< back to resource
James Berg, Picaroons
James Berg | Strategydd Cynnwys a Sylfaenydd | Picaroons
James yw sylfaenydd Picaroons ac yn Beirat Marchnata yn ei eiriau ei hun. Mae’n credu eich bod yn llwyddo ac yn ffynnu pan fyddwch chi’n wfftio’r rheolau mewn busnes ac mewn bywyd.
Os ydych chi’n prynu gwasanaeth James fel Ymgynghorydd Cynnwys, byddwch chi’n ymuno â llu o gwsmeriaid bodlon eraill, gan gynnwys Facebook, Aniventure (cwmni animeiddio yn Hollywood), ac Uncertainty Experts (profiad dogfennol trochol byw cyntaf y byd).
Gan weithio fel areithiwr, mae James wedi helpu dros 2,000 o fusnesau ac elusennau i greu cynllun cynnwys ar gyfer eu busnes.
Gall eich dysgu’r hyn i’w bostio, pam y bydd yn eich helpu, a sut i’w bostio, a’r cyfan mewn geiriau syml, hawdd eu deall — does dim lle i jargon busnes. Nid yw’n fodlon hyd nes iddo’ch helpu i droi ymgysylltiad cymdeithasol yn bartneriaethau busnes a phryniannau; nid yw’n ddigon hoffi ac aildrydar.
Mae James hefyd yn cyflwyno ac yn cynhyrchu podlediadau, gan gynnig cyngor am fusnes a bywyd gyda’i dad, Phil Berg, ar ‘Chats with Dad’, a datgelu straeon o fywyd peirat go iawn yn ‘Original Pirate Material’.
Mae llyfr James, sy’n hyfforddwr busnes cymwysedig ac yn awdur cyhoeddedig, o’r enw ‘104 Social Media Content Ideas to Increase Sales‘ wedi helpu dros dair mil o fusnesau i sbarduno a gweithredu syniadau ar gyfer eu gweithgarwch marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol. Gwnaeth un defnyddiwr werthiant o £20,000 yn uniongyrchol oherwydd syniadau a ddefnyddiwyd yn y llyfr.
Mae’n gweithio o’i gartref yn Ericeira, Portiwgal, lle mae’n sicrhau ei fod yn neilltuo amser bob dydd i syrffio, yng nghanol ei amrywiol fentrau busnes.

Resources by James Berg, Picaroons

A digital content strategy is essential for your heritage organisation to find, create and share content for your digital platforms. In this resource James Berg explains how you can develop a content strategy that works for your organisation and includes a handy template to get you started.

How do we ensure that people are at the heart of our heritage organisation’s digital stories? People, their history, communities, identity, culture and oral history are at the heart of many of our heritage organisations. So how can we ensure that our content is people-focused? This article by James Berg outlines an actionable plan through seven simple steps that ensures you are placing people at the heart of your storytelling.