Adeiladu model segmentu cwsmeriaid sy’n gweithio i’ch sefydliad

Adeiladu model segmentu cwsmeriaid sy’n gweithio i’ch sefydliad

SUMMARY

Mae segmentu’n hollbwysig i unrhyw sefydliad sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, yn enwedig mewn sefydliadau celfyddydol. Dyma ganllaw ymarferol gan Ticketsolve, y darparwr meddalwedd tocynnau a swyddfa docynnau i gefnogi eu nawdd i’r Rhaglen Datblygu Ar Raddfa Fach: Cymru 2022.

Ynghylch y Canllaw

Mae segmentu’n hollbwysig i unrhyw sefydliad sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, yn enwedig mewn sefydliadau celfyddydol. Mae'n offeryn sy'n eich galluogi i wahanu’ch cynulleidfaoedd yn ddarnau llai a mwy hylaw (segmentau). Ond i ba segmentau y dylech chi rannu eich cynulleidfaoedd? Mae hynny'n gwestiwn y gallai llawer ohonoch fod yn ei ofyn i chi'ch hun.

Pwrpas y canllaw hwn yw edrych ar y modelau segmentu gwahanol, deall sut maen nhw’n gweithio, a dysgu sut y gallwch chi eu rhoi ar waith yn eich sefydliad.

Yn y canllaw hwn, rhown esboniad a chrynodeb o rai o’r modelau segmentu mwyaf poblogaidd a ddefnyddir yn y diwydiant celfyddydol, megis: Audience Spectrum, Culture Segments a Total Audience. Ochr yn ochr â phob crynodeb, byddwn yn dangos rhai enghreifftiau i chi o sut y gallwch gymhwyso’r modelau hyn yn eich system Rheoli Perthnasau Cwsmeriaid (CRM).

Rydym hefyd wedi cynnwys taflenni gwaith yn y canllaw y gallwch eu defnyddio i fanylu ar eich segmentu mewn modd effeithlon ac effeithiol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau wrth i chi weithio drwy’r canllaw, mae croeso i chi gysylltu â ni – rydym wastad yn barod i helpu.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau mynd i'r afael â'ch prosiect segmentu, a phob lwc!

Amdani!

Head and shoulders Nick Stevenson Ticketsolve

Nick Stevenson, Pennaeth Llwyddiant Cwsmeriaid, Ticketsolve


Lawrlwytho’r canllaw


Beth sydd yn y canllaw

  • Pwysigrwydd segmentu
  • Mathau o segmentu
  • Modelau segment yn y celfyddydau
  • Rhoi’ch model segmentu ar waith
  • Targedu’ch segmentau

Pwysigrwydd Segmentu

Does dim amheuaeth am werth segmentu; mae erthyglau, papurau a blogiau di-ri am werth segmentu, a’i rôl wrth gynyddu cyfranogiad cwsmeriaid ac enillion ar fuddsoddiad o’ch ymgyrchoedd. Ystyriwch awtomeiddio e-byst, er enghraifft.

Cynhalion ni arbrofion gyda chymuned Ticketsolve, gan edrych ar e-byst wedi’u hawtomeiddio at gwsmeriaid newydd sbon, cwsmeriaid sydd wedi llithro a’r cwsmeriaid gorau (wedi'u diffinio yn ôl y cyfanswm a gaiff ei wario mewn blwyddyn benodol h.y. y rhai sydd wedi gwario mwy na £300). Canfuwyd bod yr ymgyrchoedd e-bost hyn yn bwerus iawn, a bod sefydliadau yn gweld enillion mawr ohonynt - er enghraifft, cyfradd agor o 32.8% gan fynychwyr sydd wedi llithro, a chyfradd clicio o 13.3% gan gwsmeriaid newydd sbon. Gallwch ddarllen rhagor am awtomeiddio a segmentu e-byst yn ein papur gwyn, The World of Email Automation.

 

Pwyntiau allweddol: cyfradd agor o 32.8% gan fynychwyr sydd wedi llithro

 

Nid yw segmentu'n gweithio ar gyfer ymgyrchoedd e-bost yn unig, chwaith.  Gallwch ddefnyddio segmentu yn eich cymysgedd marchnata traddodiadol, yn ogystal â'ch llyfrynnau a'ch ymgyrchoedd postio uniongyrchol. Mae gweithredu segmentu syml i'r mathau hyn o weithgareddau yn arwain at ganlyniadau gwych o ran ymgysylltiad  cwsmeriaid, yn ogystal â sicrhau arbedion cost gwerthfawr mewn cyllidebau marchnata.

 

Er enghraifft, cwblhaodd Mansfield Palace ymarfer segmentu syml gyda’u llyfryn tymor. Y canlyniad? Arbedion o 40% y flwyddyn ar gostau eu llyfryn a chostau postio. I weld sut yn union y cyflawnwyd hyn, edrychwch ar astudiaeth achos Mansfield Palace.

 

Pwyntiau allweddol: Arbedion o 40% ar ymgyrch y llyfryn fesul blwyddyn


Mathau o Segmentu

Mae’r holl sôn yma am segmentu’n swnio’n wych, ond os ydych yn tybio pa un y dylech ei ddefnyddio, nid chi yw’r unig un. Mae’n gwestiwn rydym yn ei glywed dro ar ôl tro, ac (er mawr poendod, efallai), nid oes ateb cywir neu anghywir. Yn y pen draw, mae’n dibynnu ar eich cynulleidfaoedd penodol a beth sy’n gweithio orau i’ch sefydliad. Mae sawl ffordd wahanol a chyflym o segmentu cwsmeriaid yn eich cronfa ddata; mae’r rhain yn cynnwys segmentu yn ôl Demograffeg, Daearyddiaeth, Seicoleg, Ymddygiad a Pherthynas. Byddwn yn mynd drwy bob un isod.

 

Demograffeg

Gan ddefnyddio demograffeg, gallwn segmentu cynulleidfaoedd ar sail oedran, hil, crefydd, rhywedd, maint y teulu, ethnigrwydd, incwm, ac addysg. Gellir rhannu demograffeg mewn sawl is-segment i helpu i dargedu’ch cynulleidfaoedd yn fwy manwl gywir. Gyda’r math hwn o segmentu, gallwch gategoreiddio anghenion cynulleidfaoedd.

Gair i gall: Os nad oes set ddata ddigon cyfoethog gyda chi yn eich CRM i ddechrau, gallai defnyddio segmentu demograffig fod yn anodd. Mae segmentu demograffig yn gweithio'n dda iawn ar lwyfannau fel Facebook, oherwydd bod ganddynt ddata mawr am bob un o'u defnyddwyr. Gallwch dargedu cynulleidfaoedd ar sail ystod o feini prawf demograffig megis oedran, hil, crefydd, addysg a llawer mwy.

Manteision:

  • Mae ar gael yn rhwydd drwy ffynonellau data fel data Cyfrifiad y Llywodraeth
  • Mae data ar gael yn ddigyfyngiad
  • Gallwch gasglu’ch data eich hun drwy ddefnyddio arolygon cwsmeriaid

 

Anfanteision:

  • Mae'n seiliedig ar ragdybiaethau
  • Mae gwybodaeth ddemograffig yn rhy amwys; nid yw'n mynd i'r manylion manwl am bwy ydynt fel cwsmer
  • Gall ddieithrio pobl gan ei fod yn seiliedig ar ffeithiau sy'n arwynebol ac yn ddiangen
  • Gall cynnwys y segmentu hwn yn eich CRM fod ychydig yn anodd gan ei fod fel arfer yn ddienw

 

Daearyddiaeth

Mae daearyddiaeth yn ffordd syml arall o segmentu’ch cwsmeriaid. Gallwch wneud hyn ar lefel macro, h.y. Lloegr, Cymru, yr Alban, Iwerddon, neu gallwch eu segmentu’n segmentau manylach, megis ar lefel cod post. Gallwch hefyd cynnwys segmentau macro a micro yn eich cronfa ddata, sy’n golygu y gallwch dargedu gwlad ar gyfer un ymgyrch, ac yna’n newid i dargedu cod post ar un arall.

Gair i gall: Mae segmentu daearyddol yn weddol rwydd i’w wneud yn eich CRM, gan fod yr holl ddata hwnnw gyda chi wrth law. Un ffordd dda iawn o segmentu fel hyn fyddai edrych ar segmentu yn ôl amser gyrru, e.e. 15 munud i ffwrdd, 30 munud i ffwrdd, 45 munud i ffwrdd, ac 1 awr neu fwy i ffwrdd. Mae’n rhwydd gwneud hyn gan y gallwch eu segmentu gan ddefnyddio codau post (y DU yn unig). Bydd hyn yn dweud wrthych chi pa mor lleol y mae’ch cynulleidfaoedd mewn gwirionedd. Er enghraifft, pe baech am wneud ymdrech sydyn i werthu tocynnau ar y funud olaf, gallech dargedu cwsmeriaid sy'n byw o fewn 30 munud o’ch lleoliad.

Manteision:

  • Mae’n rhwydd ei weithredu, gan fod y data yn eich cronfa ddata CRM
  • Mae’n gost-effeithiol
  • Gellir targedu cwsmeriaid yn eich ardal, a allai leihau costau marchnata
  • Gellir rhoi ymgyrchoedd ar sail amser gyrru ar waith

 

Anfanteision:

  • Nid yw’n ystyried diddordebau nac ymddygiad cwsmeriaid
  • Gallai data fynd yn hen yn gyflym
  • Mae'n cyfyngu ar eich cyrraedd posibl

Seicoleg

Mae segmentu seicolegol yn rhannu eich cwsmeriaid yn is-grwpiau ar sail nodweddion seicolegol cyffredin, gan gynnwys credoau isymwybodol neu ymwybodol, cymhellion a blaenoriaethau i esbonio a rhagfynegi ymddygiad defnyddwyr.

Gair i gall: Dyma ffordd gymhellol iawn o segmentu’ch cynulleidfaoedd; fodd bynnag, mae’n anodd, gan fod angen gwybodaeth fanwl arnoch am gwsmeriaid drwy arolwg neu holiadur. Mae hyn yn mynd yn heriol i’w wneud pan fydd cronfa ddata fawr o gwsmeriaid gyda chi. Rydym yn argymell defnyddio hyn ar gyfer prosiectau penodol llai.

Manteision:

  • Mae’n gallu darparu elw mawr ar fuddsoddiad, gan eich bod yn targedu cwsmeriaid ar sail ar eu credoau a'u cymhellion
  • Mae’n caniatáu i farchnadwyr fod yn greadigol gydag ymgyrchoedd sy'n targedu pob segment

 

Anfanteision:

  • Anodd ei weithredu gan y byddai angen i bob cwsmer lenwi arolwg seicolegol
  • Gall credoau a chymhellion cwsmeriaid newid dros amser
  • Mae’n gostus i’w roi ar waith

 

Ymddygiad

Mae'n debyg mai dyma un o'r mathau hawsaf o segmentu y gall sefydliadau celfyddydol ei ddefnyddio oherwydd ei fod yn seiliedig ar hanes prynu cwsmeriaid a'u rhyngweithio â chi. Mae segmentu ymddygiadol yn caniatáu i chi rannu eich cwsmeriaid yn wahanol grwpiau fel genres, lleoliadau (os oes sawl lleoliad gennych chi) a mathau o sioeau.

Gair i gall: Mae'n debyg mai dyma'r dull gorau i'w gymryd gan y bydd gennych yr holl ddata sydd ei angen arnoch chi. Un peth i’w gofio yw sut y byddwch yn segmentu yn ôl ymddygiad? A fyddwch chi'n defnyddio genres neu ddosbarthiad ehangach o sioeau? Byddwn yn trafod hyn ymhellach yn yr adran nesaf.

Manteision:

  • Mae’n rhwydd i’w roi ar waith
  • Mae'n gywir iawn oherwydd ei fod yn seiliedig ar ddata archebu blaenorol
  • Nid yw ffactorau allanol megis symud tŷ, neu ddata’r cyfrifiad, yn effeithio arno
  • Gall marchnadwyr greu cynlluniau marchnata ar sail pob segment, yn hytrach na gorfod llunio cynllun ymgyrch newydd ar gyfer pob sioe unigol (rydym yn trafod hyn yn ein Canllaw i Farchnata Personâu)
  • Bydd data yn parhau i lifo i mewn pryd bynnag mae’ch cwsmeriaid yn prynu eu tocynnau

 

Anfanteision:

  • Mae ymddygiad cwsmeriaid yn newid dros amser
  • Nid yw’n rhoi dealltwriaeth ddyfnach o’ch cwsmeriaid

 

Perthynas

Dyna’n union beth yw segmentu ar sail perthynas – segmentu’ch cynulleidfaoedd ar sail sut maent yn rhyngweithio â’ch sefydliad. Mae hyn yn weddol hawdd ei weithredu yn eich CRM, gan fod yr holl ddata gyda chi’n barod. Gallai rhai grwpiau yn y math hwn o segment gynnwys prynwyr un-tro, prynwyr tocynnau rheolaidd, cwsmeriaid tro cyntaf, cwsmeriaid sydd wedi llithro, aelodau a rhoddwyr.

Gair i gall: Gan fod gennych y math hwn o ddata cwsmeriaid yn barod, mae segmentu yn ôl perthynas yn un gwych i roi cynnig arno. Nod y math hwn o segmentu yw cynyddu amlder pob segment gyda chi. Er enghraifft, pe bai gennych segment cwsmeriaid sydd wedi llithro, byddech yn dyfeisio ymgyrch i geisio denu’r cwsmeriaid hynny yn ôl i’ch lleoliad. Ar gyfer cwsmeriaid tro cyntaf, rydych am adeiladu ymgyrch neu fannau cyswllt gyda’r cwsmeriaid hynny i geisio eu denu yn ôl am ail dro.

Dyna’r pum prif fath o segmentu y gallwch eu defnyddio yn eich sefydliad. Wrth gwrs, does dim byd i'ch atal rhag defnyddio pob un ohonynt, nac unrhyw gyfuniad ohonynt sy'n addas i chi. Er enghraifft, gallech ddefnyddio cyfuniad o segmentu yn ôl Ymddygiad a Daearyddiaeth ar eich cynulleidfaoedd. Ein cyngor ni fyddai ystyried pob un a phenderfynu pa un a fyddai’n gweithio i chi, yn eich barn chi, a pha mor hawdd ydyw i’w weithredu. Byddem hefyd yn awgrymu defnyddio’r dull SWS – Symlrwydd Wrth Segmentu!

Yn yr adran nesaf, byddwn yn edrych ar ba fodelau segmentu sydd ar gael sy’n benodol i’r celfyddydau, a sut y gallwch ddechrau eu defnyddio.


Modelau Segmentu yn y Celfyddydau

Isod, rydym wedi rhestru nifer o fodelau segmentu blaenllaw yn y diwydiant. Mae pob un yn wahanol iawn o ran ei ddull gweithredu a’i weithrediad. Gallwch glicio ar y ddolen a restrir wrth ochr pob model i ddysgu mwy amdanynt:

 

ACORN

Caci - rhagor o wybodaeth

Segmentu Geo-Ddemograffig

Defnyddir Acorn i ddeall ffordd o fyw, ymddygiad ac agweddau defnyddwyr, ynghyd ag anghenion cymunedau, ac mae'n bwysig i sefydliadau'r sector preifat a gwasanaethau cyhoeddus. Fe'i defnyddir i ddadansoddi cwsmeriaid, nodi darpar gwsmeriaid proffidiol, gwerthuso marchnadoedd lleol a chanolbwyntio ar anghenion penodol pob dalgylch a chymdogaeth.

Audience Spectrum

The Audience Agency - rhagor o wybodaeth

Segmentu Demograffig

Mae Audience Spectrum yn segmentu poblogaeth gyfan y DU yn ôl eu hagweddau tuag at ddiwylliant, ac yn ôl yr hyn maen nhw’n hoffi ei weld a’i wneud. Mae 10 proffil Audience Spectrum gwahanol y gallwch eu defnyddio i ddeall pwy sy’n byw yn eich ardal leol, sut beth yw’ch cynulleidfaoedd presennol, a beth gallwch ei wneud i greu rhai newydd. Audience Spectrum yw’r offeryn mwyaf cywir a fu gan y sector erioed i helpu i dargedu cynulleidfaoedd, a chynnwys cyhoedd ehangach.

Mae Audience Spectrum yn proffilio'r boblogaeth ar lefelau aelwydydd a chod post, a gellir ei ddefnyddio fel offeryn ar gyfer ffynnu a thagio data, yn ogystal â phroffilio a mapio. Mae dros 400 o sefydliadau (mawr, bach, rhai â thocynnau a rhai heb docynnau) bellach yn ei ddefnyddio yn ymarferol ac yn strategol.

