
Identifying and prioritising your digital training requirements
1. Beth yw eich anghenion o ran sgiliau digidol
Efallai y bydd eich sefydliad o’r farn ei fod angen gwybod am sawl agwedd ar ‘dechnolegau digidol’, ond ni fydd pob un o’r agweddau hyn yn bwysig o ran cyflawni eich nodau. Yn aml, mae sefydliadau treftadaeth yn teimlo dan bwysau i ddefnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf, ond gall hyn arwain at golli gwybodaeth neu sgiliau pwysig sy’n hanfodol i gyflawni eich cynllun busnes neu eich strategaeth ddigidol. Mae technolegau digidol wedi newid y math o wybodaeth y mae eich sefydliad ei hangen, ynghyd â newid nifer o’ch dulliau gweithio. Ond mae’n bwysig ichi ddeall sut y bydd hyn yn effeithio ar y sgiliau a’r galluoedd y bydd eich tîm eu hangen er mwyn eu defnyddio’n llwyddiannus.
Yn yr adnodd hwn, mae ein harbenigwr, Michael Turnpenny, Pennaeth Museum Development Yorkshire, yn esbonio sut y gallwch bennu, meithrin neu sicrhau sgiliau digidol pwysig. Byddwch yn dysgu am y modd y gall dulliau strategol o reoli adnoddau dynol eich helpu yn y defnydd a wnewch o sgiliau digidol a sut i flaenoriaethu eu datblygiad.
2. Y camau cyntaf
Er mwyn cynllunio ar gyfer eich anghenion o ran sgiliau digidol, rhaid ichi ddeall beth fydd y gofynion ar eich sefydliad yn y dyfodol a pha sgiliau a gwybodaeth sydd i’w cael o fewn eich tîm yn barod. Mae’n golygu y bydd angen ichi bennu bylchau posibl mewn sgiliau, ynghyd â chymryd camau i ymdrin â nhw. Byddwch angen i’r bobl iawn fod yn y lle iawn ar yr adeg iawn ac am y gost iawn.
Bydd tri pheth allweddol yn dylanwadu ar anghenion sgiliau eich sefydliad:
1. Yr amgylchedd y gweithiwch ynddo
2. Natur a disgwyliadau eich gweithlu
3. Sut y caiff y gwaith ei wneud (digido ac awtomeiddio).
Weithiau, bydd rhaid ichi gymryd dau gam yn ôl cyn y gallwch symud yn eich blaen. Mae cynllunio ar gyfer eich anghenion sgiliau yn un o’r adegau hynny. Yn anffodus, fe fydd eich sefydliad wedi mynd i’r afael â chryn dipyn o waith meddwl yn barod. Er mwyn ichi allu deall eich anghenion o ran sgiliau digidol, rhaid ichi adolygu unrhyw strategaethau a dogfennau cynllunio sy’n bodoli eisoes. Efallai y bydd hyn yn cynnwys rhestr o amcanion strategol, dadansoddiad PESTLE neu ddadansoddiadau eraill a gwblhawyd gennych. Beth am ddarllen rhagor am y dadansoddiad PESTLE ar wefan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).
Ar gyfer pob un o’ch amcanion strategol, ewch ati i lunio dwy restr er mwyn ateb y cwestiynau canlynol:
1. Pa sgiliau digidol ydych chi eu hangen heddiw i gyflawni’r amcan hwnnw?
2. Pa sgiliau digidol y byddwch chi eu hangen yn y dyfodol i gyflawni’r amcan hwnnw?
Pwyntiau allweddol i’w cofio
- Dylai eich anghenion sgiliau digidol adlewyrchu eich sefydliad a’i amcanion.
- Bydd angen i’ch anghenion sgiliau digidol fod mor syml neu mor gymhleth ag y dymunwch iddynt fod – bydd y cwbl yn dibynnu ar yr hyn y dymunwch ei gyflawni.
- Bydd nifer o’ch anghenion sgiliau digidol yn adlewyrchu’r amgylchedd y gweithiwch ynddo, ynghyd â natur a disgwyliadau eich gweithlu.
