
How do I reuse articles and images I’ve shared before?
1. Rhagarweiniad
Mae ailwampio erthyglau a delweddau eich sefydliadau treftadaeth yn ffordd wych o wneud i’ch cynnwys digidol weithio’n galetach. Bydd yr adnodd yma’n darparu cynghorion i wneud i’ch cynnwys digidol bara’n hirach tra’n sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol ac yn cydymffurfio â hawlfraint.
Gall creu cynnwys digidol o ansawdd fod yn eithriadol o lafurus. Rydyn ni i gyd yn chwilio am ffyrdd o fwyafu effeithlonrwydd ac arbed amser i ni’n hunain. Pam treulio diwrnodau’n creu cynnwys newydd pan allwch chi ailddefnyddio rhywfaint o’r deunydd sydd gennych chi eisoes? Yn gyntaf, gadewch i ni beidio â drysu ailddefnyddio ag ailbostio. Nid ein nod yw ailrannu hen ddarn o waith droeon a thro. Yr allwedd yw ei addasu a gwneud iddo apelio at gynulleidfaoedd gwahanol.
Yn aml, rydyn ni’n ymgolli gymaint â chreu deunydd newydd fel ein bod ni’n anghofio ein bod eisoes ar y blaen yn y broses greadigol, gan ddefnyddio straeon rydyn ni eisoes wedi’u hadrodd i’n helpu i adrodd llawer mwy. Mae hen erthyglau’n gallu bod yn sylfaen i sbarduno rhai newydd am fod rhywfaint o’r ymchwil gefndir eisoes wedi’i gwneud. Mantais ychwanegol i ailwampio cynnwys yw ei fod yn rhoi hwb i waith optimeiddio peiriannau chwilio. Os ydych chi’n postio cynnwys ar yr un pwnc, bydd yn cynyddu pa mor weladwy ydych chi ac yn gwella’ch safle, yn ogystal ag atgyfnerthu eich neges a chryfhau eich brand.
2. Dechrau arni
Y man cychwyn yw nodi cynnwys yn yr archifau sy’n werth ei ailddefnyddio. Efallai y bydd yn gymorth i chi edrych ar ddulliau dadansoddi eich safle i weld pa erthyglau a delweddau sydd wedi bod yn boblogaidd yn y gorffennol. Yna, gallwch chi adeiladu cynnwys o erthygl, pwnc neu ddelwedd a ddenodd lawer o draffig neu ryngweithio’n flaenorol. Fwy na thebyg, byddwch chi’n chwilio am yr hyn a elwir yn gynnwys ‘bytholwyrdd’. Cynnwys yw hwn nad yw’n dyddio ac sy’n parhau’n berthnasol i’ch cynulleidfaoedd. Yna, gallwch chi ddefnyddio hyn mewn ffyrdd newydd a chreadigol. Gallech chi roi cynnig ar rywbeth rhyngweithiol fel cwis. Cyn i chi ei ailddefnyddio, sicrhewch ei fod yn cydymffurfio â hawlfraint. Sicrhewch fod gennych dystiolaeth o unrhyw ganiatadau a ganiatawyd, asesiadau risg neu ddiwydrwydd dyladwy a wnaed, a’ch bod yn gyfforddus ag unrhyw gasgliadau. Os na wnaed hyn, mae’n debygol y bydd angen i chi wneud y darn yma o waith eto. Os nad eich sefydliad chi sydd biau’r hawliau i gyd, sicrhewch fod unrhyw drwyddedau a ganiatawyd at ddibenion ailddefnyddio’n dal yn ddilys a’u bod yn berthnasol i’r fformat dewisol i chi ddefnyddio’r gwaith. I ofyn am drwyddedau newydd, mae gan Naomi Korn Associates dempled o gytundeb hawlfraint cynorthwyol.
3. Gwahanol lwyfannau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
Mae gwahanol lwyfannau yn denu gwahanol gynulleidfaoedd. Mae’n bosibl nad yw’r person sy’n eich dilyn ar Facebook hefyd yn eich dilyn ar LinkedIn neu Twitter. Bydd angen i’ch cynnwys gael ei ail-fformadu i’w wneud yn gyson â’r gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae modd ailddefnyddio trydariadau (Tweets), er enghraifft, i greu postiadau neu storïau ar Instagram. Mae’n bosibl byddai’n well gan rai o’ch cynulleidfaoedd gynnwys nad oes rhaid iddyn nhw ei ddarllen. Yn yr achos yma, gallai podlediadau a fideos fod yn werthfawr i chi. Mae YouTube a Tik Tok wedi bod yn llwyddiant ysgubol i rai sefydliadau treftadaeth fel amgueddfa’r Black Country Living Museum.
4. Hawlfraint a’r cyfryngau cymdeithasol
Wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, mae’n bwysig eich bod yn deall yn glir y goblygiadau a’r cyfleoedd o ran hawlfraint wrth bostio’ch deunydd eich hun a deunydd a grëwyd gan rywun arall. Pan gaiff rhywbeth ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, caiff ei gyhoeddi ac mae iddo’r un goblygiadau ag y byddai petai’n cael ei gyhoeddi mewn llyfr, er enghraifft. Ni cheir defnyddio cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol ‘am ddim’.
