English

Y manteision a’r anfanteision sy’n perthyn i ddefnyddio meddalwedd ac offer digidol ffynhonnell agored a rhad ac am ddim

Mae meddalwedd ffynhonnell agored a deunyddiau â thrwydded Creative Commons yn cynnig cyfleoedd pwysig i sefydliadau llai wella’u galluoedd digidol. Ond a oes anfanteision yn perthyn i adnoddau rhad ac am ddim o’r fath? Mae’r canllawiau hyn yn cynnig diffiniadau ac enghreifftiau, a hefyd sonnir am yr hyn y dylid ei ystyried wrth ddefnyddio deunyddiau a meddalwedd ffynhonnell agored a Creative Commons.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
A woman on a path taking a picture of the trees that surround it
Image courtesy of VisitBritain © Ben Selway

The pros and cons of switching to free and open-source digital tools and software

1. Cyflwyniad

O ran deunyddiau digidol a meddalwedd ffynhonnell agored, mae Creative Commons yn adnoddau defnyddiol i sefydliadau treftadaeth. Trwy ddefnyddio deunyddiau sydd ar gael yn rhad ac am ddim, fel delweddau, cerddoriaeth a chymwysiadau cyfrifiadurol, bydd modd arbed arian ar ffioedd trwyddedu. Hefyd, bydd modd i’ch sefydliad greu cynnwys digidol y gallwch ddewis ei ryddhau wedyn i eraill, yn enwedig os yw’r deunyddiau o fudd mawr i’r cyhoedd.

Sefydliad nid-er-elw yw Creativecommons.org a’i nod yw helpu i oresgyn rhwystrau cyfreithiol yn ymwneud â rhannu cynnwys digidol trwy greu trwyddedau ar gyfer defnyddio testun, cerddoriaeth a delweddau digidol. Trwy gyfrwng Creative Commons, mae modd i berchennog hawlfraint sicrhau bod ei waith ar gael at ddefnydd y cyhoedd mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn ddarostyngedig i amodau amrywiol megis cydnabod y crëwr gwreiddiol.

Er enghraifft, os defnyddiwch y term ‘Heritage’ i chwilio trwy creativecommons.org, byddwch yn esgor ar fwy na 10,000 o ganlyniadau. Dyma ffordd gymharol syml o rannu eich casgliadau neu eich cynhyrchion creadigol gyda’r cyhoedd. Ar yr un pryd, gallwch hefyd ystyried defnyddio trwyddedau gwahanol er mwyn annog eraill i ailddefnyddio eich delweddau neu eich deunyddiau eraill mewn prosiectau creadigol.

Yn yr adnodd hwn mae ein harbenigwr, Ruth Daly o Brifysgol Leeds, yn esbonio sut gallwch ddefnyddio technolegau a deunyddiau ffynhonnell agored yn eich sefydliad.

Tudalen we yn dangos canlyniadau ‘chwiliad delwedd’ a wnaed trwy ddefnyddio’r allweddair “Heritage” ar wefan Creative Commons
Tudalen we yn dangos canlyniadau ‘chwiliad delwedd’ a wnaed trwy ddefnyddio’r allweddair “Heritage” ar wefan Creative Commons

 

2. Meddalwedd ffynhonnell agored

Yn ychwanegol at gyfryngau a chanddynt drwydded Creative Commons, gall defnyddio dewisiadau ffynhonnell agored yn hytrach na meddalwedd gyfrifiadurol â ‘brand’ arwain at arbed llawer o arian. Mae’r term ‘ffynhonnell agored’ yn cyfeirio at y ffaith fod cod ffynhonnell y feddalwedd ar gael i’r cyhoedd. Nid yw hyn bob amser yn golygu bod modd defnyddio’r feddalwedd yn rhad ac am ddim, ond yn sicr fe fydd meddalwedd ffynhonnell agored yn llawer rhatach.

Mantais hollbwysig arall sy’n perthyn i ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored yw’r cymunedau a’r fforymau cymorth sy’n gysylltiedig â chynhyrchion poblogaidd, a gall y rhain gynnwys rhestrau postio, help ar-lein, a hyd yn oed nodweddion sgwrsio. I sefydliadau sy’n dymuno addasu eu swyddogaethau yn y maes, mae natur ‘ffynhonnell agored’ y feddalwedd yn golygu y gellir ychwanegu at y cod a’i newid er mwyn cael rhyngwyneb mwy pwrpasol, yn ogystal ag ychwanegu logos, neu swyddogaethau gwell ac ychwanegol o fath arall.

Ond mae’n bosibl y bydd yna rai anfanteision hefyd, e.e. efallai y bydd hi’n anos dysgu a defnyddio’r feddalwedd, neu efallai na fydd gwedd y rhyngwyneb wedi’i chynllunio cystal â chynhyrchion masnachol mwy sefydledig.

Er bod rhai cynhyrchion ffynhonnell agored wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn ac wedi adeiladu cymuned fawr o ddatblygwyr a chyfranwyr, efallai y bydd cynhyrchion eraill o’r fath yn llai poblogaidd; o ganlyniad, ni chaiff rhai prosiectau eu cynnal, ac felly ni chânt eu datblygu’n barhaus.

Y manteision a’r anfanteision sy’n perthyn i feddalwedd ffynhonnell agored

Y manteision:

  • Rhatach
  • Cymorth cymunedol.
  • Mae’r feddalwedd yn hawdd ei theilwra.

Yr anfanteision:

  • Efallai y bydd y feddalwedd yn anodd ei defnyddio.
  • Diffyg datblygiad o bosibl.

 

3. Opsiynau i’w harchwilio

Os penderfynwch ddefnyddio meddalwedd ffynhonnell agored, mae yna ddigonedd o opsiynau ar gael. Isod, nodir rhai opsiynau poblogaidd ar gyfer gwahanol swyddogaethau.

Dewisiadau ffynhonnell agored yn lle system weithredu Windows

Meddalwedd cynhyrchiant ffynhonnell agored

Pecynnau cynhyrchiant ar gyfer swyddfeydd

Meddalwedd CRM

Rheoli prosiectau

Cyfrifyddu

 

Rhagor o adnoddau

Creativecommons.org

 



More help here


A view down a street at night with many lit up bars

Key sources of support and advice when deciding on which software and digital services are suitable for your organisation

This guide outlines some key sources of information available to support your decision making on the suitability and application of new technology and digital services.

 
A woman in a yellow jacket sitting on a rock with arms raised aloft, admiring a countryside view

Tools and resources to keep up-to-date with emerging digital trends

Keeping up with digital trends can be daunting for a small to medium-sized heritage organisation. Limitations on your time and budget make it challenging to research and understand which emerging digital activity might be of interest or benefit to your organisation. This guide aims to signpost tools and resources you can access to keep abreast on what’s new in digital.

 

Browse related resources by smart tags:



Content creation Creative commons Open source
Published: 2022
Resource type: Articles


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "The pros and cons of switching to free and open-source digital tools and software (2022) by Dr Ruth Daly supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 


More help here



Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo