< back to resource
Stephanie Ashcroft, Naomi Korn Associates
Stephanie Ashcroft | Ymgynghorydd | Naomi Korn Associates
Astudiodd Stephanie ym Mhrifysgol Glasgow, gan raddio o’r rhaglen MSc Rheoli a Chadw Gwybodaeth yn 2016.
Cwblhaodd ei thraethawd hir ar hawlfraint a gweithiau amddifad, gan gynnal archwiliad hawliau ar gasgliad o ffotograffiaeth yn archif HarperCollins. Yn y dyfodol, mae’n gobeithio dychwelyd i ymchwil academaidd ar ddeddfwriaeth hawlfraint a mynediad yn y sector archifau.
Ers graddio, mae wedi gweithio ym maes clirio hawliau ac mewn rolau trwyddedu yn Archif Delwedd Symudol Llyfrgell Genedlaethol yr Alban ac Archif Sain y Llyfrgell Brydeinig. Mae’n brofiadol mewn cynnal ymchwil i statws hawliau gweithiau hawlfraint, lleoli a chysylltu â deiliaid hawliau a nodi gweithiau amddifad.
Tra’n gweithio i Naomi Korn Associates, mae Stephanie yn parhau yn ei rôl yn y Llyfrgell Brydeinig yn gweithio fel Rheolwr Hawliau Eiddo Deallusol y Rhwydwaith ar y prosiect Unlocking our Sound Heritage.

Resources by Stephanie Ashcroft, Naomi Korn Associates

This resource outlines the ethical and legal consideration an organisation should be aware of when sharing content online.