English

Sut y gall technoleg ddigidol ein helpu i ddod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy?

Felly, rydych wedi pennu rhai meysydd allweddol i’ch helpu i wella eich perfformiad amgylcheddol: beth nesaf? Mae’r canllawiau hyn yn nodi sut y gall technolegau digidol eich helpu i addasu eich gweithrediadau busnes fel y gallwch fod yn fwy caredig tuag at yr amgylchedd.

Mae'r adnodd hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg
A living statue performs on a busy street
Image courtesy of VisitBritain © Andrew Pickett

How can digital help us become more environmentally sustainable?

1. Y berthynas rhwng technoleg ddigidol a chynaliadwyedd amgylcheddol

Caiff trawsnewid digidol ei ysgogi gan newid technolegol cyflym sy’n ceisio gweddnewid a gwella effeithlonrwydd prosesau byd-eang ar draws sectorau. Caiff cynaliadwyedd amgylcheddol ei ysgogi gan newid hinsawdd, effeithiau amgylcheddol ac ansefydlogrwydd geowleidyddol.

Er bod technoleg ddigidol a chynaliadwyedd amgylcheddol yn ymddangos fel pe baent yn ddigyswllt, yn aml gall y naill gysyniad ategu’r llall. Mae ein harbenigwr, Dr Ruth Daly, yn esbonio sut y gallwch ddefnyddio technoleg ddigidol i arfer cynaliadwyedd ac mae’n trafod yr egwyddorion sy’n perthyn i lywodraethu amgylcheddol da.

Mae technoleg ddigidol yn offeryn hanfodol i sefydliadau os ydynt am leihau eu hôl troed carbon ac arfer cynaliadwyedd. Gall sefydliadau treftadaeth ddefnyddio technoleg ddigidol i ddatblygu arferion cynaliadwyedd er mwyn gwahaniaethu rhyngddynt eu hunain a sefydliadau eraill a sicrhau hyfywedd hirdymor ymhlith cynghorau lleol, rhanddeiliaid allanol a grwpiau cymunedol lleol.

Hefyd, mae arferion cynaliadwyedd yn helpu i gyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a gweithio tuag at ddyfodol sero net. Er mwyn i’r gweithgareddau hyn fod yn effeithiol, rhaid i bawb weithredu ar y cyd. Trwy ddefnyddio Nodau Datblygu Cynaliadwy’r CE fel fframwaith, bydd modd i’ch sefydliad gyfrannu at newid byd-eang cadarnhaol.

Dyma rai meysydd lle gallwch ddefnyddio technoleg ddigidol i arfer cynaliadwyedd amgylcheddol:

  • Ynni gwyrdd – ymchwiliwch sut y gall eich sefydliad ddefnyddio ffynonellau ynni gwyrdd a gynhyrchir gan ffynonellau naturiol (haul, gwynt, dŵr) ac adnewyddadwy.
  • Systemau ailgylchu clyfar – mae’r systemau ailgylchu hyn yn defnyddio technoleg adnabod delweddau i benderfynu beth yw deunydd yr eitemau, gan ddangos wedyn ym mha fin y dylid rhoi’r eitemau dan sylw. Mae hyn yn lleihau dryswch ymhlith ymwelwyr ynglŷn â systemau ailgylchu cymhleth, gan eu galluogi i ailgylchu yn y ffordd gywir.
  • Rheoli gwastraff yn glyfar – mae’r systemau hyn yn defnyddio synwyryddion, dyfeisiau monitro ac apiau symudol fel y gellir casglu gwastraff mewn modd mwy effeithlon. Felly, gall gwasanaeth gwastraff clyfar eich helpu i leihau allyriadau CO2 ynghyd â’ch helpu i ddefnyddio llai o danwydd.
  • Teithio glân – ystyriwch strategaethau trafnidiaeth sy’n canolbwyntio ar ‘ddim allyriadau’ a thanwydd glanach, megis troi at ddefnyddio cerbydau glanach, gosod gorsafoedd gwefru cerbydau trydan ar eich safle a chefnogi cynlluniau beicio i’r gwaith a chynlluniau rhannu ceir.
  • Economi gylchol – mae’r model economaidd hwn yn pwysleisio y dylid ailddefnyddio a lleihau gwastraff. Er enghraifft, gallech ystyried defnyddio technoleg ddigidol i dracio a monitro’r defnydd a wneir o ddeunyddiau traul, ac i ba raddau y cânt eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu.
  • Bwyd cynaliadwy – mae yna nifer o bethau y gellir eu gwneud i geisio lleihau gwastraff yn y gadwyn cyflenwi bwyd, a hefyd mewn arferion ffermio ac yn y maes llesiant amgylcheddol. Beth am archwilio apiau a thechnolegau digidol sy’n cefnogi’r arfer o rannu yn eich ardal; ac os yw eich sefydliad yn goruchwylio tir amaethyddol, beth am fuddsoddi mewn technolegau a thechnegau ffermio clyfar.
  • Systemau dŵr – mae systemau dŵr cynaliadwy yn cyflenwi dŵr mewn modd dibynadwy heb ddihysbyddu’r cyflenwad nac effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd. Fe allech osod systemau dŵr digidol er mwyn monitor faint o ddŵr a ddefnyddiwch, ynghyd ag ystyried defnyddio systemau sy’n casglu ac yn ailgylchu dŵr glaw.
  • Cynhyrchu a defnyddio cyfrifol yn y maes TG – fe allai eich sefydliad ddefnyddio cyfarpar swyddfa yr ardystir ei fod yn arbed ynni, sef cyfarpar amlddefnydd a chanddo foddau pŵer isel; fe allech ddefnyddio cynadleddau fideo er mwyn teithio llai; fe allech ymestyn oes dyfeisiau personol neu hyrwyddo’r arfer o’u hailgylchu, ynghyd â gwaredu dyfeisiau electronig yn briodol er mwyn lleihau defnydd a gwastraff.

Dwy law yn defnyddio ffôn symudol ar gefndir gwyrdd deiliog

2. Yr egwyddorion sylfaenol sy’n perthyn i lywodraethu amgylcheddol da

Er mwyn ymateb i argyfyngau amgylcheddol, rhaid cael dulliau newydd sy’n rhoi blaenoriaeth i arbed adnoddau a llywodraethu amgylcheddol, cymdeithasol a chorfforaethol. Mae Sefydliad Hyfforddiant ac Ymchwil y Cenhedloedd Unedig (INETAR) yn nodi’r egwyddorion sylfaenol sy’n perthyn i lywodraethu amgylcheddol da1:

  • Cyfranogiad: rhaid i lywodraethu amgylcheddol da fod yn gyfranogol. Gall y cyfranogiad hwn ddigwydd yn uniongyrchol neu trwy gyfrwng cynrychiolwyr neu sefydliadau cyfryngol Mae’n cynnwys y rhwymedigaeth i ddarparu gwybodaeth. Mae’r hawliau sydd ynghlwm wrth gysylltiad rhydd a rhyddid mynegiant yn hollbwysig i gyfranogi.
  • Trefn y gyfraith: Mae llywodraethu amgylcheddol da angen fframweithiau cyfreithiol teg a gaiff eu gorfodi mewn modd diduedd. Rhaid i’r farnwriaeth a’r pwerau gweithredol fod yn ddiduedd ac yn anllygradwy.
  • Tryloywder: Mae tryloywder yn golygu bod y prosesau penderfynu, yn ogystal â’r modd y gorfodir penderfyniadau, yn dilyn rheolau a rheoliadau. Rhaid i’r wybodaeth fod ar gael yn rhwydd, a rhaid i’r wybodaeth hon fod yn hygyrch i bwy bynnag y bydd y penderfyniadau’n effeithio arnynt. Rhaid darparu’r wybodaeth ar ffurf hawdd ei deall a thrwy gyfryngau priodol a fydd yn cyrraedd y bobl dan sylw.
  • Ymatebolrwydd: Mae llywodraethu amgylcheddol da yn mynnu y dylai sefydliadau a phrosesau geisio ymateb i’r holl randdeiliaid o fewn amser rhesymol.
  • Canolbwyntio ar gonsensws: Mae llywodraethu amgylcheddol da yn mynnu y dylid ystyried gwahanol fuddiannau ac y dylai’r penderfyniadau ddilyn yr amcan o sicrhau consensws cyffredinol ynglŷn â beth sydd o fudd pennaf i’r gymuned gyfan.
  • Tegwch a chynwysoldeb: Nid gwasanaethu buddiannau’r brif ffrwd yn unig yw nod llywodraethu amgylcheddol da; mae hefyd yn cynnwys grwpiau lleiafrifol a’r grwpiau mwyaf agored i niwed.
  • Effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd: Mae llywodraethu amgylcheddol da yn golygu bod prosesau a sefydliadau yn esgor ar ganlyniadau sy’n diwallu anghenion yr holl randdeiliaid, tra’n gwneud y defnydd gorau posibl o’r adnoddau sydd wrth law. Yng nghyd-destun llywodraethu da, mae effeithlonrwydd hefyd yn ymwneud â defnyddio adnoddau naturiol yn gynaliadwy a diogelu’r amgylchedd.
  • Atebolrwydd: Mae atebolrwydd yn un o’r gofynion allweddol sy’n perthyn i lywodraethu amgylcheddol da. Rhaid i sefydliadau fod yn atebol i’r rhai y bydd eu penderfyniadau neu eu gweithredoedd yn effeithio arnynt.

