
Where to start when building a new website for your heritage organisation
1. Rhagarweiniad
Gall deall ble i ddechrau wrth adeiladu gwefan newydd fod yn broses ddryslyd a heriol. Yn aml, bydd cydweithwyr, aelodau’r bwrdd neu wirfoddolwyr sy’n dymuno’n dda neidio ati’n syth, yn llawn cyffro am y camau ‘sut olwg fydd arni?’ a ‘beth bydd yn ei wneud?’. Byddant yn dangos dyluniadau gwych a meddalwedd golygu gwych i chi, a bydd rhai hyd y oed yn dechrau ei darlunio tra bod eraill yn breuddwydio am weithrededd sydd ond yn fforddiadwy i sefydliadau mawr. Gwelwch chi’n eithaf buan bod adeiladu gwefan newydd yn gallu bod yn broses eithaf gwleidyddol lle mae gan bawb safbwynt gwahanol.
Diolch i’r drefn, mae proses mae llawer o asiantaethau ac ymgynghorwyr yn eu defnyddio y gallwch ei mabwysiadu i dywys pawb i’r cyfeiriad cywir a sicrhau eich bod yn cael y wefan newydd orau bosibl i’ch sefydliad treftadaeth. Adnodd ymarferol yw hwn ar sail map trywydd hirsefydledig sy’n darparu cyfres o restrau gwirio a thaflenni gwaith i chi i’ch helpu i adeiladu (neu ailadeiladu) gwefan.

Un o’r cwestiynau mawr yw ‘ddylwn wneud hyn fy hun neu dalu datblygwr gwe neu asiantaeth’? Mae hyn yn anodd ei ateb am ei fod yn dibynnu ar eich tîm, eich amser, eich cyllideb a’r weithrededd sydd ei hangen. Mae’n bosibl na fydd gennych gyllideb i fforddio talu asiantaeth, ond y newyddion da yw y gallwch wneud y mwyaf o’ch cyllideb drwy gynllunio gofalus.
Bydd yr adnodd hwn yn eich helpu i benderfynu faint o wefan eich sefydliad y gallwch ei chreu eich hun a phryd y gallai fod angen i chi gael cymorth ychwanegol gan ddatblygwr gwefannau.
Bwriad yr adnodd hwn yw eich helpu i:
- Werthuso ble rydych chi arni nawr ac i ble mae angen i chi fynd
- Darganfod pa weithrededd mae angen i chi feddwl amdani
- Creu map trywydd ar gyfer adeiladu eich gwefan
- Penderfynu faint gallwch ei wneud eich hun a ble gallai fod angen i chi gyllidebu ar gyfer cymorth ychwanegol
Y nod yw rhoi cynllun syml i chi yn y pen draw er mwyn dechrau adeiladu eich gwefan newydd.
2. Ymchwil am daith y gynulleidfa
Neilltuwch amser i ymgymryd ag ychydig o ymchwil cyn i chi ddechrau adeiladu eich gwefan. Mae’r cam hwn ar goll yn aml: fodd bynnag, mae’n bwysig bod meini prawf gennych yn eu lle i osgoi sefyllfa lle mae rhanddeiliaid yn meddiannu’r broses o adeiladu gwefan. Ar y cam hwn, mae’n bosibl y gwelwch chi fod dechrau gwefan yn ymwneud yn fwy â’r bobl na’r dechnoleg. Rhowch amserlen resymol i chi’ch hun i ymchwilio ond ceisiwch osgoi gadael i hyn droi’n ymarfer o oedi.
Bydd yr adnodd ‘Identifying your audience journeys‘ yn eich tywys drwy broses er mwyn nodi eich cynulleidfaoedd allweddol ar-lein a’u teithiau. Argymhellir yn gryf eich bod yn cwblhau’r adnodd hwn cyn ailgydio yn yr adnodd yma.
Noder: pan ddefnyddiwn y term ‘cynulleidfa’, yn y cyd-destun hwn mae’n golygu segment o’ch defnyddwyr, eich ymwelwyr neu’ch cwsmeriaid. Grŵp o bobl sy’n rhannu nodweddion cyffredin yw cynulleidfa.
3. Eich tîm a’ch sefydliad
a. Sgiliau digidol – chi a’ch tîm
Pa sgiliau sydd gennych chi a’ch tîm? Faint o ymdrech ydych chi (wir!) am ei rhoi i adeiladu’r wefan? Ydych chi’n gyfarwydd â WordPress, neu a allech chi ddysgu? Neu fyddai’n well gennych droi at rywbeth cyflymach fel SquareSpace neu Wix? Gobeithio bydd yr ymarfer hwn yn nodi bylchau y gallwch eu llenwi drwy dalu am weithwyr proffesiynol. Ydych chi’n credu, gydag ychydig hyfforddiant, y gallech chi gyflawni mwy ac arbed arian drwy wneud mwy eich hun?
Sgìl |
Dim profiad |
Rhywfaint o brofiad | Meistr |
---|---|---|---|
Golygu gwefannau gan ddefnyddio teclyn adeiladu tudalennau | |||
Codio gwefannau’n syml fel ychwanegu penawdau i dablau | |||
Creu safle WordPress, Wix, Squarespace neu Drupal o’r newydd | |||
Creu templedi tudalennau yn eich CMS | |||
Gwybodaeth sylfaenol am daflenni arddull/CSS | |||
Google Analytics | |||
Google Tag Manager | |||
Google Optimise | |||
Consol Chwilio Google Search Console | |||
Integreiddio ategion WordPress neu Wix |
Mae’n bosibl bod gennych wirfoddolwr brwd sy’n ‘creu gwefannau am hwyl’ ac sydd am wneud eich gwefan chi am ddim. Mae’n bwysig camu nôl pan fyddwch chi’n dechrau meddwl am wefan newydd ac asesu’r hyn sydd ei angen arnoch chi a phwy ddylai fod yn eich helpu. Yn aml, nid oes gan y gwirfoddolwr y sgiliau proffesiynol sydd eu hangen arnoch chi, neu bydd yn cymryd hydoedd a byddwch chi heb unrhyw ffordd o’u cyflymu. Os ydych yn ystyried derbyn gwasanaeth gwirfoddolwr, dylech bwyso a mesur, cwblhau eich cynllun, ac wedyn pori drwy’r manylebau a’r meini prawf gyda’r gwirfoddolwr i fesur faint gallen nhw ei wneud. Dull da yw gofyn iddynt am yr hyn y byddan nhw’n ei wneud ar y wefan i ddilyn y safonau hygyrchedd a mesur eu hymateb.
b. Llywodraethu
Beth yw gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd eich sefydliad? Os nad yw’r rhain yn bodoli, mae angen i chi ofyn pam. Heb y rhain, ni allwch bennu beth mae angen i’ch gwefan ei gyflawni dros eich sefydliad na darparu brîff i ddylunwyr a datblygwyr. Ydych chi’n ymdrechu i fod yn hygyrch i bawb, annog trafodaethau cynhwysol a gweithio tuag at garbon sero net? Beth yw polisïau hygyrchedd a chynaliadwyedd eich sefydliad? Unwaith eto, os yw’r rhain yn ddiffygiol byddai’n braf cael arweiniad gan y Prif Weithredwr/Cadeirydd/Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ynghylch safbwynt eich sefydliad o ran hygyrchedd a chynaliadwyedd (ac mae angen cynnwys hyn ar y wefan hefyd).
Mae gweld eich safbwynt o ran hygyrchedd, cynhwysiant a chynaliadwyedd yn bwysig iawn am y bydd yn chwarae rôl fawr wrth benderfynu pa lwyfan i’w defnyddio ar gyfer eich gwefan. Mae nodweddion hygyrchedd gan Wix ar gyfer unrhyw wefan rydych yn ei chreu, er enghraifft: https://www.wix.com/accessibility – fodd bynnag, nid ydynt yn ymddangos yn uchel am gynaliadwyedd (o ran defnyddio gweinyddion sy’n rhedeg ar ynni adnewyddadwy).
4. Archwilio eich gwefan bresennol
a. Hygyrchedd y Wefan
Oes gofyniad cyfreithiol arnoch i wneud eich gwefan yn hygyrch? Ers 2018, mae’n ofynnol o dan y gyfraith i unrhyw sefydliad y caiff ei fwyafrif ei ariannu’n gyhoeddus fodloni safon o’r enw Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG) 2.1 Lefel:AA.
Cyn i chi ddechrau eich gwefan newydd, mae’n ddefnyddiol gwybod ble rydych chi arni ar hyn o bryd fel y gallwch wneud y newidiadau angenrheidiol. Ewch i’r adnodd Sut gallaf wella fy ngwefan i’w gwneud yn fwy cyfeillgar i ddefnyddwyr, hygyrch ac addas at y diben i gynnal archwiliad hygyrchedd o’ch gwefan bresennol.
b. Carboniadur y ‘Carbon Calculator’ a chynaliadwyedd
Mae gwefannau’n gallu defnyddio llawer o ynni a gall hyn gyfrif tuag at ôl troed carbon eich sefydliad. Mae lawrlwytho ffeiliau mawr a chreu tudalennau gwe dynamig yn defnyddio mwy o ynni na thudalennau statig syml.
Rhowch eich gwefan bresennol drwy wefan y Carbon Calculator: https://www.websitecarbon.com/
Ydych chi’n cael ‘hwrê, mae eich gwefan yn well na…’ neu ‘Trueni! Mae’r dudalen we yma’n waeth na…’
Os yw eich gwefan bresennol yn gwneud yn dda, yna dylech o bosibl holi pam? Pa elfennau o’ch gwefan sy’n gweithio a sut gallwch eu cludo i’ch gwefan newydd?
c. Core web vitals
Core web vitals yw mesur Google o brofiad defnyddiwr o’ch gwefan. Maen nhw’n sgorio pa mor hawdd yw eich tudalennau gwe i’w llwytho a pha mor sefydlog ydyn nhw. Os oes gennych dudalennau gyda delweddau mawr neu lawer o god diangen, byddant yn arafu’r amser llwytho.
Mae’r sgôr a gewch chi nawr yn bwysig, a gallai effeithio ar y ffordd rydych chi’n penderfynu dechrau gwefan newydd. Porwch drwy ddetholiad o’ch tudalennau gwe drwy roi eich dolenni URL yma: https://pagespeed.web.dev/
Ydych chi wedi pasio neu fethu? Chwiliwch am eich sgôr perfformiad drwy sgrolio i lawr y dudalen i’r adran ‘Diagnose performance issues’.
Os yw eich sgôr dros 50, mae angen i chi feddwl yn ddwys. Mae eich gwefan bresennol yn gwneud yn dda a gallai adeiladu gwefan newydd effeithio ar y sgôr yma. Os ydych wedi methu, mae gwefan newydd neu ailadeiladu’ch gwefan yn flaenoriaeth.
Pam mae hanfodion core web vitals mor bwysig?
Ers mis Mehefin 2021, mae Google wedi cynnwys profiad tudalennau, wedi’i fesur gan ddefnyddio core web vitals, yn yr algorithm chwilio cyffredinol. Mae data’n awgrymu ar hyn o bryd bod gwefannau â sgorau gwael yn cael eu cosbi ac felly mae optimeiddio peiriannau chwilio yn troi’n anhawster. Hefyd, mae sgorau isel yn awgrymu nad yw eich gwefan o bosibl yn gynhwysol neu’n hygyrch iawn i bawb. Er enghraifft, os yw eich tudalennau’n cymryd amser hir i lwytho, mae hynny’n awgrymu bod meintiau ffeiliau mawr ganddynt, a chaiff hyn effaith ar bobl ar ddyfeisiau symudol sy’n talu am y data hwnnw.
Os yw eich gwefan yn gwneud yn dda ar hyn o bryd, gallai eich gwefan newydd wneud pethau’n waeth. Yn aml mae gwefannau hŷn yn llai swmpus, mae llai o graffeg arnynt, a chod symlach sy’n eu gwneud yn berfformwyr gwell o’u hanfod o ran sgorau cyflymder tudalennau. Yn eich cynllun gwefan, bydd angen i chi amserlennu camau profi ar gyfer profi cyflymder tudalennau drwy gydol y camau adeiladu.
d. Gofynion newydd
Oes gan eich sefydliad unrhyw ofynion newydd ar gyfer y wefan? Arddangosfeydd neu gyrsiau newydd ar-lein er enghraifft? Sicrhewch fod y gofynion newydd hyn yn canolbwyntio ar y gynulleidfa, e.e. gofod arddangos ar-lein newydd i ddenu pobl nad ydynt yn gallu ymweld â’r amgueddfa ac ymgysylltu ag ymwelwyr presennol.
5. Ymchwil i gystadleuwyr
Gelwir hyn yn ‘ymchwil i gystadleuwyr’, fodd bynnag, rydyn ni’n chwilio am syniadau gwych mae eich cydweithwyr wedi’u rhoi ar waith mewn sefydliadau treftadaeth eraill. Chwiliwch ar wefannau sefydliadau fel eich sefydliad chi a hefyd ar wefannau rydych yn eu hoffi’n fawr. Nid oes angen i chi ailddyfeisio’r olwyn ac mae llawer o fanteision i chwilio ar yr hyn mae pobl eraill yn ei wneud. Sicrhewch fod hyn yn ymarfer ymarferol, er mwyn cadw ffocws.
Cam 1
URL y Wefan | Beth sy’n gweithio? | Beth nad yw’n gweithio? |
---|---|---|
www.countyfarmmuseum.org.uk | Rhagarweiniad da a galwad i weithredu ar y dudalen gwahodd ymweliad | Golwg ddryslyd ar yr hafan dudalen |
Cam 2
Mae gwefannau tebyg hefyd yn rhoi gwybodaeth wych i chi am deithiau’r gynulleidfa.
Chwiliwch am bob sefydliad gan ddefnyddio Google. Y gobaith yw y bydd rhestr o ddolenni i wefannau o dan yr hafan dudalen; y rhain yw’r tudalennau glanio mwyaf poblogaidd ar y safle.
