English

Egwyddorion ar gyfer diweddaru technoleg yn llwyddiannus

Caiff yr adnodd hwn ei anelu at arweinwyr sefydliadau treftadaeth sy’n awyddus i uwchraddio’u technoleg. Mae’n archwilio arferion gorau o ran cynllunio a gweithredu dulliau o ddiweddaru technoleg yn llwyddiannus, a sonnir am beryglon cyffredin a sut i’w hosgoi.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
A man shooting an arrow at an archery target
Image courtesy of Matt Wilson ©

Principles for a successful technology refresh

1. Cyflwyniad

Fel arweinydd sefydliad treftadaeth, gwyddoch ei bod hi’n hollbwysig ichi feddu ar y dechnoleg iawn er mwyn ichi allu cyflawni eich amcanion strategol, pa un a yw’r amcanion hynny’n ymwneud ag ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd neu ddiogelu treftadaeth ar gyfer y dyfodol. Eto i gyd, go brin fod gennych yr adnoddau i uwchraddio eich systemau i’r systemau diweddaraf yn holl feysydd eich sefydliad. Sut y gallwch benderfynu rhwng blaenoriaethau anghyson? Sut y gallwch osgoi tarfu’n ormodol ar eich staff, eich gwasanaethau a’ch gweithrediadau?

Mae diweddaru technoleg yn cyfeirio at broses lle byddwch yn mynd ati’n barhaus i asesu eich systemau TG er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn dal i gyd-fynd ag anghenion eich sefydliad. Y nod yw cynllunio ar gyfer gwelliannau rhagweithiol yn hytrach nag aros hyd nes y bydd technoleg hen yn arwain at risg neu gost i’ch sefydliad, neu’n eich atal rhag gwireddu eich gweledigaeth.

Yn y canllawiau hyn mae ein harbenigwr, Elissa Truby, ymgynghorydd annibynnol ar gyfer y sector treftadaeth, yn esbonio’r egwyddorion ar gyfer diweddaru technoleg yn llwyddiannus, a hynny mewn modd a fydd yn lleihau costau ac yn amharu cyn lleied â phosibl ar eich sefydliad. Hefyd, ceir rhestr wirio o gwestiynau y dylech eu hystyried wrth gynllunio i ddiweddaru eich technoleg.

2. Pam y mae angen ichi ddiweddaru eich technoleg

Mae technoleg yn faes sy’n newid yn gyflym ac sy’n esblygu’n barhaus. Efallai fod nifer o’r asedau sydd dan ofal eich sefydliad yn gannoedd o flynyddoedd oed, ond efallai nad ydynt wedi dirywio fawr ddim yn ystod y cyfnod hwnnw. Mewn gwrthgyferbyniad, mewn rhai blynyddoedd yn unig, gall eich systemau fod:

  • yn anodd eu defnyddio
  • yn ddrud i’w cynnal a’u cadw
  • yn agored i ymosodiadau seiber neu fethiannau disymwth
  • neu efallai na allant gynnig y swyddogaethau angenrheidiol.

Ar gyfer sefydliadau fel eich sefydliad chi – sef sefydliadau sy’n gofalu am hanes a chof diwylliannol – mae’r risg o golli data yn destun pryder mawr.

Gall moderneiddio technoleg arwain at drafferthion, felly y demtasiwn yw anwybyddu’r mater hyd nes y daw’n ofynnol ichi ddelio ag ef. Ond bydd y costau, y risgiau a’r ymdrech sy’n gysylltiedig â chynnal neu adfer systemau ‘hen ffasiwn’ yn fwy o lawer na phe baech yn trefnu i’w diweddaru’n rheolaidd. Hefyd, byddwch yn colli cyfleoedd i wella profiadau’r gynulleidfa a sbarduno cynhyrchiant.

Arwyddion sy’n dangos eich bod angen diweddaru eich technoleg

  • Mae aelodau eich tîm TG yn treulio llawer iawn o’u hamser yn trwsio hen systemau
  • Mae eich cyfarpar yn araf, yn diffodd yn annisgwyl neu’n cael problemau cysylltedd yn rheolaidd
  • Rydych wedi gweld cynnydd mewn achosion seiberddiogelwch
  • Nid yw eich cyfarpar wedi’i safoni trwy’r sefydliad
  • Nid yw eich systemau’n cydymffurfio â rheoliadau cyfredol yn ymwneud â diogelu data
  • Mae eich staff a’ch gwirfoddolwyr yn teimlo’n rhwystredig gan nad ydynt mwyach yn meddu ar yr offer y maent eu hangen i weithio’n effeithlon
  • Nid yw eich ymwelwyr, eich rhoddwyr na’ch rhanddeiliaid eraill yn ymgysylltu cymaint ag y dymunwch â’ch sefydliad oherwydd rhwystrau technegol.

3. Egwyddorion ar gyfer diweddaru technoleg yn llwyddiannus

1 – Cynhaliwch arolwg o’ch amgylchedd technolegol

Wrth gynllunio i ddiweddaru technoleg, yn gyntaf rydych angen cael darlun cywir o’r dechnoleg sydd gennych eisoes, a pha mor hen ydyw. Y nod yw llunio rhestr o systemau – rhestr y gallwch ei hadolygu, ei diweddaru a’i defnyddio’n rheolaidd i bennu enillion cyflym, meysydd uchel eu risg a chyfleoedd i gyflwyno gwelliannau neu leihau costau.

2 – Ewch ati i flaenoriaethu ac ystyried gwerth

Mae hi’n amhosibl adnewyddu popeth ar unwaith. Penderfynwch ble y dylech fuddsoddi eich amser, eich ymdrech a’ch arian trwy bwyso a mesur y manteision a’r risgiau sy’n perthyn i drwsio, gwaredu, cadw neu ddisodli pob system. Gwnewch yn siŵr eich bod yn realistig a pheidiwch â gwneud pethau a fydd yn mynd y tu hwnt i’r adnoddau sydd ar gael.

Peidiwch ag anghofio am systemau sy’n ategu eich gweithrediadau craidd. Nid hawdd bob amser yw mesur y manteision sy’n perthyn i ddisodli systemau adnoddau dynol, cyllid neu storio ffeiliau ‘hen ffasiwn’, felly bydd angen ichi ystyried ffactorau megis gwerth y data a lefel ac amlder y defnydd a wneir o’r systemau hynny.

3 – Anelwch at symleiddio pethau

Dros y blynyddoedd, efallai eich bod wedi prynu cynhyrchion gan nifer o wahanol gyflenwyr, neu efallai eich bod yn talu am amryfal systemau sy’n gwneud yr un peth yn y bôn. Pennwch gyfleoedd i gyfuno a safoni eich technoleg er mwyn lleihau costau cymorth a chostau trwyddedu. Beth am archwilio systemau newydd sy’n eu diweddaru eu hunain yn awtomatig er mwyn rhyddhau amser eich tîm TG.

Cofiwch y bydd teilwra llawer ar systemau newydd yn golygu ychwaneg o waith i’ch tîm TG yn y pen draw. Gallwch osgoi cymhlethdodau trwy ddewis cynhyrchion parod, hyd yn oed pe bai hynny’n golygu addasu rhywfaint ar eich arferion gweithio.

4 – Amserwch bethau’n ofalus a chofiwch gyfathrebu

Mae amseru yn hollbwysig! Edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd ledled eich sefydliad, nid yn unig yn yr adran TG. Mae’n debygol y bydd angen ichi gynnwys staff y tu allan i’r adran TG mewn gweithgareddau megis dadansoddi anghenion, glanhau data, cynnal profion a chyflwyno hyfforddiant ar gyfer systemau newydd. Bydd yr holl dasgau hyn yn tynnu’r staff oddi wrth eu cyfrifoldebau beunyddiol. Efallai y bydd hi’n amhosibl ichi ddod o hyd i amser delfrydol, ond rhaid ichi wneud yn siŵr y bydd modd i’ch staff oddef yr anawsterau ar y pryd. Gallwch wastad ystyried cyflwyno pethau gam wrth gam, er mwyn lleihau’r baich.

5 – Cofiwch brofi cyn buddsoddi

Pur anaml y bydd systemau newydd yn gweithio yn yr un modd yn union â’r hen rai, felly mae profion cysyniad a threialon yn ffyrdd gwych o weld a yw’r dechnoleg newydd yn debygol o weithio’n dda i’ch sefydliad, heb ichi orfod ymrwymo gormod o arian ymlaen llaw. Siaradwch â darpar gyflenwyr; yn achos sefydliadau treftadaeth, yn aml fe fydd cyflenwyr yn fodlon cynnig help llaw gyda phrofion cysyniad, naill ai am bris isel neu’n rhad ac am ddim.

6 – Paratowch ar gyfer yr annisgwyl

Neilltuwch gyllideb ar gyfer costau cudd, yn cynnwys diweddariadau yn y dyfodol, cymorth parhaus a ffioedd trwyddedu. Hefyd, dylech neilltuo amser ychwanegol yn eich cynllun ar gyfer delio â rhwystrau neu anawsterau posibl.

7 – Cofiwch am y data

Bydd diweddaru eich technoleg yn esgor ar gyfle i gychwyn o’r newydd. O ran y gwaith cynllunio, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi trefn ar eich data cyn ei symud i system newydd. Efallai na fyddwch angen symud popeth; ac os byddwch yn symud data sensitif, dylech fod yn ymwybodol iawn o ddiogelwch a deddfwriaethau. Hefyd, bydd angen ichi ystyried gwneud copïau wrth gefn a chynnal profion wrth symud y data, er mwyn gwneud yn siŵr na fyddwch yn ei golli.

4. Y camau nesaf

Nawr eich bod yn ymwybodol o’r hyn sydd angen i chi ei ystyried wrth gynllunio adnewyddiad technoleg, lawrlwythwch y rhestr wirio hon (PDF file, 177kb) i fyfyrio ar bob un o’r pwyntiau uchod cyn i chi roi eich cynllun ar waith.



More help here


A castle with rowing boats in front of it on a lake

Exploring some popular digital applications that can enhance the audience experience

In order to maximise the value of new technologies it can be useful to partner with organisations and consultants or to commission expert services. This guide offers an overview of the most popular technological applications in heritage sites and museums and a checklist to help you focus your decision making when considering investment in new technologies.

 
A view down a street at night with many lit up bars

Key sources of support and advice when deciding on which software and digital services are suitable for your organisation

This guide outlines some key sources of information available to support your decision making on the suitability and application of new technology and digital services.

 

Browse related resources by smart tags:



Digital technologies New technologies
Published: 2022
Resource type: Articles


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "Principles for a successful technology refresh (2022) by Elissa Truby supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 


More help here



Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo