Which policy frameworks are most significant to the heritage sector?
1. Cyflwyniad
Yn eich gwaith beunyddiol, fe fyddwch eisoes wedi dod ar draws polisïau a chodau ymarfer y disgwylir ichi eu hymgorffori yn y modd y caiff eich sefydliad a’ch timau eu rhedeg. Mae nifer o’r polisïau hyn i’w cael bellach mewn fformat digidol. Dylai’r ffaith fod y dogfennau hyn i’w cael ar-lein eich hwyluso i gydymffurfio â nhw a chwilio am adrannau sy’n berthnasol i’ch ymholiad.
Gan fod y dogfennau hyn ar gael mor rhwydd, bydd modd ichi archwilio arferion gorau ar gyfer eich sefydliad er mwyn gweld i ba raddau rydych yn cydymffurfio. Yn yr adnodd hwn, esboniwn pa bolisïau a chodau ymarfer o eiddo llywodraeth y DU sy’n berthnasol i’r sector diwylliant a threftadaeth. Ar y diwedd, cewch gyfle i lenwi archwiliad o arferion gorau a meddwl am unrhyw welliannau yr hoffech eu cyflwyno.
2. Cymhwyso polisïau a chodau ymarfer llywodraeth y DU
Mae ein harbenigwr, Patrick Glen o Brifysgol Leeds, yn trafod pa bolisïau a chodau ymarfer a allai fod yn berthnasol i’ch sefydliad.
Mae deall sut i gael gafael ar bolisïau a sut i’w cymhwyso at eich sefydliad yn cychwyn trwy wybod pa rai o adrannau’r llywodraeth sy’n canolbwyntio ar dreftadaeth a datblygu treftadaeth.
Polisi’r llywodraeth
Mae tair o adrannau’r llywodraeth yn gyfrifol am bolisïau yn y sector treftadaeth, sef:
- Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
- Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Ymhellach, mae gan y llywodraethau datganoledig yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru bolisïau cenedlaethol yn ymwneud â threftadaeth. (Gweler yr adran ‘deunyddiau darllen pellach’ isod i gael enghreifftiau o fframweithiau polisi Cymru.)
‘Datganiadau o safbwynt, bwriad neu weithred y llywodraeth’ – dyna yw polisïau’r llywodraeth. Mae’r mwyafrif o’r polisïau a’r deddfwriaethau ar gyfer y sector treftadaeth yn ymwneud â chynllunio, adeiladau hanesyddol a’r amgylchedd naturiol. Felly, mae enghreifftiau nodweddiadol yn cynnwys polisïau sy’n cyfyngu ar fathau arbennig o ddatblygiadau mewn ardaloedd treftadaeth dynodedig, dulliau o ddiogelu adeiladau hanesyddol neu ffyrdd o warchod cynefinoedd bywyd gwyllt pwysig.
Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
Mae’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cyhoeddi polisïau a chanllawiau’n ymwneud â diogelu adeiladau hanesyddol, rhestru henebion a diwygio’r modd y caiff treftadaeth ei diogelu.
Mae’r Adran yn ysgwyddo sawl rôl arall yn ymwneud â threftadaeth. Mae’r Rhaglen Cofnodi Diwylliant a Threftadaeth yn cynnig dull safonedig o bennu gwerth diwylliant ac adnoddau treftadaeth yn Lloegr, sy’n ymwneud â chyfleoedd cyllido ar gyfer sefydliadau treftadaeth. Hefyd, mae’r Adran yn mynd i’r afael â gwaith i annog sefydliadau treftadaeth i roi dull amgylcheddol gynaliadwy ar waith.
Mae Papur Gwyn 2001 yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn nodi amryfal ddulliau o ddiogelu treftadaeth leol. Mae’r papur yn tynnu sylw at y manteision a ddaw i ran cydlyniant cymunedol a datblygu gwledig yn sgil diogelu treftadaeth. Er mwyn gwireddu’r manteision hyn, mae’r Adran yn mynd i’r afael â gwaith i ddatblygu capasiti awdurdodau lleol, cymunedau a sefydliadau i gymryd perchnogaeth o ‘asedau treftadaeth’.
Mae’r Adran yn cynnig cyngor a hyfforddiant yn ymwneud ag arferion gorau mewn treftadaeth ddigidol trwy gefnogi Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth. Caiff yr arlwy ei weinyddu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac mae’n cynnwys seminarau ar-lein a digwyddiadau rhwydweithio yn y cnawd.
Yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau
Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gyfrifol am y Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol sy’n goruchwylio’r system gynllunio, ac o’r herwydd mae’n ymwneud â’r amgylchedd adeiledig hanesyddol a’r amgylchedd naturiol hanesyddol. Mae Adran 16 y fframwaith yn canolbwyntio’n benodol ar agweddau ar gynllunio mewn perthynas â threftadaeth, gyda ffocws ar gadwraeth a’r rôl sydd gan awdurdodau cynllunio lleol wrth ymdrin â datblygiadau newydd yn yr ardaloedd hanesyddol hyn.
Bydd modd i’r fframwaith hwn helpu eich sefydliad i gefnogi’r arfer o warchod amgylcheddau hanesyddol a naturiol mewn ffyrdd cyfrifol.
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn llunio polisïau’n ymwneud â’r amgylchedd naturiol a gwarchod treftadaeth. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd polisïau’n ymwneud â’r modd y mae sefydliadau’n ymateb i newid hinsawdd, yn ogystal â pholisïau’n ymwneud â defnyddio cemegau a phlaladdwyr, a hadau ac amrywogaethau planhigion, yn arbennig o ddefnyddiol i sefydliadau treftadaeth a chanddynt erddi neu sy’n gweithio ar diroedd ffermio.
Ymhellach, mae’r DU wedi llofnodi Confensiwn Treftadaeth y Byd (y Confensiwn ynghylch Gwarchod Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd). Mae’r confensiwn hwn yn gorchymyn y dylai’r llywodraeth gefnogi ymdrechion i ganfod, diogelu a gwarchod treftadaeth, ynghyd â chyflwyno’r dreftadaeth honno i’r cyhoedd ac addysgu’r cenedlaethau iau – ymrwymiad sy’n ategu gwaith nifer o sefydliadau treftadaeth ledled y wlad.
Codau ymarfer
Yn hanesyddol, mae amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth wedi elwa ar ‘egwyddor hyd braich’ mewn perthynas â chasgliadau ac addysg, ac mae hyn wedi rhoi cryn dipyn o ymreolaeth ac annibyniaeth olygyddol iddynt, heb ryw lawer o ymyrraeth wleidyddol. Fodd bynnag, yn 2020 cyflwynodd y llywodraeth bolisi ‘cadw ac egluro’ newydd mewn ymateb i’r gwrthdystiadau a’r trafodaethau cyhoeddus ynghylch symud neu ailbennu cyd-destun henebion ac arteffactau sy’n portreadu ffigyrau cynhennus o orffennol trefedigaethol Prydain.

Mae’r datblygiad hwn yn tynnu sylw at yr effaith bosibl a gaiff polisïau’r llywodraeth ar ymarfer proffesiynol, gweithgareddau dad-drefedigaethu a chyfleoedd cyllido. Mae gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd sawl adnodd yn ymwneud â ‘chadw ac egluro’ sy’n dangos yr effaith a gaiff y polisi hwn ar sefydliadau treftadaeth.
Ffynonellau canllawiau
Mae Historic England yn cynnig arferion da ar gyfer sefydliadau treftadaeth. Er enghraifft, mae Good Practice Guide for Local Heritage Listing yn cynnig canllawiau ar gyfer dethol a rhestru adeiladau a strwythurau er mwyn creu rhestrau o dreftadaeth leol. Mae hefyd yn cynnwys nifer o astudiaethau achos defnyddiol i’ch helpu i feddwl trwy’r broses.
Mae Cymdeithas yr Amgueddfeydd yn cynnig amrywiaeth eang o adroddiadau sy’n rhoi cyngor ynglŷn ag arferion gorau. Mae’r rhain yn cynnwys cod moeseg, cyngor ynghylch cynaliadwyedd amgylcheddol, dysgu ac ymgysylltu, a ‘dad-drefedigaethu’.
Hefyd, gall cymdeithasau proffesiynol ar gyfer y sector treftadaeth gynnig cyngor ac arweiniad ar fframweithiau polisi a allai fod yn berthnasol i’ch sefydliad. Maent yn archwilio cymhwysedd eu haelodau, yn arddel codau ymarfer ac yn annog datblygiad proffesiynol parhaus. Mae’r sefydliadau hyn yn cynnwys: Sefydliad Siartredig yr Archaeolegwyr, y Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol, y Sefydliad Tirwedd a Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain.
Ar wefan Historic England, ceir rhestr lawn o’r cymdeithasau proffesiynol sy’n berthnasol i’r sector treftadaeth.
3. Archwilio arferion gorau ar gyfer eich sefydliad
Darllenwch y ddogfen Canllawiau Arfer Da gan y Gronfa Dreftadaeth. Mae’n ymdrin â’r meysydd a nodir mewn teip trwm yn y rhestr isod. Rydym hefyd wedi ychwanegu meysydd eraill y gallwch eu hadolygu. Ni fyddwch angen pob categori, ond trwy bennu bylchau yn eich ymarfer gallwch wella parodrwydd, dull a chadernid eich sefydliad. Ystyriwch bob rhestr berthnasol yn ei thro a meddyliwch am y cryfderau a’r camau y bydd angen ichi eu cymryd. Gallwch wneud hyn mewn unrhyw fformat, ond gallwch hefyd ddefnyddio’r Templed Archwilio Arferion Gorau (Dogfen Word, 203kb) syml hwn.
- Cynaliadwyedd amgylcheddol
- Addysg
- Cynhwysiant
- Llesiant
- Sgiliau a Hyfforddiant
- Cadernid sefydliadol
- Cadwraeth
- Cydweithredu â’r cyhoedd
- Cynllunio busnes
- Digidol ac ar-lein
- Gwerthuso
- Gwirfoddoli
- Caffael
- Yr amgylchedd adeiledig hanesyddol
- Yr amgylchedd naturiol hanesyddol
- Moeseg
- Dad-drefedigaethu
Deunyddiau darllen pellach (fframweithiau polisi Cymru)
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "Which policy frameworks are most significant to the heritage sector? (2022) by Dr Patrick Glen supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0





