
How social media can help me reach more visitors for my heritage organisation
1. Rhagarweiniad
Mae algorithmau a fformatau’r cyfryngau cymdeithasol yn newid o hyd fel mae ymddygiadau cynulleidfaoedd, felly mae angen i strategaethau allu addasu ac ystwytho er mwyn cael y gorau allan o sianeli. Y newyddion da yw bod llwyth o ddata ar flaen eich bysedd sy’n gallu eich helpu i wneud y penderfyniadau cywir.
Cwestiynau allweddol fydd yn eich helpu i wneud penderfyniadau da
- Pwy yw cynulleidfaoedd eich sianeli?
- Beth sy’n eu cymell i ymgysylltu â’ch cynnwys?
- Ar sail hyn, pa benderfyniadau dylech chi fod yn eu gwneud ar gyfer pob un o’ch sianeli?
- Pa gynnwys dylech chi fod yn ei greu a phryd dylech chi fod yn postio?
- Ac yn olaf, sut i adrodd er mwyn i chi allu mesur eich llwyddiant.
2. Cynllunio ar sail tystiolaeth
Chwe chamgymeriad i’w hosgoi
1. Peidio â chynllunio ymlaen llaw
Er bod y cam cynllunio’n gallu bod yn llawer o waith caled ― cynllunio’ch cynnwys ymlaen llaw yw’r ffordd fwyaf effeithlon i chi gynhyrchu cynnwys. Rwy’n gwarantu y byddwch chi’n gallu gweithio’n fwy chwim os ydych chi’n gwneud hyn.
2. Peidio â chaniatáu amser ar gyfer newid yn ddirybudd
Mae cynllunio’n beth da ― ond dylech hefyd ganiatáu lle ac amser ar gyfer newid yn ddirybudd fel y gallwch chi ymateb i gyfleoedd i ychwanegu cynnwys heb eu cynllunio mewn ffordd amserol. Amseru yw popeth.
3. Peidio â rhoi eich cynulleidfa’n gyntaf
Eich cynulleidfa yw eich prif randdeiliaid, felly pan fyddwch chi’n gwneud penderfyniadau am eich sianeli a’ch cynnwys, dylech fod yn eu rhoi nhw’n gyntaf. Rhowch eich hun yn eu hesgidiau nhw a meddwl fel defnyddiwr, nid fel marchnatwr.
4. Postio’n anghyson
Bydd postio cynnwys ag amlder cyson yn eich helpu i feithrin perthynas â’ch cynulleidfa. Os ydych chi’n postio tri pheth yr wythnos hon ac wedyn dim am bythefnos, rydych chi’n ei gwneud hi’n anodd i’ch cynulleidfa wybod beth i’w ddisgwyl gennych chi a sut a phryd i ymgysylltu. Hefyd byddwch yn ymwybodol bod algorithmau’r llwyfannau cymdeithasol yn ffafrio sianeli sy’n postio cynnwys rheolaidd.
5. Postio’r un cynnwys ar eich holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol
Wrth i chi ddysgu am y gynulleidfa ar bob un o’ch sianeli, fe welwch chi fod gwahaniaethau. Mae’n iawn os oes rhywfaint o orgyffwrdd, ond dylech chi fod yn teilwra’ch cynnwys ar gyfer pob sianel.
6. Gormod o negeseuon gwerthu
Mae angen cydbwysedd da o gynnwys ar eich sianeli. Os yw balans eich cynnwys yn cael ei wyro gan nifer fawr o negeseuon gwerthu gwag, byddwch chi’n ei chael hi’n anodd parhau i ennyn diddordeb cynulleidfa.
Pam mae angen strategaeth neu gynllun cynnwys arnoch chi
- Er mwyn eich helpu i gysylltu â’ch cynulleidfaoedd
- Er mwyn cyfleu’r prif straeon a chefnogi amcanion eich sefydliad
- Oherwydd eich bod chi o bosibl eisoes yn gweithio i’r weiren ar gynnwys a ddim yn gweld digon o werth o’r ymdrech rydych chi’n ei rhoi i mewn ― oherwydd nad oes ffocws i’r hyn rydych chi’n ei wneud
Mae cynllun cynnwys effeithiol yn unigryw i’ch sefydliad a’ch adnoddau chi, ac yn cael ei greu yn sgil penderfyniadau ar sail tystiolaeth drwy brofi a mireinio.
3. Cynllun cynnwys
Meddyliwch am eich cynllun cynnwys fel un sy’n cynnwys y pum elfen yma a fydd yn llywio eich gwaith gwneud penderfyniadau.

Yn y canol, mae’r cynllun cynnwys wedi’i amgylchynu gan bum elfen: Cynulleidfa — deall pwy/lle maen nhw a’u cymhellion; Sianeli — beth yw’r sianeli gorau i’w defnyddio ar gyfer eich amcanion a’ch cynulleidfaoedd; Amseru ac amlder — beth yw eich dyddiau postio a’ch amseroedd postio mwyaf effeithiol; Ymgysylltu — pa fath o gynnwys sy’n taro deuddeg orau gyda’ch cynulleidfa? ac Amcanion — beth yw eich amcanion busnes? Sut byddwch chi’n cefnogi’r rhain gyda chynnwys?
Ac yn sail i bopeth ddylai fod eich amcanion sefydliadol a allai gynnwys pethau fel: Cynyddu gwelededd eich brand; cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a gyrru ymweliadau i’ch gwefan.
4. Amcanion sianeli
Dylai amcanion eich sianeli gael eu diffinio gan eich amcanion busnes, a gallwch chi feddwl am yr amcanion ar gyfer pob un o’ch sianeli o ran
- Ymwybyddiaeth
- Ymgysylltu
- Trosi
Efallai bod gennych chi sawl amcan, ond pa sianeli a pha fathau o weithgarwch fydd orau i gefnogi pob un? Os yw gyrru ymweliadau i’ch gwefan o sianel gymdeithasol yn amcan allweddol, yna efallai y byddwch chi’n gweld mai Facebook yw’r sianel gymdeithasol fwyaf effeithiol ar gyfer hyn. Os yw sgyrsiau dwy ffordd neu dynnu sylw at achos yn amcan i chi, yna gallai Twitter fod yn sianel lawer mwy priodol oherwydd ei bod yn ymwneud yn fwy ag ymgysylltu mewn amser real. Os ydych chi am ddatblygu cynulleidfa iau newydd, efallai y byddwch chi am ystyried sut y gallai Instagram neu TikTok eich helpu i wneud hyn, er enghraifft.
5. Diffinio’ch cynulleidfa
Wrth ddiffinio’ch cynulleidfa a deall eu diddordebau a’u cymhellion, efallai y bydd gennych chi rywfaint o wybodaeth eisoes y gallwch chi dynnu arni, os ydych chi, er enghraifft, yn lleoliad ac mae gennych chi ddata ymwelwyr. Neu efallai bod segmentu marchnata ar waith gennych chi eisoes, a gallwch dynnu mewnwelediadau o hyn. Mae’n ddefnyddiol ceisio proffilio pwy sy’n defnyddio pob un o’ch sianeli cymdeithasol a beth yw eu cymhellion. Er enghraifft:
- Oes yna ogwydd o ran y rhywiau ar bob sianel – beth mae hyn yn ei olygu i’ch cynnwys?
- Beth yw’r ystod oedran fwyaf poblogaidd ar gyfer pob sianel a sut gallai hynny effeithio ar eu cymhellion?
- Pa fath o gynnwys maen nhw’n ymgysylltu ag ef fwyaf? Mae’n debygol o fod yn wahanol i bob sianel.
6. Ymchwil i gynulleidfaoedd
Os nad oes gennych chi unrhyw ddata na thystiolaeth bresennol i dynnu arnyn nhw, bydd o gymorth i chi gynllunio rhywfaint. Yn ddelfrydol, y peth gorau yw ceisio cael cymysgedd o ddata a thystiolaeth ansoddol a meintiol. Mae arolygon ar-lein syml yn dda ar gyfer darparu dadansoddiad i chi o feintiau sampl mawr fel y gallwch chi fod yn sicr y gallwch chi dynnu ar set gytbwys o fewnwelediadau a chasgliadau. Cofiwch gynnwys rhai cwestiynau am ddemograffeg fel y gallwch chwilio am dueddiadau mewn ymatebion cynulleidfaoedd yn gysylltiedig â hyn. Cofiwch gynnwys oedran, rhyw a chod post / dinas / gwlad o leiaf.
Teclynnau arolwg ar-lein
Mae llawer o declynnau arolwg ar-lein fforddiadwy fel SurveyMonkey a Survicate – yn dibynnu ar hyd a chymhlethdod eich arolwg, efallai y byddwch chi hyd yn oed yn gallu defnyddio tanysgrifiad am ddim. Mae’r llwyfannau hyn yn wych i’ch helpu i ddelweddu’r data ac adnabod tueddiadau a mewnwelediadau yn hawdd.
Meddyliwch yn ofalus am strwythur eich cwestiynau fel y gallwch chi fod yn sicr y byddwch chi’n gallu dadansoddi’r data canlyniadau yn hawdd. Pennwch gymysgedd o opsiynau ateb wedi’u rhagddiffinio ac atebion testun rhydd. Sicrhewch eich bod yn hyrwyddo ac os yn bosibl, yn rhoi cymhellion i ymateb i’ch arolwg gyda raffl a gwobrau neu rywbeth tebyg i gael cymaint o ymateb â phosibl.

Mae’r siart bar yn dangos y cwestiwn: Beth sy’n eich cymell i ddewis y cynnwys rydych chi’n ei hoffi ar-lein? a chanlyniadau’r opsiynau ateb — Mynediad i arbenigwyr (49%), Edrych yn hardd (38%), Sgwrs / rhyngweithio â… (13%), Enwau enwog (11%), Ffeithiau difyr (18%), Golwg tu ôl i’r llenni (23%), Cadw i fyny gyda phethau poblogaidd… (33%), Dysgu rhywbeth newydd (72%), Gwneud i mi chwerthin (36%) ac Ymarferol neu ddefnyddiol i fi (49%)
Ymchwil ansoddol
I ddadansoddi meysydd unigol yn ddyfnach neu i brofi mathau penodol o gynnwys, defnyddiwch ddulliau ansoddol fel grwpiau ffocws neu gyfweliadau trylwyr lle gallwch chi gymryd peth amser i ddeall gwahaniaethau o ran safbwynt a barn defnyddwyr ar agweddau penodol ar eich cynnwys a’ch sianeli. Os ydych chi’n gwneud ymchwil ansoddol fel hyn, rhaid i chi geisio recriwtio grŵp sy’n gynrychioliadol o’ch gwahanol segmentau cynulleidfaol neu fathau o gwsmeriaid fel bod gennych chi gynrychiolaeth dda o safbwyntiau. Gall hefyd helpu i anfon asedau cynnwys at bobl i’w darllen neu eu gwylio ymlaen llaw er enghraifft, felly bod ganddyn nhw amser i feddwl am eu barn a pharatoi i’w trafod.
Er enghraifft, gallech chi ofyn i gyfranogwyr eich grŵp wylio rhai o’ch fideos ymlaen llaw ac yna trafod yr hyn roedden nhw’n ei hoffi neu ddim yn ei hoffi amdanyn nhw i’ch helpu i ddod o hyd i’r strwythur gorau ar gyfer eich cynnwys fideo yn y dyfodol.
Efallai y byddwch chi am feddwl am gynnig tâl neu gymhellion eraill fel lluniaeth am ddim wrth recriwtio ar gyfer y mathau dyfnach hyn o ymrwymiadau ymchwil.
Os yw’n bosibl, ceisiwch ymchwilio gyda chymysgedd o bobl sy’n adnabod / ymgysylltu â’ch busnes ar hyn o bryd a’r rhai sy’n anghyfarwydd ag ef. Mae’n bosibl y cewch chi atebion tra gwahanol gan y ddau grŵp.
7. Algorithmau sianeli cymdeithasol
Fel rydyn ni i gyd yn ei wybod erbyn hyn, nid yw cyhoeddi postiad ynddo’i hun yn golygu bydd pob un o’ch dilynwyr yn ei weld. Cyrraedd organig cyfartalog postiad ar Facebook er enghraifft yw 5-6% o gyfanswm yr achosion o hoffi’ch tudalen. Mae hynny’n golygu os bydd 100 o bobl yn dilyn eich tudalen – dim ond 5 neu 6 ohonyn nhw fydd yn gweld eich postiad ar gyfartaledd. A chofiwch mai yng nghyd-destun eu llif newyddion eu hunain y byddan nhw’n gweld eich postiad, ynghyd â llwythi o stwff arall, yn hytrach nag yng nghyd-destun eich tudalen Facebook.
Po fwyaf o ymgysylltiad gaiff eich postiad, y mwyaf o bobl fydd yn ei weld. Felly mae angen i chi wneud pob postiad mor ddengar â phosibl.
Algorithm Facebook

Dyma bedair delwedd graffeg o ffôn symudol yn amlygu pedair ffordd wahanol mae Facebook yn asesu ymgysylltiad defnyddiwr â’r llwyfan fel rhan o’i algorithm. Delwedd gyntaf — Gyda phwy mae defnyddiwr yn rhyngweithio; ail ddelwedd — Faint o achosion sydd o roi sylw, hoffi, dolenni, ymgysylltiad yn y postiad. Trydedd ddelwedd — Poblogrwydd postiad ymhlith y gynulleidfa. Pedwaredd ddelwedd — Pa mor weithgar ydych chi ar Facebook ac Instagram.
8. Pa gynnwys sy’n perfformio orau a pham
I gael trosolwg o sut mae eich postiadau ar Facebook yn perfformio, ewch i ‘Content Library’ yn y ddewislen chwith uchaf yn Creator Studio. Yma gallwch chi weld mynegai o’ch holl bostiadau. Gallwch chi hidlo yn ôl fformat y postiadau, felly er enghraifft, cewch chi edrych ar sut mae postiadau lluniau yn unig wedi perfformio. Gallwch chi hefyd chwilio am bostiad yn ôl teitl.

Cymerwch olwg i weld pa gynnwys postiadau sydd fwyaf llwyddiannus gyda’ch cynulleidfa.
- Pa fformatau postiadau sy’n denu’r cyrraedd gorau?
- Pa fathau o bostiadau sy’n denu’r ymgysylltiad mwyaf?
Unwaith y byddwch chi’n deall eich cyfartaleddau, gallwch chi osod targedau ar gyfer cyrraedd ac ymgysylltiad yn eich cynllun cynnwys.
9. Yr amseroedd gorau i bostio
Hefyd yn yr adran ‘Audience’ yn Creator Studio, gallwch chi weld yr amseroedd postio gorau i gyrraedd eich cynulleidfa, yn ôl dyddiau ac oriau. Mae’r siart bar yma’n dangos yr amser gorau o’r dydd i bostio. Oes amser delfrydol? Os byddwch yn postio ar yr adeg yma, dylech chi weld bod yr ymgysylltu’n uwch na’r cyfartaledd.

10. Gosod targedau
Cymerwch olwg ar eich ystadegau ar gyfer eich postiadau mwyaf llwyddiannus dros y tri mis diwethaf. Ydyn nhw’n cefnogi eich amcanion sefydliadol a’ch amcanion cynnwys? Ar sail yr ystadegau hyn, gallwch chi osod targedau ar gyfer yr hyn y dylai postiad llwyddiannus ei gyflawni ym mhob sianel o ran cyrraedd ac ymgysylltiad wrth symud ymlaen.
Gosod amcanion CAMPUS (SMART yn Saesneg)
Penderfynwch ar ffocws ar gyfer pob un o’ch sianeli ar sail y gynulleidfa a’ch cynlluniau cynnwys a gosod mandad i chi’ch hun. Er enghraifft:
Byddwn ni’n defnyddio Facebook i…
- Gysylltu â rhieni plant ifanc yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr
- Tyfu dilynwyr x% dros x o fisoedd
- Taro cyrraedd cyfartalog o x o argraffiadau fesul postiad
- Gyrru x o gyfeiriadau i’n gwefan bob mis.
11. Instagram
Sicrhewch fod gennych Gyfrif Creator neu Fusnes (yn hytrach na Chyfrif Personol) er mwyn gweld eich Mewnwelediadau. Gallwch chi osod neu newid eich math o gyfrif yn y ddewislen ‘Settings’. I gael mynediad i’ch ystadegau, ewch i’r ddewislen ‘Insights’ a gosodwch y cyfnod amser rydych chi am ei adolygu. Gallwch chi hefyd weld rhestr o’ch Postiadau (‘Posts’), Straeon (‘Stories’) a Rîls (‘Reels’) sy’n perfformio orau, er mwyn i chi weld yn hawdd pa gynnwys sydd wedi perfformio orau i’ch cynulleidfa. Yn union fel Facebook, gallwch chi hefyd weld dadansoddiad o’ch cynulleidfa a’r amseroedd gorau i bostio.

Algorithm Instagram
Fel Facebook, mae algorithm Instagram yn cynnwys sawl ffactor:
- Mae Instagram yn ffafrio cyfrifon sy’n cynhyrchu cynnwys yn rheolaidd
- Mae’n rhestru eich postiadau’n uwch os yw eich defnyddwyr yn ymgysylltu â chi’n rheolaidd
- Mae hefyd yn ffafrio cynnwys sy’n defnyddio ei fformatau diweddaraf fel ‘Reels’ ac ‘Instagram Live’
- Mae’n ffafrio sianeli sy’n defnyddio cymysgedd o fformatau cynnwys gan gynnwys ‘Stories’ a fideo
- Ac wrth gwrs, mae’n ffafrio postiadau sydd â lefelau uchel o ymgysylltu fel achosion o’u hoffi, sylwadau ac achosion o’u harbed.
Cyrraedd cynulleidfaoedd tu hwnt i’ch dilynwyr
Sicrhewch eich bod yn ychwanegu hashnodau da wrth bostio. Gwnewch ychydig o ymchwil i hashnodau ymlaen llaw a dewiswch rai sy’n taro deuddeg gyda’ch cynulleidfa a’ch cynnwys. Wrth i chi adeiladu eich postiadau ac ychwanegu hashnodau, mae Instagram yn dangos maint y gynulleidfa i chi ar gyfer pob hashnod – dewiswch gymysgedd o rai mawr ac arbenigol. I gipio cynifer o chwiliadau â phosibl, yn yr enghraifft yma, rwy’ wedi defnyddio cymysgedd o dagiau eang ac arbenigol “Addurno ystafell fyw / Living room décor” ac “Addurno lolfa / Lounge décor” i “lle tân melyn / yellow fireplace”, sy’n benodol iawn.

12. Twitter
Os yw sgwrs ddwy ffordd neu lobïo i gefnogi achos penodol yn ymddangos yn eich amcanion sefydliadol, yna gallai Twitter fod yn sianel dda i chi. Mae mewnwelediadau (‘Insights’) yn newislen eich Cyfrif; gallwch chi weld crynodeb misol o berfformiad eich sianel a chymharu perfformiad misoedd blaenorol drwy sgrolio i lawr. Yn ogystal â sut y perfformiodd eich postiadau, gallwch chi hefyd weld pwy oedd y cyfrifon mwyaf dylanwadol eraill a soniodd amdanoch chi.

Algorithm Twitter
Ar linell amser Twitter, mae’r algorithm yn rhestru trydariadau gan ddefnyddio sgôr perthnasedd yn seiliedig ar sawl ffactor, gan gynnwys:
- Diweddardeb – sef pryd cafodd trydariad ei bostio; mae trydariadau mwy diweddar yn debygol o gael eu rhestru’n uwch
- Cyfoesoldeb – ydy’ch trydariad am rywbeth mae llawer o bobl eraill yn siarad amdano ar hyn o bryd
- Perthnasedd – mae trydariadau o gyfrifon a phynciau mae defnyddwyr yn ymgysylltu â nhw’n uwch ar y rhestr
- Cyfryngau – mae trydariadau gyda delweddau, fideos, GIFs, polau ac ati yn debygol o berfformio’n well
- Ymgysylltu – po fwyaf y bobl sy’n ymgysylltu â’ch trydariad, y pellaf y bydd yn teithio.
13. Nodau busnes
Mae’n bwysig dros ben sicrhau cydbwysedd da o gynnwys ar bob un o’ch sianeli – dylech chi roi anghenion eich cynulleidfa yn gyntaf a dylai’r rhain gytgordio â’ch nodau busnes, a allai fod yn bethau fel:
- Codi ymwybyddiaeth
- Profi gwerth
- Gyrru gwerthiant tocynnau
- Meithrin teyrngarwch.
Sicrhau cydbwysedd cynnwys da
Mae sicrhau cydbwysedd da o gynnwys ar draws eich sianeli yn bwysig i’w hiechyd a’u hygrededd, felly cofiwch hyn bob amser pan fyddwch chi’n cynllunio’ch cynnwys. Er mwyn sicrhau cydbwysedd da, dilynwch y rheol 70 | 20 | 10:
- Dylai 70% o’ch postiadau fod yn gynnwys sy’n cynyddu’ch brand
- Dylai 20% o’ch postiadau fod yn gynnwys sy’n cael ei rannu o ffynonellau eraill
- Dim ond 10% o’ch postiadau ddylai fod yn gynnwys hyrwyddo.
Bydd dilyn y cymarebau hyn yn golygu y dylech chi allu darparu amrywiaeth da o gynnwys, sydd yn y pen draw yn gweithio i gefnogi’ch brand.
14. I grynhoi
- Pennwch amcanion clir ar gyfer pob un o’ch sianeli a sicrhewch ddealltwriaeth glir o bwy yw’r gynulleidfa
- Edrychwch ar eich ystadegau ac ar sail y rhain, gwnewch benderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- Cynlluniwch eich cynnwys ymlaen llaw cyhyd â phosibl, ond dylech hefyd ganiatáu amser ar gyfer newid yn ddirybudd
- Gwybod pryd mae’r amseroedd gorau i bostio a phostio gyda chysondeb
- Estynnwch allan at gynulleidfaoedd tu hwnt i’ch dilynwyr.
Browse related resources by smart tags:
Facebook Instagram Social media Social media strategy Twitter

Please attribute as: "How social media can help me reach more visitors for my heritage organisation (2022) by Trish Thomas supported by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 4.0