What do I need to know about open licensed assets?
1. Beth yw asedau trwyddedig agored?
Mae asedau trwyddedig agored yn fathau o gynnwys creadigol sydd ar gael i bawb eu defnyddio, eu rhannu a’u haddasu heb gyfyngiad dan drwydded agored. Gall yr asedau fod yn ddelweddau, gweithiau celf, testun, cerddoriaeth, neu fideos, ac fe’u diogelir gan hawlfraint fel arfer. Weithiau, gelwir asedau trwyddedig agored yn Weithiau Diwylliannol am Ddim (Free Cultural Works).
Mae’ch sefydliad yn cynyrchu cynnwys creadigol drwy’r amser, gan gynnwys adnoddau ar-lein, delweddau o wrthrychau yn eich casgliad, a deunyddiau addysgol. Gallwch benderfynu cyhoeddi’r cynnwys hwn dan drwydded agored fel ffordd o rannu’ch asedau gyda’r gynulleidfa ehangaf bosib ac annog y cyhoedd i ryngweithio gyda’ch sefydliad. Mae llawer o gyllidwyr, fel Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn gwneud trwyddedu agored yn ofynnol er mwyn sicrhau bod deunyddiau a ariennir yn cael eu darparu am ddim i’r cyhoedd.
Mae llawer o gyllidwyr, fel Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn gwneud trwyddedu agored yn ofynnol er mwyn sicrhau bod deunyddiau a ariennir yn cael eu darparu am ddim i’r cyhoedd.
Gallwch benderfynu defnyddio asedau trwyddedig agored sydd wedi’u creu gan bobl eraill yn eich adnoddau, gan eu bod yn darparu cyflenwad cyfoethog i’r sector treftadaeth ei ailddefnyddio mewn deunyddiau addysgol, marchnata neu ymchwil

A Deep Problem, Catherine Madox Brown, 1875, llun gan Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd Birmingham, wedi’i drwyddedu o dan CC0]
2. Pam mae angen trwydded arna i i rannu cynnwys gan fy sefydliad?
Mae trwydded yn ddull o roi caniatâd i bobl ddefnyddio cynnwys a ddiogelir gan hawlfraint. Mae’r rhan fwyaf o’r asedau rydych yn eu creu neu’n eu defnyddio yn eich sefydliad wedi’u gwarchod gan gyfraith hawlfraint. Os ydych yn postio’ch asedau ar-lein, dim ond gyda chaniatâd deiliad yr hawliau neu o dan yr eithriadau cyfyngedig i gyfraith hawlfraint, fel astudio preifat neu ddyfynnu y gellir eu lawrlwytho neu eu hailddefnyddio.

Bin llawn gyda’r caead wedi’i godi; yn cynrychioli’r perygl o wenwyn bwyd a achosir gan glêr a biniau. Lliw lithograff, tua 1964. Wellcome Collection. Attribution 4.0 International (CC BY 4.0)
3. Beth yw trwydded agored?
Mae trwydded agored yn ganiatâd ymlaen llaw sy’n caniatáu i unrhyw un rannu ac addasu cynnwys creadigol heb orfod cysylltu â deiliad yr hawliau. Os ydych am i’ch cynulleidfa ailddefnyddio’ch asedau’n hawdd, mae trwydded agored yn wahoddiad clir i wneud hynny.
4. Oes gwahanol fathau o drwyddedau agored?
Oes. Trwyddedau Creative Commons yw’r trwyddedau mwyaf cyffredin yn y sector treftadaeth, oherwydd bod ganddynt delerau trwyddedu clir, ac fe’u cydnabyddir yn rhyngwladol. Mae angen i unrhyw gynnwys sy’n cael ei greu gan ddefnyddio arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gael ei gyhoeddi dan drwydded CC-BY 4.0. Mae CC-BY yn caniatáu i bawb rannu ac addasu’r cynnwys at unrhyw ddiben, gan gynnwys dibenion masnachol. Mae rhaid i ddefnyddwyr gydnabod deiliad yr hawliau a nodi a oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud.
Er mwyn bod yn agored, mae angen i drwydded fod â dim cyfyngiadau neu ychydig iawn ohonynt. Trwyddedau agored eraill a ddefnyddir yn aml yw trwydded Priodoliad Rhannu’n Deg Creative Commons (CC-BY-SA), ymroddiad Parth Cyhoeddus CC0, neu drwyddedau’r Marc Parth Cyhoeddus (Public Domain Mark Licences), yn ogystal â Thrwydded Llywodraeth Agored y DU, trwydded Unsplash a thrwydded Pixabay. Gwiriwch delerau’r drwydded agored bob amser. Maent fel arfer yn cael eu geirio er mwyn iddynt fod yn hawdd eu deall.
Mae Creative Commons yn cynnig mathau eraill o drwyddedau nad ydynt yn caniatáu addasiadau na defnyddiau masnachol. Nid yw’r rhain yn cael eu hystyried yn drwyddedau agored.
5. Beth yw manteision ac anfanteision cyhoeddi’ch asedau eich hun dan drwydded agored?
Mae llawer o fanteision i gyhoeddi cynnwys gan eich sefydliad treftadaeth o dan drwydded agored, gan gynnwys:
- Mae’n hawdd i bobl eraill ei ddefnyddio mewn blogiau, y cyfryngau cymdeithasol, prosiectau myfyrwyr, deunyddiau addysgol ac ymchwil – sy’n hybu’ch gwaith i gynulleidfa fwy.
- Mae’n annog ailddefnyddio creadigol, megis argraffu ar eitemau ffasiwn, ymddangos mewn straeon digidol neu gael ei gynnwys mewn gemau fideo – i gyd gyda chydnabyddiaeth i’ch sefydliad.
- Mwy o amlygrwydd i’ch asedau drwy beiriannau chwilio am gynnwys trwyddedig agored sy’n arwain at fwy o draffig i wefannau, llwyfannau digidol a rhyngweithio ar gyfryngau cymdeithasol.
- Adnoddau gweinyddol isel, gan fod asedau ar gael yn awtomataidd.
- Rhestrir mwy o fanteision ar dudalen Digital guide: working with open licences Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae’r anfanteision yn dibynnu ar eich amcan ar gyfer dewis asedau trwyddedig agored:
- Ni allant wneud incwm uniongyrchol, oherwydd nad oes ffi drwydded. Fodd bynnag, gallwch ddefnyddio asedau trwyddedig i hybu’ch gwaith, a allai arwain at gyfleoedd â thâl.
- Mae trwyddedau agored fel Creative Commons yn rhai di-droi’n-ôl, sy’n golygu bod telerau’r drwydded yn dal yn ddilys hyd yn oed os byddwch yn newid eich meddwl ac yn cymryd eich ased i lawr.
- Mae llai o reolaeth dros ddefnyddio asedau, gan fod angen ymddiried mewn defnyddwyr i gadw at delerau’r drwydded agored, neu neilltuo adnoddau i reoli achosion o dorri telerau’r drwydded.
6. Rhannu’ch asedau eich hun dan drwydded agored
Gall unrhyw un gyhoeddi ei gynnwys i hun dan drwydded agored. Yr ystyriaethau allweddol cyn rhannu asedau trwyddedig agored yw:
1. Perchnogaeth yr hawlfraint?
A yw eich ased wedi’i ddiogelu gan hawlfraint? Os ydyw, mae angen i chi fod yn berchen ar yr hawlfraint neu gael caniatâd penodol gan ddeiliad yr hawliau i gyhoeddi dan drwydded agored, neu fel arall ni chaniateir yn gyfreithlon i chi drefnu bod yr ased ar gael.
2. Gweithiau gyda hawlfraint wedi’i gwreiddio ynddynt?
A oes unrhyw weithiau dan hawlfraint sy’n cael eu cynnwys yn yr ased? Er enghraifft, ffotograff sy’n dangos gwaith celf neu fideo gyda rhywun yn darllen cerdd. Mae rhaid i chi gael caniatâd penodol gan unrhyw ddeiliaid hawliau y mae eu gweithiau’n cael eu cynnwys yn yr ased; fel arall, ni chaniateir yn gyfreithlon i chi drefnu bod yr ased ar gael.
3. Hawliau eraill?
A oes hawliau diogelu data neu hawliadau eraill sy’n gysylltiedig â’ch ased? Mae angen i chi ofyn am ganiatâd gan unrhyw unigolion byw adnabyddadwy (gan gynnwys y rhai sy’n ymddangos mewn ffotograffau a ffilmiau, sy’n cael eu henwi mewn dogfennau ac ati) i ddefnyddio eu data personol o dan delerau’r drwydded agored rydych chi wedi’i dewis. Os yw eich ased yn cynnwys logos, nodau masnach neu’n cynnwys pwnc difenwol neu anghyfreithlon, mae angen i chi wirio a ganiateir trwyddedu agored o dan y cyfreithiau perthnasol.
4. Dewiswch y drwydded agored gywir
Dewiswch y drwydded agored sydd fwyaf addas ar gyfer eich ased(au), eich amcanion a’r gofynion ariannu. A oes angen i ddefnyddwyr roi cydnabyddiaeth i’ch sefydliad? Ydych chi am sicrhau bod unrhyw addasiadau yn cael eu rhannu dan yr un telerau? Os nad yw’ch ased wedi’i ddiogelu gan hawlfraint, gallwch chi barhau i fanteisio ar drwyddedu agored drwy ddewis y Marc Parth Cyhoeddus (Public Domain Mark). Mae Creative Commons yn darparu teclyn dewis trwydded (Licence Chooser tool) defnyddiol i’ch helpu i benderfynu.
5. Sicrhewch fod modd adnabod y drwydded agored yn glir
Argymhellir eich bod yn marcio’ch ased gyda datganiad cydnabod a dolen i delerau’r drwydded. Mae teclyn Licence Chooser Tool Creative Commons yn cynhyrchu eicon, datganiad cydnabod neu briodoli a argymhellir a chod html i’w ymgorffori yn yr ased ar gyfer y drwydded a ddewiswch.
7. Defnyddio asedau trwyddedig agored rhywun arall
Mae ystod helaeth o asedau trwyddedig agored ar gael i’ch sefydliad eu hailddefnyddio mewn adnoddau addysgol, deunyddiau ymchwil, a llawer mwy. Gweler Sources of Creative Commons licensed content am ddelweddau gwych i roi sbonc i flogiau a chyflwyniadau.
Cyn defnyddio asedau trwyddedig agored rhywun arall, argymhellir eich bod yn:
- Gwirio dealltwriaeth, h.y. gwirio mai’r person neu’r sefydliad sy’n postio’r ased yw deiliad yr hawliau, neu ei fod wedi cael caniatâd gan ddeiliad yr hawliau. Fel rheol, po fwyaf uchel ei pharch yw’r ffynhonnell, y mwyaf o sicrwydd sydd gennych bod yr ased trwyddedig agored wedi’i awdurdodi.
- Gwirio bod eich defnydd arfaethedig yn dod o fewn telerau’r drwydded agored. Fel arfer, maent yn cael eu geirio fel eu bod yn hawdd eu deall.
- Rhoi cydnabyddiaeth i’r artist neu’r creawdwr, deiliad yr hawliau (os yn wahanol) y ffynhonell a’r math o drwydded, gyda dolen i delerau’r drwydded, os oes modd..
8. Dysgwch ragor am hawlfraint
- https://www.copyrightuser.org/faqs/
- https://copyrightcortex.org/copyright-101
- https://naomikorn.com/resources/
- https://www.gov.uk/topic/intellectual-property/copyright
Browse related resources by smart tags:
Open licence Open licence assets Open licensed Open licensed assets Open source
Except where noted and excluding company and organisation logos this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence
Please attribute as: "What do I need to know about open licensed assets? (2022) by Debbie McDonnell, Naomi Korn Associates supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0





