Emma Hughes
Emma Hughes | Curadur ac ymgynghorydd | Limina Immersive
Mae Emma yn Gynhyrchydd Creadigol, yn Guradur ac yn Artist sy’n arbenigo mewn creu profiadau rhyngweithiol a throchol. Fel eiriolwr dros y celfyddydau a’r awyr agored ar gyfer iechyd a lles, y gymuned sydd wrth galon ei hymarfer, gan hwyluso mynegiant creadigol ac ymgysylltiad drwy wneud a chynhyrchu gwaith sy’n chwareus, yn hygyrch ac yn arloesol yn ei ddefnydd o dechnoleg sy’n dod i’r amlwg.
Mae ei gwaith yn cynnwys hwyluso gweithdai drama ac animeiddio ar gyfer oedolion hŷn a phobl ifanc, gan ddylunio arddangosion rhyngweithiol ar gyfer Llyfrgelloedd Dyfnaint (EnchanTales, 2019) a chefnogi artistiaid sydd â nam ar eu golwg i gynhyrchu cyfres o bodlediadau trochol gyda Theatr PECo (City of Threads, 2021).
Gan ddefnyddio llythrennedd digidol fel dull hunan-rymuso, mae Emma wedi darparu sesiynau mentora digidol i ystod eang o grwpiau, megis sefydliadau celfyddydol yn ardal Birmingham (Digital Welcome, Limina, 2020/21), oedolion hŷn a gweithwyr llawrydd theatr.
Fel curadur ac ymgynghorydd yn Limina, ymhlith uchafbwyntiau Emma mae rheoli’r VR Diversity Initiative Bootcamp, cynnal astudiaeth ymchwil fanwl gyda chynulleidfaoedd ar genres a fformatau trochi ar gyfer adroddiad mawr Digital Catapult, cynhyrchu rhaglen ddigwyddiadau cynulleidfa VR Limina a churadu rhaglenni cynnwys trochol sy’n gwthio ffiniau.

Resources by Emma Hughes

Immersive Media also known as XR offer visitors the opportunity to engage with heritage organisations through VR (virtual reality) and AR (augmented reality) experiences. There is a lot to consider before diving into an immersive media or computer-generated project. In this resource Emma Hughes from Limina provides useful insight to help clarify some questions you might have about the feasibility of introducing XR experiences at your heritage organisation.