English

Ymchwil ar gyfer model busnes arloesol

Gan ddibynnu ar natur y newid y dymunwch ei gyflwyno, byddwch angen cael dulliau gwahanol o gasglu data a chynnal ymchwil er mwyn ategu’r hyn a wnewch. Pa un a fydd hyn yn golygu cynnal arolygon staff neu arolygon cynulleidfaoedd, arsylwi ar ymwelwyr neu ddeall prosesau a llifoedd gwaith sefydliadol, mae casglu data perthnasol yn agwedd hollbwysig ar arwain newid. Mae’r arweiniad hwn yn nodi methodoleg a argymhellir er mwyn eich helpu i werthuso a chynllunio ar gyfer model busnes digidol arloesol.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
Visitors inside a war museum
Image courtesy of Imperial War Museum ©

Research for business model innovation

1. Pa ymchwil a all fod yn angenrheidiol?

Wrth gasglu data a gwybodaeth i ategu newid yn eich model busnes, gall fod yn anodd gweld y coed gan brennau. Yn aml, mae yna gynifer o ffactorau i’w hystyried, a hawdd yw canolbwyntio ar yr wybodaeth sydd wrth law neu ar wybodaeth gyfarwydd, gan golli golwg ar dueddiadau neu ddirnadaethau pwysig. Yn hollbwysig, rhaid inni hefyd allu edrych ar yr wybodaeth sydd wrth law a phwyso a mesur beth a allai ddigwydd nesaf, a’r ffordd orau o ymateb.

Er mwyn lleihau’r risg o ganolbwyntio’n rhy fanwl ar bethau, gall fod yn ddefnyddiol camu’n ôl ac edrych ar y gwahanol ffactorau amgylcheddol sy’n effeithio ar eich sefydliad, gan flaenoriaethu eich ymchwil yn unol â hynny. Yn ei drosolwg o ddulliau rheoli strategol, mae Lynch (2021) yn annog sefydliadau i ystyried eu hamgylchedd strategol, yn cynnwys y canlynol:

  • Yr amgylchedd macro-allanol
  • Yr amgylchedd macro-mewnol
  • Yr amgylchedd mewnol

Yn ffodus, ni fydd angen ymchwilio i bob ffactor er mwyn ategu model busnes arloesol; dim ond y ffactorau pwysicaf. Yna, gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i ragamcanu’r dyfodol er mwyn eich helpu i bennu ffocws eich ymchwil.

Yn yr adnodd hwn, mae ein harbenigwr Michael Turnpenny, Pennaeth Museum Development Yorkshire, yn trafod ble i dargedu eich ymchwil er mwyn eich helpu i ragweld y newidiadau y gall fod angen ichi eu cyflwyno i’ch model busnes i ymgorffori arloesi digidol.

2. Sut i bennu meysydd ymchwil allweddol?

Nid oes yr un sefydliad treftadaeth yn bodoli mewn gwagle; bydd ei amgylchedd wastad yn dylanwadu arno, yn ogystal â’i bobl, ei ddulliau a’i systemau mewnol. Gwaith anodd yn aml yw pennu meysydd ymchwil pwysig, oherwydd efallai y cewch eich llethu gan wybodaeth heb wybod beth sy’n berthnasol, neu efallai y bydd amser, pobl ac arian yn rhy brin i allu buddsoddi mewn gwaith ymchwil manwl. Pan fydd hyn yn digwydd, gallwch ddefnyddio methodolegau rhagolwg i droi ymchwil yn weithredu ac i feddwl yn feirniadol cyn gwneud penderfyniadau strategol.

Er ei bod hi’n amhosibl rhagweld y dyfodol, gallwch ddefnyddio eich gwybodaeth am ddigwyddiadau a thueddiadau cyfredol i ddehongli eu canlyniadau o ran eich sefydliad. Trwy gyfrwng y broses hon, bydd modd i’ch sefydliad bennu newidiadau tebygol a fydd yn effeithio ar eich gwaith. Bydd y dull hwn o geisio rhagamcanu’r dyfodol yn galluogi eich sefydliad i feddwl am wahanol senarios yn y dyfodol, gan helpu i lywio gwaith ymchwil neu benderfyniadau busnes strategol.

Pwyso a mesur pethau

Mae yna dri cham a phum cwestiwn y gall eich sefydliad fynd trwyddynt er mwyn asesu’r amgylchedd presennol:

  • Dirnad
    • Beth sy’n digwydd?
    • Beth sydd wrth wraidd y tueddiadau hyn?
  • Archwilio
    • Beth a allai ddigwydd yn y dyfodol?
  • Treiddio
    • Pa bethau y gall fod angen inni eu gwneud? (Beth yw’r opsiynau?)
  • Strategaeth
    • Beth fyddwn yn ei wneud a sut y byddwn yn ei wneud?

Dirnad

Bydd eich sefydliad yn meddu ar lawer o wybodaeth am y ffactorau amgylcheddol allweddol sy’n effeithio ar eich gwaith. Gall y ffactorau hyn fod yn elfennau amgylcheddol macro-allanol a bennir trwy ddefnyddio dadansoddiad PESTLE, neu gallant fod yn newidiadau mwy lleol. Gall yr olaf o’r rhain gynnwys newidiadau o ran nifer yr ymwelwyr neu newidiadau i sefydliadau allweddol y dibynnwch arnynt, megis cyflenwyr cronfeydd data casgliadau. Yn fewnol, gallech weld newidiadau yn niferoedd eich ymwelwyr, mewn arolygon bodlonrwydd cwsmeriaid neu yn y defnydd a wnewch o ynni.

Yn ôl pob tebyg, bydd arwyddocâd y tueddiadau hyn yn unigryw i’ch sefydliad chi. Ar ôl ichi bennu tueddiadau allweddol, dylai eich rheolwyr, eich gwirfoddolwyr allweddol a’ch ymddiriedolwyr adolygu a mireinio’r rhestr o ffactorau fel y gellir canolbwyntio ar y rhai sy’n debygol o gael yr effaith fwyaf ar eich gwaith. Yn ystod y cam hwn, byddai’n werth ichi geisio canfod a oes yna dueddiadau sylfaenol sy’n cysylltu’r ffactorau hyn ac sy’n adrodd stori ehangach. Er enghraifft, mae gostyngiad ym maint yr elw (mewnol) yn ystod cyfnod lle mae cyfraddau llog yn codi (allanol) yn adrodd stori ehangach ynghylch tueddiadau economaidd.

Archwilio

Gan y bydd eich sefydliad yn ymwybodol o ffactorau allweddol ynglŷn â’i sefyllfa bresennol, a chan y bydd wedi pennu nifer o dueddiadau neu newidiadau cymdeithasol posibl, bydd modd iddo ddefnyddio’r rhain i greu senarios.

Bydd y senarios hyn yn ateb y cwestiwn ‘beth fydd yn digwydd pe bai…?’ ac maent yn seiliedig ar realiti gan eu bod yn allosod tueddiadau cyfredol. Un dull defnyddiol yw mynd ati i ddewis cyfnod yn y dyfodol a disgrifio sut y bydd fersiwn o’r tueddiadau a bennwyd gennych yn effeithio ar eich sefydliad. Gan mai senarios yw’r rhain, disgrifiwch ambell fersiwn wahanol er mwyn profi effaith y ffactorau a hefyd er mwyn canfod rhagdybiaethau allweddol neu feysydd ansicr. Gan ddibynnu ar y senarios, efallai y bydd modd i’ch sefydliad fynd ati yn awr i bennu dulliau ymchwilio neu arloesi allweddol.

Treiddio

Gan fod eich sefydliad bellach wedi datblygu syniad ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd yn awr a’r hyn a allai ddigwydd yn y tymor byr i’r tymor canolig, mae modd pennu ymatebion a all liniaru bygythiadau neu fanteisio ar gyfleoedd. Mae’r cam hwn yn y gwaith rhagamcanu yn troi oddi wrth elfennau damcaniaethol at elfennau diriaethol gan ei fod yn ateb y cwestiwn ‘pa bethau y gall fod angen inni eu gwneud?’

Gall nifer o sefydliadau treftadaeth symud yn gyflym at wneud penderfyniad a chynnig ymateb, ond dyma’r adeg i arloesi hefyd. Mewn ambell achos, efallai y byddwch yn dymuno mynd i’r afael ag un neu fwy o’r canlynol:

  • gwaith manwl sy’n ymchwilio i fygythiad neu gyfle allweddol
  • prototeipiau damcaniaethol neu brototeipiau ar raddfa fach
  • mentrau neu brosiectau peilot
  • gwaith ymgynghori a phrofi gyda chynulleidfaoedd neu gwsmeriaid.

Yn sgil y gweithgarwch treiddio hwn, bydd modd i’ch sefydliad ddeall, cyfiawnhau a dilysu ei gamau nesaf.

Strategaeth

Ar ôl cwblhau ymarfer treiddio, bydd eich sefydliad treftadaeth wedi defnyddio dulliau rhagamcanu i bennu a deall y goblygiadau sydd ynghlwm wrth dueddiadau’r presennol a’r dyfodol. Hefyd, bydd wedi pennu ac asesu nifer o ymatebion posibl. O’r herwydd, mae’r sefydliad treftadaeth bellach mewn sefyllfa i gymryd camau. Er y gall hyn olygu cynnal gwaith ymchwil ychwanegol i gynllunio ar gyfer model busnes arloesol, gall hefyd olygu gweithredu mentrau a chynlluniau newydd.

Further reading

Lynch, R. (2021) Strategic Management. Nawfed argraffiad, SAGE Publications

Conway, M. (2014) An Overview to Foresight Methodologies. [Y Rhyngrwyd]. Ewch i ResearchGate i’w lawrlwytho.

3. Astudiaeth Achos – Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Efrog

Yn 2021-22, aeth Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Efrog i’r afael â rhaglen a oedd yn cynnwys arbrofi ar sail data ac ymchwil weithredu er mwyn llywio model busnes arloesol. Mae’r astudiaeth achos hon yn trafod rhywfaint o’r gwaith ymchwil yr aethpwyd i’r afael ag ef.

Yn eich geiriau eich hun, a allwch ddisgrifio beth yw eich sefydliad a’r hyn y mae’n ei wneud?

Gweledigaeth Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Efrog yw gweithio gyda chynulleidfaoedd a chymunedau er mwyn ysbrydoli, rhannu a gofalu am dreftadaeth ddiwylliannol.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn rhannu casgliadau, gerddi, adeiladau, celfyddyd a straeon er budd dysgu, mwynhad a llesiant. Er ein bod wedi ein gwreiddio yn Efrog a Swydd Efrog, trown ein golygon tuag allan yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Fel elusen, mae ein hincwm yn galluogi’r Ymddiriedolaeth i ofalu am dreftadaeth a bod o fudd i bawb.

Caiff Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Efrog ei chefnogi gan Gyngor Dinas Efrog. Mae’r Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am Oriel Gelf Efrog, Amgueddfa Castell Efrog, Amgueddfa a Gerddi Swydd Efrog, ac Eglwys y Santes Fair yn Efrog.

Ers faint y mae’r Ymddiriedolaeth wedi bod ar waith? A ble ydych chi wedi eich lleoli?

Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Efrog ar 1 Awst 2002, fel ymddiriedolaeth elusennol annibynnol er mwyn rheoli’r amgueddfeydd a’r gwasanaethau oriel a gâi eu rhedeg cyn hynny gan Gyngor Dinas Efrog. Rydym wedi ein lleoli yn Ninas Efrog, Gogledd Swydd Efrog.

Pwy yw eich prif gynulleidfaoedd a beth yw’r elfennau allweddol y mae eich sefydliad, yn eich tyb chi, yn eu cynrychioli neu yn eu darparu i’w gynulleidfa?

Mae Efrog wedi bod yn gartref i amgueddfeydd ers 1821, pan sefydlwyd Amgueddfa Swydd Efrog. Mae’r cynulleidfaoedd yn amrywio ar draws y safleoedd a reolir gan yr Ymddiriedolaeth, ac maent yn cynnwys cymysgedd o ymwelwyr o gymunedau lleol, ymwelwyr undydd ac ymwelwyr dros nos. Yn hanesyddol, roedd y segmentau mwyaf mewn perthynas ag ymwelwyr Oriel Gelf Efrog yn cynnwys yr hyn a elwir yn ‘Commuterland Culturebuffs,’ ‘Dormitory Dependables’ a ‘Trips and Treats’. Roedd y cymysgedd hwn o gynulleidfaoedd yn rhywbeth yr oeddem yn awyddus i’w ymestyn a’i ehangu er mwyn esgor ar ychwaneg o adenillion cymdeithasol ac economaidd.

Yn eich tyb chi, pam mae eich sefydliad yn bwysig?

Mae Cyngor Celfyddydau Lloegr wedi pennu bod yr holl gasgliadau a reolir gan yr Ymddiriedolaeth yn gasgliadau o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae’r casgliadau hyn yn cynnwys archaeoleg, bioleg, daeareg, a niwmismateg yn Amgueddfeydd Swydd Efrog; y celfyddydau cain yn Oriel Gelf Efrog; a hanes cymdeithasol, gwisgoedd, tecstilau, a hanes milwrol yn Amgueddfa’r Castell. Ymhellach, mae Oriel Gelf Efrog yn gartref i Ganolfan y Celfyddydau Ceramig sy’n arbenigo mewn cerameg stiwdio Brydeinig.

Mae arddangosfeydd nodedig yn cynnwys gwaith metel Eingl-Sacsonaidd a Llychlynnaidd, cerfluniau Romanésg, ffosiliau o ymlusgiaid morol, a phaentiadau gan Parmigianino, Bellotto, Hogarth a Nash; ac mae Kirkgate, sef y stryd Fictoraidd enwog a ailadeiladwyd ac sy’n rhan gwbl ganolog o Amgueddfa’r Castell, yn garreg filltir yn hanes amgueddfeydd.

Pa waith ymchwil yr aeth Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Efrog i’r afael ag ef er mwyn helpu i gynllunio ar gyfer model busnes digidol arloesol?

Mae’r Ymddiriedolaeth yn mynd ati’n rheolaidd i gynnal adolygiadau desg ar yr amgylchedd gwaith, ac mae gennym lawer o ddata a gwybodaeth wrth law yn ymwneud â mynediad a segmentau ymwelwyr.

Ar ôl dadansoddi’r wybodaeth hon yn 2020, gwelsom fod yr economi a’r tueddiadau cymdeithasol yn hynod ansefydlog. Er bod niferoedd yr ymwelwyr cyn y pandemig yn iach ac yn cynyddu, roeddynt yn is na’r targedau a ragwelwyd cyn ailddatblygu Oriel Gelf Efrog. Ymhellach, dangosodd y data ynghylch segmentau ymwelwyr fod cynulleidfaoedd heb gynrychiolaeth ddigonol yn llai tebygol o ymweld ag Oriel Gelf Efrog nag Amgueddfa Swydd Efrog neu Amgueddfa Castell Efrog. Roedd hyn yn destun pryder inni, oherwydd roeddem eisiau i gynifer o bobl â phosibl fwynhau Oriel Gelf Efrog.

Plant yn eistedd ar soffa yn astudio arweinlyfr Oriel Gelf Efrog
Plant yn eistedd ar soffa yn astudio arweinlyfr Oriel Gelf Efrog

O gofio’r cyd-destun hwn, aeth ein timau rheoli ac arwain ati i bennu senarios lle na fyddai niferoedd yr ymwelwyr yn dychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn y pandemig a lle byddai’r rhwystrau ariannol o ran ymweld ag Oriel Gelf Efrog yn lleihau mwy fyth ar ystod y cynulleidfaoedd. Pe bai’r senarios hyn yn cael eu gwireddu, roedd yna berygl y byddent yn effeithio ar incwm mynediad, ac roedd yna berygl hefyd y byddai rhanddeiliaid a chyllidwyr allweddol yn anhapus gyda’r posibilrwydd o gyrraedd cynulleidfaoedd llai.

Oherwydd y gofynion mynediad llym a roddwyd ar waith gan Oriel Gelf Efrog ar gyfer bod ‘yn ddiogel o ran Covid’, cawsom gyfle i bwyso a mesur nifer o fodelau mynediad prototeip. Hwyluswyd hyn gan y seilwaith mynediad digidol a fabwysiadwyd i gydymffurfio â’r gofynion Tracio ac Olrhain, a chawsom afael ar ddata a allai gynnig tystiolaeth inni ynghylch effaith y prototeipiau hyn.

Sut y gwnaethoch chi ymdrin â’r mater hwn yn ymarferol, neu sut ydych chi’n ymdrin ag ef yn awr?