Dyma bethau pwysig i’w cadw mewn cof:

  • Mae technoleg ddigidol yn offeryn gwerthfawr i sefydliadau ar gyfer lleihau eu hôl troed carbon ac arfer cynaliadwyedd.
  • Yn aml, mae technoleg ddigidol a chynaliadwyedd amgylcheddol yn ategu ei gilydd.
  • Gall sefydliadau treftadaeth ddefnyddio technoleg ddigidol i arfer cynaliadwyedd amgylcheddol ar draws amrywiaeth eang o weithgareddau.
  • Gall sefydliadau treftadaeth ddefnyddio technoleg ddigidol i gyfrannu at Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, gan gyfrannu felly at newid byd-eang cadarnhaol.

Hanner glob dywyll yn y gofod gyda goleuadau yn goleuo’r gwledydd

3. Y camau nesaf

Isod, ceir rhai enghreifftiau i’ch helpu i lunio strategaeth cynaliadwyedd ar gyfer yr oes ddigidol:

  • Ewch ati i ddeall sut y gall gweithgareddau eich sefydliad treftadaeth greu neu leihau gwerth cymdeithasol trwy ddadansoddi gweithgareddau, canlyniadau ac effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y sefydliad.
  • Ailystyriwch eich gwasanaethau – eu cynllun a’r defnydd a wneir ohonynt – a cheisiwch ddeall amcanion anghyson.
  • Ymgysylltwch yn strategol â rhestr estynedig o randdeiliaid eich cadwyn gwerth.
  • Ewch ati i feithrin galluoedd a hyfforddi eich gweithwyr er mwyn iddynt ddod yn ymwybodol o oblygiadau amgylcheddol yr hyn a wnânt, fel y gallant ysgwyddo perchnogaeth dros gynaliadwyedd yn eich sefydliad.

Mae pob egwyddor angen cam strategol sydd â’r bwriad o sicrhau cydbwysedd cynaliadwy mewn perthynas â chreu gwerth gyda’ch partneriaid a’r gymuned ehangach.

4. Adnoddau defnyddiol

Dinaslun wedi’i osod ar graff yn dangos data



More help here


Sunlight streaming through woodland

Digital leadership – Heritage, digital and the climate crisis

How can digital capacity and tactics be leveraged in heritage organisations to address the climate crisis and to meet your heritage organisation’s environmental goals?  The sixth and final online seminar in the Leading the Sector 2022 series talks about the role leaders need to play in understanding and leading change in this vital area of the heritage’s sector’s work.

 
Six kayakers on a river approach a bridge

How can we measure our current environmental impact?

The adoption of new technologies may support your initiatives to ‘go green’ and reduce your environmental impact. Which are the key areas to focus on that will enable your organisation to become more environmentally sustainable? This guide explores where the biggest impacts may be felt for your organisation and what methods you might use to measure your existing environmental footprint.

 
green grass field during sunset

How to make your digital engagement activities better for the environment

In this resource, Katie Parry from digital agency and arts sector specialists, Supercool, provides a selection of practical actions to help you make your digital engagement activities better for the environment. Katie provides tips and suggestions that will help you make your organisation’s website, social media channels, emails and computers more sustainable.

 

Browse related resources by smart tags:



Digital technologies Environment Strategies Sustainability Sustainable
Published: 2022
Resource type: Articles


Creative Commons Licence Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence

Please attribute as: "How can digital help us become more environmentally sustainable? (2022) by Dr Ruth Daly supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0




 
 


More help here



Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo