English

Defnyddio cryptoarian a thocynnau anghyfnewidiadwy i godi arian

Gall cryptoarian a thocynnau anghyfnewidiadwy gynnig cyfleoedd unigryw i godi arian yn y sector diwylliannol. Mae’r arweiniad hwn yn cynnwys astudiaethau achos yn ymwneud â sut y caiff yr elfennau hyn eu defnyddio ar hyn o bryd, a chynigir cyngor gan arbenigwyr ynglŷn â’r modd y gallai eich sefydliad elwa ar y technolegau hyn, yn awr ac yn y dyfodol.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
Seven horse-riders dressed in red on seven black horses in front of a grand building
Image courtesy of VisitBritain © Martin Ritchie

Using cryptocurrencies and non-fungible tokens (NFTs) for fundraising

1. Beth yw cryptoarian?

Mae mwy a mwy o elusennau wedi dechrau derbyn rhoddion ar ffurf cryptoarian digidol, megis Bitcoin. Ond beth yw cryptoarian? A sut y mae’n gweithio?

Yma, mae ein harbenigwr, Dr Stephen Dobson o Brifysgol Leeds, yn edrych ar y pethau y dylai sefydliadau nid-er-elw eu hystyried mewn perthynas â defnyddio cryptoarian wrth drawsnewid y ffordd y maent yn codi arian, a hefyd ceir rhai enghreifftiau o’r sefydliadau hynny yn y sector treftadaeth sydd eisoes yn gwneud defnydd o’r arian digidol hwn.

Yn y bôn, cod cyfrifiadurol yw cryptoarian – cod y gellir ei droi’n arian cyfreithlon trwy gyfrwng trafodiadau a gofnodir ar gyfriflyfr ar-lein y gall y cyhoedd ei weld. Gelwir y cyfriflyfr hwn yn gadwyn floc, a chaiff yr holl drafodiadau eu dilysu rhwng y defnyddwyr trwy gyfrwng proses a elwir yn dechnoleg cyfriflyfr gwasgaredig. Cafodd y cryptoarian cyntaf a sefydlwyd, sef Bitcoin, ei lansio yn 2008. Ar y cychwyn câi ei ddefnyddio’n eang, ond erbyn 2022 ystyriwyd mai Bitcoin oedd y nawfed ased mwyaf gwerthfawr, gyda gwerth cyfalafiad y farchnad o $872.81 biliwn. Erbyn hyn, mae cryptoarian poblogaidd o fathau eraill i’w cael, megis Ethereum, XRP, Litecoin, Polkadot, Stellar, Binance a Doge.

Gall cryptoarian esgor ar botensial mawr i’r sector treftadaeth o ran cynyddu ymdrechion sefydliadau i godi arian trwy ehangu’r dulliau y gall pobl gyfrannu arian. Fodd bynnag, gall cryptoarian esgor ar ambell her hefyd yn ymwneud â diogelwch a chymhlethdod.

Mae gan bawb sy’n meddu ar gryptoarian gyfeiriad cyhoeddus (rhywbeth tebyg i rif eich cyfrif banc) ac allwedd breifat (tebyg i’ch cyfrinair bancio). Er mwyn i berchennog yr arian allu ei drosglwyddo i chi, bydd angen i’r perchennog hwnnw wybod eich cyfeiriad cyhoeddus. Er mwyn derbyn cryptoarian, rhaid i’r sefydliad agor waled gyda darparwr waledi. Yn achos sefydliadau sy’n derbyn taliadau ar ffurf cryptoarian, mae nifer ohonynt yn sicrhau bod manylion eu waled ar gael yn gyhoeddus, er hwylustod. Fodd bynnag, ni chaiff hyn ei argymell fel arfer gorau, oherwydd gall rhoddwyr gyfrannu rhoddion ar ffurf cryptoarian heb ichi wybod beth yw ffynhonnell y rhodd. Ystyriaeth bwysig arall yw’r ffaith y bydd gwerth cronfeydd a gedwir mewn waledi crypto yn codi ac yn gostwng, felly rhaid i’r rhoddion gael eu trosi’n ddi-oed os ydych am eu defnyddio. Mae’r farchnad drwyddi draw yn eithriadol o anwadal.

Ystyriaethau eraill

Costau trafodiadau

Gall trafodiadau ar ffurf cryptoarian fod yn fwy cost-effeithiol na throsglwyddiadau ar ffurf arian traddodiadol. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos trafodiadau rhyngwladol, oherwydd ni cheir unrhyw gyfyngiadau daearyddol na chostau trosi arian.

Enw da eich sefydliad

O safbwynt enw da, dylai eich sefydliad sicrhau nad yw’r rhoddion a dderbynnir ganddo yn ddienw. Hefyd, dylid parhau i gymhwyso’r ystyriaethau arferol o ran sicrhau bod y rhoddwr yn cyd-fynd â’ch credoau a’ch gwerthoedd craidd. Mae canllawiau’r Comisiwn Elusennau yn ei gwneud yn ofynnol i elusennau sicrhau eu bod yn gwybod pwy yw eu rhoddwyr.

Treth

Yn 2019, cyhoeddodd yr UK Jurisdiction Taskforce ddogfen o’r enw ‘Legal Statement on the Status of Crypto-assets and Smart Contracts’ er mwyn pennu sail gyfreithiol ar gyfer cryptoarian a chryptoasedau. Mae’n nodi y dylai cryptoasedau (yn cynnwys tocynnau anghyfnewidiadwy) gael yr un statws cyfreithiol ag eiddo anniriaethol. Ar yr adeg y lluniwyd y ddogfen hon, ystyriwyd bod cryptoased yn ased trethadwy at ddibenion treth enillion cyfalaf a threth etifeddu, ond mae’n bwysig trafod y goblygiadau ar gyfer eich sefydliad gydag un o gynrychiolwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi er mwyn cael y cyngor diweddaraf.

Mae amrywiaeth eang o elusennau bellach yn derbyn rhoddion ar ffurf cryptoarian, yn cynnwys:

 

2. Beth yw tocynnau anghyfnewidiadwy?

Yn y cyd-destun hwn, mae ‘anghyfnewidiadwy’ yn golygu ased digidol unigryw na ellir ei gyfnewid. Mae tocynnau anghyfnewidiadwy yn defnyddio technoleg debyg i gryptoarian yn yr ystyr eu bod hwythau hefyd yn bodoli ar gadwyn floc sy’n cadarnhau pwy yw perchnogion yr eitemau rhithwir. Gall tocyn anghyfnewidiadwy fod yn unrhyw beth ar ffurf ddigidol, megis celf, cerddoriaeth neu wrthrychau rhithwir fel model 3D o arteffact. Felly, mae’r tocyn anghyfnewidiadwy yn rhyw fath o dystysgrif ddilysrwydd. Oherwydd hyn, nid yw meddu ar docyn anghyfnewidiadwy yr un fath â meddu ar sgrinlun o’r ddelwedd, er enghraifft. Fel perchennog tocyn anghyfnewidiadwy, bydd gennych brawf perchnogaeth. Mae rhai tocynnau anghyfnewidiadwy yn weithiau celf ynddynt eu hunain yn hytrach nag yn gofnod o drafodiad. Gan fod y sector diwylliant a threftadaeth yn canolbwyntio’n aml ar wrthrychau ac arteffactau unigryw a phrin, mae tocynnau anghyfnewidiadwy wedi esgor ar lawer o ddiddordeb. Mae gwerthu tocynnau anghyfnewidiadwy ar wefannau neu mewn arwerthiannau elusennol yn ffordd werthfawr o gynhyrchu rhoddion ar gyfer y rhai sydd, o bosibl, â diddordeb ym mhotensial cryptoasedau ond y byddai’n well ganddynt beidio â delio’n rheolaidd mewn cryptoarian.

Mae’r British Museum yn un sefydliad diwylliannol enwog sydd wedi dechrau creu a gwerthu tocynnau anghyfnewidiadwy ar gyfer ei arddangosion trwy gyfrwng y platfform LaCollection. Yn ddiweddar, cofnododd Sotheby’s werthiant o $100m a gynhyrchwyd trwy gyfrwng ei gategori ‘tocynnau anghyfnewidiadwy’ newydd. Er mai cyfran fechan yw’r ffigur hwn o gyfanswm gwerthiannau’r tŷ arwerthu, mae’n dangos bod tocynnau anghyfnewidiadwy yn llwyddo i ddenu mwy ar sylw’r byd treftadaeth ddiwylliannol fel ffordd o ymestyn y maes eiddo deallusol treftadaeth a diwylliant sydd eisoes yn boblogaidd.

I brynwr tocynnau anghyfnewidiadwy, gellir gweld y ffeil delweddau, y ffeil sain neu’r ffeil cyfryngau ar unrhyw un o’r dyfeisiau canlynol:

1. Monitor teledu, sgriniau LED neu ddyfais sain
2. Cyfrifiadur, gliniadur neu ffôn clyfar
3. Gwefannau a phlatfformau cyfryngau cymdeithasol
4. Copïau ffisegol wedi’u hargraffu ar ffurf 3D
5. Fframiau lluniau digidol (TokenFrame)
6. Pensetiau realiti rhithwir.

 

Effeithiau amgylcheddol

Yn amlwg, mae hwn yn faes o ddiddordeb a thwf i’r sector, ond er bod cryptoarian a thocynnau anghyfnewidiadwy yn elfennau rhithwir nad ydynt wedi’u gwneud o bapur, plastig na metel, maent yn dal i fod ag ôl-troed carbon sylweddol. Mae gwaith ymchwil a gynhwysir mewn erthygl a gyhoeddwyd yn 2019 yn y cyfnodolyn gwyddonol Joule yn amcangyfrif bod Bitcoin yn cynhyrchu rhwng 22 a 22.9 miliwn tunnell fetrig o allyriadau carbon deuocsid bob blwyddyn, a hynny gan y defnyddir llawer iawn o ynni i ddilysu’r gadwyn floc. Mae datblygu dull crypto mwy ‘gwyrdd’ yn faes ymchwil pwysig trwy’r byd, ac efallai y bydd effaith amgylcheddol cryptoasedau yn ffactor pwysig i’ch sefydliad.

 

3. Pwyntiau i’w cofio

  • Caiff cryptoarian ei ddefnyddio fwyfwy gan elusennau wrth drawsnewid y ffordd y maent yn codi arian.
  • Mae gwerthu tocynnau anghyfnewidiadwy trwy gyfrwng gwefannau ac arwerthiannau elusennol yn ffordd newydd o gynhyrchu rhoddion.
  • Mae’r ffordd y defnyddir cryptoarian a thocynnau anghyfnewidiadwy yn dal i esblygu. Cynhaliwch waith ymchwil manwl, ymgynghorwch â chynrychiolydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y risgiau a’r cyfleoedd cyn ichi wneud unrhyw beth.

Rhagor o adnoddau

 



More help here


Two dogs sitting in front of a large building with a clocktower

What implications and opportunities should we consider when using 3D scanning or printing to create 3D digital models from our collections?

As 3D scanners and printers become more affordable, 3D modelling may increasingly be considered as a part of your heritage organisation’s digital strategy. This guide reviews key policy areas on the use and dissemination of digital assets including implications of intellectual property (IP). It also discusses the key aspects to consider when thinking about creating 3D models of your collection.

 
A view down a street at night with many lit up bars

Key sources of support and advice when deciding on which software and digital services are suitable for your organisation

This guide outlines some key sources of information available to support your decision making on the suitability and application of new technology and digital services.

 

Browse related resources by smart tags:



Fundraising Strategy Future proof Trends
Published: 2022


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "Using cryptocurrencies and non-fungible tokens (NFTs) for fundraising (2022) by Dr Stephen Dobson supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 


More help here



Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo