Myfyrio, Rhannu, Ysbrydoli
Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth
Dydd Mercher 18 Hydref 2023
Yr Amgueddfa Brydeinig, Llundain / Ar-lein
11am – 5.30pm — Myfyrio, Rhannu, Ysbrydoli
5.30pm – 7pm — Derbyniad diodydd, Yr Amgueddfa Brydeinig
Wedi’i lansio gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ym mis Chwefror 2020, mae Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth wedi codi lefelau sgiliau digidol a hyder ar draws sector treftadaeth y DU dros y tair blynedd diwethaf.
Ymunwch â ni yn y digwyddiad hybrid hwn, sydd am ddim, wrth i ni ddathlu’r toreth o adnoddau a grëwyd gan y fenter hon. Byddwn yn tynnu ynghyd siaradwyr o brosiectau Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth i fyfyrio a rhannu’r cyflawniadau a’r dysgu yn sgil eu teithiau digidol er mwyn helpu i ysbrydoli’r sector ehangach.
I bwy mae’r digwyddiad hwn?
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn sefydliad treftadaeth yn y DU.
Beth yw e, yn y bôn?
- Cyfle i fyfyrio ar gyflawniadau Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth dros y tair blynedd diwethaf.
- Cyfle i rannu’r dysgu drwy storïau llwyddiant ac adnoddau digidol ar yr Hwb Treftadaeth Ddigidol.
- Cyfle i ysbrydoli’r sector i goleddu digidol a galluogi mwy o bobl i gysylltu â threftadaeth ac elwa arni.
Beth bydd y fantais i fi?
Mewnwelediad gan sefydliadau treftadaeth y mae eu hymagwedd at ddigidol wedi’i thrawsnewid gan Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth.
Syniadau ynghylch sut gall eich sefydliad wreiddio digidol i gyrraedd mwy o bobl.
Cyfleoedd i rwydweithio gyda sefydliadau treftadaeth fel eich sefydliad chi.
Sut gallaf fynychu?
Caiff y digwyddiad hwn, sydd am ddim, ei gynnal yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ac ar-lein yn ddigidol yr un pryd — felly gallwch fynychu wyneb yn wyneb neu ar-lein. Wrth gofrestru, sicrhewch eich bod yn dewis tocyn o’r math cywir — lle i fynychwr yn yr Amgueddfa Brydeinig neu le i fynychwr ar-lein.
Os byddwch yn ymuno â ni ar-lein, byddwch yn gallu mynychu’r holl sesiynau, p’un a ydyn nhw’n cael eu cynnal yn Llundain neu’n ddigidol. Bydd cyfleoedd hefyd i rwydweithio â mynychwyr digidol eraill. Caiff yr holl sesiynau ar-lein eu ffrydio’n fyw yn yr Amgueddfa Brydeinig ar gyfer y sawl sy’n mynychu wyneb yn wyneb.
Beth yw’r amseriadau ar gyfer y digwyddiad hwn?
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 11am ac yn gorffen am 5.30pm. Yn dilyn hyn, bydd derbyniad diodydd rhwng 5.30pm a 7pm ar gyfer y sawl sy’n mynychu’r Amgueddfa Brydeinig.
Bwrsariaethau teithio a llety
Mae’r Hwb Treftadaeth Ddigidol yn gallu cynnig 100 bwrsariaeth teithio a llety i helpu i wneud y digwyddiad hwn, sydd am ddim, yn fwy fforddiadwy i unigolion a sefydliadau na fyddent yn gallu mynychu wyneb yn wyneb yn yr Amgueddfa Brydeinig fel arall.
Mae ceisiadau bwrsariaeth bellach wedi cau.
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ceisiadau a’n nod yw cysylltu â phob ymgeisydd yn ystod yr wythnos yn dechrau 7 Awst.
Pe bai mwy o fwrsariaethau ar gael, byddwn yn rhoi gwybod i bobl trwy gylchlythyr yr Hwb Treftadaeth Ddigidol. Os nad ydych wedi ymuno â’r rhestr bostio eto, gallwch wneud hynny ar y dudalen hon: Cadwch fi yn y post.
Mae’r digwyddiad Myfyrio, Rhannu, Ysbrydoli’n bosibl oherwydd cyllid gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chyllid y Loteri Genedlaethol, wedi’i ddosbarthu gan y Gronfa Dreftadaeth yn rhan o’u menter Sgiliau Digidol ar gyfer Treftadaeth.