Gan ein bod wedi pennu senario negyddol gredadwy o ran ‘yr hyn a allai ddigwydd’, roeddem yn awyddus i werthuso nifer fechan o opsiynau yn ymwneud â sut i ymateb. Penderfynasom brofi’r rhain trwy ddefnyddio prototeipiau am gyfnod penodol. Er mwyn gwerthuso’r prototeipiau, aethom ati i bennu nifer fechan o amcanion yn ymwneud â nifer yr ymwelwyr, proffil yr ymwelwyr, y costau (i’r ymwelwyr) a’r incwm. Roedd y treial yn cynnwys tri model mynediad gwahanol, a defnyddiwyd y rhain yn olynol dros gyfnod o flwyddyn:

  • Model mynediad am ddim, gan ofyn i’r ymwelwyr gyfrannu rhodd.
  • ‘Talwch fel y Mynnwch’.
  • Mynediad am ddim at gasgliadau parhaol a chodi tâl ar gyfer arddangosfeydd dros dro.

Yn ystod y cyfnod hwn, bu’r tîm yn monitro nifer yr ymwelwyr, proffil yr ymwelwyr, bodlonrwydd yr ymwelwyr, yr arenillion gros, yr arenillion fesul ymwelydd, y gwariant manwerthu fesul pen a’r elw manwerthu. Drwy gydol y gweithgarwch ‘treiddio’, defnyddiodd y tîm ddata amser real i ddiwygio rhagdybiaethau a rhagolygon.

Llwyddodd y gwaith gwerthuso hwn i esgor ar dystiolaeth ar gyfer rheolwyr, arweinwyr ac ymddiriedolwyr – tystiolaeth y gellid seilio penderfyniadau arni ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23. Hefyd, canfu’r tîm fod y profiad o werthuso’r prototeipiau yn y ‘byd go iawn’ wedi esgor ar wybodaeth na ddeilliodd o’r gwaith modelu ar ei ben ei hun. Yn bwysig, er bod nifer yr ymwelwyr yn llawer uwch nag y rhagwelwyd yn rhai o’r modelau, gwelwyd nad oedd lefel yr incwm bob amser yn dilyn yr un tueddiadau.

Ymhellach, dangosodd y data wahaniaethau mwy na’r disgwyl ym mhroffil yr ymwelwyr ac yn eu tuedd i gyfrannu rhoddion. Ar sail yr wybodaeth hon, bu modd i Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Efrog wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut i fwrw ymlaen â modelau mynediad a modelau prisio yn 2022-23. Ymhellach, llwyddodd y prototeipiau i lywio’r seilwaith digidol sy’n rheoli mynediad ynghyd â’r systemau ‘gwybodaeth reoli’ cysylltiedig.

Pa awgrymiadau y byddech chi’n eu cynnig i sefydliadau eraill sy’n debyg i’ch sefydliad chi?

Mae risg ynghlwm wrth arbrofi – cofiwch gyfathrebu’n glir. Er bod defnyddio methodolegau rhagolwg wedi bod yn ddefnyddiol i Oriel Gelf Efrog fel rhan o fodel busnes arloesol, rydym yn cydnabod bod y pandemig Covid-19 wedi cynnig cyfle unigryw (gobeithio) i arbrofi gyda systemau mynediad, systemau tocynnau a systemau prisio. Mae risg wastad ynghlwm wrth arbrofi, ac roedd angen inni gyflwyno negeseuon clir i’r timau sy’n gweithio gydag ymwelwyr. Roedd hyn yn arbennig o wir yn achos ein harbrofion gyda mynediad, oherwydd fe wnaeth ymwelwyr rheolaidd brofi tri dull mynediad gwahanol!

Cofiwch na fydd eich timau, o bosibl, yn gyfarwydd â methodolegau rhagolwg, prosiectau peilot, prototeipiau, nac arbrofi. Mae profi a phrototeipio yn gyffredin mewn sawl diwydiant, ond yn llai felly mewn sefydliadau treftadaeth a diwylliant. Bu’n ffordd wych o brofi ein syniadau cyn ymrwymo i newid. Roedd hyn yn anarferol i lawer o’r bobl y gweithiwn gyda nhw, a bu’n rhaid inni eu paratoi ar gyfer cyfnod o newid ac ansicrwydd. Hefyd, braf iawn oedd gallu esbonio ein bod yn profi ein syniadau cyn ymrwymo i newid mawr. Bu hyn o fudd o ran lleihau amheuon a gwrthwynebiadau gan fod pawb yn gwybod mai arbrawf ydoedd.

Rhaid rheoli arbrofion! Y demtasiwn yw newid llawer o newidynnau ar unwaith; ond os gwneir hyn, fe fydd hi’n anos olrhain effaith pob ffactor. Fe wnaethom ddewis profi tri dull gwahanol, a chymerodd amser inni greu a gwerthuso pob model. Pe baem wedi ceisio cynnwys ychwaneg o newidynnau, fe fyddem wedi bod angen rhagor o amser ac fe fyddai’r gwaith gwerthuso wedi bod yn fwy cymhleth.

Mae’r penderfyniadau a wnaethom oherwydd ein model busnes arloesol yn briodol i Oriel Gelf Efrog, ond efallai nad dyma’r ateb i’ch sefydliad chi. Trwy arbrofi, rydym wedi dysgu nad oedd pob un o’n rhagdybiaethau yn hollol gywir. Gan ein bod yn delio â gwahanol fathau o dreftadaeth, a hynny mewn amryfal leoliadau gyda chyfuniadau unigryw o ymwelwyr a defnyddwyr, efallai y bydd gofyn i chi ddod o hyd i ateb arall!

Cofiwch barhau i ddefnyddio data a gwybodaeth i wneud penderfyniadau. Er ein bod wedi defnyddio’r cam treiddio neu fethodolegau rhagolwg i bennu ein strategaeth, rydym yn parhau i fireinio ein dull trwy ddefnyddio data rheoli. Rydym yn parhau i ddefnyddio gwybodaeth a data ynghylch nifer yr ymwelwyr, bodlonrwydd yr ymwelwyr ac arenillion i lywio penderfyniadau manwl ynghylch prisio, rhaglennu, marchnata, a negeseuon ynghylch rhoddion.

4. Defnyddio ‘Rhagolwg’ i gynnig ffocws i’ch ymchwil

Ar ôl i’ch sefydliad bennu’r tueddiadau neu’r ffactorau mewnol neu allanol allweddol a allai effeithio ar y modd y gwnewch eich gwaith, gallwch ddefnyddio’r tabl hwn i’ch helpu i wneud y canlynol:

  • pennu pa waith ymchwil arall y gall fod angen ei gynnal
  • cofnodi’r prototeip neu’r gweithgarwch peilot y byddwch yn mynd i’r afael ag ef
  • dogfennu’r penderfyniadau a wnewch ynglŷn â’r model busnes arloesol.

Gallwch hefyd lawrlwytho templed Word (206kb). Mae’r templed yn Saesneg.

Ffactorau amgylcheddol (Beth sy’n digwydd? Beth sydd wrth wraidd y tueddiadau hyn?)
 

 

Disgrifiad o senario A (Beth a allai ddigwydd yn y dyfodol?)
 

 

 

 

 

Disgrifiad o senario B (Beth a allai ddigwydd yn y dyfodol?)
 

 

 

 

 

Disgrifiad o senario C (Beth a allai ddigwydd yn y dyfodol?)
 

 

 

 

 

Y senario y dewiswyd ymchwilio iddi
Er mwyn ymateb i’r senario, gallem… (Pa bethau y gall fod angen inni eu gwneud?)
☐Gwaith ymchwil  

 

 

 

 

☐Prototeip  

 

 

 

 

☐Peilot  

 

 

 

 

☐Gwaith ymgynghori a phrofi gyda chynulleidfaoedd / cwsmeriaid  

 

 

 

 

O ganlyniad i’n gwaith ymchwil, byddwn yn:
 

 

 

 

 

 



More help here


A young girl has her picture taken while looking through a guillotine made of ice

Selecting a business model to support digital implementation

Business models from the cultural heritage sector are presented here in the format of the business model canvas. Each demonstrates different forms of business model and may act as a template or guide for introducing digital to your own organisation.

 
Blue dragon performer during a Chinese festival

Using the digital business model canvas to prioritise what to change

In this resource you will explore the use of the digital business model canvas to help prioritise where your organisation may benefit most from digital change. The digital business model canvas offers a focussed approach to visualising what digital innovation in your organisation might look like.

 

Browse related resources by smart tags:



Business model Future Innovation Research Trends
Published: 2022
Resource type: Articles


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "Research for business model innovation (2022) by Michael Turnpenny supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 


More help here



Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo