Stephan Stockton MBE
Stephan Stockton MBE | Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu | Theatr Newydd y New Theatre, Caerdydd
Mae Stephan Stockton MBE wedi treulio dros 30 mlynedd yn gweithio yn y celfyddydau a’r sector gwirfoddol, fel Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr, Cynhyrchydd, Marchnatwr ac ymgynghorydd ymddygiad. Mae’n bennaeth Marchnata a Chyfathrebu ar hyn o bryd yn Theatr Newydd y New Theatre, Caerdydd ac yn arwain ar hygyrchedd ac amrywiaeth. Mae wedi gwirfoddoli gydag ystod eang o sefydliadau a bu’n gyfarwyddwr rhanbarthol gwirfoddol gydag elusen ryngwladol, gan reoli gwasanaeth 24/7 gyda mwy na 1,000 o wirfoddolwyr, a derbyniodd MBE am wasanaethau i’r sector gwirfoddol ac elusennol yn 2010.
Roedd Stephan yn aelod o banel Plant mewn Angen yng Nghymru, yn Gadeirydd Pwyllgor Safonau a Moeseg Cyngor Caerdydd ac yn ymgynghorydd cenedlaethol i Gyngor Celfyddydau Cymru. Gwasanaethodd am dymor fel Cyfarwyddwr anweithredol Three Rings, Cwmni Buddiannau Cymunedol yn darparu gwasanaethau digidol ar-lein i elusennau er mwyn eu helpu i recriwtio a rheoli gwirfoddoli a darparu gwasanaethau.

Resources by Stephan Stockton MBE

Stephan Stockton MBE looks at how digital tools can help small to medium-sized heritage organisations support the volunteering journey from recruitment and training through to ongoing management of volunteers.