Ar gyfer pob gwefan, rhestrwch y tudalennau glanio. Cofiwch yr hafan dudalen. Chwiliwch am y 3 i 5 prif alwad i weithredu ar gyfer pob tudalen. Galwad i weithredu yw dolen neu fotwm amlwg sy’n denu eich sylw. Mae gan lawer o amgueddfeydd ddolen ‘Cynllunio’ch ymweliad’ / ‘Plan your visit’ fel y peth cyntaf a welwch chi. Yn dilyn hyn, gallai fod dolen ‘Archebu ar-lein’ / ‘Book online’ ac yna’r arddangosfa ddiweddaraf.
Tudalen lanio | Galwad i weithredu 1 | Galwad i weithredu 2 | Galwad i weithredu 3 | Galwad i weithredu 4 |
---|---|---|---|---|
Hafan | Cynllunio’ch ymweliad | Archebu ar-lein | Arddangosfa bresennol | Rhoi |
Arddangosfeydd a digwyddiadau | Chwilio’r Calendr | Chwilio yn ôl math o gynulleidfa (e.e. teuluoedd) | Hidlo yn ôl math o arddangosfa | Arddangosfeydd arbennig |
Cynllunio’ch ymweliad | Archebu ar-lein | Gwybodaeth am docynnau | Amserau agor | Gwybodaeth am yr Oriel |
Archwiliwch ddewislen pob gwefan hefyd (gan ddiystyru’r hafan dudalen). Mae hyn hefyd yn awgrymu’r teithiau cynulleidfaoedd mwyaf poblogaidd.
URL y Wefan | Eitem 1 ar y ddewislen |
Eitem 2 ar y ddewislen |
Eitem 3 ar y ddewislen |
Eitem 4 ar y ddewislen |
Eitem 5 ar y ddewislen |
---|---|---|---|---|---|
www.countyfarmmuseum.org.uk | Ymweld | Arddangosfeydd | Casgliadau | Dysgu | Rhoi |
www.bigredhouse.org | Beth sy’ ymlaen | Ymweld | Aelodaeth | Rhoi | Ein Cefndir |
www.heritagesouth.org.uk | Ymweld | Beth sy’ ymlaen | Aelodaeth | Ein Cefndir | Rhoi |
Allwch chi nodi patrymau rhwng y ddwy daflen waith? Allwch chi ddod o hyd i enghreifftiau o gynulleidfaoedd ar-lein penodol a’u teithiau?
6. Amcanion eich gwefan newydd
Beth rydych chi am ei gyflawni? Bydd eich amcanion wedi’u seilio ar y teithiau cynulleidfaoedd a nodwyd gennych a’ch gofynion newydd. Mae’n bwysig nodi mai nodau sy’n canolbwyntio ar y gynulleidfa yw’r rhain yn hytrach na rhai sy’n canolbwyntio ar y sefydliad, fel ‘rydyn ni am gael dyluniad newydd’ ac ‘rydyn ni am gael gwefan fwy hylaw’. Yn hytrach, rydych chi’n canolbwyntio ar eich defnyddwyr.
Er enghraifft, gwefan newydd a fydd yn:
- Denu cynulleidfa iau newydd i’r gofodau arddangos ar-lein
- Galluogi’r amgueddfa i ymgysylltu ag ymwelwyr presennol drwy gynnig ystod o adnoddau i’w harchwilio
- Cynnig y gallu i archebu ar-lein ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau
- Rhoi’r amgueddfa mewn sefyllfa i ddenu cyllidwyr a noddwyr drwy astudiaethau achos a thystebau
- Cynyddu gwerthiant digwyddiadau drwy siop integredig a newyddlen e-bost
- Helpu pobl i gael gwybod mwy am ein sefydliad a chynnig cynnwys dengar
- Cynnig pecynnau aelodaeth newydd ac ardal i aelodau
Yna, ar gyfer pob nod, rhestrwch yr hyn y bydd ei angen arnoch i’w gyflawni – eich gofynion. Ar y pwynt yma, peidiwch â meddwl am dargedau – felly nodwch y cyfan y gallwch chi feddwl amdano, a dyna yw eich ‘rhestr ddymuniadau’.
Beth sydd ei angen arnon ni i gyflawni’r nod yma? | Gofynion |
---|---|
Dyluniad deniadol fydd yn denu cynulleidfa iau sy’n tyfu ynghyd â’n cynulleidfaoedd mwy sefydledig | Dyluniad newydd wedi’i seilio ar ofynion brandio presennol |
Archebu ar-lein | System archebu ar-lein sy’n syml ac sy’n cynnwys ychydig gamau archebu yn unig |
Cofrestru a mewngofnodi defnyddwyr | Cofrestru a mewngofnodi, o bosibl gan ddefnyddio teclynnau mewngofnodi Facebook neu Google gydag un clic. |
Tudalen i restru digwyddiadau a chalendr | System a fydd yn caniatáu i ni gofnodi digwyddiadau a’u harddangos i’r defnyddiwr |
Beth sydd ei angen arnon ni i gyflawni’r nod yma? | Gofynion |
Ffrydiau cyfryngau cymdeithasol | Integreiddio Facebook, Twitter ac Instagram i’r wefan. Bydd y rhain yn gweithio dwy ffordd gyda ffrydiau ar y wefan a’r newyddion yn cael eu dosbarthu |
Tudalennau glanio newydd | Tudalennau glanio sydd wedi’u brandio’n wahanol sy’n cael eu targedu at gynulleidfaoedd iau drwy gyfryngau cymdeithasol |
Gofodau arddangos ar-lein | System rheoli cynnwys sy’n caniatáu i ni greu ‘gofodau’ a churadu eu cynnwys |
Adborth | Opsiynau adborth i bobl ymgysylltu’n fwy |
Chwilio’n sydyn | Chwilio am arddangosfeydd a hidlo gwrthrychau |
Ar y pwynt hwn, gobeithio y byddwch wedi rhestru popeth sydd ei angen arnoch chi. Gallwch chi ddefnyddio’r rhestr wirio yma i sicrhau nad oes dim wedi’i anghofio:
Rhestr Wirio o’r Gofynion
-
- Chwilio ar y safle
- Mewngofnodi
- Dewislenni
- Blog neu newyddion
- Llyfrgell fideos
- Oriel luniau
- Hwb adnoddau/gwybodaeth
- Ffurflen gyswllt
- Ffurflen cofrestru am y newyddlen
- Captcha
- Calendr digwyddiadau
- Archebu digwyddiadau
- Prynu aelodaeth
- Ardal aelodau
- Rhoddion
- Teclynnau rhannu cymdeithasol
- Map o’r lleoliad
- Dewisiadau briwsion bara
- Adolygiadau
- Tystebau
- Sylwadau
- Fforwm trafod
- Sgwrsio ar-lein (chatbot)
- Templed ppp ar gyfer cwestiynau a ofynnir yn aml (e.e. gosodiad accordion)
- Gosodiadau i ffonau symudol/ymatebol
- Integreiddio E-fasnach
- System e-fasnach/archebu
- Dolenni troedynnau
Cyfunwch eich holl ofynion mewn un rhestr ddymuniadau a dileu unrhyw ddyblygiadau.
Ar gyfer pob gofyniad, dylid rhoi blaenoriaeth iddo. 1 = Rhaid ei gael, 2 + byddai’n braf ei gael, 3 = gellid mynd hebddo
Gofynion | Blaenoriaeth |
---|---|
Dyluniad newydd wedi’i seilio ar ofynion brandio presennol | 1 |
System archebu ar-lein sy’n syml ac sy’n cynnwys ychydig gamau archebu yn unig | 1 |
Cofrestru a mewngofnodi, o bosibl gan ddefnyddio teclynnau mewngofnodi Facebook neu Google gydag un clic. | 1 |
System a fydd yn caniatáu i ni gofnodi digwyddiadau a’u harddangos i’r defnyddiwr | 1 |
Integreiddio ffrydiau Facebook, Twitter ac Instagram i’r wefan. Bydd y rhain yn gweithio dwy ffordd gyda ffrydiau ar y wefan a’r newyddion yn cael eu dosbarthu | 2 |
Tudalennau glanio sydd wedi’u brandio’n wahanol sy’n cael eu targedu at gynulleidfaoedd iau drwy’r cyfryngau cymdeithasol | 2 |
System rheoli cynnwys sy’n caniatáu i ni greu ‘gofodau’ a churadu eu cynnwys | 2 |
Opsiynau adborth i bobl ymgysylltu’n fwy | 3 |
Nawr meddyliwch am eich meini prawf. Mae’r rhain wedi’u seilio ar eich ymchwil ar bolisïau eich sefydliad fel hygyrchedd a chynaliadwyedd.
Meini prawf | Blaenoriaeth |
---|---|
Cynaliadwy: rhaid i’r cwmni sy’n lletya ddefnyddio ynni adnewyddadwy a dylai cyflymder y tudalennau basio. | 1 |
Hygyrch: yn ateb WCAG 2.1 AA | 1 |
Cymeradwy o ran GDPR (gan gynnwys data sy’n cael ei gasglu a’r polisi cwcis) | 1 |
Integredig o ran Google Analytics neu Tag Manager | 1 |
Ymatebol ar gyfer ffonau symudol | 1 |
Wedi’i optimeiddio ar gyfer peiriannau chwilio | 2 |
Copïau awtomatig wrth gefn | 3 |
Defnyddio rhwydwaith darparu cynnwys a storfa | 2 |
Dylech wybod beth rydych am ei gael ond nid o reidrwydd sut i fynd ati i’w gael!
Ar y pwynt hwn, rydych yn barod i roi eich briff at ei gilydd, ac mae gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Hyd yn oed os nad ydych chi’n defnyddio asiantaeth neu ddatblygwr, mae’n syniad da gwneud hyn fel y gallwch chi ei ddosbarthu i randdeiliaid cyn dechrau eich cynllun i adeiladu’r wefan.
7. Rhoi eich cynllun at ei gilydd
Mae llawer i’w wneud yn y cam hwn. Mae’n ymddangos fel llawer o waith ac mae’n teimlo, fwy na thebyg, fel pe byddai’n well mynd ati a dechrau’r gwaith o adeiladu’r wefan. Fodd bynnag, mae cynllunio’n hollol hanfodol; pan fo’r cam hwn yn cael ei hepgor mae llawer o gamgymeriadau’n gallu digwydd!
a. Brîff ar gyfer y wefan
Dylai fod gennych yr wybodaeth erbyn hyn i roi eich brîff ar gyfer y wefan at ei gilydd. Mae’n werth gwneud hyn, hyd yn oed os mai dim ond i chi mae hyn. Bydd y penderfyniadau am gyllidebau a wneir nawr yn effeithio ar y dewis o adeiladwr y wefan/system rheoli cynnwys gywir, ond trafodwn ni hynny’n ddiweddarach.
Mae angen i’ch brîff gynnwys:
- Gwybodaeth amdanoch chi (y sefydliad a’r tîm)
- Amcanion ar gyfer eich gwefan newydd
- Eich cynulleidfaoedd a sut byddan nhw’n defnyddio’ch gwefan
- Eich rhestr gofynion
- Eich rhestr meini prawf
- Gwefannau tebyg rydych chi’n eu hoffi (a manylion am yr hyn rydych chi’n ei hoffi)
- Dyluniad – eich canllawiau brandio a gwefannau eraill rydych chi’n eu hoffi
- Cyllideb ac amserlen
b. Eich cynllun gweithredu
Dyma’ch map trywydd a bydd yn eich helpu i: leihau costau, cadw at eich amserlen a chynllunio ble gallai fod angen i chi ddyrannu cyllideb i dalu am gymorth proffesiynol. Po fwyaf y cynllunio y gallwch ei wneud yn y dechrau, y mwyaf y byddwch yn ei arbed o ran amser drud yr asiantaeth/datblygu.
c. Pwy yw rheolwr y prosiect?
Arbedwch eich cyllideb drwy benodi chi’ch hun neu rywun ar eich tîm fel rheolwr y prosiect. Byddan nhw wedyn yn gweithredu fel contractiwr gan ddefnyddio gweithwyr proffesiynol dim ond pan fydd eu hangen.
Mae angen i reolwr y prosiect fod yn rhywun sy’n gallu cadw pethau i symud, ac sy’n gallu gwneud penderfyniadau – ac sy’n meddu ar yr awdurdod i wneud hynny. Nid yw o gymorth rhoi’r rôl yma i rywun nad yw’n hoffi gofyn i reolwr ac ymddiriedolwyr siapio! Gall rheolwr y prosiect ddirprwyo’r rhan fwyaf o’r gwaith; eu rôl nhw yw cadw prosiect y wefan i symud gyda chyfarfodydd diweddaru rheolaidd i bawb sy’n gysylltiedig i fwydo nôl ar y cynnydd.
Penderfynwch:
- Pwy sy’n gwneud pa dasgau
- Pwy arall sy’n gysylltiedig a beth yw eu cyfrifoldebau? Fel creu cynnwys newydd
- Pwy sydd angen cymeradwyo’r wefan? Ar ba gamau mae angen cymeradwyaeth?
- Amserlen? Dyddiadau meddal a chaled ar gyfer mynd yn fyw?
d. Cynllunio’ch amserlen
Defnyddiwch daenlen Excel, siart Gantt neu wasanaeth ar-lein fel Trello, a chreu amserlen ar gyfer adeiladu’r wefan newydd. Mae hyn yn rhoi cynllun clir ar gyfer pwy sy’n gwneud beth a phryd.

Nawr, rydych chi’n barod i gymryd y rhestr ddymuniadau a’i throi’n rhestr fanylebau. Mae angen i chi edrych ar yr hyn sydd eisoes gennych yn ei le a sut bydd y rhestr ddymuniadau newydd honno’n ffitio. Allwch chi addasu’r hyn sydd gennych yn barod, neu oes angen rhywbeth cwbl newydd arnoch chi?
e. Eich systemau presennol
Fwy na thebyg, bydd ystod o bethau yn eu lle gyda chi eisoes, yr hoffech eu newid neu eu cadw yn rhan o’r gwaith o adeiladu’r wefan newydd. Mae’n bosibl mai eich system rheoli cynnwys eich gwefan chi’ch hun yw hyn, eich cronfa ddata cwsmeriaid, darparwr e-bost fel Mailchimp, eich system archebu/tocynnau fel Spektrix neu Eventbrite.