5. Telerau defnydd
I beth rydyn ni’n cytuno wrth bostio ar y cyfryngau cymdeithasol? Mae’r Telerau Defnydd ar gyfer y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a gaiff eu defnyddio fynychaf yn debyg o ran sut maen nhw’n ymdrin â Hawliau Eiddo Deallusol:
- Mae’n rhaid i’r defnyddiwr berchen ar y cynnwys neu fod wedi cael awdurdod i ddefnyddio neu rannu’r cynnwys maen nhw’n ei bostio. Mae hyn yn golygu os ydych chi’n lanlwytho cynnwys, rydych chi’n derbyn yr holl gyfrifoldeb a’r risgiau dilynol dros gyfreithlondeb y cynnwys rydych chi’n ei bostio.
- Pan fyddwch chi’n postio ar y cyfryngau cymdeithasol, byddwch chi’n rhoi trwydded i ddarparwr y llwyfan ddefnyddio’r deunydd hwnnw yn ôl ei ddymuniad ei hun, gan gynnwys yr hawl i ddefnyddio ac isdrwyddedu’r deunydd.
Dyma’r enghraifft o Twitter: Drwy gyflwyno, postio neu arddangos Cynnwys ar neu drwy’r Gwasanaethau, rydych chi’n caniatáu i ni drwydded fyd-eang, anghyfyngol, heb freindaliadau (gyda’r hawl i isdrwyddedu) i ddefnyddio, copïo, atgynhyrchu, prosesu, addasu, newid, cyhoeddi, trosglwyddo, arddangos a dosbarthu’r fath Gynnwys mewn unrhyw a phob cyfrwng neu ddull dosbarthu sy’n hysbys ar hyn o bryd neu a gaiff ei ddatblygu’n ddiweddarach… Rydych yn deall y gallem ni newid neu addasu eich Cynnwys wrth iddo gael ei ddosbarthu, ei syndiceiddio, ei gyhoeddi, neu ei ddarlledu gennym ni a chan ein partneriaid a/neu gallwn wneud newidiadau i’ch Cynnwys er mwyn addasu’r Cynnwys at wahanol gyfryngau. Telerau Gwasanaeth Twitter; cyrchwyd 29 Mawrth 2022.
Facebook a phreifatrwydd, enghraifft: Gallwch derfynu’r drwydded hon ar unrhyw adeg, drwy ddileu eich cynnwys neu eich cyfrif. Dylech wybod y bydd unrhyw gynnwys rydych yn ei ddileu, yn parhau i fod am gyfnod cyfyngedig o amser, am resymau technegol, mewn copïau wrth gefn (er na fydd yn weladwy i ddefnyddwyr eraill). Yn ogystal, gallai cynnwys rydych chi’n ei ddileu barhau i ymddangos os ydych chi wedi’i rannu ag eraill ac maen nhw heb ei ddileu. Polisi Hawlfraint Facebook; cyrchwyd 1 Gorffennaf 2019.
Mae safleoedd cyfryngau cymdeithasol yn cadw’r hawl i newid y Telerau ac unrhyw adeg.
Prif gynghorion
- Mae’n bosibl y gallech chi ddefnyddio caniatâd trydydd parti o dan rai eithriadau e.e. dyfynnu, a pharodi a pastiche.
- Cofiwch nad yw’r defnydd o gynnwys ‘am ddim’ fel arfer.
- Pan fyddwch chi’n postio cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, cofiwch y byddwch chi’n rhoi trwydded hael i’r llwyfan ailddefnyddio’r cynnwys rydych chi’n ei bostio.
- Byddwch yn ymwybodol o darddiad cynnwys. Mae’n bosibl nad defnyddiwr sy’n smalio iddo fod wedi creu darn o gynnwys yw’r awdur gwreiddiol ac nid yw’n meddu ar yr hawl i’w drwyddedu.
- Yn aml ar y cyfryngau cymdeithasol, caiff hawlfraint ei thorri.
6. Creative Commons, Trwyddedau Agored a chynnwys defnyddiadwy
Beth bynnag a wnewch chi, sicrhewch eich bod yn defnyddio delweddau o ansawdd. Ni wnaiff sgrinlun o ansawdd isel y tro y dyddiau hyn. Os nad oes gennych ddelwedd yn eich meddiant eich hun, beth am ddefnyddio rhywfaint o’r cynnwys sydd ar gael am ddim sydd allan yna?
Er enghraifft, cymerodd Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Birmingham y penderfyniad yn ddiweddar i gynnig ei chasgliadau nad oeddent yn destun hawlfraint am ddim o dan ildiad Creative Commons CC0. Mae’r Smithsonian hefyd wedi cynnig rhai modelau 3D am ddim: Mammuthus primigenius (Blumbach) | 3D Digitization (si.edu).
Cofiwch, ni waeth beth yw statws hawlfraint neu’r math o drwydded, mae hawliau moesol yn dal yn berthnasol a dylid cydnabod awdur neu greawdwr y gwaith.
Meddwl yn strategol
Gan wybod yr hyn rydych chi’n ei wybod nawr, gallwch chi ddechrau creu cynnwys ag effeithlonrwydd mewn golwg. Treuliwch amser yn cynhyrchu erthyglau hirach y gallwch chi dynnu darnau byrrach oddi wrthyn nhw. Y syniad yw ffocysu ar greu darnau mwy o gynnwys ffurf hir, yna’i hollti’n ddarnau llai a byrrach ar gyfer gwahanol lwyfannau, dibenion a chynulleidfaoedd. Mae hefyd yn helpu i gryfhau ac atgyfnerthu eich neges. Er bod y cynnwys yma’n cymryd yn hirach i’w gynhyrchu, mae’n fwy effeithlon yn y pen draw.

Please attribute as: "How do I reuse articles and images I’ve shared before? (2022) by Dr. Katharine Walker, Naomi Korn Associates supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0