< back to resource
Zoe Amar
Zoe Amar | Sylfaenydd | Zoe Amar Digital
Mae gan Zoe Amar enw fel un o’r prif arbenigwyr digidol yn y sector elusennau. Sefydlodd Zoe Amar Digital, yr asiantaeth ddigidol a menter gymdeithasol, yn 2013. Ymysg ystod y cleientiaid mae Sense, Prifysgol Angela Ruskin a’r School for Social Entrepreneurs.
Zoe yw Cadeirydd y Charity Digital Code of Practice. Mae’n ysgrifennu ar gyfer Third Sector am elusennau a materion digidol a chyd-sefydlodd wobrau’r Social CEOs awards. Mae Zoe a’i thîm yn cynhyrchu mesurydd blynyddol sy’n dangos pa mor dda mae elusennau ar draws y DU yn defnyddio dulliau digidol, sef The Charity Digital Skills Report. Hi gyd-awdurodd hefyd arweiniad digidol y Comisiwn Elusennau ar gyfer ymddiriedolwyr, Making Digital Work.
Mae gan Zoe ddeuddeg mlynedd o brofiad fel ymddiriedolwr elusen. Mae’n eistedd ar fwrdd Ymddiriedolaeth y Charity Digital Trust ar hyn o bryd (Tech Trust gynt). Yn flaenorol, roedd ar Fwrdd a Phwyllgor Archwilio a Risg y Samariaid fel eu harbenigwr digidol. Cyn sefydlu Zoe Amar Digital, bu’n gweithio am bum mlynedd yn rhan o’r tîm arwain mewn elusen genedlaethol a oedd yn darparu cyngor i sefydliadau nid er elw am faterion technoleg. Mae wedi ennill gwobr Cyfathrebydd Ysbrydoledig gan Charitycomms. Yn ddiweddar cafodd ei hethol yn un o’r 25 arweinydd elusennol mwyaf dylanwadol gan y Charity Times.
Resources by Zoe Amar
In this webinar recording, Zoe Amar provides an introduction to digital fundraising. She looks at how to get started, how to improve your fundraising practice, tips for success, key pitfalls and how to measure success. This resource will give you the building blocks for digital fundraising.