Culture Segments

Morris Hargreaves McIntyre - rhagor o wybodaeth

Segmentu Seicolegol

Mae Culture Segments yn offeryn segmentu seicograffeg pwerus i’ch helpu i ddeall eich mynychwyr a’r rhai nad ydynt yn mynychu yn well, ac ymgysylltu â nhw.

Ac yntau’n cael ei ddefnyddio gan leoliadau celfyddydau perfformio, sŵau, orielau, amgueddfeydd a sefydliadau treftadaeth o bob maint, mae'n gyrru cynulleidfaoedd a datblygiad ymwelwyr ledled y byd.

 

Total Audience Model

Indigo Ltd - rhagor o wybodaeth

Segmentu Ymddygiadol

Dull segmentu sy’n seiliedig ar ymddygiad eich cynulleidfaoedd yw modelTotal Audience. Mae’n edrych ar yr hyn mae cwsmeriaid wedi’i brynu yn y gorffennol, ac yn eu segmentu’n bum grŵp gwahanol, sef:

  1. Teulu: Y cynulleidfaoedd hyn yw’ch teuluoedd â phlant. Maen nhw’n dod yn achlysurol yn unig, ac maent yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda’i gilydd.
  2. Clasurol: Cynulleidfaoedd â diddordeb mewn cerddoriaeth glasurol, opera, bale, celf gain a drama glasurol. Maent yn debygol o beidio â chymryd risgiau, ac mae eu dewisiadau’n dibynnu ar rinweddau celfyddydol.
  3. Prif ffrwd: Mae’r cynulleidfaoedd hyn yn chwilio am noson wych allan gyda ffrindiau, partneriaid neu hyd yn oed eu teuluoedd, a byddant yn dewis perfformiadau roc a phop, comedïau neu sioeau cerdd.
  4. Cyfoes: Y segment hwn yw’r bobl sy’n cymryd risgiau, y cynulleidfaoedd â diddordeb mewn profiadau newydd. Meddyliwch am weithiau celf, dawns, theatr wedi'i dyfeisio ac ysgrifennu newydd.
  5. Eangfrydig: Dim ond 5-10% o'ch archebwyr yw'r cynulleidfaoedd hyn, ond maent yn mynychu llawer ac yn deyrngar i'ch lleoliad. Mae'r rhain yn noddwyr sy'n hoffi llawer o bethau gwahanol ac yn tueddu i archebu 'tipyn o bopeth.'

Proffilio Mosaic

Experian - rhagor o wybodaeth

Segmentu Demograffig-Gymdeithasol

Mae Mosaic yn system ddosbarthu defnyddwyr traws-sianel bwerus a adeiladwyd ar gyfer y byd aml-sianel sydd ohoni. Mae wedi esblygu i'ch helpu i ddeall nodweddion tebygol eich cwsmeriaid a chyfathrebu â nhw yn y ffyrdd mwyaf perthnasol.

Mae’n eich galluogi i sicrhau eich bod yn berthnasol iddynt, er mwyn i chi allu cyrraedd y bobl gywir gyda’r neges gywir ar yr adeg gywir – bob tro.

Ac yntau’n effeithiol dros bob sianel – o sianeli all-lein traddodiadol i deledu digidol a deunydd ar-lein – mae dosbarthiad defnyddwyr Mosaic yn galluogi targedu cywir a chyson, felly mae defnyddwyr yn cael deunydd marchnata sy'n berthnasol iddynt.

Mae Mosaic yn rhan o deulu o ddosbarthiadau Mosaic sydd wedi’u hoptimeiddio ar gyfer sectorau a marchnadoedd gwahanol megis Mosaic Public Sector, Mosaic Scotland, Mosaic Digital, Mosaic Shopper Segments a phecynnau data Mosaic.


Rhoi eich Model Segmentu ar Waith

Gallai gymryd llawer o waith a chydweithio i benderfynu pa fodel segmentu a fydd yn gweithio orau i chi. Pan fyddwch yn penderfynu ar yr un cywir, mae’n bwysig ei roi ar waith mewn modd cyson ar draws eich sefydliad. Cyn i chi wneud unrhyw beth yn y system CRM, rydym yn awgrymu eich bod yn dechrau mapio’ch segmentau gwahanol allan, fel y bydd pawb yn gytûn. Rydym wedi creu Taflen Waith Segmentu a fydd yn eich helpu i ddechrau cynllunio gweithredu’r model segmentu rydych wedi’i ddewis.

Taflen waith: Rydym wedi dyfeisio taflen waith syml y gallwch ei hagor yma i’ch helpu i ddechrau rhoi eich modelau segmentu ar waith yn eich sefydliad.

Mae'n bwysig eich bod yn diweddaru'r daflen waith hon ac yn cofnodi popeth, gan gynnwys pan fyddwch yn dileu llawer o gwsmeriaid ar y tro, pan fyddwch yn ychwanegu mwy o gwsmeriaid at y gwahanol segmentau ac ati. Rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio rhaglen prosesu geiriau ar-lein megis Google Drive, fel y gall pawb yn eich sefydliad gael mynediad i'r daflen waith yn ôl yr angen.

Ar ôl i chi gynllunio’r model segmentu rydych chi’n mynd i’w fabwysiadu, gallwch ddechrau gyda’n Taflen Waith Segmentu isod. Gan ddefnyddio’r data yn eich system, gallwch ddechrau trwy rannu’ch cwsmeriaid yn eu grwpiau gwahanol. I wneud pethau ychydig bach yn rhwyddach i’w dilyn, rydym wedi nodi isod sut y byddech yn rhoi’r model Audience Spectrum a’r Model Total Audience ar waith. Rydym wedi defnyddio’r ddau hyn fel enghreifftiau, gan mai nhw yw’r rhai a ddefnyddir amlaf yn y celfyddydau.

Enghraifft Audience Spectrum

Mae Ticketsolve wedi’i integreiddio’n llawn gyda’r Audience Agency, felly mae gweithredu’r model hwn yn weddol syml. Os ydych yn defnyddio Audience Finder drwy Ticketsolve, bydd yr Audience Agency yn tynnu’ch data’n awtomataidd o’ch system Ticketsolve system i’w cronfa ddata at ddibenion adrodd. Yn ychwanegol, bydd yr the Audience Agency yn tynnu data dienw cwsmeriaid, sy’n golygu eu bod yn gallu segmentu’ch cronfa ddata i’w 10 segment gwahanol.

Wrth i’r Audience Agency dynnu rhif y cwsmer o’r system, yna maen nhw’n gallu ychwanegu’r tag cywir at bob cofnod, a gall hyn gael ei lanlwytho i’ch system Ticketsolve, er mwyn i bob cwsmer gael ei dagio gyda’u grŵp perthnasol. Fel arfer, mae’r ymarfer hwn yn digwydd bob chwarter, fel bod modd tagio cwsmeriaid sy’n newydd i’ch sefydliad a diweddaru cwsmeriaid cyfredol.

Enghraifft Total Audience Model

Mae’r model hwn yn weddol syml i’w roi ar waith, ond mae angen ychydig o ‘gadw tŷ’ arno cyn i chi ddechrau. Byddem yn awgrymu eich bod yn glanhau eich cronfa ddata’n drylwyr cyn dechrau. Edrychwch ar gofnodion dyblyg gan ddefnyddio'r offeryn dad-ddyblygu yn Ticketsolve, ac ystyriwch ddileu cwsmeriaid nad ydynt wedi prynu tocynnau ers nifer o flynyddoedd. Rydym yn canfod bod cadw cwsmeriaid sydd wedi prynu tocynnau yn ystod y 3 blynedd diwethaf yn ddigon. Ar ôl i chi wneud hynny, dilynwch y camau hyn:

1. Codiwch Eich Digwyddiadau

Oherwydd mai model segmentu ar sail ymddygiad yw hwn, bydd angen i chi ddweud wrth y system sut yr hoffech iddi gategoreiddio pob digwyddiad. Mae pum math gwahanol o gategori y bydd rhaid i chi rannu eich sioeau ynddynt, sef: Teulu, Clasurol, Prif Ffrwd, Cyfoes ac Eangfrydig. Gallwch gyflwyno tocyn drwy Zendesk i ofyn am restr CSV o’r holl ddigwyddiadau yn y tair blynedd diwethaf gan ein tîm cymorth.

2. Tagiwch Eich Cwsmeriaid

Ar ôl i godau’r digwyddiadau gael eu lanlwytho i’r system, byddwch yn gallu tynnu adroddiadau yn ‘Your Reports’ a thagio pob cwsmer gyda’r tag perthnasol y gwnaethoch benderfynu arno wrth gwblhau’r Daflen Waith Segmentu. Rydym wedi creu erthygl sy’n rhoi manylion ynghylch sut i dynnu’r adroddiadau hyn oddi ar y system a  sut i dagio’r cwsmeriaid hyn. Yn y bôn, byddwch yn creu adroddiad ar gyfer yr holl gwsmeriaid sydd wedi prynu tocyn ar gyfer sioe â’r tag ‘Teulu’ (rhwng ystod ddata benodol, os oes angen) Yna, byddech yn mynd i’r ddewislen ‘Manage Customer’, ac yn tagio’r holl gwsmeriaid hynny gyda’r tag perthnasol.


Targedu’ch Segmentau

Nawr eich bod wedi segmentu eich cynulleidfaoedd gyda'r model segmentu rydych wedi’i ddewis, mae'n bryd dechrau targedu'r cwsmeriaid hynny. I wneud hynny, rydym yn awgrymu’r llif gwaith canlynol:

1. Creu Personâu

Mae grwpiau o gwsmeriaid yn tueddu i fod yn debyg, gan ddibynnu ar yr hyn maen nhw’n dod i’w weld. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn wrth lunio cynllun ymgyrch, gan y byddwch yn gallu copïo templed syml y gellir ei ddefnyddio ar draws digwyddiadau neu gategorïau o ddigwyddiadau tebyg. Er enghraifft, ystyriwch y segment Teulu yn y Total Audience Model. Gallwch ddod i wybod yn gyflym pwy yw'r math hwnnw o gynulleidfa darged, eu diddordebau, yr hyn y maent yn ei hoffi, beth nad ydynt yn ei hoffi, pa fath o iaith y maent yn gwrando arni ac yn y blaen. Bydd hyn yn rhoi’r arfau i chi greu templed ymgyrch syml ar gyfer y segment penodol hwn. Rydym wedi ysgrifennu canllaw arall ynghylch sut y gallwch adeiladu’r ymgyrch perffaith, sy’n cynnwys mwy o gyngor ymarferol ynghylch sut i fynd at ii adeiladu’ch ymgyrchoedd. Unwaith y byddwch yn ei ysgrifennu, gellir ei ddefnyddio dro ar ôl tro ar gyfer mathau tebyg o ddigwyddiadau. Rydym yn siarad mwy am hyn yn ein Canllaw i Farchnata Personâu.

 

2. Olrhain eich Ymgyrchoedd

P'un a yw eich cyfathrebu ar-lein neu all-lein, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn olrhain eich ymgyrchoedd er mwyn i chi allu gweld a ydynt yn gweithio ai peidio. Gellir gwneud hyn yn rhwydd ar-lein gyda’n hintegreiddiad Google Analytics a’i alluoedd olrhain cadarn. Gall all-lein fod ychydig yn fwy anodd, ond gallwch ei wneud gan ddefnyddio offeryn Customer Campaigns Ticketsolve.

3. Creu’ch Cynulleidfa Darged

Yn olaf, bydd angen i chi dynnu rhestr o’ch cynulleidfa darged. Gwneir hyn yn ‘Your Reports’, gan ddefnyddio’r hidlydd “customer with tag” a dewis y tag cywir. Gallwch hefyd ddefnyddio sawl maes, megis ystod o ddyddiadau a chyfanswm refeniw cwsmeriaid i segmentu’r rhestr honno ychydig yn fwy, os oes angen. Unwaith mae’r rhestr gennych, gallwch chi ei lawrlwytho i ffeil CSV i dargedu cwsmeriaid drwy ddulliau traddodiadol. Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r Customer Email Lists i dargedu’r cwsmeriaid hynny drwy e-bost.


Pob Lwc

Gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen y canllaw hwn. Os hoffech drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych, mae croeso i chi gysylltu â ni (mae manylion cyswllt isod).

Hoffem ddiolch i’r holl dîm cymorth a llwyddiant cwsmeriaid am lunio’r canllaw hwn; gobeithio ei fod o ddefnydd i chi.

Pob lwc gyda’ch prosiect segmentu – cofiwch, rydym yma bob amser i roi help llaw i chi.


Lawrlwytho’r canllaw


 

Ticketsolve Logo

 

Resource type: Guide/tools | Published: 2022