Cynllun cynnwys
Mae’n dda o beth meddwl am eich cynnwys yn gynnar am fod hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth o ran pa system CMS neu adeiladwr gwefan byddwch chi’n ei ddefnyddio. Os ydych chi’n gweld y bydd angen i chi ddefnyddio llawer o gynnwys newydd, bydd angen i chi gynnwys hynny’n rhan o’ch amserlen adeiladu. Bydd eich amcanion, eich cynulleidfa ar-lein a’u teithiau’n eich helpu i feddwl am eich cynllun cynnwys newydd.
Ymarfer defnyddiol yw mapio cynnwys. Bydd hyn yn nodi beth mae angen i chi ei gadw, beth all fynd ac unrhyw gynnwys newydd sydd ei angen arnoch chi.
System Rheoli Cynnwys (CMS)
Mae’r system rheoli cynnwys wrth wraidd eich gwefan a dethol hon yw’r penderfyniad mwyaf fydd gennych yn y cynllun hwn. Gall CMS fod yn unrhyw beth sy’n eich galluogi i greu ac adeiladu gwefan, felly mae’n cynnwys pethau fel adeiladwyr gwefannau Wix a SquareSpace. Ydych chi’n bwriadu cadw neu adnewyddu’ch CMS? Sut gallwch chi werthuso a ddylai fynd neu gael ei gadw? Mae’n bosibl eich bod eisoes wedi penderfynu eich bod am ei adnewyddu ond holwch a ydy hynny wedi bod yn benderfyniad rhesymegol neu oherwydd bod eich tîm yn cael trafferth gyda’r hyn sydd gennych?
Rheswm | Cwestiynu’r rheswm hwnnw |
---|---|
Dydyn ni ddim yn hoffi’r dyluniad | Ydych chi’n gallu newid y blaen a chadw’r cefn? |
Rydyn ni’n ei chael yn anodd diweddaru cynnwys tudalennau ac ychwanegu tudalennau newydd | Beth am hyfforddiant staff?
Gallech chi newid y golygydd tudalennau y tu fewn i’r CMS am rywbeth arall (yn hytrach na gorfod newid y CMS gyfan) |
Mae angen i ni osod gweithrededd ychwanegol, e.e. ystafell sgwrsio neu integreiddio gyda meddalwedd archebu digwyddiadau | Ydych chi’n gallu siarad â datblygwr i weld a allai hyn fynd ar eich CMS bresennol?
Ydych chi wedi adnabod CMS amgen a fyddai’n gadael i chi wneud hyn? |
Rheswm | Cwestiynu’r rheswm hwnnw |
Does gen i ddim yr amser i ailhyfforddi staff ar CMS newydd | Gallech chi ddewis CMS symlach ar gyfer y wefan newydd nad oes angen i chi gael hyfforddiant ar ei gyfer. Oes fideos hyfforddi ar-lein ar gael ar gyfer CMS newydd? |
Rwy’n gyfarwydd â’r system yma yn barod; dydw i ddim am ei newid. | Ewch drwy eich rhestr wirio manylebau (gweler yn ddiweddarach) i weld a oes angen i chi newid neu beidio |
Mae’n integreiddio’n dda gyda’m cronfa ddata cynulleidfaoedd a’m darparwr e-bost | Ewch drwy eich manylebau; os yw’n integreiddio’n dda ond nid yw’n ateb gofynion eraill, a allech chi ddod o hyd i CMS arall sydd hefyd yn integreiddio’n dda? |
Rhestr wirio system rheoli cynnwys gwefannau
Meddyliwch am eich CMS bresennol. Pa weithrededd sydd ganddo, beth sy’n gweithio, beth nad yw’n gweithio? Ewch drwy eich rhestr ddymuniadau a gwirio a yw’n gallu gwneud yr holl dasgau blaenoriaeth 1 a 2.
Statws: 1 = da, 2 = gallwn fyw gydag ef, 3 = mae angen rhywbeth arall arnon ni
Nid yw hon yn rhestr derfynol, ond ychydig syniadau i’ch rhoi ar ben y ffordd (dilëwch yr hyn nad oes ei angen arnoch chi). Meddyliwch a oes unrhyw beth arall sydd ei angen arnoch chi.
Gweithrededd | Nodiadau | Statws |
---|---|---|
Gosod defnyddwyr newydd sy’n gallu golygu’r safle | ||
Mewngofnodi syml i ddefnyddwyr gyrchu’r CMS | ||
Bwrdd rheoli syml | ||
Adeiladu tudalennau gwe newydd ar sail templedi | ||
Golygu tudalennau gwe gyda golygydd gall pawb ei ddefnyddio | ||
Adeiladu eich templedi eich hun | ||
Gall unrhyw un ychwanegu/newid eitemau ar y ddewislen yn y dull gwe-lywio ar y brig | ||
Gall unrhyw un newid elfennau yn y troedyn fel dolenni a chyfeiriad | ||
Ychwanegu a golygu newyddion/blogiau | ||
Ychwanegu a golygu arddangosfeydd a digwyddiadau | ||
Ychwanegu a golygu adnoddau/cwestiynau a ofynnir yn aml | ||
Aelodaeth – gosod mathau newydd o aelodaeth | ||
Rheoli rhoddion | ||
Ffyrdd i reoli gwirfoddolwyr – mewngofnodi ac ardaloedd ar y safle i wirfoddolwyr o bosibl | ||
Ychwanegu proffiliau pobl: eich tîm, bwrdd, ac ati | ||
Ydy hyn yn cynnwys neu’n integreiddio’n dda gyda system e-fasnach ar gyfer eich archebion a/neu eich siop? | ||
Ydy hyn yn cysylltu’n dda gyda’r cyfryngau cymdeithasol? | ||
Gweithrededd basged wedi’i gadael | ||
Gweithrededd allweddeiriau ac optimeiddio peiriannau chwilio |
Fe welwch chi y gallwch chi allosod hyd yn oed fwy o ofynion gan ddefnyddio’r daflen waith yma. Byddwch mor fanwl ag y gallwch chi, ysgrifennwch bopeth i lawr, gan gynnwys yr holl fanion fel peidio â gallu golygu rhywbeth neu gael math arbennig o adroddiad. Gallech chi weld hefyd y byddwch chi’n meddwl am faterion ar systemau cysylltiedig fel eich cronfa ddata cysylltiadau, darparwr e-bost neu system docynnau – nodwch y rhain hefyd. Byddwch yn gwybod beth yw’r pethau hyn, am mai’r rhain yw’r pethau sy’n eich plagio bob dydd!
Er enghraifft, wrth ychwanegu cysylltiadau newydd, dim ond un e-bost fesul cyswllt gellir ei roi, sut i greu rhestr o fynychwyr, rhestru aelodau presennol, gallu cyrchu adroddiad gwerthiant, prynu aelodaeth ar-lein, prynu digwyddiadau ar-lein, adnewyddu aelodaeth yn awtomatig, caniatáu tanysgrifiadau aelodaeth, ac ati.
Gan edrych ar eich taflen waith, ydy hi’n ymddangos fel eich bod yn gallu cadw eich CMS bresennol neu ddylech chi fod yn ystyried opsiynau amgen?
Os ydych chi’n ystyried opsiynau amgen, nawr yw’r amser i wneud ychydig ymchwil a chwilio i weld beth sydd ar gael. Peidiwch â chymryd yn ganiataol nad oes gan adeiladwyr fel Wix a Squarespace y weithrededd sydd ei hangen arnoch chi – gallech chi gael syrpreis. Gallan nhw redeg yn dda oddi ar daenlenni Excel a’u trosi’n gronfeydd data a thudalennau deinamig.
Mae miloedd o fathau o CMS; fodd bynnag, felly y peth gorau i’w wneud yw edrych ar y rhestr isod. Y rhain yw’r rhai mwyaf poblogaidd ac maen nhw’n cynnig profiadau da o ran adeiladu gwefannau. Bydd ganddyn nhw hefyd ragor o ddatblygwyr sy’n gallu eich helpu. Os ydych yn gyfarwydd ag HTML ac yn cael eich temtio i adeiladu safle HTML statig, peidiwch â chael eich temtio; mae’n well mynd gyda CMS a defnyddio’ch sgiliau’n dda tu mewn i hynny.
CMS | Cyfran o’r farchnad |
---|---|
WordPress | 65% |
Shopify | 7% |
Wix | 3% |
Squarespace | 3% |
Joomla | 3% |
Drupal | 2% |
Magento | 1% |
Weebly | 0.5% |
Ffynhonnell: W3Techs
Os mai cyllideb fach sydd gennych, a phrinder amser, dylech chi fwy na thebyg flaenoriaethu eich ymchwil ar y pedwar ar y brig. Gosodwch gyfrifon arbrawf am ddim a rhoi cynnig arnyn nhw. Defnyddiwch eich rhestr ddymuniadau a’ch rhestr meini prawf a gwirio beth gall pob un ei gynnig i chi. Edrychwch ar yr adnodd: WordPress, Wix neu Squarespace?
System rheoli perthnasau cwsmeriaid/cronfa ddata cysylltiadau/darparwr e-bost
Mae llawer o sefydliadau llai’n dewis rheoli eu cysylltiadau gan ddefnyddio darparwr e-bost fel MailChimp neu Klaviyo. Mae hyn yn gwneud pethau’n weddol syml oherwydd:
- Mae eich holl ddata cysylltiadau i gyd yn yr un lle
- Mae diogelwch i chi a’ch ymwelwyr – mae gan y darparwyr arweiniol drefniadau GDPR yn eu lle (am fwy o wybodaeth am GDPR edrychwch ar yr adnodd hwn)
- Maen nhw’n integreiddio gyda’ch gwefan i gasglu data newydd
Fodd bynnag, os ydych chi’n gwerthu rhywbeth fel digwyddiadau neu’n derbyn rhoddion, yna mae’r anghenion o ran eich cronfa ddata cysylltiadau’n mynd i ymestyn y tu hwnt i ddarparwr e-bost. Mae hyn oherwydd y byddwch chi’n defnyddio system arall yn ogystal â’ch darparwr e-bost.
Yr ateb symlaf yw dewis gwasanaeth cyfunol fel Shopify, Wix neu Squarespace sy’n cynnig CMS, ateb marchnata drwy e-bost ac e-fasnach. Dylech chi hefyd ddewis WordPress ac ategyn i integreiddio gyda’ch darparwr e-fasnach a/neu’ch darparwr e-bost.
Os ydych chi o’r farn mai WordPress sy’n cynnig y CMS orau i chi a bod angen i chi ystyried integreiddio e-fasnach (i werthu digwyddiadau, aelodaeth, ac ati), mae’n bosibl y byddwch chi am neilltuo rhywfaint o’ch cyllideb i ymgynghori â datblygwr gwefannau i osod rhywbeth fel Woocommerce.
Yn olaf, gallai fod gennych CRM mwy cymhleth fel Salesforce neu Blackbaud’s Raisers Edge – lle mae integreiddio rhwng y wefan ac e-fasnach a marchnata drwy e-bost yn fwy cymhleth. Mae angen fwy na thebyg i chi gysylltu â datblygwr gwefannau i helpu gyda’r integreiddio.
System digwyddiadau/archebion/tocynnau/aelodaeth
Os ydych chi’n defnyddio Wix neu Squarespace, mae mantais siop integredig gennych i werthu digwyddiadau ac aelodaeth.
Mae llawer o sefydliadau llai yn dewis darparwr trydydd parti fel Ticketsource neu Spektrix. Mae modd integreiddio’r rhain gyda’ch gwefan gyda chodau wedi’u mewnblannu. Gallwch ddewis WordPress ac wedyn integreiddio gyda Ticketsource neu Eventbrite, er enghraifft.
Darparwyr taliadau a chyfrifon
Mae’n werth gwirio pa feddalwedd gyfrifo mae eich sefydliad yn ei defnyddio, ac a oes angen i chi weithio gyda darparwyr taliadau penodol fel Paypal, Stripe a Worldpay. Mae’n bosibl y bydd angen i chi integreiddio gyda Xero neu Quickbooks ac mae rhai systemau e-fasnach/CMS yn gwneud hyn yn well nag eraill.
Addasu eich safle presennol neu adeiladu un newydd?
Mae pobl yn aml yn sôn am wefan newydd fel cread hollol newydd yn hytrach na rhywbeth sydd wedi’i addasu o’i ffurf bresennol. Os oes gennych wefan yn barod, mae’n bosibl eich bod am newid ei hedrychiad ond cadw’r cefn yr un peth. Neu mae’n bosibl eich bod am newid popeth.
Mae angen i ni fod yn ofalus am waredu gwefannau oherwydd eu dyluniad yn unig neu newidiadau o ran gweithrededd. Mae’n dda o beth peidio â mynd ati i adeiladu eich gwefan newydd gyda’r meddylfryd eich bod yn ‘gwaredu’ a ‘chael rhywbeth newydd’. Mae’n bosibl bod angen newidiadau ar y wefan newydd fel dyluniad newydd a rhywfaint o weithrededd newydd ar ben eich system bresennol. Gallech chi roi dyluniad cynhwysol newydd ar eich safle presennol heb newid y cefn/CMS a hefyd rhoi golygydd tudalennau da ar y cefn, fel bod golygyddion yn gallu ychwanegu cynnwys.
Os ydych chi’n sgorio’n dda am hygyrchedd ac SEO (optimeiddio peiriannau chwilio), gallai hynny fod oherwydd bod eich gwefan yn eithaf plaen a’ch bod wedi sefydlu safle da o ran chwilio. Mae angen i chi holi a ydych chi am gadw hynny? Os ydych yn bwrw ymlaen gyda gwefan newydd sydd â phenynnau delweddog mawr, dyluniad gwych ac adeiladwr tudalennau rhagorol, gallai wneud eich tîm a’ch rheolwyr yn hapusach, ond a fydd wir yn cyflawni’r diben go iawn? Canlyniadau’r taflenni gwaith ar yr adnodd yw data caled i ddangos i’ch tîm a’ch rhanddeiliaid.
8. Ffrâm wifren
Ar ôl i chi gwblhau eich gwaith cynllunio, mae’n demtasiwn neidio’n syth i ddyluniadau ac adeiladu.
Mae hwn yn gam hollbwysig sydd yn aml yn cael ei ddiystyru, fodd bynnag, ni fyddai asiantaethau da byth yn hepgor y cam yma. Rhowch eich syniadau ar brawf cyn i chi ddechrau gwario’ch cyllideb ar asiantaethau, dylunwyr a datblygwyr. Bydd yn arbed llawer o amser ac arian i chi.
Mae’n bosibl bod adeiladu eich fframiau gwifren a’ch prototeipiau eich hun yn eich dychryn, ond mae modd gwneud hyn gan ddefnyddio teclynnau fel Lucidchart. Ewch i https.//lucid.app/ a chwilio am ‘wireframe’ (cyfrif premiwm yw llawer o’r rhain mae angen talu amdanyn nhw, ond nid yw’n ddrud eu defnyddio am tua mis).
Dyma enghraifft o ffrâm wifren gallwch ei hadeiladu gan ddefnyddio’ch brîff ar gyfer y wefan:

Mae’n bwysig nodi eich bod yn meddwl am strwythur a chynnwys yn ogystal â nodweddion hygyrchedd.
Unwaith mae’r fframiau gwifren gyda chi, rhowch ambell i daith cynulleidfa at ei gilydd ar wail canlyniadau’ch chwiliad. Mae mapiau teithiau cynulleidfa’n declynnau defnyddiol ar gyfer hyn:

Unwaith eto, mae Lucidchart yn lle gwych i fynd am dempled; chwiliwch yn Lucidchart am ‘customer journey map’. Y syniad yw dechrau gyda dalen wag ar gyfer taith cynulleidfa, nodi’r persona neu’r gynulleidfa a nodoch chi wrth gynnal yr ymchwil a gwneud y daith honno fel y persona neu’r gynulleidfa honno. Ar gyfer pob cam o’u taith, e.e. glanio ar yr hafan dudalen, cliciadau i’r dudalen ‘cefndir’, archebu digwyddiad, ac ati, rydych chi’n nodi’r pwyntiau cyffwrdd (pethau gall y defnyddiwr ryngweithio â nhw ar eich ffrâm wifren) fel clicio’r ddolen ar y ddewislen, neu glicio ar y botwm galwad i weithredu. Meddyliwch sut bydd y person hwnnw’n teimlo ac yn ymateb ar bob cam. A yw hi’n anodd dod o hyd i rywbeth ar eich ffrâm wifren, neu a ydych chi wedi hepgor rhywbeth fel chwiliad? Ar ôl mynd drwy’r fframiau gwifren ar gyfer pob un o’ch personas a senarios, mae’n bosibl y bydd angen i chi fynd nôl a newid y fframiau gwifren hynny.
Os bydd angen i chi wneud hynny, yna rydych chi wedi gwneud gwaith rhagorol ac wedi arbed llawer o amser i chi’ch hun. Fel arfer ar ôl adeiladu’r wefan mae’r materion hyn yn dod i’r amlwg, a’r cyfan rydych chi wedi’i wneud yw’r gwaith ffrâm wifren a phrofion defnyddwyr i ganfod hyn.
9. Y dyluniad
Ydych ch’n defnyddio dyluniad oddi ar y silff ar Wix, Squarespace neu WordPress, neu fyddai’n well gennych chi gael rhywbeth sydd wedi’i ddylunio i chi? Mae’n well cael hyn wedi’i ddylunio am eich bod yn cael yn union beth rydych chi am ei gael ac yna gallwch gael y dyluniad wedi’i droi’n dempled neu’n thema ar gyfer eich CMS.
Mae’r penderfyniad yma’n dibynnu ar y llwyfan rydych chi’n ei ddewis – os ydych chi ar Wix neu Squarespace, gallech chi ddewis templed a bant â chi. Bydd angen i chi roi lliwiau eich brand i mewn ond ar wahân i hynny, does dim cost dylunio. Os ydych chi’n dewis WordPress, unwaith eto gallwch chi fynd gyda safle cychwynnol parod a rhoi lliwiau eich brand i mewn.
Felly pryd mae angen dylunydd arnoch chi? Pan fyddwch chi’n defnyddio WordPress neu Drupal ac rydych chi wir am i’r dyluniad ddilyn canllawiau brandio penodol neu nid ydych chi am ddefnyddio dyluniad oddi ar y silff; pan eich bod am gael rhywbeth gwirioneddol dda sy’n cyd-fynd yn union â’ch brand.
Gallwch chi ofyn i asiantaeth neu ddatblygwr wneud y dylunio a’r adeiladu, ond gall hynny fynd yn ddrud (yn enwedig yr opsiwn cyntaf). Ffordd dda ymlaen yw rhannu hyn, rhoi brîff y dyluniad i ddylunydd (neu ddylunydd cynhwysol) sydd wedyn yn rhoi’r templedi a bwrdd stori i chi, yr ydych chi’n eu rhoi, ynghyd â’ch manylebau, i ddatblygwr gwe. Gall fod yn llawer rhatach talu dau weithiwr llawrydd ar wahân os oes angen i chi fynd ar hyd y llwybr yma. Bydd eich dylunydd gwe fwy na thebyg yn hapusach gweithio yn y ffordd yma.
Cadwch eich cyllideb ddylunio mor isel ag y gallwch (£150 – £1000). Os mai cyllideb fach sydd gennych, yna dylunio un dudalen fydd gyda chi mewn golwg, ond gyda’r holl elfennau gweithrededd wedi’u cynnwys, e.e. pennyn, dewislen, troedyn, gosodiad y testun, gosodiad rhestrau, gosodiad ffurflenni, delweddau, ac ati. Os oes ychydig yn fwy gennych i’w wario, gofynnwch am fwrdd stori gyda 3-5 tudalen, sy’n dangos yr hafan dudalen i chi, tudalen lanio, tudalen restru (fel newyddion neu ddigwyddiadau), tudalen archebu ar-lein (sy’n dangos sut olwg sydd ar feysydd mewnbwn a botymau). Sicrhewch eich bod yn defnyddio dylunydd llawrydd sy’n gwybod am ddylunio cynhwysol a hygyrchedd. (gweler yr adnodd hygyrchedd)
Os ydych chi’n defnyddio dylunydd, nawr yw’r adeg i gyflwyno brîff y dyluniad. Os nad oes gennych gyllideb i ddefnyddio dylunydd, lluniwch frîff bras i chi’ch hun fel eich bod yn gwybod am beth rydych chi’n chwilio ar y templedi parod.
Os oes gennych gyllideb dynn, gallech dalu dylunydd am ychydig syniadau’n unig.
Beth bynnag a wnewch chi, peidiwch ag anfon y fframiau gwifren na’r prototeip at eich dylunydd. Yn aml, bydd y dyluniadau sy’n dod nôl yn cyd-fynd â gosodiad eich ffrâm wifren (na fwriadwyd byth iddi fod yn osodiad!). Yn hytrach, disgrifiwch beth sydd ar eich fframiau gwifren, rhestru’r gwahanol adrannau a’u pwysigrwydd cymharol ar y dudalen.
Rhowch syniad i’ch dylunydd o’ch cynllun cynnwys, sut byddwch chi’n strwythuro cynnwys (gallen nhw ddod yn ôl â syniadau dewislenni neidio cyflym).
Mabwysiadu dylunio cynhwysol: rhoi pobl yn gyntaf
Os gallwch chi, gweithiwch gyda’ch dylunydd gan ddefnyddio templedi neu fyrddau stori wedi’u hanodi. Pecyn anodi Figma A11y: https://www.figma.com/community/file/953682768192596304
Mae hon yn enghraifft dda o sut gallech chi weithio. Y syniad yw bod y dyluniadau’n dangos y nodweddion hygyrchedd yn glir, fel ffocysbwyntiau, strwythur semantig, cyferbyniadau lliw, patrymau dylunio cyson, blaenoriaethu cynnwys. Am fwy o wybodaeth am hyn, edrychwch ar yr adnodd hwn… a hwn: https://inclusivedesignprinciples.org/
Mae gen i’r dyluniad. Beth nesaf?
Gofynnwch am gymeradwyaeth gan randdeiliaid. Sicrhewch eich bod yn cael sêl bendith pob parti â diddordeb cyn mynd ymhellach.
Gofynnwch i’ch dylunydd ddarparu bwrdd stori os gallan nhw neu greu un eich hun gan ddefnyddio teclyn gwych ar-lein o’r enw redpen. Mae’r teclyn yma’n caniatáu i chi lanlwytho pob dyluniad i fwrdd stori deniadol y gallwch ei e-bostio at bobl gyda dolen i gael mynediad. Wedyn, gall pobl roi eu sylwadau’n uniongyrchol ar y bwrdd stori.

Pan gewch chi’r dyluniad yn ôl, gwiriwch gyda’r datblygwr y gallan nhw ei ddefnyddio a holi a oes unrhyw beth i’w newid. Ar y pwynt yma, mae’n llawer rhatach anfon y dyluniad yn ôl at y dylunydd na gofyn i’r datblygwr geisio creu templedi sy’n ceisio unioni anawsterau. Gallai fod bod y dylunydd wedi defnyddio gosodiad nad yw’n trosi’n dda ar ffôn symudol, er enghraifft.
Dewis thema
Nawr bod gennych ddyluniad, gallwch chi ddewis thema neu dempled ar gyfer eich gwefan. Os ydych chi wedi dewis templed neu safle cychwynnol yn Wix, Squarespace neu WordPress, dyma’ch thema. Os ydych chi’n defnyddio datblygwr am waith adeiladu ar WordPress neu Drupal mae’n bosibl y byddwch chi am addasu thema yn hytrach na chreu un newydd (sy’n llawer drutach). Mae datblygwyr WordPress yn gallu addasu thema barod a thrososod eich dyluniad newydd; byddan nhw’n newid templedi’r thema am hyn. Mae miloedd o themâu WordPress ac mae rhai yn well nag eraill. Mae’n bosibl y gwelwch chi rai hynod ar eich gwefan, sy’n gadael i chi wneud popeth rydych chi am ei wneud; fodd bynnag, gallen nhw arafu eich gwefan a pheri anawsterau hygyrchedd. Sicrhewch, unwaith eich bod wedi ychwanegu eich thema, eich bod yn cynnal profion hygyrchedd a chyflymder tudalennau. Rhai themâu WordPress sy’n arbennig o dda ac ysgafn yw: GeneratePress, Kadence ac Astra.
10. Prototeip
Rydych wedi cael cymeradwyaeth, mae pawb yn hoffi’r dyluniadau…
Unwaith eto, gallai fod yn demtasiwn i ddechrau adeiladu, ond os gallwch chi ddal ymlaen, nawr yw’r amser am y cam yn y prosiect cyfan sy’n arbed y mwyaf o amser ac arian.
Gan ddefnyddio’ch dyluniad a’ch fframiau gwifren, adeiladwch brototeip at ddibenion profion defnyddwyr. Mae prototeipiau’n swnio braidd yn ddychrynllyd ond dyw hyn ddim yn wir. Mae’n ffordd o greu’ch gwefan at ddibenion profi heb ei hadeiladu go iawn! Dyma’r cam pan ddylech gynnwys pobl, gan gynnwys rhywrai i’w phrofi.
Rhowch gynnig ar ddefnyddio teclynnau syml ar y we i helpu gyda hyn, fel https://draftium.com/ neu https://proto.io/. Gan ddefnyddio’ch dyluniad a’ch fframiau gwifren, defnyddiwch y teclynnau hyn i adeiladu gwefan brototeip gliciadwy. Sicrhewch fod gennych rywfaint o gynnwys (wedi’i gynhyrchu o’ch cynllun cynnwys) i’w ychwanegu yn y cam yma.
Chwiliwch am bobl i wneud y profi. Os oes modd dod o hyd i bobl, y rhain fydd yn cynrychioli’ch mathau o gynulleidfa ar-lein o’ch ymchwil. Mae angen pum person arnoch chi, ar y mwyaf. Gosodwch gyfres o dasgau syml iddyn nhw, ar sail eich teithiau cynulleidfa a gofyn i’ch profwyr gyflawni pob tasg, fel dod o hyd i arddangosfa, archebu digwyddiad neu danysgrifio i’r newyddlen. Cofnodwch eu barn am ddefnyddio’ch prototeip ac unrhyw anawsterau. Gofynnwch am adborth am y dyluniad hefyd.
Os nad oes unrhyw newidiadau, gwych. Fodd bynnag, gallai fod angen i chi wneud newidiadau i’r dyluniad, felly cadwch gyllideb fach ar ôl ar gyfer y dylunydd. Ar ôl i chi gael y dyluniadau nôl wrth y dylunydd, gofynnwch am gymeradwyaeth derfynol eich rhanddeiliaid gan ddefnyddio bwrdd stori. Gallwch fwydo adborth canlyniadau profion y defnyddwyr yn ôl hefyd. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn os nad yw’r rhanddeiliaid yn hoff o elfennau arbennig o’r wefan newydd. Hefyd, cofiwch ddefnyddio’ch rhestr meini prawf (cynaliadwyedd a hygyrchedd yn arbennig) i esbonio pam rydych chi wedi gwneud rhai penderfyniadau.
11. Casgliad
Nawr, mae gennych reolwr prosiect, cynllun, dyluniad cymeradwy, brîff ar gyfer y wefan a phrototeip. Rydych wedi adnabod eich cynulleidfaoedd ar-lein a phrofi eu teithiau ar brototeip.
Yn bwysig, rydych chi wedi penderfynu beth i’w wneud eich hun a phryd i brynu help i mewn.
Rydych yn barod i ddechrau adeiladu eich gwefan.
Pob lwc!

Please attribute as: "Where to start when building a new website for your heritage organisation (2022) by Paul Blundell supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0