’n hawdd olrhain achosion trosi yn sgil eich ymgyrchoedd hyrwyddo
- Mae llawer o gyfleoedd o ran uwchwerthu

Mae llawer gormod o lwyfannau tocynnau i’w henwi. Os ydych chi’n chwilio am un, rydyn ni’n argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â sefydliadau eraill ag anghenion tebyg i’ch rhai chi a holi beth maen nhw’n ei argymell.
Nwyddau
Ystyriwch beth sy’n gwneud synnwyr yng nghyd-destun eich siop ar-lein. Er y gallwch chi gadw eich catalog cyfan mewn stoc, cofiwch fod eich siopwyr ar-lein yn ymuno ar gamau gwahanol o’u taith defnyddiwr o’u cymharu â’r rhai sy’n dod i’r lleoliad.

Bydd optimeiddio’r hyn rydych chi’n ei gynnig – gallai hyn olygu dewis peidio â gwerthu rhai pethau – yn ei gwneud yn haws gosod a chyrraedd targedau realistig.
Mae pethau bach i’w hatgoffa o’u hymweliad yn gweithio’n dda yn siop y lleoliad – pensiliau wedi’u brandio a losin gydag enw’ch sefydliad arnyn nhw – yn llawer llai tebygol o daro tant gyda siopwyr ar-lein.
Mae’r un peth yn wir am gynnyrch generig eraill sydd ar gael yn rhywle, fel teganau meddal. Heb y cysylltiad profiad cryf o fod wedi cerdded yn gorfforol drwy eich lleoliad, mae cwsmer yn annhebygol o ddewis eich siop ar-lein pan fydd angen nwyddau ysgrifennu newydd arnyn nhw.
Gall cyfuno pethau llai mewn casgliadau mwy lwyddo, fodd bynnag. Mae jar unigol o fêl lleol yn rhywbeth lletchwith i’w phrynu ar-lein; mae basgedaid o nwyddau yn cynnwys cynnyrch lleol yn ddeniadol. Mae bod yn union glir ac yn strategol gyda’ch catalog hefyd yn ysgafnhau’r llwyth casglu a phacio ar eich staff.
Yn y pen draw, nid pob cynnyrch sy’n gwneud synnwyr ar-lein.
Beth sydd yn llwyddo:
- Eitemau o werth uwch (o bosibl yn cynnwys bwndeli o eitemau presennol llai)
- Cynnyrch gyda’r potensial i ddenu prynu pellach, gan arwain at werth oes uwch
- Ymrwymiadau hyrwyddo yn ôl y tymhorau: y Nadolig, Santes Dwynwen/San Ffolant, Y Pasg, pen-blwyddi priodas, ac ati
- Cynnyrch sy’n syml ac yn gost-effeithiol i’w casglu a’u pacio

Rhoddion ac aelodaeth
Mae rhoddion ac aelodaeth yn ffynnu ar-lein. Mae’n bosibl nad oes gan rieni â phlant ifanc yr amser na’r amynedd i ymrwymo i gynllun ymaelodi yn ystod diwrnod prysur allan, felly beth am roi cynnig y cyfle iddyn nhw wneud hynny ar ôl mynd adref?
Mae eich cefnogwyr eisoes wedi arfer â thanysgrifio i wasanaethau adloniant fel Netflix a Spotify; dylai ymrwymo i gefnogi safle treftadaeth haeddiannol fod yn benderfyniad hawdd. Yn well na hynny, mae cwsmer sydd wedi rhoi neu wedi ymrwymo i ymaelodi’n fwy tebygol o ddychwelyd i brynu cynnyrch a thocynnau yn y dyfodol.

Mae rhoddion a thanysgrifiadau aelodaeth cyfresol yn darparu ffrydiau refeniw rheolaidd, gan roi hwb i wytnwch ariannol eich sefydliad mewn ffordd fwy sefydlog nag achosion llai o brynu.
Mae cynnyrch apelgar ynghyd â neges gadarnhaol (“mae x% o’r enillion yn mynd tuag at gyllido ein rhaglen addysg” ac ati) yn ddengar.
Cydweithredu a phartneriaid
Mewn rhai achosion, mae cost gweithredu siop ar-lein, yn enwedig o ystyried costau pecynnu a chludiant, yn ei gwneud yn anodd pledio’r achos dros sicrhau elw.
Gallai partneru â busnesau eraill gyda llwybrau sefydledig i’r farchnad gynnig ateb, yn arbennig os yw eich cynnyrch yn cydweddu’n dda â’i gilydd. Gallai fod cyfleoedd i chi werthu rhai o’u cynnyrch nhw, gan groes-gyfuno’ch rhestrau cwsmeriaid er budd y ddwy ochr.
Os ydych chi’n gweithio gydag artistiaid, mae’n debygol y bydd cyfleoedd i gydweithredu. Mae artistiaid yn fwy tebygol o fod â charfanau dilynwyr sy’n hynod ymgysylltiedig sy’n barod i brynu nwyddau cysylltiedig, ond maen nhw’n annhebygol o lanio’n naturiol ar eich gwefan dreftadaeth. Cyrchwch rwydweithiau eich cydweithredwyr a gallwch chi ymestyn eich cyrraedd yn esbonyddol.
3. Sut i werthu

Mae’n bwysig lleihau’r ffrithiant i’ch cwsmeriaid. Mae pob clic ychwanegol mae’n rhaid ei glicio, pob llinell ychwanegol o destun mae angen ei darllen, yn gyfle iddyn nhw newid eu meddyliau.
Yn 2020, nododd y Tank Museum bwyisgrwydd darparu profiad o siopa ar-lein sy’n fodern ac wedi’i gynllunio’n dda. Maen nhw’n cynnig enghraifft wych o sut mae cynnig â ffocws, sy’n cael ei ddarparu gyda phersonoliaeth a llygad ar brofiad da i’r cwsmer, yn gallu talu ar ei ganfed.
Os ydych chi am dreiddio’n ddyfnach, mae llyfr Steve Krug o 2015, Don’t Make Me Think, yn ddarllen hanfodol ar y pwnc.
Dewis llwyfan
Mae’r llwyfannau rydyn ni wedi’u hamlygu isod yn sampl bach iawn o’r hyn sydd ar gael. Ni ddylid ystyried y rhain yn argymhellion, ond yn bwyntiau cychwyn ar gyfer eich ymchwil eich hun.
Shopify
Mae rhestr gynhwysfawr o nodweddion yn rhoi Shopify ar y rhestr fer ar gyfer y rhan fwyaf o sefydliadau treftadaeth. Mae’n system hyblyg sydd wedi’i chynllunio i werthu nwyddau’n gyflym ac yn hawdd.
Mae’r set honno o nodweddion a’i phrisio cymharol isel wedi’i gwneud yn boblogaidd iawn.
Sgrinlun o dudalen gwefan Shopify.
Adobe Commerce
Mae Adobe Commerce (a oedd yn arfer defnyddio’r enw Magento) yn addas ar gyfer siopau ar-lein mwy eu maint, sydd ag anghenion mwy cymhleth. Mae’n cynnig hyblygrwydd a’r posibilrwydd i ddatblygwyr ei ehangu, ac mae Adobe’n honni iddo ddarparu dulliau dadansoddi sy’n cael eu llywio gan ddeallusrwydd artiffisial.

Woocommerce
Os yw eich gwefan eisoes wedi’i hadeiladu ar WordPress, yna mae Woocommerce yn ateb naturiol. Mae’n gyfeillgar i ddatblygwyr, mae ganddi gymuned ffynhonnell agored, ac mae modd ei defnyddio i werthu tocynnau a nwyddau.

Squarespace
Wedi’i ddisgrifio fel rhywbeth sy’n darparu “popeth i werthu unrhyw beth”, mae Squarespace yn ddull adeiladu gwefannau cynhwysfawr gyda thempledi hawdd eu defnyddio sy’n ei gwneud yn hawdd hyd yn oed i bobl nad ydyn nhw’n dechnegol.
Os oes gennych chi wefan syml iawn a nifer gymharol fach o nwyddau neu wasanaethau i’w gwerthu, gallwn hwn fod yn bwynt da i ddechrau arni.

Wix
Mae Wix, sy’n opsiwn amgen i Squarespace, yn cystadlu gyda set debyg o nodweddion, ac mae’n cynnwys dull hawdd o adeiladu gwefannau a thempledi ar gyfer adeiladu siop ar-lein.

Podia and Gumroad
Mae Podia and Gumroad yn arbenigo mewn gwerthu cynnwys digidol. Mae pwyslais trwm ar weminarau, deunyddiau cyrsiau, e-lyfrau ac ati.

Amazon ac eBay
Opsiwn amgen i redeg eich siop eich hun yw gosod rhestriadau ar flaen siopau Amazon ac eBay. Mae cyrchu marchnadleoedd sy’n bodoli eisoes yn golygu bod gennych lai o reolaeth dros eich cynnyrch a’ch brandio ond rydych chi’n cael mynediad i’w cronfa gwsmeriaid anferth.

Gwella trosiadau
Bydd safon wael o ran profiad y cwsmer yn niweidio’ch gwerthiannau. Gyda chwsmeriaid yn eich lleoliad, mae gennych gynulleidfa gymharol barod. Ond ar-lein, dim ond clic sydd rhwng prynwyr posibl a’u penderfyniad i fynd at werthwr arall.
Dyma rai o’r ffactorau dylech eu cadw mewn golwg i wneud y mwyaf o’ch trosiadau.
Galwadau clir ac amlwg i weithredu
Peidiwch â chuddio’ch siop! Sicrhewch ei bod yn hawdd dod o hyd iddi drwy brif ddull llywio’r wefan a chofiwch gynnwys dolenni perthnasol lle bynnag mae cyfle’n ymddangos.
- Cysylltwch â’r siop neu gynnyrch penodol o dudalennau digwyddiadau bob tro
- Sicrhewch fod eich newyddlenni rheolaidd wastad yn cynnwys dolenni i’r siop
- Chwiliwch am gyfleoedd i gysylltu â’r siop a chynnyrch penodol mewn erthyglau a blogiau
- Sicrhewch fod y botymau ‘Prynu/Buy’ a ‘Rhoi yn y fasged/Add to basket’ i’w gweld yn amlwg a’u bod yn hawdd eu gweld
Hyder defnyddwyr
Sicrhewch fod eich gwefan yn ddiogel o’r adeg mae ymwelydd yn cyrraedd hyd nes iddyn nhw gael cadarnhad o brynu rhywbeth. Os yw symbol y clo i’w weld ym mar cyfeiriad eich porwr yna gall eich cwsmeriaid brynu’n hyderus:
Sgrinlun o wefan Amazon gyda symbol y clo i’w weld ym mar cyfeiriad y porwrOs nad yw gwefan yn ddiogel, bydd yn edrych mwy fel hyn:

Ceisiwch sicrhau bod blaen eich siop wedi’i integreiddio mor llyfn â phosibl – yn ddelfrydol, ni ddylai’r cwsmer fod yn ymwybodol ei fod yn symud rhwng llwyfannau ar y wefan. Gallwch dacluso’r cysylltfannau drwy gadw parhad ar draws y prif ddull llywio o ran dyluniad gweledol cyfatebol.
Rhowch hyder pellach i ddefnyddwyr drwy gynnig polisïau ad-daliadau teg a llawn, cyfnodau arbrofi lle bo hynny’n berthnasol a gweithdrefnau cymorth hawdd eu cyrchu. Mae gwybod bod rhywun ar gael ar ochr arall e-bost neu alwad ffôn yn gallu gwneud y byd o wahaniaeth.
Mae tystebau ac adolygiadau gan gwsmeriaid blaenorol yn mynd yn bell i roi sicrwydd i gwsmeriaid newydd eich bod yn sefydliad y gallan nhw ymddiried ynddo. Peidiwch â cholli cyfleoedd i arddangos y rhain yn amlwg.
Proses dalu syml
Y sefyllfa orau yw y dylai cwsmer allu prynu tocynnau ar gyfer digwyddiad ar yr un pryd â phrynu nwyddau heb orfod ymafael â llawer o ddulliau mewngofnodi neu wefannau ar wahân. Gall hyn fod yn her os nad oes gennych gyllideb fawr na llawer o adnoddau datblygu mewnol.
Mae’r nod o sicrhau profiad didrafferth hefyd yn golygu lleihau nifer y camau gofynnol i symud o ddethol cynnyrch i fod wedi talu amdano. Gall hyn wrthdaro ag anghenion data eich sefydliad a’ch cyllidwyr a bydd yn sgwrs barhaus rhwng adrannau a rhanddeiliaid. Er enghraifft, mae cwsmeriaid yn hoffi gallu talu fel gwesteion, ond bydd hyn yn lleihau faint o ddata y gallwch ei gasglu.
Cymharwch brosesau talu’r siopau ar-lein rydych chi’n eu defnyddio – gan gynnwys o’r tu allan i’r sector. Cyfrifwch faint o dudalennau unigol y mae angen i chi eu gwe-lywio i gwblhau prynu a chymharu hyn â’ch safle chi. Oes rhywbeth gallwch chi ei wneud i symleiddio’r broses?
Hygyrchedd
Ydy eich gwefan yn gweithio i bobl sy’n defnyddio sgrîn-ddarllenwyr? Ydy’r elfennau gweledol yn amrywio’n daclus ar draws ystod o gydraniadau, meintiau a gosodiadau sgriniau? Ydy lliwiau eich brand yn peri anawsterau i ddefnyddwyr lliwddall? Oes modd gwe-lywio’r tudalennau heb orfod defnyddio llygoden? Oes disgrifiadau amgen priodol i’ch delweddau?
Mae teclynnau ar-lein am ddim sy’n darparu dadansoddiad ac arweiniad hygyrchedd, ond y mewnwelediad gorau bob tro fydd ymgynghori â phobl sy’n meddu ar brofiad bywyd o hyn.
Gweithio ar ffôn symudol
Ni fydd proses dalu sy’n gweithio’n berffaith ar gyfrifiadur pen desg neu liniadur yn gweithio’n awtomatig ar ddyfais fach maint y llaw. Mae canran sylweddol o’ch ymwelwyr yn debygol o fod yn defnyddio ffôn symudol – peidiwch â’u cloi allan.
Uwchwerthu
Er y bydd lleoliad yn aml yn gwerthu tocynnau mewn lleoliad hollol ar wahân yn ffisegol i’r siop roddion, mae gwefan yn gallu bod yn fwy hyblyg. Mae hyn yn arwain at gyfleoedd cyfleus i uwchwerthu i gwsmeriaid.
Wrth archebu tocynnau ar gyfer arddangosfa neu ddigwyddiad, mae’n gwneud synnwyr cynnig y llyfryn neu’r llyfr canllaw cysylltiedig fel ychwanegiad dewisol, am y byddech chi’n ei wneud yn y lleoliad, ond gallwch hefyd gynnig nwyddau o’r siop na fyddai modd eu harddangos mor hawdd wrth y ddesg flaen.
Gall cwsmer ychwanegu’r eitemau ychwanegol hyn at eu basged gydag un clic, cyn neu yn ystod y broses dalu.
Sgrinlun o You May Also Like ar wefan Curating Cambridge, siop ar-lein sy’n cefnogi amgueddfeydd, casgliadau a Gerddi Botaneg Prifysgol Caergrawnt.Bydd faint o botensial sydd i chi uwchwerthu’n dibynnu ar saernïaeth eich technoleg. Os yw eich siop ar-lein ar wahân yn llwyr i’ch system docynnau, bydd llai o hyblygrwydd gennych, ond gallwch wastad gynnwys nwyddau ychwanegol ar eich tudalen cadarnhau archeb neu mewn e-byst dilynol.
4. Denu traffig at eich siop
Mae popeth yn ei le: nawr yw’r amser i ddechrau gwerthu.
Targedu cwsmeriaid newydd o gymharu â chwsmeriaid sy’n dychwelyd
Mae cael cwsmeriaid blaenorol i ddychwelyd bob amser yn haws (ac yn rhatach) na denu ymwelwyr newydd. Y cwsmeriaid sy’n dychwelyd fydd yn gadael y tystebau, yn dweud wrth eu ffrindiau ac yn hapus i sôn am eu profiad neu’n dangos eu mỳg neu eu crys T newydd sbon ar Facebook. Cofiwch gydbwyso’ch ymdrechion ar draws cwsmeriaid newydd a rhai sy’n dychwelyd.
Ystyriwch deithiau gwahanol ddefnyddwyr sy’n rhyngweithio â’ch sefydliad. Beth yw’r pwyntiau gwahanol o ran eu denu i mewn? Er enghraifft:
Ymweld â’ch lleoliad wyneb yn wyneb
Argymhelliad gan ffrind
Codi llyfryn neu daflen
Gweld hysbyseb mewn print neu ar-lein
Darllen un o’ch blogiau neu wrando ar rifyn o bodlediad
Dod ar draws eich cynnwys ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol
Nodiadau atgoffa printiedig
Ar y digidol mae ein ffocws, ond cofiwch beidio â diystyru grym print. Sicrhewch fod llyfrynnau, taflenni, canllawiau rhaglenni, rhestrau postio ac felly oll yn cyfeirio at y siop ar-lein. Bydd hyn yn gwthio twristiaid ansicr tuag at eich gwefan, a bydd ymwelwyr sydd heb gael amser o bosibl i ymweld â’r siop wyneb yn wyneb yn gallu dilyn i fyny gartref.
Er ein bod wedi ystyried y gwahaniaeth rhwng siopau ar-lein a rhai mewn lleoliadau, yn eich negeseuon dylech chi feddwl amdanyn nhw fel pethau cysylltiedig yn y bôn.
Newyddlenni
Weithiau yr hen ddulliau yw’r goreuon o hyd. Fel teclynau cyfathrebu optio i mewn, mae newyddlenni e-bost yn llawn pobl sydd eisoes yn hoffi eich sefydliad. Mae darllenydd newyddlen eisoes wedi gwneud llawer mwy o ymrwymiad amlwg na rhywun sy’n dilyn yn ysgafn ar Twitter.
Sicrhewch fod ymwelwyr newydd yn gallu ymuno â’ch rhestr bostio’n hawdd. Bydd algorithmau’r cyfryngau cymdeithasol yn newid ac yn anwadal byth a hefyd; mae costau a rhwystrau cysylltiedig hanfodol i hysbysebu arddangos a chwilio; ond chi biau rhestr bostio ac mae’n llwybr uniongyrchol i fewnblychau eich cwsmeriaid.
Y cyfryngau cymdeithasol
Mae troi dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn brynwyr yn eithriadol o anodd. Yr hyn mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ei wneud yw darparu ffordd dda o’ch cadw yng ngolwg pobl. Gall fod yn brawf cymdeithasol cadarn a dangos bod sefydliad yn weithredol.
Optimeiddio peiriannau chwilio
Mae’n hanfodol bod pobl yn gallu dod o hyd i chi ar-lein. Rhan graidd o hyn yw sicrhau eich bod yn ymddangos mewn canlyniadau chwilio perthnasol yn agos i frig y dudalen. Drwy optimeiddio’ch gwefan byddwch chi’n helpu peiriannau chwilio fel Google a Bing i ddeall yr hyn rydych chi’n ei gynnig yn well.
Bydd sefydliadau treftadaeth am sicrhau eu bod wedi’u lleoli’n ddaearyddol yn gywir: ydy eich hafan dudalen yn ei gwneud yn glir ble rydych chi? Ydych chi wedi hawlio tudalen My Business eich sefydliad ar Google ac wedi diweddaru’r holl fanylion cyswllt priodol? Ydy erthyglau cadarnhaol ac adolygiadau’n cysylltu drwyddo i’ch gwefan? Ydych chi’n cysylltu’n fewnol fel bod pobl (a pheiriannau chwilio) yn gallu gwe-lywio’n hawdd?
Google Ad Grants
Os ydych chi’n sefydliad di-elw sy’n gymwys, bydd gennych chi fynediad at raglen Google Ad Grants, sy’n darparu $10,000 y mis o wariant hysbysebu am ddim bob mis.
Ni ellir defnyddio’ch grant hwn ar hysbysebion arddangos na siopa (sef yr hysbysebu mwy gweledol ar Google a welir ar wefannau eraill) ond mae’n ddefnyddiol iawn ar gyfer codi eich proffil ar Google.
Talu i hysbysebu ar-lein
Gallwch hefyd ymrwymo i dalu am hysbysebu ar-lein, a’r ffurf fwyaf cyffredin yw drwy Google Ads neu Facebook Ads. Mae’r targedu daearyddol sydd ar gael yn gallu bod yn arbennig o effeithiol ar gyfer sefydliadau treftadaeth mewn lleoliadau, gan eich galluogi i gyrraedd unrhyw un sy’n byw yn eich rhanbarth neu hyd yn oed bobl sy’n ymddiddori yn eich rhanbarth (fel twristiaid sy’n bwriadu dod ar wyliau cyn bo hir).
Gall hyn fod yn astrus, felly mae’n bwysig bod yn hyderus bod faint rydych chi’n ei wario i ddenu cwsmeriaid yn dal i arwain at werthiannau sy’n cynhyrchu elw.
5. Mesur llwyddiant
Dylid gosod Google Analytics i olrhain ymweliadau â’ch gwefan. Bydd hyn yn dweud wrthych chi pa dudalennu mae pobl yn ymweld â nhw a sut mae pobl yn dod o hyd i’ch gwefan.
Mae olrhain e-fasnach yn nodwedd ddewisol y mae angen ei rhoi ar waith yn unswydd. Bydd yn anfon gwybodaeth am weithgarwch prynu at Google Analytics, gan ganiatáu i chi weld faint o refeniw mae eich gweithgarwch marchnata wedi’i gynhyrchu.
Dylai eich llwyfannau tocynnau a siopa roi data defnyddiol ychwanegol i chi fel:
- Gwerth cyfartalog y fasged (defnyddiwch uwchwerthiannau i gynyddu faint sy’n cael ei werthu ym mhob trafodyn)
- Gwerth cwsmeriaid dros eu cyfnod cyfan (dewch â chwsmeriaid presennol nôl i’ch siop i gynyddu hyn)
Browse related resources by smart tags:
Digital engagement Donations E-commerce Ecommerce Online Online audience engagement

Please attribute as: "How can heritage organisations achieve online sales and visitor targets? (2022) by Chris Unitt supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0