Opportunities for digital fundraising in the heritage sector
1. Pwysigrwydd codi arian trwy ddulliau digidol
Mae’r cynnydd mewn taliadau diarian a digwyddiadau codi arian ar-lein, ynghyd â throi at ddulliau mwy diddorol ac arloesol o adeiladu cynulleidfaoedd a chynyddu cronfeydd, wedi newid y modd yr awn ati i godi arian. Er na ddylai dulliau digidol o godi arian byth ddisodli dulliau ‘traddodiadol’, mae yna gyfleoedd lu i sefydliadau ategu’r technegau a ddefnyddir ganddynt ar hyn o bryd trwy ddefnyddio dulliau digidol i ymhél â chynulleidfaoedd a rhoddwyr hen a newydd.
Yma, mae ein harbenigwr Annie Jarvis o Cause4 yn cyflwyno rhai ffyrdd o ddefnyddio dulliau digidol i godi arian ar gyfer eich sefydliad treftadaeth. Mae’n cynnig enghreifftiau sy’n deillio o’r byd go iawn yn ymwneud â sut y mae eraill wedi ymwreiddio dulliau digidol yn eu cynlluniau busnes, er mwyn i chithau hefyd allu llunio cynllun gweithredu er newid.
2. Cyfleoedd i godi arian trwy ddulliau digidol
Rhoi arian ar y safle
Mae taliadau digyffwrdd bellach yn gyffredin yng ngweithgareddau codi arian y sector elusennol, ac maent yn cyfateb i 21% o’r taliadau a wnaed yn y DU ar gyfer 2019 yn unig[1]. Mae rhoddion digyffwrdd yn ffordd wych o roi hwb i roddion rheolaidd, ac mae yna lu o opsiynau ar gael, gyda sefydliadau fel Goodbox, PayaCharity a Good with Devices yn cynnig dyfeisiau gwahanol ar gyfer hybu rhoddion.
Fel arall, mae yna ffyrdd symlach a mwy fforddiadwy o ofyn i bobl gyfrannu’n ddigidol, ac mae rhoddion trwy gyfrwng negeseuon testun, codau QR ac NFC (Near Field Communications) yn fwyfwy poblogaidd.
[1] Barclays – The future of giving (PDF file, 8.42MB).
Rhoi arian ar-lein
Mae gwelliannau a gyflwynwyd i negeseuon a phlatfformau ar-lein yn golygu bod modd cynyddu cronfeydd ac adeiladu cynulleidfaoedd. Yr elfennau allweddol o ran codi mwy o arian ar-lein yw defnyddio negeseuon cymhellol a sefydlu dulliau cyfrannu hawdd eu defnyddio.
Dylai’r negeseuon fod yn syml, yn ddiddorol ac yn gynhyrfiol, gan ddweud wrth ddarpar roddwyr sut y bydd eu cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth i’ch sefydliad. Pan fo modd, cynhwyswch esboniadau pendant, ond eang, o’r modd y bydd yr arian yn cael ei wario (er enghraifft, bydd £50 yn talu am adnoddau ar gyfer gweithdy creadigol).
Mae derbyn rhoddion ar-lein yn ffordd wych o godi arian rheolaidd, er enghraifft trwy gyfrwng platfform pwrpasol a gynhwysir ar eich gwefan, neu drwy gofrestru ar blatfformau fel CAF Donate,JustGiving, LocalGiving neu Virgin Money Giving sy’n cynnig gwahanol ffyrdd y gall eich cefnogwyr gyfrannu arian.
Cyllido Torfol
Mae cyllido torfol yn ffordd dda o ariannu prosiectau cymunedol lleol, a hynny trwy ofyn i grŵp mawr o bobl am swm bach o arian bob un. Gall gynnig cyfle i gyrraedd cymuned ehangach mewn ffordd syml, hyblyg a phersonoledig. Mae’n cynnig ffordd amgen sy’n wahanol i’r dull codi arian traddodiadol lle gall grwpiau lleol ddefnyddio platfformau ar-lein i sefydlu proffil a chyrraedd cannoedd o bobl er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u prosiect a’u cronfeydd.
Dyma’r dulliau cyllido torfol mwyaf cyffredin:
- Seiliedig ar roddion – lle bydd rhoddwyr yn rhoi arian at achos sy’n agos at eu calon, heb unrhyw wobrau neu adenillion.
- Seiliedig ar wobrau – lle bydd cyllidwyr yn cael gwobrau anariannol, fel arwydd o werthfawrogiad gan yr achos. (Ond rhaid bod yn ofalus wrth hawlio Cymorth Rhodd os byddwch yn cynnig gwobrau).
Mae platfformau cyllido torfol yn cynnig cyfle ichi godi arian ar-lein trwy rannu ymgyrch yn gyhoeddus (cyflwyno syniad eich sefydliad gerbron y byd) lle dywedir wrth bawb at beth ydych chi’n codi arian, a pham.
Micro-roddion
Gall micro-roddion fod yn ffordd dda o godi arian. Y syniad yw bod defnyddwyr yn talgrynnu trafodiadau ariannol ac yn rhoi’r arian sydd dros ben i elusen. Mae yna ddigonedd o fusnesau sy’n fodlon cefnogi elusennau yn y ffordd hon – o Domino’s i Screwfix – ac mae llu o blatfformau’n cynnig y math hwn o gymorth. Mae rhai o’r platfformau mwyaf poblogaidd yn cynnwys Pennies, Roundups, GoPoolit a Pledjar. Gwnewch yn siŵr bod y platfform a ddewiswch yn ei gwneud yn bosibl i elusennau hawlio’r arian hyd yn oed os na chyrhaeddwch eich targed.
3. Sut y mae eraill yn defnyddio dulliau digidol i amrywiaethu eu hincwm
Dyma rai enghreifftiau o’r modd y mae sefydliadau treftadaeth wedi llwyddo i ddefnyddio dulliau digidol i wella’r modd yr ânt ati i godi arian:
Amgueddfa a Chanolfan Straeon Roald Dahl
Yn 2019, ffurfiodd Amgueddfa a Chanolfan Straeon Roald Dahl bartneriaeth gyda chwmni technoleg ymgollol o’r enw Arcade Ltd er mwyn datblygu ap ar gyfer dyfeisiau symudol a fyddai’n galluogi’r defnyddwyr i gael mynediad at lwybr Realiti Estynedig ym mhentref Great Missenden.
Mae’r llwybr, sef ‘Marvellous Missenden’, yn adrodd hanes Roald Dahl trwy gyfrwng lleoliadau o amgylch y pentref – sef lleoliadau a ysbrydolodd ei waith. Trwy fynd â phrofiad yr ymwelwyr y tu allan i’r amgueddfa ei hun, llwyddodd y sefydliad i greu cyfleoedd newydd i ymgysylltu â’u cynulleidfaoedd, ynghyd â denu cynulleidfaoedd newydd.
Er bod yr amgueddfa’n cael rhywfaint o gymorth ariannol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Roald Dahl, elusen annibynnol yw hi ac mae’n bennaf ddibynnol ar incwm gan ymwelwyr. Un o’r prif fanteision sydd ynghlwm wrth gyflwyno llwybr Realiti Estynedig yw bod yr amgueddfa wedi gallu herio’r modd y câi ei hystyried fel cyrchfan tywydd gwlyb. Yn awr, mae ganddi arlwy y gellir ei fwynhau yn ystod diwrnodau heulog hefyd. Ymhellach, llwyddodd y penderfyniad i ennyn sylw ehangach yn y wasg ar gyfer yr amgueddfa. Bu modd i’r amgueddfa roi hwb i’w hincwm trwy godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a chynnal nifer yr ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.
Castell Braemar
Mae Castell Braemar yn atyniad llewyrchus i ymwelwyr. Fe’i lleolir ar gyrion pentref Braemar yng nghanol Parc Cenedlaethol y Cairngorms. Caiff y castell ei brydlesu a’i weithredu gan Braemar Community Limited – sef sefydliad nid-er-elw a gaiff ei arwain gan 256 o aelodau, y rhan fwyaf ohonynt yn byw yn Braemar.
Ers ysgwyddo cyfrifoldeb dros yr atyniad fwy na 10 mlynedd yn ôl, mae’r gymuned wedi defnyddio amryfal ddulliau digidol i godi arian ar gyfer cynnal a chadw’r adeilad, yn amrywio o ymgyrch cyllido torfol i ddigwyddiadau rhithwir.
Yn 2017, llwyddodd y sefydliad i godi £20,645 gan 71 o gefnogwyr mewn 56 diwrnod trwy gyfrwng ymgyrch cyllido torfol – swm a oedd yn llawer uwch na’r £10,000 yr anelwyd ato. Cafodd yr ymgyrch hon arian cyfatebol – mae hyn yn golygu ei bod wedi cael rhodd o £10,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar ôl iddi gyrraedd swm y targed. Dim ond un aelod llawn-amser o staff a gyflogir gan y Castell, felly mae’n dibynnu ar staff tymhorol ac oddeutu 50 o wirfoddolwyr – efallai bod hyn yn esbonio pam y bu’r ymgyrch cyllido torfol mor llwyddiannus.
Yn ystod haf 2021, cynhaliodd y Castell gyfres o ddigwyddiadau ar-lein, yn cynnwys dawns wedi’i choreograffu. Y drefn oedd bod y cyfranogwyr yn talu £5 i ymuno â’r digwyddiad dros Zoom er mwyn mwynhau treftadaeth yr Alban gyda’i gilydd a pherfformio’r Ddwystep Filwrol. Gogoniant y peth oedd bod modd i ddawnswyr o bob cwr o’r byd ymuno â’r digwyddiad.
Defnyddiwyd yr holl arian a godwyd i dalu am gynnal a chadw’r Castell trwy gyfrwng yr ymgyrch ‘Raising the Standard’, sef prosiect cadwraeth ac ailddatblygu £1.6m yr elusen, y bwriedir ei gwblhau yn 2023.
4. Beth nesaf?
Felly, gan fod yr opsiynau hyn i gyd ar gael ichi, sut y gallwch benderfynu beth i’w ddefnyddio a sut i roi pethau ar droed?
Mae’n bwysig ichi lunio cynllun gweithredu byr er mwyn eich helpu i bennu pa ddulliau codi arian digidol i’w defnyddio, a sut i roi pethau ar droed (cofiwch nad oes yn rhaid ichi ddefnyddio pob un o angenrheidrwydd).
I ddechrau, ystyriwch sut y mae codi arian yn ddigidol yn cyd-fynd â’ch strategaeth fusnes trwy ateb rhai o’r cwestiynau allweddol hyn:
- Beth ydym eisiau ei gyflawni trwy godi arian yn ddigidol? (Efallai y gall y nodau gynnwys codi arian, ymestyn eich cynulleidfa, denu cyhoeddusrwydd).
- Faint o arian rydym angen ei godi?
- Beth yw ein capasiti o ran rhoi dulliau codi arian digidol ar droed?
- Pa sgiliau y mae’n rhaid inni feddu arnynt, a pha sgiliau ychwanegol y gallem fod eu hangen?
- Yn ein tyb ni, pa ddulliau codi arian digidol y gallem eu rhoi ar waith yn llwyddiannus?
- A yw hyn yn cyd-fynd â’n strategaeth fusnes ehangach a’n gweledigaeth ar gyfer y sefydliad?
Ar ôl ichi ateb y cwestiynau cychwynnol hyn, gallwch wedyn lunio eich cynllun gweithredu a chwblhau’r rhestr wirio.
Lawrlwythwch y rhestr wirio hon er mwyn eich helpu i roi eich cynllun ar waith. (Word document, 202kb).
Please attribute as: "Opportunities for digital fundraising in the heritage sector (2022) by Annie Jarvis supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0