- Ni fydd uwchsgilio yn y platfform cyfryngau cymdeithasol diweddaraf o help i’ch sefydliad os na fydd eich cydweithwyr yn gwybod sut i gael gafael ar ffeiliau a storiwyd neu sut i ddefnyddio eich cronfa ddata rheoli casgliadau.
3. Sut i flaenoriaethu a meithrin sgiliau allweddol
Ar ôl ichi lunio rhestr o sgiliau eich sefydliad, bydd angen ichi ystyried sut i flaenoriaethu’r sgiliau hynny a phenderfynu sut i’w dysgu neu eu cadw. Yn gyntaf, nodwch a yw’r sgiliau hynny yn sgiliau y bydd yn rhaid i bawb feddu arnynt, ynteu a ydynt yn ymwneud â thimau penodol, neu rolau unigol hyd yn oed.
Mae’r fframwaith isod yn seiliedig ar ganllawiau matrics cymwyseddau a ddatblygwyd gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD). Ceir enghraifft islaw’r fframwaith i ddangos sut y dylid ei ddefnyddio.
Matrics cymwyseddau’r CIPD
Sgìl | Cymwyseddau craidd | Cymwyseddau cyffredin | Cymwyseddau technegol neu gymwyseddau penodol i’r swydd | Cymwyseddau arwain | Meta-gymwyseddau |
Sgìl A | |||||
Sgìl B | |||||
Sgìl C | |||||
Sgìl D |
Enghraifft – sgiliau digidol
Sgìl | Cymwyseddau craidd | Cymwyseddau cyffredin | Cymwyseddau technegol neu gymwyseddau penodol i’r swydd | Cymwyseddau arwain | Meta-gymwyseddau |
Sgiliau’n ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol | X | ||||
Blogio | X | ||||
Llunio a defnyddio technoleg 3D | X | ||||
Datblygu apiau | X |
Gallwch lawrlwytho fersiwn Word o’r fframwaith hwn (176kb) a’i lenwi ar gyfer eich sefydliad eich hun. Bydd yr ymarfer hwn yn eich helpu i flaenoriaethu a chanolbwyntio ar eich anghenion allweddol o ran sgiliau digidol.
Ymestyn eich dadansoddiad
Ar ôl ichi bennu’r sgiliau digidol allweddol y mae arnoch eu hangen, ystyriwch sut i’w meithrin. Aeth David Ulrich ati i boblogeiddio’r fframwaith ‘Chwe Elfen’ er mwyn pennu’r ffordd orau o feithrin sgiliau a gwybodaeth eich tîm. Weithiau, ni fydd yn ofynnol ichi fod â sgìl drwy’r amser, ac ar adegau eraill efallai y bydd modd ichi ryddhau adnoddau trwy gael gwared â chydweithiwr nad yw’n gallu defnyddio’i sgiliau yn ddigon da.
Sgìl | Prynu | Meithrin | Benthyg | Cadw | Gwaredu | Symud |
(Recriwtio pobl sy’n meddu ar y sgiliau hyn) | (Hyfforddi cydweithwyr presennol er mwyn iddynt ddysgu’r sgiliau hyn) | (Ffurfio partneriaeth ag ymgynghorydd neu sefydliad arall er mwyn trosglwyddo sgiliau) | (Dal gafael ar bobl dalentog) | (Cael gwared ag unigolion nad ydynt yn perfformio’n dda) | (Symud pobl fedrus i swyddi uwch) | |
Sgìl A e.e. storio a rhannu ffeiliau | X
Mae gennym gyllideb hyfforddi ac nid ydym yn tueddu i recriwtio staff newydd yn aml iawn. Mae modd cael gafael yn rhwydd ar y sgìl hwn. |
|||||
Sgìl B | ||||||
Sgìl C | ||||||
Sgìl D |
Gallwch lawrlwytho templed Word o’r fframwaith ‘Chwe B’ (176kb) i’ch helpu i fyfyrio ar y ffordd orau o feithrin sgiliau eich sefydliad.
Rhagor o adnoddau
Harvard Business Review, ‘Why Your Organization’s Future Demands a New Kind of HR’
CIPD, ‘Competence & Competency Frameworks’
Browse related resources by smart tags:
Digital tools Skills Staff Team Training Workforce development

Please attribute as: "Identifying and prioritising your digital training requirements (2022) by Michael Turnpenny supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0