Myfyrio, Rhannu, Ysbrydoli — Cwestiynau a ofynnir yn aml Archebu

Myfyrio, Rhannu, Ysbrydoli
Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth

Cwestiynau a ofynnir yn aml

Dydd Mercher 18 Hydref 2023
Yr Amgueddfa Brydeinig, Llundain / Ar-lein

Archebu

Sut gallaf gyfnewid fy math o docyn?
I gyfnewid eich math o docyn, e-bostiwch jack@a-m-a.co.uk.

Lleoliad a theithio

Sut ydw i’n cyrraedd y lleoliad?
Mae sawl mynedfa i’r Amgueddfa Brydeinig, Great Russell Stryd, Llundain, WC1B 3DG, ond cyn 10am, dim ond y brif fynedfa ar Great Russell Street fydd ar agor. Mae 12 o risiau a chanllaw yna, ac mae lifft hefyd ar ddwy ochr y fynedfa. Bydd y fynedfa ar Montague Street ar agor ar ôl 10am ond mae’n bellach i gerdded i’r ystafelloedd cynadledda. Mae 12 o risiau a lifft yna hefyd.

Ble mae’r gorsafoedd trên a thiwb agosaf?
Mae tair gorsaf tiwb nid nepell ar droed — rhyw 7-10 munud o’r Amgueddfa Brydeinig. Y rhain yw:

    • Tottenham Court Road (Llinellau Central, Northern ac Elizabeth)
    • Holborn (Llinellau Central a Piccadilly)
    • Russell Square (Llinell Piccadilly)

Gorsafoedd trên King’s Cross St. Pancras ac Euston yw’r gorsafoedd prif reilffordd agosaf ac mae angen cerdded oddeutu 20-25 munud i’r Amgueddfa Brydeinig.

Mae rhagor o wybodaeth deithio yma: https://www.britishmuseum.org/visit#getting-here

Hygyrchedd

Mae lifftiau hunan-ddefnydd yn y brif fynedfa ar Great Russell Street a Montague Street. Mae’r Amgueddfa Brydeinig yn argymell eich bod yn defnyddio mynedfa Montague Place os yw’r tywydd yn wael. Unwaith i chi gyrraedd yr amgueddfa, bydd angen i chi fynd tuag at gyntedd y Great Court wrth fynedfa Great Russell Street lle byddwch chi’n gallu defnyddio’r lifft i fynd i lawr i’r ganolfan gynadledda.

Mae mynediad di-risiau i bob awditoriwm ac mae lle wedi’i gadw ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae tai bach hygyrch hefyd.

Ar y diwrnod

Amseriadau
Bydd y diwrnod yn dechrau am 11am gyda the a choffi, a chyfle i chi gyfarfod a rhwydweithio gyda mynychwyr a sefydliadau treftadaeth eraill.

Bydd y sesiwn gyntaf yn dechrau am 11.30am.

Bydd yr araith gloi yn gorffen am 5.30pm ac yn dilyn hyn bydd derbyniad diodydd yng nghyntedd y gynhadledd tan 7pm.

Ciwiau diogelwch
Bydd yr Amgueddfa Brydeinig yn agor am 10am a bydd angen i chi ddefnyddio’r ciwiau diogelwch. Gallwch ddefnyddio’r ciw Carlam ond sicrhewch fod eich e-bost cadarnhau yn barod i’w ddangos i’r swyddogion diogelwch.

Os oes bag mawr gennych, bydd angen iddynt chwilio ynddo, felly gadewch amser ar gyfer hynny. Ceisiwch osgoi cesys a bagiau mawr am fod y rhain wedi’u gwahardd rhag cael eu derbyn i’r adeilad gan yr Amgueddfa Brydeinig a bydd angen i’r rheolwr digwyddiadau ddod i’r giât i roi mynediad i chi. Gallai hyn beri oedi eithaf sylweddol wrth i chi gael eich gadael i mewn.

Ni chaniateir cesys ar olwynion, offer chwaraeon nac eitemau cludo mawr ar safle’r Amgueddfa Brydeinig. Mae lle storio eitemau cludo ar gael ym mhob prif orsaf drenau, gan gynnwys Euston, King’s Cross a Charing Cross.

I ble rydym yn mynd ar ôl mynd i mewn?
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn adain digwyddiadau a chynadledda’r Amgueddfa Brydeinig, o’r enw Canolfan Clore, sydd wedi’i lleoli o dan y Great Court – sef prif gyntedd yr amgueddfa gyda nenfwd gromennog fawr eiconig. Wrth i chi fynd i mewn i’r Great Court o Great Russell Street, mae dau lifft, ar y chwith a’r dde, a grisiau ar eich dde sy’n mynd â chi i lawr i Ganolfan Clore.

Hygyrchedd
Mae dolenni clyw wedi’u gosod yn y tair ystafell a gaiff eu defnyddio ar gyfer sesiynau, a bydd capsiynau byw yn y ddau brif awditoriwm ac yn y sesiynau ar-lein.

Bydd y rhaglen ar gael ar-lein ond bydd os oes angen copi printiedig arnoch mewn fformat mawr, e-bostiwch jack@a-m-a.co.uk ymlaen llaw fel y gallwn ni drafod hynny i chi.

Bydd egwyl o o leiaf 15 munud rhwng pob sesiwn.  Os oes angen hoe arnoch chi, mae croeso i chi fynd nôl i fyny i’r amgueddfa a cherdded o gwmpas neu gael awyr iach tu allan.

Mae croeso mawr i gŵn tywys, cŵn cymorth a chŵn cydymaith ymuno â ni; e-bostiwch jack@a-m-a.co.uk i roi gwybod i ni ymlaen llaw.

E-bostiwch jack@a-m-a.co.uk os oes gennych unrhyw ofynion ychwanegol.

A oes angen i ni archebu lle mewn sesiynau?
Nac oes. Fydd dim angen i chi archebu lle mewn sesiynau.

A fydd sesiynau’n cael eu recordio?
Byddant. Bydd yr holl sesiynau’n cael eu recordio a byddant ar gael i’w gwylio ar yr Hwb Treftadaeth Ddigidol ar ôl y digwyddiad.

Beth yw’r sefyllfa o ran bwyd?
Bydd cinio a lluniaeth ar gael drwy gydol y dydd.

Bydd yr holl fwyd a gaiff ei weini naill ai’n llysieuol neu’n figan er mwyn helpu i ostwng ôl troed carbon ein digwyddiadau. Os oes gennych unrhyw alergeddau neu anoddefiadau, dylech e-bostio jack@a-m-a.co.uk.

A fydd cwpanau untro?
Na fydd. I arbed gwastraff, ni fyddwn yn defnyddio cwpanau papur. Caiff cwpanau ceramig cyffredin eu defnyddio ar gyfer te a choffi – ni chaniateir y rhain yn yr awditoria felly bydd angen i chi yfed eich diod boeth cyn mynd i’ch sesiwn. Fodd bynnag, byddwch chi’n cael mynd â photeli dŵr i’r awditoria.

Ar ba lwyfan caiff y digwyddiad ar-lein ei gynnal?
Bydd y llwyfan ar-lein yn cael ei chadarnhau maes o law. Bydd cyfarwyddiadau llawn ynghylch ymuno a llywio’r llwyfan yn cael eu rhannu’n nes at ddyddiad y digwyddiad.

Bydd yr holl fynychwyr ar-lein yn gallu gwylio a rhyngweithio gyda sesiynau sy’n cael eu cynnal yn yr Amgueddfa Brydeinig, a chaiff yr holl sesiynau ar-lein eu darlledu yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Hygyrchedd i fynychwyr ar-lein
Bydd capsiynau’n cael eu darparu ar gyfer pob sesiwn. Os oes gennych unrhyw ofynion eraill o ran hygyrchedd, dylech e-bostio jack@a-m-a.co.uk.

Mae’r digwyddiad Myfyrio, Rhannu, Ysbrydoli’n bosibl oherwydd cyllid gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chyllid y Loteri Genedlaethol, wedi’i ddosbarthu gan y Gronfa Dreftadaeth yn rhan o’u menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth.

Digital Heritage Hub is managed by Arts Marketing Association (AMA) in partnership with The Heritage Digital Consortium and The University of Leeds. It has received Department for Digital, Culture, Media and Sport (DCMS) and National Lottery funding, distributed by The Heritage Fund as part of their Digital Skills for Heritage initiative. Digital Heritage Hub is free and answers small to medium sized heritage organisations most pressing and frequently asked digital questions.

Arts Marketing Association
Heritage Digital
University of Leeds logo
The Heritage Fund logo